Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O SYLW Cytunwyd bod
Simon Cameron yn Cadeirio’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs Cate
Harmsworth a'r Cynghorydd Joe Welch |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
CADARNHAU'R CADEIRYDD A'R IS-GADEIRYDD Cadarnhau
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y tymor presennol.
Cofnodion: Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her ar gyfer GwE (YH) gyda’r aelodau y
weithdrefn ar gyfer penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Cyngor
Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol. Hysbysodd yr YH aelodau y byddai’r
Is-Gadeirydd presennol yn dod yn Gadeirydd fis Hydref ac y byddai penodi
Is-Gadeirydd newydd ar y rhaglen fis Hydref. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 359 KB Cymeradwyo a
llofnodi bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2017 yn
gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2017 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). NODWYD yn
amodol ar yr uchod, fod cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Chwefror
2017, yn cael eu cynnig i’w cymeradwyo fel cofnod cywir yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor. |
|
Trafod rôl monitro a
chefnogi CYSAG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Ymgynghorydd Her ar gyfer GwE (YH) yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn
gynharach) oedd yn darparu gwybodaeth ar rôl CYSAG a rôl ei aelodau. Eglurodd
yr YH wrth yr aelodau y cyfrifoldeb oedd ar CYSAG yn ymwneud â maes llafur
Addysg Grefyddol mewn ysgolion, ei gynnwys a'r modd y caiff ei ddysgu.
Hysbyswyd aelodau eu bod yn cyfarfod 3 gwaith y flwyddyn, unwaith ymhob tymor
ysgol i drafod, monitro, cefnogi ac asesu Addysg Grefyddol mewn ysgolion.
Eglurodd yr YH y cefndir o ran addoli ar y cyd mewn ysgolion, dylai pob disgybl
dderbyn cyfle i addoli ar y cyd oni bai fod cais gan y rhieni i’w heithrio.
Codwyd pryderon ynglŷn â’r gallu i fonitro'r ddarpariaeth o ran addoli ar
y cyd mewn ysgolion. Mynegodd aelodau nad oes gofod digon mawr i addoli ar y
cyd mewn ysgolion newydd oedd wedi eu hadeiladu. Hysbyswyd y pwyllgor fod gofod
wedi ei neilltuo ar gyfer adlewyrchu neu wedi ei gysegru i bwrpas crefyddol. Eglurodd yr YH
wrth yr aelodau fod Cwricwlwm newydd ar gyfer Addysg Grefyddol i'w gyflwyno ym
Medi 2021 ac y byddai aelodau Pwyllgor CYSAG yn monitro a chefnogi gweithredu’r
cwricwlwm. Diolchodd y
Cadeirydd i’r YH am yr wybodaeth ar rôl CYSAG a’i aelodau. Galwodd y Cadeirydd
ar yr aelodau i gymryd rhan ragweithiol yn y Pwyllgor gan rannu arfer da,
profiadau a chefnogi’r YH. NODWYD y
dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU PDF 111 KB Derbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor y gwanwyn. Eglurodd yr YH
mai’r hyn gyflwynir oedd casgliadau’r arolygon a gynhaliwyd mewn 2 ysgol gan
mai dyma’r unig wybodaeth a dderbyniwyd gan Estyn. Roedd arolygon wedi eu
cynnal yn Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Llanbedr, roedd manylion yn ymwneud
â’r ysgolion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a chrynhowyd y manylion hyn gan yr
YH. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y dull sydd wedi ei fabwysiadu gan Estyn ar gyfer
arolygu ysgolion yn newid o Fedi 2017. O’r ddau arolwg sydd wedi ei dderbyn gan
Estyn, eglurodd yr YH, cafwyd arolwg Ysgol Llanbedr drwy ddefnyddio’r
fframwaith arolygu cynharach a'r fframwaith newydd yn Ysgol Uwchradd Dinbych.
Eglurodd yr YH wrth yr aelodau fod y fframwaith arolygu newydd wedi ei wneud o
5 ardal eglur, o’r wybodaeth yn y fframwaith arolygu newydd gellid gweld
cyfeiriad cyfyngedig i eitemau perthnasol i CYSAG. Eglurodd yr YH fod Estyn
wedi nodi mai dim ond os na weithredir Addoli ar y Cyd y bydd yn cyfeirio'n
uniongyrchol at hynny o fewn arolygon. Mynegodd yr YH pa
mor bwysig oedd i bwyllgor CYSAG fonitro’r fframwaith newydd o ganlyniadau’r
arolygon a wnaed. NODWYD y
dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
YMARFERYDD ARWEINIOL – CEFNOGI’R MANYLEBAU TGAU NEWYDD PDF 110 KB Derbyn cyflwyniad llafar ar fenter GwE i
gefnogi'r fanyleb TGAU newydd mewn perthynas ag Astudiaethau Crefyddol. Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) Sarah Roberts, Pennaeth Dyniaethau yn Ysgol Uwchradd
Y Rhyl ac Ymarferydd Arweiniol Hwb Conwy a Sir Ddinbych. Cyflwynodd Sarah
Roberts, Ymarferydd Arweiniol (YA) dros addysg grefyddol yng Nghonwy a Sir
Ddinbych, fentrau i’r pwyllgor sydd mewn grym i gyflawni manylion diwygiedig
Astudiaethau Crefyddol TGAU. Eglurodd yr YA gefndir y gwaith roedd yr
Ymarferwyr Arweiniol wedi bod yn ymwneud ag ef.
Roedd gwaith wedi
ei wneud gydag ysgolion ar draws y rhanbarth i gefnogi staff a rhannu arferion
da. Trafododd yr YA y gwahaniaethau rhwng cwrs Llawn a chwrs byr arholiadau
Addysg Grefyddol TGAU a sut y caiff modiwlau pob un eu cyfrif. Hysbysodd yr YA aelodau fod cynadleddau CBAC a gynhaliwyd ym Mangor ac
Ewloe wedi mynegi nifer o bryderon gan ysgolion yn ymwneud â’r manylion newydd.
Datgelodd yr YA mai’r prif bryder a leisiwyd yn y cyfarfod oedd diffyg adnoddau
ac yn benodol nad oes gwerslyfr ar gael i gefnogi staff addysgu na disgyblion.
Hefyd gofynnwyd yn y gynhadledd am ddarparu canllawiau ar elfen Ddyneiddiol y
maes llafur i gynorthwyo'r dysgu. Cynhaliwyd
cynhadledd pellach gan GwE ym mis Mawrth. Rhoddodd yr YA
adolygiad cryno o’r hyn drafodwyd yn y gynhadledd oedd yn cynnwys gwybodaeth ar
asesu, y dull Dyneiddiol a’r camau nesaf i’w harchwilio gan ymarferwyr Hwb.
Croesawyd yr adborth gan y 60 o athrawon a fynychodd y gynhadledd a rhoddwyd
adborth cadarnhaol. Mynychodd yr YA gyfarfod Hwb oedd yn canolbwyntio ar
baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd a datblygu cysyniadau i gefnogi ei
gilydd. Dywedodd yr YA wrth y pwyllgor mai trwy ddefnydd negeseuon e-bost y
cyfathrebir ar hyn o bryd, ac ym Medi byddai porth newydd yn cael ei weithredu
i alluogi ysgolion i gael mynediad i gymorth a chefnogaeth. Hysbysodd yr YA y
pwyllgor ynglŷn â’r cyfarfod Hwb nesaf yn Hydref 2018 ac y byddai'r camau
nesaf yn canolbwyntio ar ddatblygu map cysyniadau, parhau i rannu gwybodaeth ac
edrych ar drefnu cynhadledd arall. Roedd pryderon a godwyd yn y cynadleddau a chyfarfodydd Hwb wedi eu
hadleisio gan y pwyllgor CYSAG. Teimlai’r Pwyllgor ei bod yn angenrheidiol i
lunio llythyr i CBAC a Llywodraeth Cymru yn mynegi'r pryderon a deimlwyd gan
CYSAG Sir Ddinbych. Diolchodd y Cadeirydd i Sarah Roberts am fynychu'r cyfarfod
ac am ddarparu'r wybodaeth er mwyn i'r aelodau drafod ac ystyried. Gofynnodd y
Cadeirydd ar i CYSAG fonitro gweithredu’r manylion newydd a pharhau i
gyfathrebu gyda’r ymarferydd Hwb. PENDERFYNWYD -
derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. Drafftio llythyr i CBAC a Llywodraeth
Cymru yn mynegi pryderon CYSAG yn ymwneud â’r manylion newydd ar gyfer y TGAU
Addysg Grefyddol. |
|
DIWEDDARIAD - CYDWEITHIO YSGOL I YSGOL PDF 151 KB Derbyn
diweddariad ar lafar ynghylch cydweithio ysgol i ysgol. Cofnodion: Briffiodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) aelodau ar gefndir y gweithgor cydweithio ysgol i
ysgol. Eglurodd yr YH wrth aelodau nad oedd unrhyw gyfarfod gan y grŵp
wedi ei gynnal yn ddiweddar. Roedd gwaith wedi ei wneud i gynhyrchu dogfen yn y
flwyddyn academaidd newydd i gynorthwyo ysgolion gydag Addysg Grefyddol. NODWYD bod
y Pwyllgor yn derbyn y diweddariad ar lafar. |
|
I.
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y
Gymdeithas, Brynbuga, Sir Fynwy. II.
Cyfarfod yr haf CCYSAG, 7 Mehefin, Wrecsam. III.
Enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith CCYSAG
2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 3 Mawrth,
2017 yn Sir Fynwy (wedi’u cylchredeg yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.
Cododd aelodau bryderon y byddai Addysg Grefyddol yn cael ei ddysgu fel
ychwanegiad at bynciau eraill. Mynegodd Ymgynghorydd Her GwE (YH) bwysigrwydd
mynegi pryderon aelodau CYSAG yng nghyfarfodydd CCYSAGC ac anogodd aelodau i
fynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC i sicrhau fod pryderon yn cael eu clywed a'u
hateb. Eglurodd yr YH
wrth y Pwyllgor fod angen i CYSAG Sir Ddinbych enwebu ar gyfer penodi Is
Gadeirydd ar gyfer Cymdeithas CYSAG Cymru. Dadansoddodd yr YH yr enwebiadau
(wedi’u cylchredeg yn flaenorol) gydag aelodau. Pleidleisiwyd y byddai Gill
Vaisey yn cael ei henwebu am swydd yr Is Gadeirydd ar gyfer CCYSAGC gan aelodau
CYSAG Sir Ddinbych. NODWYD y dylid derbyn a nodi
cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. PENDERFYNWYD y byddai Gill Vaisey yn cael
ei henwebu gan aelodau CYSAG Sir Ddinbych i fod yn Is Gadeirydd CCYSAGC. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir y
cyfarfod nesaf am 10am dydd Gwener 13 Hydref 2017 yn Siambr y Cyngor, Tŷ
Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL13 3DP. Cofnodion: Mae cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych wedi ei drefnu i’w gynnal am 10am Dydd Gwener 13
Hydref, 2017 yn Siambr y Cyngor, Tŷ Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11:45am |