Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGORA 1a, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cyng. W.N. Tasker, S. Cameron a D. Oakes

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 117 KB

Cymeradwyo a llofnodi bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2015 yn gofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2015 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

1.   Ymddiheuriadau:- Hysbysodd Cynghorydd Herio GwE (CH) Aelodau bod llythyr o ddiolch wedi cael ei anfon at Mr Gavin Craigen am ei fewnbwn i’r Pwyllgor.

 

12.  Dyddiad y cyfarfod nesaf:- Eglurodd y CH bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Rhuthun yn hytrach nac yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen, gan fod yr aelod o staff dysgu perthnasol yn dioddef problemau iechyd.  Cafodd lleoliadau mewn ysgolion eraill eu ceisio, ond nid oeddynt ar gael.  Fodd bynnag, roedd cysylltiadau cadarnhaol wedi eu sefydlu gyda nifer o Ysgolion Uwchradd. 

 

Hysbyswyd aelodau bod llythyrau llongyfarch wedi cael eu hanfon at ysgolion oedd yn ymwneud â’r broses Estyn, yn nodi sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd fel rhan o’r adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo Cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2015 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 73 KB

Derbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon diweddar gan Estyn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Herio GwE (CH) adroddiad (wedi’u cylchredeg eisoes) oedd yn darparu dadansoddiad o Adroddiadau Archwiliadau Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor yr Hydref, o safbwynt darpariaeth Addysg Grefyddol, addysg ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ac addoli ar y cyd, mewn tair ysgol rhwng Tachwedd 2014 ac Ionawr, 2015. 

 

Mae archwiliadau wedi eu cynnal yn Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Llanelwy, Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd ac Ysgol Gynradd Hiraddug, Diserth, ac roedd manylion am bob ysgol wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad a chawsant eu crynhoi gan y CH.

 

Rhoddodd y CH grynodeb i’r aelodau am ganfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a chafodd y sylwadau a chanlyniadau cadarnhaol eu nodi gan yr Aelodau.  Eglurodd y CH bod y sylwadau a dderbyniwyd wedi bod yn fyr a thalodd sylw penodol i’r canlynol:-

 

Sylwadau Cadarnhaol – Mae Perfformiad Cyfredol yn dangos bod staff yn darparu cyfleoedd da iawn i ddisgyblion ddatblygu eu haddysg ysbrydol, gymdeithasol, foesol a diwylliannol (Hiraddug).

 

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw'r deilliannau?

 

Lles:-

 

·         Maent yn datblygu dealltwriaeth dda o'u rôl yn y gymuned leol drwy gysylltiadau cryf gyda'r eglwys gadeiriol ac ymweliadau â'r hosbis leol. (Ysgol V.P. Llanelwy)

·         Mae disgyblion yn trefnu gweithgareddau i godi arian i nifer o elusennau ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ymwybyddiaeth y disgyblion o anghenion pobl eraill.  Cynhaliwyd bore coffi llwyddiannus er mwyn codi arian i apêl Nepal.  (Bro Dyfrdwy)

·         Mae disgyblion iau yn datblygu dealltwriaeth werthfawr o barch, gofal a phryder am eraill, o fewn yr ysgol ac yn y byd ehangach. (Hiraddug). 

 

Cwestiwn Allweddol 2:       Pa mor dda yw'r ddarpariaeth?           

 

Profiadau dysgu:-

   

·         Mae ymweliadau gan fusnesau lleol, cysylltiadau â'r eglwys gadeiriol a gweithgareddau allgyrsiol yn cyfoethogi dysgu'r disgyblion yn dda.  (Ysgol V.P. Llanelwy)

·           Ddealltwriaeth dda o ddinasyddiaeth fyd-eang trwy eu cyfranogiad yn y Diwrnod Ewropeaidd a phrosiect o gefnogaeth i blentyn yn Borneo. (Ysgol V.P. Llanelwy)

·           Mae'r ysgol yn darparu ystod dda o brofiadau amrywiol a diddorol ar draws yr ysgol, sy'n cwrdd â holl ofynion y Cyfnod Sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol yn effeithiol.  (Bro Dyfrdwy)

·           Mae'r ysgol yn darparu ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang trwy waith thematig, a chysylltiadau â gwledydd eraill fel Lesotho.  (Bro Dyfrdwy)

·           Mae'r ddarpariaeth ar gyfer hyrwyddo ymddygiad da a datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion yn effeithiol.  Mae cyfleoedd cyson i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hagweddau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol trwy wasanaethau ysgol gyfan rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y gymuned leol. (Bro Dyfrdwy)

·           Mae cysylltiadau diddorol gydag India a Tsieina wedi bod o gymorth i ddisgyblion ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr o ddiwylliannau ac arferion eraill, sydd wedi cyfoethogi natur ofalgar a pharchus yr ysgol. (Hiraddug)

 

Gofal, cymorth ac arweiniad:-

 

·         Mae staff yn datblygu datblygiad ysbrydol, diwylliannol, moesol a chymdeithasol y disgyblion yn dda. Mae ymwelwyr ac ymweliadau y tu allan i'r ysgol yn darparu profiadau gwerth chweil sy’n helpu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion.  (Ysgol V.P. Llanelwy)

·         Mae cyfleoedd cyson i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hagweddau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol trwy wasanaethau ysgol gyfan rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y gymuned leol. (Bro Dyfrdwy)

·         Caiff disgyblion gyfleoedd buddiol iawn ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol.  Mae cysylltiadau rhyngwladol cryf yr ysgol yn datblygu dealltwriaeth ysbrydol a diwylliannol y disgyblion yn effeithiol.  Mae’r ddarpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol yn y Cyfnod Sylfaen yn arwain at ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o werthoedd gonestrwydd, tegwch a pharch at eraill. (Hiraddug)

 

Yr Amgylchedd Dysgu:-

 

·      Cymuned gynhwysol iawn lle mae staff yn trin pob disgybl yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2015 pdf eicon PDF 63 KB

Ystyried adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau 2015.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y CH Grynodeb o Adroddiad Canlyniadau Arholiadau 2013-2014 (wedi’u cylchredeg eisoes) a oedd yn cynnwys manylion am:-

 

-        TGAU Astudiaethau Crefyddol – Cyrsiau Llawn.

 

Amlinellodd y CH y data a ddarparwyd o safbwynt:-

 

  - Ysgol Uwchradd Prestatyn – roedd nifer fawr o ddisgyblion ar gyfer y Cwrs Llawn.

  - Dinas Bran Llangollen – lleihad o 25% oherwydd dyraniad amser posib.  Cysylltwyd gyda’r Rheolwr Llinell.

  - Ysgol Uwchradd Rhyl – cytunodd Aelodau y dylai CYSAG ymweld â’r ysgol newydd pan fydd yn weithredol.

  - Ysgol Brynhyfryd – y ffigwr wedi lleihau ond yr oedd yn dal i fod uwchben y cyfartaledd cenedlaethol.

  - Ysgol y Bendigaid Edward Jones, Y Rhyl – Chwilio am welliant pellach drwy rannu adnoddau.

 

Cytunodd Aelodau i’r CH anfon llythyrau ar ran CYSAG yn llongyfarch Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Uwchradd Prestatyn a St Brig, Dinbych, gan gydnabod eu cyraeddiadau.

 

Cyflwynodd y CH gymhariaeth o ffigyrau Cymru Gyfan o safbwynt ffigyrau Cyrsiau Llawn a Chyrsiau Byr dros y deuddeg mis diwethaf. Cafwyd cadarnhad y byddai darpariaeth Cyrsiau Byr yn parhau yng Nghymru er ei fod wedi ei ddileu yn Lloegr.

 

-        TGAU Astudiaethau Crefyddol – Cyrsiau Byr. 

 

             Amlinellodd y CH y data a ddarparwyd o safbwynt y Cyrsiau Byr.  Mynegwyd pryderon ynghylch:-

 

               - Ysgol Uwchradd y Rhyl – ffigyrau o 4.4.%

               - Canmolodd y Cadeirydd gydweithio rhwng ysgolion.

 

-      TGAU Astudiaethau Crefyddol – Safon Uwch.

 

Amlinellwyd y materion canlynol o safbwynt:-

 

               - Cydnabuwyd bod ffigyrau Safon Uwch yn gyson is.

- Amlinellwyd effaith Bagloriaeth Cymru o safbwynt blociau dewisol.

         - Mynegwyd pryderon am y niferoedd isel a gofnodwyd, a'r rhesymau dros y gostyngiad.

         - Roedd effaith dim darpariaeth cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg y Rhyl wedi bod yn sylweddol.

 

Pob Astudiaethau Crefyddol.

-    Tabl 1: Canlyniadau TGAU 2015: Pob Astudiaethau Crefyddol.

-        Tabl 2: Canlyniadau TGAU 2014: Pob Astudiaethau Crefyddol.

-    Tabl 3: Canlyniadau TGAU 2015: Pob Cwrs Byr Astudiaethau Crefyddol.

-    Tabl 4: Canlyniadau TGAU 2014: Pob Cwrs Byr Astudiaethau Crefyddol.

-    Tabl 5: Canlyniadau TGAU Safon Uwch 2015: Pob Astudiaethau Crefyddol

-    Tabl 6:- Canlyniadau TGAU Safon Uwch 2014: Pob Astudiaethau Crefyddol

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd cytunwyd y byddai’r CH yn hysbysu’r Aelod Arweiniol dros Addysg o’r pryderon a fynegwyd gan yr Aelodau o ran y lleihad mewn niferoedd, ac y byddai cais yn cael ei wneud am weithredu a chymorth i ddelio gyda'r problemau a nodwyd. 

 

PENDERFYNWYD -   yn ddibynnol ar yr uchod, y dylid derbyn a nodi Crynodeb Canlyniadau Arholiadau 2014-15.

 

 

7.

HOLIADUR CCYSAGC I YSGOLION pdf eicon PDF 62 KB

Adolygu effaith Bagloriaeth Cymru ar Addysg Grefyddol.

 

 

Cofnodion:

Soniodd y Cynghorydd Herio (CH) am yr adolygiad ar effaith Bagloriaeth Cymru ar Addysg Grefyddol.  Eglurodd bod CCYSAG wedi anfon arolwg at bob ysgol i asesu eu hymatebion o safbwynt effaith Bagloriaeth Cymru, soniodd yn benodol ar yr effaith ar yr amserlen TGAU sydd wedi lleihau darpariaeth cyrsiau byr yn Sir Ddinbych. 

 

Hysbyswyd Aelodau gan y CH bod yr ymatebion a dderbyniwyd, gan Benaethiaid a Phenaethiaid Adrannau, yn nodi nad oedd effaith negyddol wedi ei gael ar Addysg Grefyddol ar draws Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint a Chonwy o ran TGAU.

 

Cadarnhaodd y CH y byddai’r arolygon wedi eu cwblhau yn cael eu pasio ymlaen at CCYSAG.

 

PENDERFYNWYD – y dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r safbwynt.

 

 

8.

CWRICWLWM AM OES pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Herio (CH) bod Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cytuno i dderbyn holl argymhellion adolygiad yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm.  Mae dogfen 'Cwricwlwm am oes' wedi cael ei hysgrifennu i osod y cynlluniau ar gyfer sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu. 

 

Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint gan y CH, oedd yn amlinellu datblygiad Cwricwlwm Cymru newydd fel y cynigiwyd gan y ddogfen Cwricwlwm am oes, ac amlinellwyd y meysydd amlycaf hyn o fewn y cyflwyniad gan y CH:-

 

  • Cymwys am Oes – Cwricwlwm i Gymru ac am Oes
  • Amlinelliad Dilyniant
  • Rhagair Gweinidogol.
  • Yr Athro Donaldson – Rhagair.
  • Wyth Maes Hanfodol – Plannu’r Pedwar Diben
  • Creu Cwricwlwm Newydd (Rhwydwaith Arloesol)
  • Ymestyn a Hyrwyddo Profiadau Dysgwyr.
  • Galluogi’r Iaith Gymraeg i Ffynnu.
  • Datblygu Fframwaith Asesu a Gwerthuso newydd.
  • Adeiladu Cymhwyster Ymarferwyr a Dysgwyr.
  • Datblygiad Pellach y Rhwydwaith Arloesol – Camau 1, 2 a 3.
  • Amserlenni – Dylunio Cwricwlwm a Datblygu’r Gweithlu drwy Ysgolion Arloesol – Model Posibl.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan Aelodau:-

 

-       Cytunodd y CH y gellid rhannu’r rhestr o ysgolion arloesol, oedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, mewn cyfarfod CYSAG yn y dyfodol.     Cytunwyd gwahodd yr ysgolion oedd ar y rhestr i gyfarfodydd CYSAG.

-       Hysbyswyd Aelodau y byddai diwrnodau hyfforddi athrawon ar gael i aelodau o’r staff dysgu.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD - Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

9.

Y DIWEDDARAF AM CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL pdf eicon PDF 61 KB

Hybu cynrychiolaeth athrawon drwy gydweithrediad o ysgol i ysgol

 

 

Cofnodion:

The Challenge Advisor GwE (CA) provided an update on the proposal to support school to school collaborative groups.  He explained that schools in Denbighshire, Wrexham, Flintshire and Conwy had been asked if they wished to participate in school to school collaborative groups focusing on Religious Education and Collective Worship, with a view to promoting teacher representation through the school to school collaboration.  The CA explained that schools had been given up until Friday, 13th February, 2016 to register, with approximately eight Denbighshire schools having expressed an interest.  

 

The aim of the initiative had been to provide teachers with the opportunity to meet and interact, and possibly address the lack of teaching representation on SACRE.  The Group acknowledged the difficulties experienced by teachers in attending meetings, and it was explained that it was intended to hold more SACRE meetings in schools.

 

RESOLVED - that the report be received and its contents noted.

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 20 Mehefin 2016

 

 

Cofnodion:

Mae cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych wedi ei drefnu ar gyfer dydd Gwener, 20 Mehefin 2016 mewn lleoliad sydd i’w gadarnhau. 

 

Roedd y Cadeirydd yn teimlo ei fod yn bwysig cael cynrychiolaeth o wahanol ysgolion ac y byddai hynny’n beth i’w groesawu.  Cytunodd Aelodau gyda’r awgrym bod y CH yn gwahodd pob ysgol i fynychu cyfarfod CYSAG yn y dyfodol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m.

 

 

11.

CCYSAGC pdf eicon PDF 73 KB

(1)     Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas yng Nglyn Ebwy ar 25 Tachwedd 2015.

 

(2)     Cytuno ar bresenoldeb y CCYSAGC nesaf ar 8 Mawrth, 2016 yn Hwlffordd.

 

(3)   Er gwybodaeth - CYSAG Sir Ddinbych i gynnal cyfarfod gwanwyn CCYSAGC ar 23 Mehefin 2016.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(A) Cofnodion CCYSAGC - 25 Tachwedd, 2015

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2015 yng Nghastell-nedd Port Talbot (wedi’u cylchredeg eisoes) er gwybodaeth i'r aelodau.

 

Tynnodd y CH sylw Aelodau at Dudalennau 4 a 5 cofnodion CCYSAG, oedd yn amlinellu’r prif newidiadau i’r TGAU: CBAB o safbwynt Astudiaethau Crefyddol.  Rhoddodd y CH grynodeb o effaith y manylion newydd i’w Aelodau.

 

PENDERFYNWYD yn ddibynnol ar nodi’r uchod, derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAG a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2015.

 

 (b) Presenoldeb yng Nghyfarfod CCYSAGC – 8 Mawrth 2016

 

Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu gyda'r CH ynghylch ei bresenoldeb posib yng nghyfarfod nesaf CCYSAG, a gynhelir yn Hwlffordd ar 8 Mawrth, 2016.

 

CYSAG Sir Ddinbych i gynnal cyfarfod gwanwyn CCYSAGC ar 23 Mehefin 2016.

 

Cadarnhawyd mai Sir Ddinbych fyddai’n cynnal cyfarfod gwanwyn CCYSAG i‘w gynnal yn Rhuthun ar 23 Mehefin, 2016.

 

 (d) Enwebiadau ar gyfer Aelodau newydd i Bwyllgor Gwaith CCYSAG.

 

Cylchredwyd copi o wahoddiad am enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAG yn y cyfarfod.  Cytunodd Aelodau y dylid enwebu’r Parch. B Huw Jones ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAG.