Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Tony Thomas a'r Parchedig Martin Evans-Jones. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd
Cynghorwyr eu bod yn lywodraethwyr ysgol. Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol gydag Eitem 6 ar y Rhaglen. Eglurodd
ei fod yn adnabod aelodau o adran Addysg Grefyddol Ysgol Dinas Brân yn dda
iawn. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Roedd gan Dominic
Oakes bryderon o ran sut y dosbarthwyd ei becyn iddo. Eglurodd o ystyried y pryderon ynglŷn
â'r amgylchedd, roedd yn teimlo nad oedd angen y pecyn plastig a byddai amlen
bapur yn ddigon y tro nesaf. Yn dilyn
ymlaen o’i bryderon, nododd hefyd faint o bapur oedd yn y pecynnau, gan godi’r
cwestiwn a oedd copïau papur yn ofynnol.
Gofynnir i’r holl
aelodau fynegi eu dull a ffefrir o dderbyn y Pecyn, naill ai drwy'r post neu
dros e-bost. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 366 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Chwefror
2019 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2019 (wedi’u dosbarthu yn flaenorol). Materion yn
codi:- Tudalen 9 –
Mynychodd y Cynghorydd Ellie Chard CCYSAGC ar 26 Mawrth ac roedd wedi rhannu ei
hadroddiad gyda’r aelodau. Tudalen 12 –
Byddai trefniadau Asesu'r Cwricwlwm newydd yn cael eu dosbarthu. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y
cwricwlwm newydd oedd mis Gorffennaf. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 5
Chwefror, 2019 fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD ESTYN O ADDYSG GREFYDDOL PDF 113 KB (a) Ystyried
argymhellion o adroddiad Estyn (copi’n amgaeedig), a (b) sut y bydd CYSAG yn monitro cynnydd
ysgolion yn erbyn argymhellion Estyn? (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych ac Arolygydd Cyfoedion Estyn (HTDHS) Adolygiad
Estyn o Addysg Grefyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Gwahoddwyd yr
HTDHS i gymryd rhan mewn astudiaeth thematig gyda chylch gwaith i edrych ar
ddarpariaeth ac ansawdd Addysg Grefyddol ar draws Cyfnod Allweddol 3. Yn ystod yr
ymweliadau, roedd gan yr arolygwyr gyfle i gyfarfod gyda’r Penaethiaid i ofyn
cyfres o gwestiynau, ac yna roedd cyfle i gyfarfod â’r myfyrwyr ac adolygu
enghreifftiau o’u gwaith. Safonau – daeth y
panel o arolygwyr i'r casgliad bod gan nifer o'r ysgolion safon dda o Addysg
Grefyddol. O ran pontio rhwng Cyfnod
Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, roedd ailadrodd yn y gwaith, cafwyd y
wybodaeth hon o ddatganiadau'r myfyrwyr.
Nododd y myfyrwyr
bod Addysg Grefyddol yn gymorth iddynt ddeall y gwrthdaro yn y Byd, ac yn
gymorth i ddeall pam fod gan wahanol bobl safbwyntiau gwahanol. Eglurodd HTDHS ei bod yn amlwg yng Nghyfnod
Allweddol 3 bod athrawon dosbarth yn galluogi trafodaeth gyda phynciau megis
perthnasau ac ati. Roedd yn amlwg
bod Addysg Grefyddol yn dda iawn am ddatblygu sgiliau myfyrwyr, yn enwedig
llythrennedd, meddwl a rhesymu. Nid oedd gan Addysg Grefyddol mewn ysgolion
bwynt yn diffinio beth y gellir ei astudio.
Darpariaeth –
Roedd gan nifer o'r ysgolion staff cymwys i gyflwyno'r pwnc, yng nghyfnod
Allweddol 2 a 3. Ond roedd diffyg gwaith
pontio yn golygu bod testunau’n cael eu hailadrodd. Nododd yr
adroddiad bod yr adran mewn ysgolion uwchradd yn aml yn cael eu harwain gan
arbenigwr pwnc a oedd â chymhwyster lefel gradd. Roedd cefnogaeth darpariaeth yn amrywio ar
draws yr ysgolion, roedd gan rai ysgolion ddull systematig o ddysgu gyda'r holl
adnoddau ar gael ac roedd gan eraill gyfarfodydd wythnosol gydag arbenigwr i sicrhau
bod y cwricwlwm yn gywir ac i ofyn am unrhyw ddarpariaethau oedd yn
ofynnol. Cysylltiadau –
roedd gan bron yr holl ysgolion cynradd gysylltiadau da gyda sefydliadau ond
dim ond lleiafswm o ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 oedd yn ymweld â man
crefyddol nad oedd yn Gristnogol. Codwyd
y cwestiwn pa mor aml yr oedd cynrychiolwyr crefyddol yn ymweld ag
ysgolion. Holodd Dominic Oakes ai llai o
gynrychiolwyr crefyddol oedd yn cysylltu â’r ysgolion i ymweld neu ddiffyg
gwahoddiadau gan yr ysgolion. Cadarnhaodd HTDHS mai cyfuniad o'r
ddau ydoedd. Roedd lleoliad yn elfen
bwysig, eglurodd bod ysgol uwchradd wedi ymweld â Mosg ym Manceinion unwaith,
ond nad ydynt yn gwneud hynny bellach oherwydd rhesymau ymarferol. Cynigodd y cadeirydd syniad o greu rhestr o
leoliadau addoli cymeradwy y gallai ysgolion ymweld â nhw, teimlai y byddai hyn
yn annog yr ysgolion i drefnu'r ymweliadau. Ansawdd Adborth
Athrawon – eglurwyd i’r aelodau bod y wybodaeth yn amrywio ar draws Cyfnod
Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Ond roedd yr adborth yn drylwyr. Aelodaeth – roedd
cwricwlwm nifer o’r ysgolion cynradd a bron yr holl ysgolion uwchradd yn cael
ei fonitro. Roedd gan nifer o’r ysgolion
uwchradd broses hunanwerthuso o fewn Addysg Grefyddol, byddai gwybodaeth yn cael
ei adrodd i’r Pennaeth a fyddai yna’n adrodd i’r Cyrff Llywodraethu. Dysgu
Proffesiynol - Roedd gan nifer o ysgolion fynediad cyfyngedig at hyfforddiant
ar gyfer athrawon. Roedd nifer o’r
ysgolion yn ymwybodol o CYSAG ond yn ansicr ynglŷn â’i rôl. Roedd llai o
gyfleoedd i athrawon Cyfnod Allweddol 3 i gyfarfod â'u cyd arbenigwyr pwnc, ac
roedd llai o achosion lle roedd athrawon o Gyfnod Allweddol 2 a Chyfnod
Allweddol 3 yn cyfathrebu i sicrhau pontio da.
Dywedodd Ali Ballantyne gan fod Addysg Grefyddol yn orfodol yng Nghyfnod Allweddol 3, pam nad oedd myfyrwyr yn derbyn lefel, roedd yn teimlo bod y pwnc yn dod yn llai pwysig o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL DINAS BRÂN PDF 110 KB (a) Ystyried darpariaeth addysg grefyddol yn
Ysgol Dinas Bran, ac (b) Adolygu cynnydd a wnaed gan ddisgyblion yn
Ysgol Dinas Bran Cofnodion: Cyflwynodd yr
Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (SSIO) adroddiad ar Addysg Grefyddol yn Ysgol
Dinas Brân gan y derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Bennaeth a oedd am fynychu'r
cyfarfod. Dechreuodd yr
SSIO gyda diweddariad byr ar hanes Addysg Grefyddol yn Ysgol Dinas Brân. Roedd gan Addysg Grefyddol hanes da yn yr
ysgol, gyda’r myfyrwyr ym mhob blwyddyn yn derbyn un wers yr wythnos. Ar ôl hyn, byddai myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4
yn dewis pa lefel o Addysg Grefyddol y maent eisiau ei astudio. Aeth ymlaen i
egluro ar hyn o bryd, roedd gan Dinas Brân 59 o fyfyrwyr ar y cwrs TGAU llawn a
145 ar y cwrs TGAU byr, gyda 73 o fyfyrwyr ychwanegol yn astudio'r Arholiad
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Canmolodd yr
Adran Addysg Grefyddol gan nodi ei bod yn anffodus nad oedd myfyrwyr eisiau
astudio'r pwnc ar gyfer lefel A. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r SSIO am eglurder ynglŷn â'r ffigyrau, holodd a oedd diffyg
diddordeb gan unrhyw fyfyriwr ar gyfer y cwrs lefel A neu ai dim ond llond llaw
oedd wedi mynegi diddordeb ond na allai'r ysgol gyflawni eu cais. Mewn ymateb
cadarnhaodd y SSIO y byddai’r cwrs yn derbyn diddordeb gan un neu ddau o
fyfyrwyr bob blwyddyn. Eglurodd y SSIO na fyddent yn gallu
derbyn unrhyw ffigyrau o ran nifer y myfyrwyr oedd wedi astudio’r cwrs ac yn
parhau i astudio’r cwrs tan tymor yr Hydref, ond eglurodd y byddai’n ceisio
ffigyrau dangosol ar gyfer y cyfarfod nesaf. O safbwynt yr
Awdurdod Lleol nododd y SSIO nad oedd unrhyw faterion o ran Addysg Grefyddol yn
Ysgol Dinas Brân. PENDERFYNWYD: - Bod y pwyllgor yn nodi darpariaeth addysg
