Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRIO MEWN DISTAWRWYDD

Dechreuwyd y cyfarfod gydag ychydig funudau o ddistawrwydd yn myfyrio.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD – O’R ENWADAU CREFYDDOL

Penodi Cadeirydd o blith Cynrychiolwyr yr Enwadau Cyfreithiol am weddill tymor 2019.

 

 

Cofnodion:

Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne gyda’r Cynghorydd Ellie Chard yn eilio y dylid penodi Mr Dominic Oakes yn Gadeirydd ar gyfer gweddill tymor 2019.

 

PENDERFYNWYD bod Mr Dominic Oakes yn cael ei benodi’n Gadeirydd o CYSAG Sir Ddinbych am weddill tymor 2019.

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tony Flynn, y Parchedig Martin Evan-Jones a’r Parchedig Brian Jones

 

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol –

 

Y Cynghorydd Ellie Chard – Eitem 9 ar y Rhaglen – wedi gweithio yn Ysgol Mair yn y gorffennol

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Eitem 9 ar y Rhaglen – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 178 KB

(a)  Derbyn nodiadau’r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2018 (copi’n amgaeedig), a

 

(b)  Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2018 (dosbarthwyd yn flaenorol) ynghyd â chofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 (wedi’u dosbarthu’n flaenorol).

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf a chofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2017/18 pdf eicon PDF 114 KB

Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG 2017/18 (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (USGY) Adroddiad Blynyddol drafft o CYSAG Sir Ddinbych 2017/18 (dosbarthwyd yn flaenorol) i’w gymeradwyo.  Darparodd yr adroddiad fanylion ar weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol gan gynnwys cyngor a roddwyd i'r awdurdod lleol ynghyd â materion lleol a chenedlaethol eraill.

 

 Cynghorwyd aelodau nad oedd Mr Philip Lord bellach yn Gynghorydd AG i CYSAG a byddai’r awdurdod lleol yn rhoi cefnogaeth broffesiynol i CYSAG yn y dyfodol. Byddai’r USGY yn llenwi'r rôl dros dro tan fyddai rhywun ffurfiol yn cael ei benodi.  Paratowyd yr Adroddiad Blynyddol drafft gan Mr. Lord gyda’r USGY yn ei ddiweddaru er mwyn i CYSAG ei gymeradwyo.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol -

 

·         Maes Llafur y cytunwyd arno – dim newidiadau wedi eu cynnig cyn cyhoeddi darganfyddiadau’r adolygiad o’r cwricwlwm

·         Canlyniadau Arholiadau - mae nifer y disgyblion yn cyflawni arholiadau wedi lleihau yn unol â'r lleihad o ddisgyblion wedi'u cofrestru gyda rhagolwg pellach o leihad mewn niferoedd disgyblion dros y tair blynedd nesaf gyda chynnydd i ddilyn yn y grwpiau blynyddoedd 7 a 8 presennol; roedd yn siomedig nodi gostyngiad mewn canlyniadau a thra bod y duedd heb ei nodi, roedd canlyniadau AG yn dueddol o amrywio - gellir o bosib egluro’r gostyngiad oherwydd bod ysgolion yn gorfod ymdrin â  manylion TGAU newydd a byddai cymariaethau gyda chanlyniadau’r flwyddyn nesaf yn rhoi gwell syniad i ni o ran hynny - os bydd CYSAG yn ei ystyried fel maes o bryder bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at GwE am archwiliad pellach; nid oedd Canlyniadau Lefel A wedi eu cynnwys ym mhecyn y rhaglen ac y byddant yn cael eu hanfon er e-bost i'r aelodau - 21 yn llai o ddisgyblion wedi sefyll Lefel A mewn Astudiaethau Crefyddol na'r flwyddyn flaenorol ac er bod y gyfradd A*-C wedi gostwng yn gyffredinol, roedd nifer o raddau A* wedi cynyddu.

·         Dulliau o Ddysgu – dim newidiadau yn y dulliau o ddysgu.

