Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ysgol Uwchradd Gatholig Y Bendigaid Edward Jones, Y Rhyl.
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Rhoddwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Joe Welch, Dewi Owens a Bill Tasker. Anfonodd y
Grŵp eu cydymdeimlad diffuant at y Cynghorydd Tasker ar farwolaeth ei
chwaer. Cadarnhaodd y
Cadeirydd ymddeoliad Gavin Craigen a’i ymddiswyddiad o'r Pwyllgor yn sgil
hynny. Awgrymodd y Cyng. Roberts y dylid anfon llythyr o ddiolch am gyfraniad
Gavin at y Pwyllgor. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Atgoffir yr Aelodau bod yn rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y
cysylltiad personol a ddatgenir ganddynt. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 160 KB Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf
fel cofnod cywir Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2015 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 26
Mehefin, 2015 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2012-2103 PDF 573 KB Ystyried adroddiad i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol CYSAG drafft. Cofnodion: Cyfeiriodd
Ymgynghorydd Her GwE – Phillip Lord (PL) - at yr adroddiad a ddosbarthwyd yn
flaenorol ac eglurodd nad swyddogaeth y Pwyllgor oedd trafod cynnwys yr
adroddiad ond cytuno ei fod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn oedd wedi cael ei
ystyried yn ystod y flwyddyn flaenorol. I'r perwyl hwnnw, arweiniodd PL y
Grŵp drwy'r adroddiad fesul tudalen. Mynegwyd pryder
ynghylch nifer yr enwebiadau oedd yn weddill ar gyfer cynrychiolaeth ar CYSAG.
Cadarnhaodd PL bod athrawon cyflenwi ar gael er mwyn i staff addysgu fynychu
CYSAG yn ogystal â chymhorthdal teithio. Teimlwyd y gallai
Penaethiaid fod yn amharod i ryddhau staff addysgu os nad oedd unrhyw fudd /
pwrpas amlwg o ran yr ysgol. Awgrymwyd y
gallai cynnwys mwy eitemau yn ymwneud ag ysgolion ar y rhaglen annog mwy o
gyfranogiad. Cwestiynodd y
Grŵp y data ar dudalen 9 yr Adroddiad Blynyddol, yn benodol nad oes data
ar gyfer canlyniadau arholiadau’r Bendigaid Edward Jones. PL i wirio a oedd y
tabl ar gyfer 2013 fel y nodwyd. PENDERFYNWYD
- derbyn yr adroddiad
blynyddol a nodi’r cynnwys. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU PDF 128 KB Derbyn dadansoddiad o Adroddiad Arolygon diweddar
gan Estyn. Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Lord yr adroddiadau arolygu a gyhoeddwyd yn ystod tymor yr haf 2015 ar gyfer: ·
Ysgol
Christchurch Y Rhyl ·
Ysgol
Brynhyfryd, Rhuthun ·
Ysgol
Melyd, Gallt Melyd a ·
Ysgol
Dyffryn Iâl, Llandegla Trafododd y
Grŵp y sylwadau ychwanegol a oedd yn darparu adborth positif ar
ganlyniadau perfformiad a darparu profiadau dysgu - gan gynnwys gofal, cymorth
ac arweiniad - ar gyfer y rhan fwyaf o'r ysgolion a arolygwyd. Amlygwyd meysydd
i’w datblygu yn Ysgol Melyd, ynghylch cyfleoedd i ddatblygu ymwybyddiaeth o
ddiwylliannau / materion byd-eang eraill ac Ysgol Bryn Hyfryd lle'r oedd angen
arweiniad ar weithredoedd cyd-addoli dyddiol. Cynigiodd
cynrychiolydd Yr Eglwys yng Nghymru, Simon Cameron fynd i Ysgol Bryn Hyfryd ar
ran CYSAG ar gyfer cyd-addoli. Mynegodd
aelodau'r Grŵp rwystredigaeth o fethu gwylio gwers Addysg Grefyddol yn
cael ei haddysgu. Esboniodd PL fod rhai’n wyliadwrus o ran diben ceisiadau o'r
fath gyda'r camsyniad eu bod at ddibenion gwerthuso tebyg i arolygiadau a
gynhelir gan Estyn. Dywedodd y Parch
Martin Evans-Jones ei fod wedi ymuno ag addoliad ar y cyd gydag ysgol y
Bendigaid Edward Jones yr wythnos flaenorol a’i fod wedi bod yn brofiad da. PENDERFYNWYD
- derbyn yr adroddiad a
nodi’r cynnwys. |
|
ADDYSG GREFYDDOL YN CA3: CHWARAEWR PÊL DROED MOSLEMAIDD YN YR UWCH GYNGHRAIR Derbyn cyflwyniad
ynghylch adnodd dwyieithog sydd ar gael ar gyfer pob ysgol uwchradd. Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Lord gynllun gan Mary Parry, ymgynghorydd AG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a’i nod
oedd mynd i'r afael â'r bwlch mewn dysgu AG rhwng merched a bechgyn drwy
dargedu pwnc y mae bechgyn yn uniaethu yn nodweddiadol ag o - pêl-droed. Creodd Mary Parry
CD ROM yn llawn adnoddau yn seiliedig ar bêl-droedwyr Moslemaidd yn yr uwch
gynghrair ac effaith eu credoau ar eu gêm ac i'r gwrthwyneb. Rhai o'r
nodweddion y cyfeiriwyd atynt oedd: ·
Rhoddion
o 2.5% o’u cynilion i'r Gymuned Foslemaidd. ·
Addasu
amser gweddi o gwmpas hyfforddiant ·
Moesoldeb
noddwyr yn ymwneud â betio ac ati ar git y clwb ·
Dathliadau
yn cynnwys alcohol ·
Ymprydio
yn ystod Ramadan, yn enwedig ar ddiwrnodau gêm Cytunodd y Pwyllgor fod y fformat
wir yn cyflwyno testun Islam mewn modd a oedd yn cysylltu, a gellid ei addasu i
gyflwyno Cristnogaeth hefyd. |
|
AG A CHYMUNEDAU LLEOL PDF 4 MB Derbyn cyflwyniad am yr
adnodd gorffenedig. Argymell bod yr adnodd yn cael ei anfon i holl ysgolion yr Awdurdod
Lleol. Cofnodion: Eglurodd yr
Ymgynghorydd Her ar gyfer GwE y gofynnwyd i ysgolion ledled Conwy, Sir Ddinbych
a Sir y Fflint gyflwyno astudiaethau achos o sut y maent yn gweithio gyda
grwpiau ffydd. Y syniad yw y byddent yn creu rhywbeth ysbrydoledig gan ysgolion
ar gyfer ysgolion. Roedd yr
astudiaethau achos yn yr adroddiad yn dangos bod ymweliadau wedi’u cynnal i
amryw o sefydliadau crefyddol; eu bod wedi mynd i wyliau a dathliadau ac wedi
trafod pynciau moesegol. Gwnaed cyfeiriad
penodol at Ysgol Bryn Collen a oedd wedi gofyn am a derbyn grant gan
Ymddiriedolaeth Elusennol yr Archesgob Rice Jones i brynu adnoddau ar gyfer y
cwricwlwm AG. Nodwyd sut mae
cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo ymdrechion elusennol y
Parchedig Una a'i chi Patrick yn cerdded Mur Hadrian. Roedd y Grŵp
yn ystyried a yw ysgolion yn gwneud y defnydd gorau o leoedd ac arteffactau
crefyddol ar garreg eu drws at ddibenion trawsgwricwlaidd. PENDERFYNWYD
Dosbarthu’r adnodd i holl ysgol yr Awdurdod Addysg Lleol ar ran CYSAG gyda
ffurflen werthuso i gael adborth. |
|
Y GWEINIDOG ADDYSG, HUW LEWIS A DYFODOL ADDYSG GREFYDDOL PDF 180 KB Trafod gohebiaeth ynghylch sylwadau’r gweinidog
yn ymwneud â newid enw Addysg Grefyddol Cofnodion: Trafododd y
Grŵp gynnwys llythyr diweddar gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis. Cynigiodd
y Parch Martin Evans-Jones ei farn y dylid cynnal y cysylltiad â Mr Lewis a’u
bod yn teimlo'n gryf fel pwyllgor ynghylch lle AG yn y cwricwlwm. Dywedodd Phil
Lord wrth y Grŵp fod Cymdeithas CYSAG Cymru – yr oedd newydd ymgymryd â
swydd y Cadeirydd - yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Addysg
Grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd. Cymharodd y cynigion â'r system sydd ar
waith ar hyn o bryd yn yr Alban a allai o bosibl arwain at wanhau cynnwys
crefyddol o blaid moesoldeb. Awgrymodd PL bod CCYSAGC yn cynnwys amrywiaeth o
arbenigedd a allai gynghori ar gwricwlwm. Dyfalodd y Grŵp sut y gellid
uno pynciau i greu prosiect trawsgwricwlaidd llwyddiannus a'r anhawster ar
gynllunio gwersi gyda chynlluniau gwaith pwnc lluosog. Cytunodd y
Grŵp y dylai PL gynrychioli'r Pwyllgor a CCYSAGC ag ymgysylltu yn y
dyfodol yn ymwneud â dylunio a datblygu cwricwlwm newydd. PENDERFYNWYD
- derbyn y llythyr a nodi
ei gynnwys. |
|
CYSAG A CHYDWEITHREDIAD O YSGOL I YSGOL Hybu cynrychiolaeth athrawon drwy gydweithio o
ysgol i ysgol Cofnodion: Trafododd y
Grŵp yr angen i hyrwyddo cynrychiolaeth athrawon ar CYSAG. Trafodwyd
gwahodd grwpiau ysgolion i ddod i gyfarfodydd CYSAG. PENDERFYNWYD y dylid cysylltu ag ysgolion
i fesur diddordeb. |
|
i.
Derbyn cofnodion cyfarfod
diwethaf y Gymdeithas ii.
Cytuno ar bresenoldeb yng
nghyfarfod nesaf CCYSAGC Blaenau Gwent 25 Tachwedd 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a)
Cofnodion
CCYSAGC - 25 Mehefin, 2015 Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2015 yn yr Wyddgrug (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r Aelodau. Roedd Phil Lord wedi cyflwyno eitemau ar y
Prosiect Gweithio mewn Partneriaeth ac Arwyddbyst: cynllun gan Gyngor Ewrop. Ailadroddodd PL fod
Gavin Craigen wedi ymddeol a PL wedi ei ddisodli fel Cadeirydd y pwyllgor ers
cyfarfod mis Mehefin. PENDERFYNWYD - derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2015. (b) Cyfarfod CCYSAGC i'w gynnal yn Sir Ddinbych yn y dyfodol Nodwyd y byddai
Sir Ddinbych yn cynnal y CCYSAGC yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir am 10am ar 23
Mehefin 2016. Byddai gwahoddiad i'r cyfarfod yn cael ei estyn i Karen I Evans,
Pennaeth Addysg. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf I'w gadarnhau Cofnodion: Byddai cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn cael ei gynnal am 10.00 am ar ddydd Gwener, 12
Chwefror, 2016 yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.50 a.m. |