grefyddol yn Ysgol Dinas Brân. |
|
YMGYNGHORIAD AR GWRICWLWM CYMRU PDF 97 KB Ystyried sut y
bydd y cwricwlwm Addysg Grefyddol newydd yn cael ei ddatblygu yn Sir Ddinbych
(copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd Dominic
Oakes bod y grŵp wedi trafod Ymgynghoriad ar Gwricwlwm Cymru yn flaenorol
ac fe gynigodd nad oedd y grŵp yn adolygu’r ddogfen gyfan, ond yn derbyn
diweddariad wedi’i grynhoi gan SSIO. Eglurodd y SSIO
nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio’n uniongyrchol at Addysg Grefyddol fel pwnc
unigol ond yn cyfeirio at y Dyniaethau, y mae Addysg Grefyddol yn un
ohonynt. Eglurodd bod yr awdurdod eisiau
edrych ar y cwricwlwm sy'n dehongli hawliau dynol, gwerthoedd a safbwyntiau
crefyddol i sicrhau datblygiad cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc. Roedd y camau
cynnydd yn yr adroddiad yn nodi sut roedd y deilliannau cyflawniad yn cael eu
datblygu. Roedd y camau cynnydd yn
berthnasol i blant rhwng 4 ac 16 oed. PENDERFYNWYD: - Bod y pwyllgor wedi ystyried ac yn nodi sut
byddai’r cwricwlwm Addysg Grefyddol newydd yn cael ei ddatblygu yn Sir
Ddinbych. |
|
Ystyried bod yr
holl ddatganiadau o fewn y siarter yn briodol i ysgolion eu mabwysiadau (copi’n
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eitem wedi’i
thynnu'n ôl. |
|
Y BERTHYNAS RHWNG CREFYDD A RHYFEL A HEDDWCH MEWN GWERSI ADDYSG GREFYDDOL PDF 110 KB I ystyried adroddiad ar lafar gan Gadeirydd CYSAG ar rôl ymweliadau’r lluoedd arfog i ysgolion. Cofnodion: Eglurodd y
Cadeirydd ei fod eisiau i'r pwyllgor ystyried a oedd materion a godwyd o fewn
siarter heddwch arfaethedig y Crynwyr y dylid eu hargymell i ysgolion i'w defnyddio
mewn gwersi Addysg Grefyddol. Yn
benodol, nododd a ddylai’r lluoedd arfog gael mynediad at blant mewn
ysgolion. Eglurodd y DEO
bod yn rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r effaith bosibl ar les pobl ifanc o
deuluoedd y lluoedd arfog. Roedd yn teimlo
pe trafodir y mater, dylid gwneud hynny gyda gofal. Diolchodd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor i'r cadeirydd am godi mater y lluoedd arfog, gan
nodi nad yw'r testun yn cael ei drafod ddigon fel awdurdod. Roedd yn teimlo
wedi’i ysbrydoli gan hyn a byddai’n codi’r mater mewn pwyllgorau eraill. Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bryderon bod CYSAG yn cymryd rôl i hyrwyddo’r
siarter heddwch gan nad oedd y rôl o fewn cylch gorchwyl CYSAG ac roedd geiriad
rhai rhannau o’r siarter yn ddadleuol. Gofynnodd y
cadeirydd i'r aelodau am eu safbwyntiau ar yr eitem. Nododd y
Cynghorydd Tony Flynn fod ganddo gysylltiad personol, roedd wedi ystyried
sylwadau’r aelodau ac nid oedd yn teimlo bod y testun yn briodol. Nid oedd y
Cynghorydd Cheryl Williams yn cytuno â hyn chwaith. Datganodd gysylltiad gan fod aelod o’i theulu
yn aelod o'r RAF. Eglurodd y
Cynghorydd Ellie Chard pe bai'n rhaid gwneud penderfyniad ynglŷn â
hyrwyddo’r siarter heddiw, byddai’n pleidleisio’ n ei erbyn. Roedd y Parchedig
Brian H Jones yn teimlo pe bai’r eitem yn rhan o’r drafodaeth a’r sgwrs, byddai
angen cyflwyno'r ddwy ochr i’r ddadl. Nododd y
cadeirydd y datganiadau a wnaed gan yr aelodau. Cytunodd fod ganddo bryderon ynglŷn ag
iaith y siarter heddwch a’i fod yn deall bod angen mwy o waith ar gyfer y
drafodaeth. Nododd y
Cynghorydd Emrys Wynne, wrth adolygu'r ddogfen, y byddai'n anodd i CYSAG
argymell y siarter heddwch. Ond nododd
bod posibilrwydd ar gyfer sgyrsiau pellach o fewn y Cyngor. Nododd y cadeirydd
safbwyntiau'r aelod ar y testun. PENDERFYNWYD: - Bod yr aelodau’n nodi’r adroddiad llafar. |
|
(b) aytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Ellie Chard wedi mynychu cyfarfod CCYSAGC yng Nghaerdydd, nododd ei
bod wedi llwyr fwynhau’r diwrnod. Diolchodd y
cadeirydd i’r Cynghorydd Chard am fynychu.
Awgrymodd Ali
Ballantyne y byddai’n mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC . |
|
RHAGLEN AR GYFER 2020 PDF 8 KB Bod y CYSAG yn ystyried ac yn cytuno ar ddyddiadau cyfarfod arfaethedig ar gyfer 2019-20. Cofnodion: Eglurodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r dyddiadau ar gyfer holl
gyfarfodydd 2020 yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn i’w cymeradwyo ar 2 Gorffennaf.
Ar ôl eu cymeradwyo byddai’n eu dosbarthu i’r aelodau er gwybodaeth. Daeth y cyfarfod i ben am
11.57am |