Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSGOL DINAS BRAN, LLANGOLLEN
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Cymeradwyo a llofnodi bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12
Chwefror 2016 yn gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2016 (wedi’u dosbarthu’n flaenorol). 5. Canlyniadau
Arholiadau 2015 - Cadarnhaodd y CA bod llythyrau o longyfarchiadau gan CYSAG
wedi’u hanfon at Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Uwchradd Prestatyn a St Brig,
Dinbych i gydnabod eu llwyddiannau. 7. Holiadur
CCYSAGC i Ysgolion - hysbyswyd yr aelodau fod yr arolygon a gwblhawyd wedi cael
eu trosglwyddo i CCYSAGC fel y cytunwyd. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 12
Chwefror 2016 fel cofnod cywir. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU Derbyn
dadansoddiad o Adroddiad Arolygon diweddar gan Estyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ymgynghorydd Her GwE (CA) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor yr hydref, mewn perthynas â'r ddarpariaeth ac addoli ar y cyd, mewn tair ysgol rhwng mis Tachwedd, 2014, a mis Ionawr, 2015. Cynhaliwyd arolygon yn Ysgol Gynradd Bro
Elwern, Gwyddelwern ger Corwen; Ysgol Bryn Collen, Llangollen; Ysgol Clawdd
Offa, Prestatyn; Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd; Ysgol Gynradd Gatholig Mair, y
Rhyl, ac mae manylion yn ymwneud â phob un o'r priod ysgolion wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad ac wedi eu crynhoi gan y CA. Rhoddodd y CA grynodeb i’r
Aelodau am y canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a chafodd y sylwadau a
chanlyniadau cadarnhaol eu nodi gan yr Aelodau. Eglurodd y CA fod y
sylwadau a gafwyd wedi bod yn gryno a chyfeiriodd yn benodol at y canlynol: - Sylwadau cadarnhaol - Perfformiad Cyfredol: - Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw deilliannau? Safonau
Lles:-
Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw'r ddarpariaeth? Profiadau dysgu:- ·
Darparodd yr ysgol ystod eang o brofiadau dysgu diddorol
sy'n ennyn diddordeb y disgyblion yn dda. Mae'n diwallu gofynion
y Cyfnod Sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r maes llafur cytunedig ar gyfer
addysg grefyddol. (Bro Elwern) ·
Darparodd y cwricwlwm gyfleoedd addas i ddisgyblion
ddysgu am ddinasyddiaeth fyd-eang, ac roedd cysylltiadau da gydag ysgolion yn
Lesotho a Nepal, a oedd yn codi ymwybyddiaeth o fywyd plant mewn ardaloedd a
oedd yn wahanol iawn i Gymru. (Bro Elwern) ·
Datblygodd y staff ymwybyddiaeth y disgyblion o
ddinasyddiaeth fyd-eang yn llwyddiannus trwy waith ar fasnach deg, cysylltiadau
ag ysgolion yn yr Eidal a Nepal, a thrwy waith yn ystod yr Eisteddfod
Ryngwladol. (Bryn Collen) ·
Mae'r ysgol yn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang yn
llwyddiannus trwy waith testun ar wledydd eraill o gwmpas y byd. (Clawdd Offa) ·
Mae'r ysgol yn darparu profiadau cyfoethog trwy gynllunio
parhaus sy’n bodloni gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cwricwlwm
Cenedlaethol, egwyddorion y Cyfnod Sylfaen ac addysg grefyddol yn llwyddiannus.
(Llanfair Dyffryn Clwyd) ·
Darparodd yr ysgol ystod werthfawr o brofiadau i
ddisgyblion ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddatblygiad cynaliadwy a
dinasyddiaeth fyd-eang. Roedd hyn yn cynnwys astudio gwledydd fel Ethiopia,
cynnal wythnos Tseineaidd a gweithgareddau ysgol goedwig. O ganlyniad,
mae dealltwriaeth y disgyblion o faterion amgylcheddol a materion byd-eang wedi
datblygu'n dda. (Llanfair Dyffryn Clwyd) ·
Mae trefniadau i ddatblygu disgyblion fel dinasyddion
byd-eang yn nodwedd gref o'r ysgol a gymerodd bob cyfle i ddathlu amrywiaeth o
fewn cymuned yr ysgol a'r byd ehangach yn llwyddiannus, er enghraifft trwy
astudiaethau o ddiwylliannau a chysylltiadau eraill gydag ysgol yn Ethiopia.
(Ysgol Mair) Gofal, Cymorth ac Arweiniad: · Mae’r ysgol yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol y disgyblion yn llwyddiannus trwy ddarparu gwasanaethau addoli ar y cyd a gweithgareddau cwricwlwm ehangach. Gwahoddwyd ymwelwyr i arwain yr addoliad ac roedd cyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar destunau cyfoes, fel gofalu am yr amgylchedd ac ystyried plant a phobl a oedd yn llai ffodus na hwy eu hunain. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYDWEITHIO YSGOL I YSGOL - DIGWYDDIAD LANSIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd aelodau
CYSAG y byddai GwE yn gweithio gyda CYSAG i ddarparu cyfleoedd i ysgolion
weithio gyda'i gilydd gefnogi Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd. Cafodd yr aelodau gyflwyniad PowerPoint ar y Lansiad Cydweithio Ysgol i
Ysgol a fyddai'n cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Sir Ddinbych ar 30
Mehefin, 2016 a San Silyn, Wrecsam ar 7 Gorffennaf, 2016. Darparodd y Ymgynghorydd Her GwE (CAG) grynodeb manwl o'r cyflwyniad PowerPoint
a oedd yn cynnwys y canlynol: - ·
Byd
rhyfeddol AG. ·
Mae
Addysg Grefyddol yn bwnc unigryw. ·
Cyfnod
Sylfaen ·
Addysg
grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen. ·
CA2. ·
Lefelu:
- -
Beth
sydd angen iddyn nhw ei wella? -
Lle
maen nhw? -
O lle
y maent wedi dod? -
Am eu
profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac
agweddau ar grefydd -
Credoau,
dysgeidiaethau ac arferion -
Pwysigrwydd
pobl eraill -
Eu
barn -
Barn
pobl eraill -
Defnyddio
geirfa ·
Syniadau
gwers. ·
Dameg
yr adeiladwyr doeth a ffôl. ·
Cwis. ·
Beth
yw eich barn:- -
Ymdrin
â chwestiynau sylfaenol ·
Y
ffeithiau: - -
Archwilio
credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol ·
Ymateb
i: - -
Mynegi
ymatebion personol ·
Trafodaeth Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, codwyd y materion a'r pwyntiau canlynol
gan yr Aelodau a chafwyd ymateb iddynt gan y CA: -
Esboniodd Ms M. Lundenbach bod cynnwys y cyflwyniad yn
cwmpasu dulliau addysgu a fabwysiadwyd ar hyn o bryd, a rhoddodd gymariaethau
ac enghreifftiau o'r tebygrwydd mewn arferion addysgu presennol. -
Cyfeiriodd y CA at fabwysiadu a defnyddio geiriad mwy
addas i ddefnyddwyr, a llai cymhleth. -
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr S. Cameron mewn
perthynas â'r weledigaeth hirdymor, rhoddodd y CA fanylion am nifer yr ysgolion
sy'n cymryd rhan ac eglurodd y byddent yn cael eu holi ynghylch sut y byddai'r
cyflwyniad yn effeithio ar eu dulliau addysgu. -
Rhoddwyd cadarnhad bod cefnogaeth ar gyfer y
prosiect wedi dod i law oddi wrth GwE, gyda'r posibilrwydd o ailadrodd ym mis
Medi, 2016. -
Eglurwyd y byddai ysgolion yn cael eu hannog i
ymuno â grwpiau bach o ysgolion cynradd, a thrwy CYSAG yn cael eu hannog i
edrych ar gyflwyniad, ymgysylltu, lefelu, adnoddau a chydaddoli a’u hannog i
gymryd rhan mewn gwahanol dasgau. -
Byddai aelodau o'r grwpiau yn cael eu gwahodd i
fynychu CYSAG i rannu eu canfyddiadau a'u profiadau. -
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch yr
opsiwn i ddisgyblion ddewis peidio dilyn AG yn y Cyfnod Sylfaen, amlygodd y CA
bwysigrwydd deall gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau a’u rhannu tra'n
mabwysiadu safiad cadarnhaol ar AG. Darparodd y CA farn
gryno ar y dull y byddai'n ei fabwysiadu gyda materion o'r fath. Diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau CYSAG i Ymgynghorydd Her GwE am y gwaith a
oedd wedi'i wneud. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi’r adroddiad. |
|
(i)
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas yng Nglyn
Ebwy ar 8 Mawrth 2016. (ii) Bydd Sir
Ddinbych yn cynnal y cyfarfod CCYSAGC haf ar 23 Mehefin 2016 yn Siambr y
Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (a) Cofnodion CCYSAGC – 8
Mawrth 2016 Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd
ar 8 Mawrth, 2016 yn Hwlffordd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r
aelodau. PENDERFYNWYD
- derbyn a nodi
cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2016. (b) Bydd CYSAG Sir Ddinbych
yn cynnal cyfarfod gwanwyn CCYSAGC ar 23 Mehefin 2016. Cadarnhawyd y byddai Sir Ddinbych yn cynnal cyfarfod gwanwyn CCYSAGC yn
Siambr y Cyngor, Russell House, Y Rhyl ar 23 Mehefin 2016. Rhoddodd Ymgynghorydd
Her GwE (CA) wybod i’r pwyllgor bod croeso i holl Aelodau CYSAG fod yn
bresennol. PENDERFYNWYD – derbyn yr
hysbysiad o'r cyfarfod. (c) Diweddariad Adolygiad
Cwricwlwm LlC Mai 2016. Mae copi o Gynllun a ddarperir gan y Tîm Diwygio Cwricwlwm wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyfeiriodd Ymgynghorydd Her GwE (CA) at y
cyflwyniad PowerPoint a ddarparwyd yn y cyfarfod blaenorol, a oedd wedi
amlinellu datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru fel y cynigiwyd gan y ddogfen
Cwricwlwm am Oes. Cadarnhawyd y byddai'r gwaith datblygu Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLEs) a
amlinellwyd yn Dyfodol Llwyddiannus yn dechrau yn hwyrach yn y flwyddyn. Byddai gweithgorau
o Arloeswyr yn cael eu sefydlu i arwain dylunio a datblygu pob AoLE, ac yn
ystod yr ail gam byddai ymgysylltu gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid gyda
diddordebau pwnc penodol i lywio eu gwaith. Hysbyswyd yr aelodau bod 106 o Ysgolion Arloesol wedi’u penodi i
ganolbwyntio ar gynllunio a datblygu'r cwricwlwm. Gan weithio gydag
arbenigwyr o Gymru ac yn rhyngwladol, byddent yn dylunio'r cwricwlwm a'r
trefniadau asesu newydd i Gymru. Yn dilyn cyfnod o ymsefydlu, maent yn ddiweddar
wedi dechrau ar eu gwaith o ddylunio fframwaith y cwricwlwm newydd. Sefydlwyd
pedwar gweithgor o Arloeswyr, gan ganolbwyntio ar: - · Asesiad a chynnydd; · Cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd; · Cyfoethogi a phrofiadau; a · Dimensiwn Cymreig, safbwynt rhyngwladol a sgiliau
ehangach. Y gobaith oedd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Grwpiau AoLE cyn
diwedd tymor yr haf ar gyfer cyfarfod ymsefydlu neu ddigwyddiad ond nid oedd
hyn wedi’i gadarnhau. Hysbyswyd yr Aelodau y rhagwelwyd y byddai
diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn y misoedd nesaf. PENDERFYNWYD - derbyn a
nodi’r adroddiad. (d) Enwebiadau ar gyfer y
Pwyllgor Gwaith (23 Mehefin 2016). Dosbarthwyd manylion yr enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod pedwar enwebiad ar gyfer tair swydd ar y
Pwyllgor Gwaith. PENDERFYNWYD – derbyn a nodi
manylion yr enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Dyddiad y
Cyfarfod Nesaf – 13 Hydref 2016 Cofnodion: Daeth y cyfarfod
i ben am 11.25 a.m. |