Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Nid oedd gofynion
cworwm y Pwyllgor wedi'u cyflawni gan nad oedd Aelodau Addysg yn bresennol. Fe
aeth y cyfarfod yn ei flaen ond byddai angen i unrhyw benderfyniad a wnaed gael
ei gadarnhau'n ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor â chworwm. |
|
Dechreuodd y
cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
Pwyllgor CYSAG ar gyfer y tymor sydd i ddod. Cofnodion: Dywedodd yr
Ymgynghorydd Her GwE wrth y Pwyllgor fod Simon Cameron wedi rhoi gorau i’w rôl
gyda’r Eglwys yng Nghymru, ac felly nid oedd bellach yn aelod o CYSAG. Oherwydd
ymddiswyddiad Simon Cameron, byddai angen penodi Cadeirydd newydd. Gan nad oedd y cyfarfod yn gwneud cworwm, ac ni roddwyd unrhyw enwebiad,
cytunodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Ellie Chard, i fod yn Gadeirydd. Nodwyd bod
y Cynghorydd Ellie Chard am ymgymryd â rôl y Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd Pwyllgor CYSAG ar gyfer y tymor sydd i ddod. Cofnodion: Dywedodd yr
Ymgynghorydd Her GwE wrth y Pwyllgor y
byddai angen penodi Is-Gadeirydd newydd, oherwydd i’r Is-Gadeirydd presennol, y
Cynghorydd Ellie Chard, ymgymryd â swydd y Cadeirydd. Gan nad oedd y
cyfarfod yn gwneud cworwm, ac ni roddwyd unrhyw enwebiad, cytunodd y Cynghorydd
Tony Thomas i fod yn Is-Gadeirydd. Nodwyd bod
y Cynghorydd Tony Thomas am ymgymryd â
rôl yr Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 373 KB Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2017 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd
ar 13 Hydref 2017 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). Cywirdeb - dylai tudalen 7 eitem 9 nodi “Diolchodd y
Cadeirydd i’r Aelodau...” Materion yn
Codi: Tudalen 8, Eitem
10 – Ymateb gan lythyrau CYSAG i Ysgolion Dywedodd yr
Ymgynghorydd Her GwE wrth Aelodau fod problemau oherwydd y newidiadau i’r
cwricwlwm TGAU. Roedd llai o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs
byr a mwy ar gyfer y cwrs llawn. Roedd adroddiadau ar draws Gymru yn awgrymu
bod rhai ysgolion yn cael trafferth sicrhau’r canlyniadau yr oeddent yn eu
disgwyl ac roedd rhai wedi dechrau cael gwared ar y pwnc TGAU yn llwyr o Gyfnod
Allweddol 4. Roedd darpariaeth AG mewn ysgolion yn orfodol ond nid oedd gofyn i
ddisgyblion ennill cymhwyster. Cafwyd trafodaeth
a chyflwynwyd awgrym i weithio gyda’r Ffederasiwn Penaethiaid i ganfod y ffordd
orau i ddarparu AG i ddisgyblion yn Sir Ddinbych. NODWYD yn
amodol ar yr uchod, fod cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Hydref
2017, yn cael eu cynnig i’w cymeradwyo fel cofnod cywir yng nghyfarfod cworwm
nesaf y Pwyllgor. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU PDF 230 KB Derbyn
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol), a roddodd ddadansoddiad o adroddiadau Arolygu Estyn
a gyhoeddwyd yn ystod tymor yr hydref. Cynhaliwyd
arolygiadau mewn tair ysgol: ·
Ysgol
Y Faenol, Bodelwyddan ·
Ysgol
Gynradd Rhewl, ac ·
Ysgol
Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr Roedd manylion yn
ymwneud â’r ysgolion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a chrynhowyd y manylion
hyn gan yr Ymgynghorydd Her. NODWYD y
dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
FFRAMWAITH AROLYGU NEWYDD ESTYN PDF 177 KB Hysbysu’r aelodau
o ofynion y fframwaith arolygu newydd. Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE adroddiad ar lafar i hysbysu Aelodau o’r fframwaith
arolygu newydd. Cyflwynwyd fideo
YouTube byr yn dwyn y teitl “Newidiadau i Arolygon Estyn” i amlygu’r
newidiadau. Nodwyd bod
Aelodau yn cydnabod yr adroddiad ar lafar ac yn derbyn y newidiadau i’r fformat
y mae CYSAG yn derbyn gwerthusiadau adroddiad Estyn ar gyfer ysgolion yn Sir
Ddinbych. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2017 PDF 85 KB Ystyried
adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE grynodeb o adroddiad Canlyniadau Arholiadau 2017 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) er mwyn i Aelodau fonitro’r ddarpariaeth ar gyfer AG
mewn ysgolion ac i’w diweddaru o ran y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn. Amlygwyd bod data
Safon UG wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad ond nid oedd unrhyw ddata
cenedlaethol er mwyn eu cymharu. Yn ystod
trafodaethau, tynnwyd sylw at y canlynol: ·
Roedd
llawer o waith yn gysylltiedig ag amlygu graddau A*-C, er i raddau A*-G olygu
bod unigolion hefyd wedi pasio. Teimlwyd
y dylid gwneud disgyblion yn fwy ymwybodol o’r graddau pasio. ·
Dywedodd
Estyn nad oedd athrawon anarbenigol yn cael effaith andwyol ar addysg
disgyblion. NODWYD, yn
ddibynnol ar yr uchod, y dylid derbyn a nodi crynodeb yr Adroddiad Canlyniadau
Arholiadau 2017. |
|
CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL PDF 149 KB Deunyddiau
hyfforddi a monitro sydd ar gael i ysgolion cynradd. Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad hyfforddiant a gynhaliwyd ym mis Mehefin
a Gorffennaf 2017. Crynhowyd o fewn
cyflwyniad a chytunwyd bod yr hyfforddiant wedi bod yn llwyddiannus iawn i
ddisgyblion ddadansoddi agweddau ehangach o AG. Nodwyd y
dylid derbyn y cyflwyniad a nodi ei gynnwys. |
|
CYMDEITHAS CYNGHORAU YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL CYMRU PDF 148 KB (i)
Ethol
Aelod Gweithredol o Gymdeithas CYSAGau Cymru (ii)
Derbyn cofnodion drafft cyfarfod diwethaf y Gymdeithas
(copi ynghlwm) (iii)
Derbyn diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r
cwricwlwm newydd (iv)
Penderfynu pwy fydd yn mynychu cyfarfod nesaf Cymdeithas Cynghorau
Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn Abertawe ar 9 Mawrth 2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (i)
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd
2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ym Mhen-y-bont ar Ogwr er gwybodaeth i'r
Aelodau. (ii)
Gofynnwyd
am enwebiadau ar gyfer aelod newydd i Bwyllgor Gwaith CCYSAGC. Cynigodd Y Parchedig Martin Evans-Jones ei
enw ei hun. (iii)
Bydd
y cyfarfod CCYSAGC nesaf yn cael ei gynnal yn Abertawe ar 9 Mawrth 2018. NODWYD y
dylid derbyn a nodi cofnodion cyfarfod
CCYSAGC a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF 4 Gorffennaf 2018 Cofnodion: Mae cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych wedi ei drefnu ar gyfer 4 Gorffennaf 2018 am 10.00
a.m. mewn lleoliad sydd i’w gadarnhau. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |