Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr Dominic Oakes
a'r Cynghorydd Tony Flynn. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
Pwyllgor CYSAG ar gyfer y tymor dilynol Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau i aelod wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y tymor i ddod.
Enwebwyd Simon Cameron gan aelodau i fod yn Gadeirydd. Ni dderbyniwyd
enwebiadau eraill ac felly; PENDERFYNWYD penodi
Simon Cameron fel Cadeirydd y Pwyllgor
CYSAG. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd Pwyllgor CYSAG ar gyfer y tymor dilynol Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau i aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y tymor i
ddod. Enwebodd y Cynghorydd Tony Thomas y Cynghorydd Ellie Chard, a eiliwyd gan
y Parch. B Jones. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly; PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd
Ellie Chard Is-Gadeirydd y pwyllgor CYSAG. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater. a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried ar frys yn y cyfarfod yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn unol â
gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y Cadeirydd ei
fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys
iddo - Holiadur Estyn i
CYSAG Cytunwyd ystyried
y mater yn dilyn y brif eitem fusnes. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 281 KB Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017 (copi amgaeedig) fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Gofynnodd y Parch. Martin Evans-Jones am ddiweddariad o ran gwerslyfrau ar
gyfer y manylion newydd gyda'r arholiadau TGAU. Mewn ymateb i’r pryder,
rhoddodd Ymgynghorydd Her GwE (YH), wybod i aelodau bod gwerslyfr Saesneg wedi
bod ar gael ers dechrau tymor yr haf, ond nad oedd fersiwn Cymraeg hyd yn hyn. PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo Cofnodion y
cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2016-17 PDF 179 KB Ystyried adroddiad i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG (copi yn
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) at yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol ac
eglurodd nad swyddogaeth y Pwyllgor oedd trafod cynnwys yr adroddiad ond cytuno
ei fod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a oedd wedi cael ei ystyried yn ystod y
flwyddyn flaenorol. I’r perwyl hwnnw, arweiniodd yr YH yr aelodau drwy’r adroddiad.
Codwyd pryderon
gan aelodau ynghylch adnoddau a hyfforddiant. Trafododd y Pwyllgor y potensial
i ddarparu sesiynau hyfforddiant i ysgolion a thrafodwyd ffyrdd o wneud
ysgolion yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael iddynt. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad blynyddol a nodi’r cynnwys.
|
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU PDF 229 KB Derbyn
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn (copi yn amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a roddodd
ddadansoddiad o adroddiadau Arolygu Estyn a gyhoeddwyd yn ystod tymor yr haf. Eglurodd yr YH
mai’r hyn a gyflwynwyd oedd casgliadau’r arolygon a gynhaliwyd mewn 2 ysgol.
Roedd arolygiadau wedi’u cynnal yn Ysgol Fabanod y Parc ac Ysgol Gynradd
Bodfari, roedd manylion yn ymwneud â’r ysgolion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad
a chrynhowyd y manylion hyn gan yr YH.
Eglurodd yr YH fod y ddau arolygiad wedi defnyddio’r fframwaith arolygu
newydd i adrodd eu canfyddiadau. Canmolwyd yr
adroddiad Arolygu gan y Cadeirydd ynghylch Ysgol y Parc, gan ddweud ei fod yn
falch o ddarllen y sylwadau cadarnhaol. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a nodi’r cynnwys.
|
|
HOLIADUR ESTYN I CYSAG Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) yr eitem, gan roi gwybod i Aelodau ei fod wedi derbyn
holiadur gan Estyn a oedd angen sylw aelodau CYSAG. Aeth yr YH drwy’r
holiadur gydag aelodau a nododd y pryder a’r sylwadau a godwyd. Codwyd y pwyntiau
canlynol Nifer yr athrawon a oedd ar gael i ddod i gyfarfodydd CYSAG. Teimlodd Aelodau nad oedd athrawon yn gallu dod i gyfarfodydd gan nad oedd ysgolion yn gallu rhyddhau athrawon o’u dyletswyddau dysgu. ·Gwneud ysgolion yn ymwybodol o’r adnoddau a oedd
ar gael iddynt. Trafododd yr aelodau’r llinellau cyfathrebu da i roi gwybod i
ysgolion am yr wybodaeth a’r adnoddau a oedd ar gael i gynorthwyo gydag Addysg
Grefyddol ac Addoli ar y Cyd. ·
Awgrymodd
y Cadeirydd y dylid sefydlu newyddlen i’w hanfon i ysgolion gyda gwybodaeth a
oedd ar gael iddynt. ·
Roedd
Aelodau â phryderon nad oedd rhai ysgolion ag athrawon arbenigol yn addysgu
myfyrwyr. Teimlai Aelodau bod cwricwlwm TGAU a Lefel A angen athro a oedd
wedi’i addysgu mewn Addysg Grefyddol ac yn arbenigo ynddi. ·
Pryderon
nad oedd Astudiaethau Crefyddol fel pwnc yn cael ei gynnig i fyfyrwyr fel dewis
TGAU a bod y pwnc yn cael ei ymgorffori mewn meysydd pwnc eraill Diolchodd y
Cadeirydd i aelodau am eu cyfraniad a thrafodaeth ynghylch holiadur Estyn. Fe
wnaeth yr YH a'r Cadeirydd roi gwybod i aelodau y byddent yn casglu'r pwyntiau
a godwyd ac yn ateb yr holiadur yn llawn. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a nodi’r ymatebion i holiadur Estyn. |
|
YMATEB I LYTHYR CYSAG AT YSGOLION PDF 110 KB Derbyn adroddiad
ynglŷn ag ymateb ysgolion i’r llythyr monitro a anfonwyd at bob ysgol yn
Sir Ddinbych (copi amgaeedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ymgynghorydd
Her GwE (YH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi gwybod i
aelodau am yr ymateb o lythyrau a anfonwyd i ysgolion ar ran CYSAG, yn eu
hatgoffa o natur statudol y maes llafur y cytunwyd arno. Eglurodd yr YH
fod ymateb da wedi dod i law gan ysgolion cynradd. Roedd yr YH yn gobeithio bod
y llythyr yn atgoffa ysgolion bod Addysg Grefyddol yn ffurfio rhan o’r
cwricwlwm sylfaenol. Roedd y llythyr a
anfonwyd i Ysgolion Uwchradd ac Arbennig yn rhoi manylion ynghylch gofynion
Addysg Grefyddol cyfnod allweddol 4. Rhoddodd yr YH
wybod i’r pwyllgor bod yr ymatebion yn dangos bod y mwyafrif o Addysg Grefyddol
cyfnod allweddol 4 yn cael ei ddysgu gan staff addysgu arbenigol. O’r ymatebion, datgelodd yr YH bod Addysg
Grefyddol yn cael ei dysgu mewn sawl ysgol Uwchradd drwy’r pwnc Bagloriaeth
Cymru. Holodd yr Aelodau
am ragor o ddealltwriaeth ac esboniad ynghylch pam fod Astudiaethau Crefyddol
yn cael ei dysgu drwy bwnc arall, a gofynnwyd bod llythyr arall yn cael ei
anfon i'r ysgol am eglurhad. Diolchodd y
Cadeirydd i’r YH am yr adroddiad a chroesawodd ymateb pellach gan Ysgolion Sir
Ddinbych. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a nodi’r cynnwys. Anfon llythyr at Ysgolion Uwchradd yn gofyn am
eglurhad pellach ynghylch pam bod Astudiaethau Crefyddol yn cael ei dysgu drwy
wahanol bynciau. |
|
MATERION Y LLYWODRAETH PDF 237 KB (i)
Derbyn
ymateb ynglŷn â llythyrau a anfonwyd gan CYSAG ynghylch Addoli Ar Y Cyd
(copi yn amgaeedig) (ii)
Trafod
y pryderon ynglŷn â’r fanyleb TGAU newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi
gwybod i aelodau am lythyrau a oedd wedi’u hanfon at Lywodraeth Cymru a’r
ohebiaeth a ddaeth i law. Eglurodd yr YH
fod dau lythyr wedi’u hanfon at Lywodraeth Cymru ynghylch pryderon CYSAG am
Addoli ar y Cyd mewn Ysgolion a'r manylion TGAU newydd. Eglurodd yr YH
fod gohebiaeth fer wedi dod i law ynghylch y llythyr am addoli ar y cyd. Roedd
manylion yn y llythyr yn gryno ac nid yn ymhelaethu ar y pryderon a godwyd gan
aelodau CYSAG. Eglurodd yr YH y byddai CYSAG yn gallu rhoi adborth a monitro
datblygiad Addoli ar y Cyd. Dywedodd yr YH nad oedd unrhyw ymateb wedi dod i
law gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn o ran manylion newydd TGAU. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL PDF 149 KB Darparu
diweddariad i aelodau am ddigwyddiadau hyfforddi a monitro a chynllunio
deunyddiau sydd ar gael i ysgolion cynradd. Cofnodion: Gofynnodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) i aelodau gytuno i ohirio’r eitem tan y cyfarfod
nesaf, i ganiatáu mwy o amser i’r YH gasglu gwybodaeth i’w chyflwyno i aelodau.
PENDERFYNWYD gohirio'r
eitem ar y rhaglen tan y cyfarfod CYSAG nesaf 5 Chwefror 2018. |
|
CYMDEITHAS CYNGHORAU YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL CYMRU (CCYSAG) PDF 148 KB (i)
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas (ii)
Derbyn diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r
cwricwlwm newydd. (iii)
Cytuno pwy fydd yn mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC ym
Mhen-Y-Bont Ar Ogwr ar 10 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd
ar 7 Gorffennaf 2017 yn Wrecsam (a gylchredwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r
aelodau. Diolchodd Ymgynghorydd Her GwE (YH) i’r
Cynghorydd Emrys Wynne am ei bresenoldeb yn y cyfarfod (CCYSAGC) diwethaf. Darparwyd
gwybodaeth (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn diweddaru’r aelodau o broses
diwygio'r cwricwlwm. Rhoddodd y ddogfen wybod i aelodau am y gwaith cyfredol a
chamau’r dyfodol wrth ddiwygio'r cwricwlwm. Nododd Ymgynghorydd Her GwE (YH)
bwysigrwydd sylwadau CYSAG ar y gwaith hyd yn hyn. Rhoddodd yr YH
wybod i aelodau bod cyfarfod nesaf CCYSAGC ar 10 Tachwedd ym Mhen-y-bont ar
Ogwr. PENDERFYNWYD,
I.
Derbyn a nodi Cofnodion y cyfarfod CCYSAGC
a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017
II.
Derbyn yr adroddiad diweddaru ar y
cwricwlwm newydd gan Lywodraeth Cymru a nodi ei gynnwys
III.
Byddai’r Cadeirydd a’r YH yn mynychu’r
cyfarfod CCYSAGC nesaf 10 Tachwedd gan roi gwahoddiad i bob aelod. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir y
cyfarfod nesaf am 10.00am, ddydd Llun 5 Chwefror 2017 yn Ystafell Gynadledda
1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN. Cofnodion: Roedd cyfarfod
CYSAG nesaf Sir Ddinbych wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 5 Chwefror 2018.
Roedd y Cynghorydd Tony Thomas wedi gwirfoddoli cysylltu ag ysgolion lleol yn
yr ymgais i gynnal y cyfarfod mewn ysgol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:00 p.m. |