·         Hyfforddiant Athrawon - ni fu’n bosibl yn ystod y flwyddyn ymweld â, na chael ymweliad gan y Sefydliad Hyfforddiant Athrawon Cychwynnol. 

Roedd rhai newidiadau wedi digwydd i’r hyfforddiant athrawon a bydd gwybodaeth bellach ar gael yn y cyfarfod CYSAG nesaf.

·         Adroddiadau Archwilio – roedd y proffil archwilio yn dda heb achosion o ran Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Grefyddol neu Addoli Ar Y Cyd dros y deuddeg mis diwethaf.

 

Yn ystod dadl fe fynegodd aelodau eu siomedigaeth bod GwE, ac yn arbennig Mr Philip Lord, ddim yn rhan o CYSAG a thalwyd teyrnged i Mr. Lord am ei broffesiynoldeb, arbenigedd a’i gymorth gwerthfawr i CYSAG.  Cytunodd yr aelodau i'r pwyllgor anfon llythyr yn mynegi ein gwerthfawrogiad i Mr Lord gan ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

 

Cynghorodd yr USGY fod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi cynnal cyfarfodydd bob tymor a bod gan CYSAG yr hawl i anfon cynrychiolwyr a nodwyd nad oedd cynrychiolaeth wedi bod o Sir Ddinbych yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2018 yn Llanilltud Fawr.  Cytunwyd bod y Cynghorydd Emrys Wynne yn cynrychioli SACRE Sir Ddinbych yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 26 Mawrth 2019 yng Nghaerdydd ond os na fyddai'n gallu mynychu byddai'r Cynghorydd Ellie Chard yn mynd yn ei le.  Nodwyd nad oedd dyddiadau pellach wedi eu pennu ar gyfer cyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn y dyfodol er y byddai’r cyfarfod yn haf 2019 yn cael ei gynnal yng Nghonwy.  O ran p’un ai fod hi’n bosib hawlio costau teithio am fynychu cyfarfodydd CCYSAGC fe gytunodd y swyddogion i holi ac i adrodd yn ôl i’r aelodau.  

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cymeradwyo  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2018 pdf eicon PDF 100 KB

Adolygu canlyniadau arholiadau Addysg Grefyddol CA4 ac ôl 16 a wiriwyd yn ysgolion uwchradd Sir Ddinbych (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (USGY) ganlyniadau arholiad CA4 Addysg Grefyddol wedi’u dilysu ar gyfer ysgolion uwchradd Sir Ddinbych (dosbarthwyd yn flaenorol) i’r aelodau eu trafod.

 

Ystyriodd yr aelodau'r canlyniadau ar gyfer arholiadau’r cwrs llawn a chwrs byr TGAU ac roeddent yn siomedig i nodi’r nifer isel o ddisgyblion wnaeth sefyll yr arholiadau sy'n tynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgolion Sir Ddinbych heb sefyll arholiad AG yn ystod y flwyddyn academaidd hynny.  Yr eithriad oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn oedd yn hanesyddol yn perfformio'n dda o ran cofnodi disgyblion ar gyfer cwrs llawn ac roedd yr aelodau'n llongyfarch yr ysgol am hynny.   Mae’r buddion o addysg gyflawn a gwerth Addysg Grefyddol, p’un ai ei fod yn golygu cymhwyster ar y diwedd yn cael ei gydnabod gan CYSAG.  Fodd bynnag roedd yr aelodau'n awyddus i annog ysgolion i gofnodi mwy o ddisgyblion ar gyfer arholiadau AG a thrafod gyda'r USGY p'un ai fod yn fesurau ymarferol y gellir eu gweithredu er mwyn cyflawni'r nod hynny.  Eglurodd yr USGY y newid diweddar mewn pwyslais a’r pwyntiau a godwyd ar draws ystod ehangach o bynciau allai gael effaith ar niferoedd disgyblion yn y dyfodol yn sefyll arholiadau AG.  O ran annog y nifer o ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau AG fe gytunodd yr USGY i dynnu sylw at y mater yn y cyfarfod Ffederasiwn Penaethiaid nesaf ac i gadw golwg ar y mater.  Awgrymwyd hefyd y byddai’r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn gallu trafod y mater hefyd.  O ran y lleihad cyffredinol mewn disgyblion wedi'u cofrestru a chydberthyniad gyda’r gostyngiad yn y nifer o ddisgyblion yn sefyll arholiadau AG, fe gytunodd yr USGY i wneud fwy o ymchwil i mewn i'r ochr yna er mwyn darparu dangosydd gwell wrth ystyried perfformiad yn y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD yn ddarostyngedig i sylwadau a chamau gweithredu gan yr aelodau uchod y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar Ganlyniadau Arholiad 2018.

 

 

8.

PROSES AC ADRODDIADAU AROLWG ESTYN pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried canlyniadau Arolygon Estyn diweddar a gynhaliwyd mewn tair ysgol (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (USGY) adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) yn gadael i’r aelodau wybod am y fframwaith arolygu newydd i ysgolion a gyflwynwyd ym Medi 2017. 

 

Wrth roi golwg cyffredinol o'r broses newydd rhoddwyd sylw yn arbennig i'r canlynol - 

 

·         byddai ysgolion yn cael pythefnos o rybudd ar gyfer arolwg – byddai hyn yn gadael llai o amser i baratoi ond yn golygu gwell adlewyrchiad o’r ysgol a llai o bwysau ar staff

·         byddai bwlch o ddeuddeg mis mewn arolygiadau o ganlyniad i’r cwricwlwm newydd, fodd bynnag byddai Estyn yn parhau i arolygu ysgolion sy’n methu

·         byddai ysgolion yn cael eu harolygu ddwywaith mewn chwe blynedd yn hytrach nag unwaith

·         mae’r arolwg newydd yn canolbwyntio ar gynnydd ac adolygiad disgyblion gan roi darlun mwy manwl a gyda dull yr un mor heriol.

 

Arolygiadau adran 50 i ysgolion gyda nodwedd grefyddol ac yn dysgu addysg grefyddol enwadol.  Cyflawnwyd arolygiadau adran 50 mewn tair ysgol gynradd yn 2017/18 - Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Tremeirchion ac Ysgol Llanbedr.   Derbyniodd y tair ysgol arolygiadau ffydd dda heb unrhyw bryderon.  Roedd aelodau yn falch o nodi canlyniadau arolwg positif a nodweddion da.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

 

9.

YSGOL GATHOLIG NEWYDD, Y RHYL pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried adroddiad yn rhoi gwybod i’r aelodau am ddatblygiad Ysgol Gatholig Newydd Crist y Gair a’i pharodrwydd i agor ym mis Medi 2019 (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (USGY) yn cyflwyno adroddiad (wedi'i ddosbarthu'n flaenorol) yn rhoi gwybod i’r aelodau o’r cynnydd mewn perthynas ag Ysgol Gatholig Newydd Crist y Gair a’i pharodrwydd i agor ym mis Medi 2019.

 

Mae Ysgol Gatholig Crist y Gair yn adeilad trawiadol iawn a fyddai’n agor ym mis Medi 2019 ac yn disodli Ysgol Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones.  Mae’r ysgol newydd wedi ei ariannu mewn partneriaeth â'r Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac yn gallu cynnig addysg i hyd at 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 – 11 oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 – 16 oed. Cydnabuwyd bod angen treulio mwy o amser ar farchnata'r ysgol i gynyddu niferoedd disgyblion ac roedd cynlluniau i ddatblygu gwefan newydd ac i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel dulliau o hyrwyddo.  Penodwyd Amanda Preston fel Pennaeth newydd yn ddiweddar a oedd yn brofiadol iawn a gyda llwyddiant blaenorol.   Roedd y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo'n dda ac yn cadw i’r targed ac roedd aelodau wedi gweld ffilm yn dangos y cynlluniau ar gyfer yr adeilad a chyfleusterau'r ysgol ac roedd copïau o brosbectws yr ysgol ar gael hefyd.

 

O ran demograffeg fe gadarnhaodd yr USGY bod digon o niferoedd i lenwi’r ysgol ac ni fyddai’n cael effaith ar Ysgol St Brigid’s a oedd hefyd yn llawn.  O ran penodi athrawon roedd bod yn Gatholig yn ‘ddymunol’ yn hytrach na ‘hanfodol’ ar gyfer y swydd  Yn ymateb i ofyniad CYSAG fe gadarnhaodd yr USGY y byddai’n gwneud trefniadau i gynnal cyfarfod nesaf tymor y gwanwyn o CYSAG yn 2020 yn yr ysgol newydd ac i roi taith o amgylch y cyfleusterau.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad cynnydd a’r cyflwyniad ar Ysgol Gatholig Crist y Gair.

 

 

10.

CWRICWLWM NEWYDD CYMRU pdf eicon PDF 8 KB

Derbyn cyflwyniad (copi yn amgaeedig) ar Gwricwlwm Newydd Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog (USGY) gyflwyniad power point ar Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Cymru newydd.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol -

 

·         yr argymhellion allweddol yn codi o’r adolygiad o’r cwricwlwm

·         yr amserlen ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd a threfniadau asesu a fyddai ar gael am adborth yn Ebrill 2019

·         y pedwar dibenion (1) dysgwyr galluog, uchelgeisiol (2) dinasyddion gwybodus gyda moesau, (3) cyfranogwyr mentrus a chreadigol, ac (4) unigolion iach a hyderus

·         y chwech Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh) gydag Addysg Grefyddol yn rhan o’r elfen Dyniaethau yn hytrach na phwnc penodol

·         y cysyniadau allweddol ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad i adnabod yr elfennau allweddol y dylai'r holl ddysgwyr eu profi o fewn eu meysydd

·         Polisi AG ehangach i ystyried cynnwys y disgrifiad o faes llafur a gytunwyd arno; AG mewn dosbarthiadau chweched dosbarth ysgolion; AG mewn dosbarthiadau meithrin ysgolion a thynnu yn ôl o AG

·         yr angen i sicrhau fod y maes llafur y cytunwyd arno yn cefnogi Meysydd Dysgu a Phrofiad Dyniaethau a sicrhau lle i AG yn y cwricwlwm newydd a gyda'r un cydraddoldeb â phynciau eraill

·         Fframwaith gefnogol newydd i AG i gael ei ddatblygu i gefnogi’r Cwricwlwm Cymru newydd gyda grŵp yn cael ei sefydlu ar gyfer y diben hynny.

 

Nododd yr aelodau rôl Addysg Grefyddol yn y Cwricwlwm Cymru newydd ac y grŵp sy’n cael ei sefydlu i ddatblygu'r fframwaith gefnogol i AG yn cynnwys ystod o ffynonellau arbenigol ac arbenigedd.   Teimlai’r Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i’r cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu gael eu dosbarthu i aelodau CYSAG i’w hystyried pan fyddant ar gael yn Ebrill 2019. Cytunodd yr USGY hefyd i wahodd swyddog o GwE i gyfarfod CYSAG yn y dyfodol i roi golwg cyffredinol ar y cwricwlwm newydd.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Derbyn a nodi’r cyflwyniad ar Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Cymru newydd;

 

(b)       bod yr USGY yn dosbarthu’r cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu i aelodau CYSAG unwaith y byddan nhw ar gael yn Ebrill 2019, ac 

 

(c)        bod yr USGY yn gwahodd swyddog o GwE i un o gyfarfodydd nesaf CYSAG i roi golwg cyffredinol ar y cwricwlwm newydd.

 

Cyn cau’r cyfarfod nodwyd y byddai cyfarfod nesaf CYSAG yn cael ei gynnal am 10.00am ar ddydd Mercher, 26 Mehefin 2019 yn Neuadd Y Sir, Rhuthun.  Ar gais y Cadeirydd fe gytunodd yr USGY i edrych ar y posibilrwydd o gynnal y cyfarfod hwnnw yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.