Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Zoom
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU I'W NODI (i) Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd yn agored i’r cyhoedd. (ii) Yn absenoldeb cynrychiolydd athrawon ni
chafodd gofynion cworwm y Cyngor eu diwallu. Cytunodd yr Aelodau i barhau â'r
cyfarfod ar y sail y byddai angen i unrhyw benderfyniadau gael eu cadarnhau'n
ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor â chworwm. Derbyniwyd
argymhellion yr adroddiad fel yr oeddent a chytunwyd arnynt drwy gonsensws heb
unrhyw bleidlais ffurfiol. |
|
MYFYRDOD DISTAW Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr. Dominic Oakes,
Y Parch. B H Jones a'r Cynghorydd Cheryl Williams |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu sydd ganddynt ag
unrhyw fusnes y nodwyd y byddir yn ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dywedodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth yr aelodau os oeddynt yn lywodraethwyr mewn
ysgol oedd yn cael ei thrafod yn fanwl, roedd rhaid iddynt ddatgan cysylltiad
ar y pwynt hwnnw. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried ar frys yn unol ag Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 428 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 14 Hydref
2020. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 (wedi’u dosbarthu yn flaenorol). PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar
14 Hydref 2020 fel cofnod cywir. |
|
GOHIRIO HOLIADUR CYSAG SIR DDINBYCH PDF 111 KB ·
Trafod
gohirio anfon holiadur CYSAG Sir Ddinbych.
Cofnodion: Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth yr aelodau mai data
cyfyngedig roedd CYSAG wedi’i dderbyn o adroddiad Estyn. Roedd trafodaethau
wedi cael eu cynnal er mwyn asesu sut y gallai CYSAG dderbyn gwybodaeth gan
ysgolion am feysydd da o Addysg Grefyddol neu feysydd o welliant. Penderfynwyd
y byddai holiadur yn cael ei anfon i ysgolion er mwyn canfod pa gefnogaeth
roedd ysgolion ei angen, i hyrwyddo arferion da a chadw mewn cysylltiad gydag
ysgolion yn y Sir. Cafwyd eglurhad bod ysgolion yn boddi gyda rheoliadau newydd
i gadw disgyblion a staff yn ddiogel yn sgil pandemig Covid-19. Teimlwyd ei fod
braidd yn ansensitif i fod yn llunio holiadur ar hyn o bryd. Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am gefnogaeth gan aelodau i
ohirio anfon yr holiadur at yr ysgolion tan yn hwyrach yn y flwyddyn, pan
fyddai ysgolion mewn sefyllfa well gobeithio. Penderfynwyd
bod aelodau yn cytuno i
ohirio anfon yr holiadur i ysgolion tan dymor yr haf ar y cynharaf. |
|
DIWEDDARIADAU YNGHYLCH LLYWODRAETH CYMRU A'R CWRICWLWM NEWYDD PDF 159 KB ·
Derbyn
diweddariad ar lafar ynghylch datblygiadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. ·
Derbyn
diweddariad ar lafar ynghylch fframwaith cefnogi Addysg Grefyddol ·
Derbyn
diweddariad ar lafar ynghylch y Cynnig Dysgu Proffesiynol ar gyfer Addysg
Grefyddol. Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i’r aelodau yn dilyn y ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd
yn ystod yr haf a’r gwanwyn. Clywodd yr aelodau mai bwriad yr ymgynghoriad cyntaf oedd trafod cael
gwared ar hawl rhieni i dynnu eu plant o addysg rhyw ac addysg grefyddol. Roedd yr ail yn
ymwneud â gofyniad i ysgolion crefyddol ddarparu maes llafur addysg grefyddol y
cytunir arno ochr yn ochr â chwricwlwm sy’n seiliedig ar yr Eglwys. Cafwyd cadarnhad bod y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn symud drwy’r Senedd ar hyn
o bryd. Cafwyd cadarnhad bod rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein. Pwysleisiwyd bod y Bil yn ail gam ei ddatblygiad. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y newyddion diweddaraf i aelodau
am y fframwaith cefnogi ar gyfer Addysg Grefyddol. Cafwyd cadarnhad bod
Llywodraeth Cymru wedi cynnwys Addysg Grefyddol ym maes dyniaethau’r cwricwlwm.
Pwysleisiwyd bod Addysg Grefyddol dal yn statudol ac roedd dal angen i CYSAG
gyfrannu at y maes llafur newydd, byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r
fframwaith cefnogi ar gyfer Addysg Grefyddol. Y gobaith yw y bod y canllaw’n
cael ei gyhoeddi er mwyn i CYSAG gytuno ac er mwyn i ysgolion fabwysiadu’r
fframwaith cefnogi. Nid oedd y gyfraith y tu ôl i’r cwricwlwm ar gyfer Addysg
Grefyddol wedi newid. Pwysleisiwyd bod CCYSAGC yn parhau i siarad gyda
Llywodraeth Cymru er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y canllaw a’r angen i’w
dderbyn cyn gynted ag roedd ar gael. Cafodd yr aelodau wybod am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dysgu
proffesiynol o ganlyniad i ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Roedd CCYSAGC wedi
cyfarfod â Llywodraeth Cymru i drafod yr hyfforddiant a fyddai’n cael ei
gynnig. Efallai y byddai pump arbenigwr ar draws Cymru i gefnogi athrawon yn
cael ei gynnig. Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei gyflwyno i aelodau pan
fyddai ar gael. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol y canlynol: ·
Roedd ethnigrwydd a diwylliant yn cael ei gynnwys mewn
Addysg Grefyddol mewn ysgolion. Roedd yn darparu dealltwriaeth o ystod o
gredoau oedd yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ymddwyn ac yn rhyngweithio
gydag eraill. ·
Mae Addysg Grefyddol mewn ysgolion yn cynnwys amrywiaeth
eang o ffydd y mae disgyblion yn eu hastudio. Cristnogaeth ydyw’n bennaf, ond
mae’n cynnwys eraill. Teimlwyd bod dealltwriaeth dda o wahanol fathau o ffydd
yn bwysig ar gyfer addysg plant. ·
Mae cyfansoddiad CYSAG yn nodi y dylai addysg mewn
ysgolion gynrychioli’r credoau yn yr ardal. ·
Mae hanes Addysg Grefyddol yn y DU yn gysylltiedig â Christnogaeth
a’r Eglwys. Trafododd yr aelodau gyfrifoldebau’r ffydd a theuluoedd i addysgu
pobl ifanc am gredoau’r ffydd. Roedd newidiadau yn y gymdeithas wedi digwydd ac
roedd Addysg Grefyddol mewn ysgolion angen addasu a newid gyda barn
budd-ddeiliaid sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol mewn ysgolion. ·
Trafododd yr aelodau yr angen i fod â dealltwriaeth o
ffydd a chredoau eraill yn ein cymdeithas. Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau ac arsylwyr am y drafodaeth a sgwrs dda
am y diweddariad i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. PENDERFYNWYD
bod aelodau’n nodi’r
diweddariad ar lafar. |
|
ADDYSG GREFYDDOL A DYSGU CYFUNOL A DYSGU O BELL PDF 158 KB ·
Cael
cyflwyniad ar yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion i gefnogi dysgu cyfunol a
dysgu o bell. Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol rai o’r adnoddau Addysg
Grefyddol sydd ar gael i ysgolion eu defnyddio. Ar y sgrin, dangoswyd i’r
aelodau’r wybodaeth sydd ar gael ar wefan GwE. Fe eglurwyd bod y rhan helaeth
o’r adnoddau ar gael i ysgolion ac athrawon eu defnyddio. Pwysleisiwyd bod yr
wybodaeth a’r adnoddau ar gael yn y Gymraeg a Saesneg. Roedd y wefan a’r wybodaeth yn cynnig ystod o weithgareddau i ddisgyblion
eu cwblhau. Roedd y wefan yn
rhyngweithiol iawn ac yn gadael i ddefnyddwyr lawrlwytho’r tasgau a’u haddasu
fel bo angen. Dangoswyd ystod o weithgareddau ac unedau gwahanol sydd ar gael
i’r aelodau. Fe soniwyd hefyd bod gwybodaeth am weithgaredd ‘maes awyr ffydd a llwybr
cred’ wedi cael ei gynnwys am ddim i ysgolion yn y newyddlen a roddwyd i staff
addysgu. Roedd yn gyfle i athrawon/ysgolion ddylunio ystafell aml-ffydd a chred
mewn maes awyr. Clywodd yr aelodau bod yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint wedi rhoi trwydded
i ysgolion gopïo 5% o lyfr testun i’w roi i ddisgyblion. Mae’r Asiantaeth
Trwyddedu Hawlfraint wedi creu porth i alluogi athrawon i gael gafael ar
wybodaeth llyfr testun ar-lein. Roedd yn ddefnyddiol iawn i athrawon ar hyn o
bryd. Roedd yr aelodau’n gefnogol iawn i’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion ac
athrawon er mwyn cynorthwyo â dysgu o bell. Roedd aelodau’n falch o weld
ehangiad gwefan GwE a’r adnoddau sydd ar gael. PENDERFYNWYD
bod aelodau’n nodi’r
diweddariad llafar. |
|
·
Derbyn cofnodion cyfarfod
diwethaf y Gymdeithas, a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020. ·
Cytuno pwy fydd yn bresennol
yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC – y dyddiad i’w gadarnhau. Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd
ei bod hi wedi mynychu dechrau cyfarfod ar-lein diweddaf CCYSAGC a gynhaliwyd
ar 7 Hydref 2020. Dywedodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth yr aelodau nad oedd cofnodion y cyfarfod ar
gael i aelodau eu trafod. Dywedodd wrth y pwyllgor y bu 3 phrif maes o
drafodaeth. ·
Y
cwricwlwm newydd a safle Addysg Grefyddol ynddo; ·
Y
fframwaith cefnogi a ·
Dysgu
proffesiynol - roedd CCYSAGC eisiau cefnogi athrawon i ddysgu’r cwricwlwm
newydd. Fe gadarnhawyd bod
dysgu cyfunol ac arholiadau wedi cael eu trafod hefyd ond eu bod yn cael eu
newid yn rheolaidd ac mae Addysg Grefyddol yn cael ei ddyfarnu trwy asesiad
athro ar hyn o bryd. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol am ragor o ddealltwriaeth a gwybodaeth ynglŷn â’r nifer o
wasanaethau dyneiddiwr a gynhaliwyd yn amlosgfeydd Sir Ddinbych ers mis Ebrill
diwethaf. Gan ymateb i
gwestiwn y Cadeirydd dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol bod y Gymdeithas
Dyneiddwyr wedi gofyn a fyddai modd iddynt fod ag aelod ar bwyllgorau CYSAG. Fe
glywodd aelodau bod nifer o gyfansoddiau CYSAG wedi nodi bod rhaid i aelodaeth
y pwyllgor gynrychioli unigolion yn yr ardal leol. Fe nodwyd y gallai fod yn
anodd i gael niferoedd o enwadau Cristnogol gwahanol sydd yn y gymdeithas, yn
sgil y dewisiadau sydd yn y cyfrifiad gan ei fod yn nodi
Cristnogol/Anghristnogol a chrefyddau eraill. Nid oedd yna ddewis ar gyfer
enwadau penodol o ffydd gwahanol. Roedd gwybodaeth leol gan Gynghorwyr wedi
cynorthwyo i gasglu data i ddarparu cynrychiolaeth gyfansoddiadol ar CYSAG Sir
Ddinbych. Fe soniwyd ei bod yn bosibl ei fod wedi newid gyda nifer cynyddol o
ddisgyblion a theuluoedd yn honni nad oedd ganddynt ffydd. Fe soniodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y dybiaeth nad oedd unigolyn oedd wedi nodi
nad oedd ganddynt grefydd yn golygu nad oedd ganddynt gred mewn dwyfoldeb neu’r
goruwchnaturiol, yn hytrach nid oeddynt yn uniaethu ag un o brif grefyddau’r
byd. Pwysleisiwyd pa mor anodd oedd
canfod niferoedd y credoau a ffordd o fyw pobl. Teimlwyd petai’r ffigur am
niferoedd y gwasanaethau amlosgi dyneiddiwr yn hysbys fe allai ddangos faint o
bobl oedd â chred Dyneiddiwr yn Sir Ddinbych. Diolchodd yr
aelodau i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y farn o gasglu gwybodaeth am gred
Dyneiddiwr. Gofynnodd aelodau fel CYSAG a fyddai gwybodaeth am gredoau a
grwpiau eraill yn gorfod cael eu casglu er mwyn bod yn deg â phawb. Gofynnodd
aelodau a fyddai modd cynnal arolwg yn Sir Ddinbych oedd yn cynnwys ‘arall’
gyda blwch testun er mwyn i breswylwyr allu nodi eu credoau’n glir. Teimlwyd bod crefyddau a chredoau eraill yn
cael eu dilyn yn Sir Ddinbych. Clywodd aelodau
bod pwyllgorau CYSAG mewn awdurdodau cyfagos wedi cael trafodaethau tebyg
hefyd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y gellir anfon cwestiwn at
Gynghorwyr lleol i gael gwybodaeth o’r gymuned yn cynnwys pa systemau cred y
mae pobl yn eu dilyn, pa adeiladau maent yn eu defnyddio i ymgynnull, pa
ystafelloedd cyfarfod sy’n cael eu defnyddio. Fe allai CYSAG ddefnyddio’r
wybodaeth honno i ofyn am wybodaeth gan y Cyngor Llawn am ddarn o waith yn
ymwneud â’r wybodaeth honno er mwyn edrych ar Gyfansoddiad ac aelodaeth CYSAG. Fe awgrymodd y
Cadeirydd a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol mai’r peth gorau efallai fyddai
anfon e-bost at bob Cynghorydd i ofyn pa grwpiau a ffydd oedd ym mhob ward. O’r
wybodaeth honno, gellir ffurfio cyfeiriadur i ddangos y canfyddiadau. Byddai’r
cyfeiriadur yn ddefnyddiol ar gyfer Sir Ddinbych a CYSAG. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod gyda’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i lunio e-bost i’w anfon at y Cynghorwyr i ofyn am ragor o wybodaeth. Byddai’r holiadur yn cael ei anfon at aelodau ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF SIR DDINBYCH ·
24
Mehefin 2021 ·
29
Hydref 2021 Cofnodion: Cadarnhawyd
cyfarfodydd dyddiadau CYSAG 2021 fel a ganlyn: 24 Mehefin (dydd Iau) a 20 Hydref (dydd Mercher). Cadarnhawyd y bydd cyfarfod nesaf CCYSAGC ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |