Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Ann Davies, y Cynghorydd Joe
Welch a Mr Simon Cameron, Mr Dominic Oaks a Ms. Tania Ap Siôn. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 148 KB Cymeradwyo a
llofnodi bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016 yn
gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd
ar 19 Hydref 2016 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). Hysbysodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) yr aelodau ei fod wedi cysylltu ag Ysgol Uwchradd
Dinbych er mwyn cynnal cyfarfod CYSAG 13 Chwefror 2017 yn yr ysgol. Ni dderbyniodd gadarnhad gan yr ysgol, felly
fe wnaeth drefniadau eraill ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd. NODWYD yn
amodol ar yr uchod, bod cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 20 Mehefin
2016, yn cael eu cynnig i’w cymeradwyo fel cofnod cywir yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU PDF 74 KB Derbyn
dadansoddiad o Adroddiad Arolygon diweddar gan Estyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor yr hydref. Cynhaliwyd arolygiadau
yn Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych, Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych ac Ysgol
Dewi Sant, Y Rhyl. Cynhwyswyd manylion yn ymwneud â’r ysgolion yn yr adroddiad
a chrynhowyd y manylion hyn gan yr YH.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod yr Adroddiadau Estyn wedi gostwng, gyda thri
chwestiwn allweddol yn derbyn sylw. Rhoddodd yr YH grynodeb byr i’r Aelodau o’r
canfyddiadau’n ymwneud â phob ysgol a nodwyd y sylwadau a’r canlyniadau gan yr
Aelodau. Eglurodd yr YH
bwysigrwydd aelodaeth ar y CYSAG er mwyn cadarnhau’r cwricwlwm newydd. Eglurodd
yr YH bod maes llafur newydd yn cael ei ystyried, gyda sawl ysgol yn treialu’r
maes llafur newydd yn 2018 er mwyn sicrhau y bydd y cwricwlwm newydd yn
statudol erbyn 2021. NODWYD y
dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.
|
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2016 PDF 64 KB Ystyried
adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau 2016. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) grynodeb o Adroddiad Canlyniadau Arholiadau 2015-2016
(wedi'i gylchredeg yn flaenorol) a oedd yn cynnwys manylion am:- -
TGAU
Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Llawn. Amlinellodd yr YH
y data a ddarparwyd o safbwynt:- -
Dinas
Bran – penodwyd Pennaeth newydd. -
Ysgol
Uwchradd Dinbych – Gwelwyd gostyngiad mawr yn y graddau A*- C a gyflawnwyd o
ganlyniad i ostyngiad bychan mewn nifer. -
Ysgol
Uwchradd Prestatyn – Llwyddodd i gyflawni’n uwch na’r ffigwr cyfartaledd
cenedlaethol er gwaethaf y gostyngiad mewn nifer. -
Brynhyfryd
- Gostyngiad bychan mewn nifer ond cyflawnodd 100% o raddau A*-C. Eglurodd yr YH
bod nifer yr ymgeiswyr ar y cwrs llawn wedi gostwng yn y Sir ond bod y nifer
hefyd wedi gostwng ar draws Cymru. Rhoddodd yr YH
wybod i’r Aelodau bod Pennaeth newydd wedi’i benodi yn Ysgol Uwchradd Dinas
Bran a’i fod yn obeithiol y bydd canlyniadau cadarnhaol yn dilyn y penodiad
hwn. -
TGAU
Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Byr Amlinellodd yr YH
y data a ddarparwyd o safbwynt:- -
Gwelwyd
cynnydd yn nifer y disgyblion yn sefyll arholiad cwrs byr ar draws yr Awdurdod
Lleol. -
Dinas
Bran – Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr ond dim ond 2% lwyddodd i ennill
gradd A*-C. -
Glan
Clwyd – Ni chofrestrwyd unrhyw ddisgybl ar gyfer yr arholiad cwrs byr. -
Ysgol
Uwchradd Y Rhyl – Gwelwyd cynnydd o 26.2% yn ennill graddau A*-C. Eglurodd yr YH
i’r Aelodau bod y cyfrifoldeb o ddarparu Addysg Grefyddol o fewn ysgolion yn
orfodol, ond nad oedd yn ofynnol i ddisgyblion gael eu harholi. Defnyddiwyd y
cwrs byr fel dewis arall ar gyfer myfyrwyr er mwyn iddynt allu ennill
cymhwyster. Cododd yr YH
bryderon o ran canlyniadau Ysgol Uwchradd Dinas Bran a hysbysodd y Pwyllgor y
bydd yn holi’n union beth fydd angen ei wneud er mwyn gwella canlyniadau yn y
dyfodol. -
TGAU
Astudiaethau Crefyddol – Safon Uwch. Amlinellwyd y
materion canlynol o safbwynt:- -
Nodwyd
bod cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr a oedd yn sefyll arholiad Astudiaethau
Crefyddol o fewn yr Awdurdod Lleol. -
Gwelwyd
cynnydd yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer yr arholiad Astudiaethau
Crefyddol Safon Uwch yn Glan Clwyd a llwyddodd 100% ennill gradd A*-C. NODWYD, yn
ddibynnol ar yr uchod, y dylid derbyn a nodi crynodeb yr Adroddiad Canlyniadau
Arholiadau 2016. |
|
STATWS Y MAES LLAFUR CYTUNEDIG PDF 63 KB Trafod y cyngor y dylai ysgolion ei dderbyn ynglŷn â statws y maes llafur cytunedig o safbwynt y Bagloriaeth Cymru newydd a’r newidiadau i Gwricwlwm Cymru. Cofnodion: Darparodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) adroddiad ar lafar i'r Pwyllgor ar statws y maes
llafur cytunedig. Eglurodd yr YH i Aelodau
bod Bagloriaeth Cymru yn cael effaith negyddol ar y sylw yr oedd Addysg
Grefyddol yn ei dderbyn yng Nghyfnod Allweddol 4. Rhoddodd yr YH wybod i'r
Aelodau nad oedd data i gefnogi’r pryderon i’r newid hwn, yng ngoleuni hyn,
dywedodd yr YH ei fod yn obeithiol y bydd holiadur ar gael yn y dyfodol er mwyn
i ysgolion ei gwblhau. Bydd pwysigrwydd Addysg Grefyddol mewn ysgolion yn sicr
o gael ei bwysleisio yn yr holiadur. Gwnaeth Aelodau
hi’n gwbl glir eu bod eisiau i’r cwestiynau fod yn rhai penodol er mwyn gallu
defnyddio'r ymatebion i gwestiynu'r newidiadau i'r cwricwlwm. Awgrymodd Alison Ballantyne y dylid anfon yr
holiadur at Benaethiaid a Llywodraethwyr yr Ysgolion er mwyn pwysleisio
pwysigrwydd cwblhau’r holiadur er mwyn gallu casglu’r data angenrheidiol. Nododd yr YH ei sylwadau. NODWYD y
dylai’r Pwyllgor dderbyn y diweddariad ar lafar ac y dylid nodi’r safbwynt.
|
|
Y DIWEDDARAF AM CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL PDF 61 KB Hybu
cynrychiolaeth athrawon drwy gydweithrediad o ysgol i ysgol. Cofnodion: Darparodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) ddiweddariad ar lafar gan gynnwys hyfforddiant a
drefnwyd. Trefnwyd yr hyfforddiant ar gyfer mis Mawrth ac Ebrill. Cynhaliwyd
sesiynau hyfforddi yn ystod tymor yr Haf y llynedd, er mwyn adolygu’r maes
llafur a sicrhau bod pawb yn ei ddilyn. Hysbysodd yr YH y Pwyllgor bod yr
ymateb i'r sesiwn hyfforddi wedi bod yn gadarnhaol gyda 50% o fynychwyr yn
gytûn bod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant. Mynegodd y
Parchedig Martin Evans-Jones ddiddordeb mewn mynychu sesiynau hyfforddi sydd
wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd yr YH fanylion i’r Pwyllgor am y
digwyddiadau hyfforddi i ddod. Rhoddodd yr YH
wybod i’r Aelodau bod athrawon hefyd am dderbyn hyfforddiant i arwain monitro
mewn ysgolion a chefnogi cydweithrediad athrawon, gydag ysgolion a GwE, yn
darparu adborth a gwybodaeth i’w rhannu drwy HWB Cymru. NODWYD bod
y Pwyllgor yn derbyn y diweddariad ar lafar. |
|
i.
Derbyn
cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ii.
Cytuno
ar bresenoldeb i gyfarfod nesaf CCYSAGC ym Mrynbuga, Sir Fynwy ar 3 Mawrth
2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd
2016 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn Sir Gaerfyrddin er gwybodaeth i'r
Aelodau. Hysbysodd
Ymgynghorydd Her GwE (YH) y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru a CCYSAGC yn
gweithio gydag ysgolion i gynhyrchu’r cwricwlwm erbyn 2021. Pwysleisiodd yr
YH bwysigrwydd presenoldeb cynrychiolaeth yr Eglwys yng nghyfarfodydd CYSAG a
CCYSAGC. Eglurodd bwysigrwydd yr adborth
o gyfarfodydd CYSAG er mwyn pwysleisio’r angen ar gyfer Addysg Grefyddol ar y
Cwricwlwm. Gofynnodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler i’r YH, sut yn union oedd cael cynrychiolaeth gan
gredoau gwahanol. Eglurodd yr YH y broses ar gyfer derbyn cynrychiolaeth
enwadau crefyddol mewn cyfarfodydd CYSAG i’r Aelodau. Dywedodd yr YH bod gwell
cynrychiolaeth o wahanol gredoau i’w cael yn Ne Cymru. Eglurwyd gan yr YH y
casglwyd data’n genedlaethol er mwyn cael data i’w ddadansoddi. NODWYD y
dylid derbyn a nodi cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd
2016. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir y
cyfarfod nesaf am 10.00am ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN Cofnodion: Cynhelir cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ddydd
Mercher 5 Gorffennaf 2017 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |