Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSGOL UWCHRADD Y RHYL
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim Materion
Brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 210 KB Cymeradwyo a llofnodi bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 20
Mehefin 2016 yn gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2016 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). Materion sy'n
codi – Tudalen 9 – Eitem 5 Dadansoddi Adroddiadau Archwiliadau Estyn. Cadarnhaodd
Ymgynghorydd Herio GwE bod llythyrau llongyfarch wedi’u gyrru i’r ysgolion
perthnasol. PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod CYSAG
a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2016 fel cofnod cywir. |
|
YSGOLION ARLOESOL A'R CWRICWLWM NEWYDD PDF 59 KB Derbyn cyflwyniad
gan aelod o’r grŵp arloesi ynglŷn â’r rhaglen ysgolion arloesol. Cofnodion: Cyflwynwyd Andrea
Taylor, GwE, a wahoddwyd i roi cyflwyniad i Aelodau CYSAG ar Ysgolion Arloesol
a’r Cwricwlwm Newydd, gan Ymgynghorydd Herio GwE, Phil Lord. Ar 30 Mehefin,
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau y byddai Llywodraeth Cymru’n
derbyn, yn llawn, yr holl argymhellion a nodir yn “Dyfodol Llwyddiannus”,
adolygiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson ar y cwricwlwm a threfniadau
asesu Cymru. Fis Gorffennaf
2015, gwnaeth ysgolion ar hyd a lled Cymru gais i fod yn “Ysgol Arloesol".
Byddai’r ysgolion hyn yn troi’n weithlu i weithio fel ymateb i’r adroddiad
Dyfodol Llwyddiannus. Byddai’r Ysgolion
Arloesol yn cael eu rhannu’n dri grŵp: ·
Arloeswyr
Cwricwlwm ·
Arloeswyr
Digidol, ac ·
Arloeswyr
y Fargen Newydd (gelwir yn Ddysgu Proffesiynol erbyn hyn) Roedd y Cynllun
yn nodi sut i adeiladu cwricwlwm eang, cytbwys, cynhwysol a heriol, ynghyd â’r
pedwar pwrpas a oedd wrth ei wraidd, rhoi cyfle i'r holl blant a phobl ifanc i
fod yn: ·
Ddysgwyr
uchelgeisiol, galluog – a oedd yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes. ·
Cyfranwyr
blaengar, creadigol – a oedd yn barod i fod yn rhan lawn o fywyd a gwaith. ·
Dinasyddion
moesegol, cydwybodol – a oedd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. ·
Unigolion
iach, hyderus - a oedd yn barod i fyw bywydau boddhaus yn aelodau gwerthfawr i
gymdeithas. Byddai’r
cwricwlwm newydd yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig. I sicrhau hynny,
byddai Ysgolion Arloesol yn gweithio mewn partneriaeth glos gyda’u clystyrau
(gan gynnwys y sector na chynhelir), a’r rhwydweithiau ehangach a thu hwnt er
mwyn sicrhau bod cymaint o’n hysgolion â phosib’ yn rhan o’r broses gynllunio a
datblygu. Strwythur y
Cwricwlwm Chwe maes dysgu a
phrofiad: ·
Y
Celfyddydau Mynegol ·
Iechyd
a lles ·
Y
Dyniaethau ·
Ieithoedd,
llythrennedd a chyfathrebu ·
Mathemateg
a rhifedd, a ·
Gwyddoniaeth
a thechnoleg Tri chyfrifoldeb
traws-gwricwlwm: ·
Cymhwysedd
digidol ·
Llythrennedd ·
Rhifedd Byddai’r
cwricwlwm i ysgolion yn cael ei gynllunio i helpu pob plentyn a pherson ifanc i
ddatblygu mewn perthynas â dibenion clir y cytunwyd arnynt. Byddai’r dibenion
yn cael eu llunio i ddylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau ynglŷn â'r
cwricwlwm, addysgu ac asesu. I ategu’r gwaith,
nodwyd 4 egwyddor allweddol er mwyn gallu gweithredu'r cwricwlwm newydd. Byddai
rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith: ·
Wedi’i
arwain gan dystiolaeth, ac ar sail sybsidiaredd ·
Yn
uchelgeisiol ac yn gynhwysol ·
Yn
rheoladwy, yn sydyn, gyda brwdfrydedd ac yn broffesiynol, ac ·
Yn
unedig. Byddai angen i
bob Ysgol Arloesol, heb ystyried eu prif ffocws (Digidol, Cwricwlwm a/neu'r
Fargen Newydd), weithio'n agos gyda'i gilydd i herio'r naill a'r llall a dysgu
ganddynt. Gyda’i gilydd, byddent yn galluogi i’r cwricwlwm newydd gael ei
weithredu ar draws Cymru, gan gynnwys cefnogaeth barhaus sydd o safon uchel i
ddatblygu eu sgiliau addysgu ac arwain. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor yn nodi’r cyflwyniad. |
|
CYSAG – ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2015-16 PDF 104 KB Ystyried
adroddiad i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd
Ymgynghorydd Her GwE at yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol ac eglurodd
nad swyddogaeth y Pwyllgor oedd trafod cynnwys yr adroddiad ond cytuno ei fod
yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a oedd wedi cael ei ystyried yn ystod y flwyddyn
flaenorol. PENDERFYNWYD derbyn
Adroddiad Blynyddol Drafft 2015-16 a nodi’r cynnwys. |
|
YMARFERYDD ARWEINIOL – CEFNOGI’R MANYLEBAU TGAU NEWYDD PDF 62 KB Derbyn cyflwyniad
ar fenter GwE i gefnogi'r fanyleb TGAU newydd mewn perthynas ag Astudiaethau
Crefyddol. Cofnodion: Cyflwynodd
Ymgynghorydd Her GwE ddiweddariad ar lafar o raglen yr ymarferydd arweiniol a
sut roedd yn berthnasol i arholiadau Astudiaethau Crefyddol. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer consortia lleol i gefnogi rhoi’r TGAU newydd
ar waith. Roedd GwE wedi comisiynu 3
athro ar draws Gogledd Cymru i gefnogi’r fenter hon. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn derbyn y diweddariad ar lafar. |
|
CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL PDF 72 KB Hybu
cynrychiolaeth athrawon drwy gydweithrediad o ysgol i ysgol. Cofnodion: Rhoddodd
Ymgynghorydd Herio GwE ddiweddariad ar lafar ar y digwyddiad hyfforddi a’r
ffordd ymlaen. Anogwyd ysgolion
i weithio ar y cyd ag ysgolion eraill i gefnogi a datblygu pob maes o fewn y
cwricwlwm. Cyfarfu 50 o ysgolion ym mis
Mehefin a Gorffennaf i dderbyn hyfforddiant ar y tri sgil craidd yn y maes
llafur y cytunwyd arno. Roedd ysgolion yn
gobeithio y byddai adnodd yn cael ei greu ac y byddai’r holl wybodaeth o'r
sesiynau hyfforddi ar gael yn genedlaethol ac ar y Canolbwynt Cymreig. Dywedodd
Ymgynghorydd Herio GwE y gallai fod ar ffurf ysgrifenedig a bod posibl iddo
gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf CYSAG. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn y diweddariad ar
lafar. |
|
(i)
Derbyn
cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas (ii)
Cytuno
pwy fydd yn mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC yn Sir Gaerfyrddin ar 18 Tachwedd,
2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cofnodion CCYSAGC – 23 Mehefin 2016 Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 23 Mehefin
2016 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn Sir Ddinbych er gwybodaeth i'r Aelodau. Gofynnwyd bod
cynrychiolydd Dyneiddiol yn cael gwahoddiad i gyfarfod CYSAG yn y dyfodol.
Cytunodd Ymgynghorydd Heriol GwE i anfon gwahoddiad. PENDERFYNWYD derbyn
a nodi cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf 13 Chwefror 2017. Cofnodion: Mae cyfarfod nesaf
CYSAG Sir Ddinbych wedi'i drefnu ar gyfer 13 Chwefror 2017. Lleoliad i’w
gadarnhau gan fod Aelodau wedi gofyn i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Ysgol
Uwchradd Dinbych. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Herio y byddai’n cysylltu â’r
ysgol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |