Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O RYBUDD - CWORWM Y cworwm ar gyfer CYSAG oedd trydedd rhan o’i
aelodau gan gynnwys un o bob un o’r tri grŵp o gynrychiolwyr. Yn anffodus, nid oedd yna aelodau yn
bresennol i gynrychioli sefydliadau athrawon ac felly roedd y cyfarfod heb
gworwm. O ganlyniad roedd y sawl oedd
yn bresennol yn ystyried pa un ai i barhau â’r cyfarfod yn anffurfiol ai
peidio. Oherwydd mai dyma’r ail gyfarfod
yn ddilynol o’r CYSAG heb gworwm ac na fyddai’n bosibl cadarnhau penderfyniadau
blaenorol, ac oherwydd nad oedd yna unrhyw fusnes o bwys angen gwneud
penderfyniad arno cyn y cyfarfod nesaf, cynigiwyd nad oedd y cyfarfod yn parhau
a bod y busnes yn cael ei ohirio nes y cyfarfod nesaf o CYSAG a drefnwyd ar
gyfer 12 Hydref 2018. CYTUNWYD
YN UNOL Â HYNNY. Tra’n gwerthfawrogi
ei fod yn gyfnod hynod o brysur i aelodau mynegwyd pryder mai ond un
ymddiheuriad a dderbyniwyd gan Dominic Oakes, a phwysleisiodd yr aelodau ei bod
yn bwysig bod pob aelod yn cyflwyno ymddiheuriad ymlaen llaw os nad oeddent yn
gallu mynychu cyfarfod fel y gellir gwneud trefniadau amgen os oedd angen. Soniwyd am y diffyg cynrychiolwyr presennol
o sefydliadau athrawon hefyd fel mater yr oedd yr awdurdod lleol angen rhoi
sylw iddo ac awgrymwyd y byddai'n werth cynnal cyfarfodydd y tu allan i oriau
ysgol a all helpu i wella presenoldeb. Dywedodd Ymgynghorydd Her ar gyfer GwE ei fod yn
camu i lawr fel cynrychiolydd yr awdurdod lleol a dywedodd y byddai’r awdurdod
lleol angen dod o hyd i ymgynghorydd arall i ddarparu cefnogaeth broffesiynol i
CYSAG yn y dyfodol. Amlygodd y gofynion
statudol i CYSAG adolygu’r maes llafur y cytunwyd arno ond oherwydd y
newidiadau i'r cwricwlwm presennol yn y dyfodol roedd Cymdeithas Cynghorau
Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi awgrymu i’r fframwaith presennol
gael ei gadarnhau’n addas i’r diben yn amodol ar weithredu’r cwricwlwm newydd
yn 2022. Awgrymwyd bod Cynhadledd Maes
Llafur Cymeradwyedig yn cael ei gynnal yn syth cyn y cyfarfod CYSAG nesaf a
gynhelir i’r diben hwn. Roedd
Ymgynghorydd Her GwE hefyd yn tynnu sylw’r aelodau at eitem 8 ar y rhaglen -
Cwricwlwm Cymru. Gan fod y cwricwlwm newydd yn parhau i gael ei ddatblygu,
meddai, roedd camau dilyniant ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau wedi
eu llunio i roi cymorth o ran adnabod cyrhaeddiad yn y dyniaethau a fyddai’n
disodli'r ddogfennaeth bresennol. Mae’r
dyddiad cau ar gyfer adborth i Lywodraeth Cymru ar y camau dilyniant newydd yn
fuan ac felly awgrymodd y dylai aelodau ystyried y ddogfennaeth yn eu hamser eu
hunain a chyflwyno eu sylwadau unigol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod CYSAG yn hyderus ei
fod wedi cael y cyfle i ddarparu mewnbwn fel rhan o’r broses gyda golwg ar
gynnwys y ddogfennaeth newydd fel rhan o’r maes llafur y cytunwyd arno pan
adolygir yn 2022. Cytunwyd i ddosbarthu
cyfeiriad e-bost Llywodraeth Cymru ar gyfer ymatebion i’r aelodau i alluogi
iddynt ddarparu adborth unigol yn ymwneud â’r camau cynnydd. Daeth y drafodaeth i ben am 10.25am. |