Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSGOL BRYNHYFRYD, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator (CIW)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni
chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod
fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 168 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 13 Chwefror
2015 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2015 (wedi’u dosbarthu’n flaenorol). PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror,
2015 fel cofnod cywir. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLWG PDF 73 KB Cael y dadansoddiad o’r Adroddiadau Arolwg Estyn diweddar
(copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Her GwE
(CA) adroddiad oedd yn dadansoddi canlyniadau arolygiadau Estyn diweddar o ran
darpariaeth Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn pedair ysgol rhwng mis
Tachwedd 2014 a mis Ionawr 2015. Cynhaliwyd arolygiadau yn Ysgol Emmanuel;
Ysgol Frongoch ac Ysgol Gynradd, Pentrecelyn. Rhoddodd yr AS grynodeb i’r
aelodau am ganfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a chafodd y sylwadau a
chanlyniadau cadarnhaol eu nodi gan yr Aelodau. Cyfeiriodd yn benodol at
y canlynol:- Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw'r canlyniadau? Lles:- ·
Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn Ysgol Frongoch wedi
cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol, ac wedi cefnogi
elusennau lleol a chenedlaethol. ·
Roedd Ysgol Pentrecelyn wedi cefnogi elusennau, lleol a
thramor, ac roedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymwybyddiaeth disgyblion
o anghenion pobl eraill. Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw'r ddarpariaeth? Profiadau dysgu:- ·
Roedd gan bob dosbarth yn Ysgol Emmanuel gysylltiadau
gwerthfawr â gwledydd yn Ewrop a'r byd ehangach. Mae'r cysylltiadau
rhyngwladol buddiol iawn yma wedi cefnogi disgyblion i ddatblygu eu
dealltwriaeth o fywydau pobl mewn gwahanol wledydd. ·
Roedd Ysgol Frongoch wedi
llwyddo i ehangu gorwelion disgyblion a’u gwybodaeth am y byd ehangach. Roedd
disgyblion wedi datblygu dealltwriaeth
gwerth chweil o’u rôl fel dinasyddion byd-eang. ·
Roedd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth
Fyd-eang wedi cael ei hyrwyddo drwy waith y cwricwlwm, gweithgarwch cyngor yr
ysgol a'r eco-gyngor yn Ysgol Pentrecelyn. Gofal, Cymorth ac Arweiniad: ·
Mae'r staff yn darparu’n dda ar gyfer datblygiad
ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn Ysgol Emmanuel drwy
weithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd ac amrywiaeth ddiddorol o weithgareddau
cwricwlwm, ac roedd cyfleoedd da iawn i ddisgyblion fyfyrio ar eu credoau eu
hunain, eu rhinweddau personol a'u sgiliau. ·
Yn Ysgol Frongoch, fe hyrwyddodd y profiadau dysgu
ddatblygiad personol y disgyblion yn dda, gan gynnwys eu datblygiad ysbrydol,
moesol, cymdeithasol a diwylliannol. ·
Yn Ysgol Pentrecelyn, fe hyrwyddwyd datblygiad ysbrydol,
moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn effeithiol. Gadawodd athrawon
i ddisgyblion gymryd rôl fwy amlwg yng ngwasanaethau boreol, ac fe ymatebodd
bron pawb yn gadarnhaol i’r cyfleoedd hyn. Yr
Amgylchedd Dysgu:- ·
Bu pwyslais clir ar gydnabod, parchu a dathlu amrywiaeth
a chreu ethos sy'n meithrin gofal a goddefgarwch yn Ysgol Frongoch. Cwestiwn allweddol 3: Pa mor dda yw arweinyddiaeth a rheolaeth? Arweinyddiaeth:- Gweithio mewn Partneriaeth:- ·
Roedd gan Ysgol Frongoch gysylltiadau gwerth chweil
gyda'r gymuned ehangach sydd wedi cael dylanwad cadarnhaol ar brofiadau dysgu a
lles disgyblion, megis ymweliadau sydd wedi gwella dealltwriaeth disgyblion o
straeon y Beibl. ·
Roedd Ysgol Pentrecelyn yn rhan bwysig o'r gymuned sydd â
pherthynas gref gyda'r ysgol. Yn ogystal â chynnal gwasanaethau tymhorol yn yr
Eglwys a’r capel, croesawodd yr ysgol y
gymuned i ymuno â nhw ar achlysuron megis cinio Nadolig. Eglurodd y CA y
bu nifer o enghreifftiau lle'r oedd ysgolion a grwpiau ffydd wedi cydweithio a
darparwyd enghreifftiau o hyn. PENDERFYNWYD
- Derbyn
yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
ADOLYGIAD DONALDSON PDF 145 KB Derbyn cyflwyniad
ynghylch adolygiad yr Athro Donaldson o'r cwricwlwm a'i argymhellion. Gellir
canfod yr adolygiad llawn yn:
Cofnodion: Eglurodd y CA bod
yr Athro Donaldson wedi cynnal adolygiad o’r cwricwlwm. Mae ei adroddiad
'Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’i asesiad yng
Nghymru’ yn amlinellu canfyddiadau ac argymhellion. Eglurodd y CA fod
y cyflwyniad wedi'i rannu â CYSAG Conwy a Sir y Fflint yn y drefn honno. Derbyniwyd
ymateb gan gynrychiolydd ffydd yn CYSAG Sir y Fflint a dynnodd sylw at bryderon
ynghylch ehangder y ddogfen, a gwerth y cyflwyniad wrth grynhoi gofynion yr
Adolygiad. Gyda chymorth
cyflwyniad PowerPoint tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol gan y CA. Ymhelaethodd
ar y meysydd allweddol perthnasol a materion o fewn y ddogfen a allai effeithio
ar gyflwyno darpariaeth Addysg Grefyddol:- ·
Cwestiynau
ar gyfer y ddadl fawr a chynnwys yr holiadur. ·
Diben
y cwricwlwm. ·
Meysydd
o ddysgu a phrofiad- amlinellwyd 6 maes gan y CA. ·
Egwyddorion
pedagogaidd – tynnodd y CA sylw at 9 pwynt. ·
Draws
y cwricwlwm. ·
Rôl
gref sydd gan athrawon wrth lunio cwricwlwm. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr G. Craigen ynghylch y ddarpariaeth gan
Lywodraeth i gynorthwyo a pharatoi athrawon ar gyfer y dull canlynol o ddarparu
cwricwlwm newydd a gwahanol iawn, yn dilyn yr adolygiad, eglurodd y CA na
fyddai’n cael ei weithredu’n llawn tan 2020. Fe eglurodd fod yr adolygiad wedi
darparu llawer o argymhellion ond nid oedd unrhyw arwydd ynghylch sut y
byddai’n cael ei weithredu a byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cam nesaf drwy
greu cynllun gwaith. Cyfeiriodd y CA yn benodol at y cyfleoedd a fyddai’n cael eu creu ym
mlynyddoedd 7 ac 8. Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Roberts at y broses asesu a
fabwysiadwyd yn yr Alban, a chyfeiriodd at lwyddiant clwstwr y Rhyl, roedd o’n
teimlo nad oedd wedi cael ei ailadrodd ym Mhrestatyn. Eglurodd y CA yn y dyfodol y byddai myfyrwyr yn
cael eu hasesu yn erbyn sgiliau nid lefelau, gyda chonsortia yn cynhyrchu
portffolio o bwyntiau asesu. Cyfeiriwyd yn benodol at effaith sylweddol o ran
profion FfLlRh a’r angen i ysgolion cynradd ac uwchradd gydweithio'n agosach yn
y dyfodol. Yn ystod y
drafodaeth a ddilynodd tynnwyd sylw at y materion canlynol:- -
Pwysigrwydd
Cyfnod Allweddol 3 yn darparu pynciau o ran fframwaith ar gyfer arholiadau a
lefelau sgiliau myfyrwyr. -
Byddai'r cyngor a roddir gan CYSAG yn berthnasol i gytuno
ar y maes llafur ar gyfer cyflwyno Addysg Grefyddol. Cyfeiriwyd at barhad Fframwaith enghreifftiol a
dull cyffredinol. -
Rhoi statws cyfreithiol i’r maes llafur a gytunwyd arno
mewn ysgolion i ddarparu sylfaen ar
gyfer holl Addysg Grefyddol. -
Cynrychiolwyr
athrawon o fewn CYSAG i fonitro darpariaeth Addysg Grefyddol, a fyddai'n rhoi
mynediad uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth. Amlinellodd y CA
y model presennol a'r defnydd o gynrychiolwyr athrawon ar CYSAG. Esboniodd
y byddai’r model newydd rhywfaint yn wahanol gan y byddai’n bwydo lawr i
grwpiau fel llinell gyfathrebu. Cytunodd aelodau o CYSAG y byddai'r CA yn ysgrifennu
at ysgolion i symud ymlaen â’r dull newydd. Byddai
athrawon yn cael eu gwahodd i gymryd rhan gyda grwpiau bach ac yna gallent eu
cynrychioli ar CYSAG. Tynnodd Mr G. Craigen, sylw at bwysigrwydd cydymffurfio â
gofynion cynrychiolaeth Undeb Athrawon petaent yn cynyddu cynrychiolaeth athro
ar CYSAG. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn a nodi y cyflwyniad ar Adolygiad Donaldson. |
|
YSGOL BRYN COLLEN A GWEITHIO YN Y GYMUNED PDF 73 KB Derbyn cyflwyniad
gan Ysgol Bryn Collen ynghylch eu gwaith gyda grwpiau ffydd lleol. Cofnodion: Gyda chymorth
cyflwyniad PowerPoint, fe amlinellodd Ms Helen Jones, Ysgol Bryn Collen, sut y
mae’r Ysgol wedi gweithio gyda grwpiau ffydd lleol, a rhoddodd ddiweddariad am
yr ysgolion a’r prosiect gwaith cymunedol. Rhoddodd Ms Jones
grynodeb o'r cyflwyniad a oedd yn cynnwys manylion a gwybodaeth am:- -
Rannu
arferion da. -
Y cyllid
a dderbynnir drwy'r Grant Elusennol Ymddiriedolaeth Archesgob Rice Jones, ac
eitemau ac adnoddau caffaeledig gydag arian a dderbyniwyd. -
Cyfnod
Allweddol 2, Blwyddyn 6, Ysbryd Sanctaidd William Booth. -
Manylion
yr ymweliad i Fyddin yr Iachawdwriaeth a'r gwaith a wneir. -
Cydaddoli. -
Ymweliad
i'r ysgol gan Barchedig Una. -
Manylion
am y gweithgareddau a gynhaliwyd yn yr ysgol gan gynnwys ymweliad A.J. Pingram,
Priodas Ffug a Diwrnod Bedyddio a Diwali. Yn dilyn
trafodaeth fanwl: PENDERFYNWYD - bod y CYSAG
yn derbyn ac yn nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
(1) Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y
Gymdeithas yng Nghastell Nedd Port Talbot. (2) Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf
CCYSAGC 25 Tachwedd 2015, Blaenau Gwent. (3) Derbyn enwebiadau i'r Pwyllgor Gwaith ac
ar gyfer Is-gadeirydd (copïau ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (a) Cofnodion CCYSAGC – 6
Mawrth 2015 Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG
Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2015 yng Nghastell-nedd Port Talbot
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau. PENDERFYNWYD
- derbyn
cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015. Dywedodd y CA bod Sir Fflint wedi cynnal cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar
25 Mehefin, 2015, a chadarnhaodd y byddai'r cofnodion ar gael yn y cyfarfod
nesaf. Cyfeiriodd y Parchedig B.H. Jones at ddau gyflwyniad ardderchog a gafwyd
gan y CA yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC. Awgrymodd
y gallai fod yn fuddiol petai cyflwyniadau o'r fath yn cael eu cynnwys ar
agenda cyfarfodydd CYSAG yn y dyfodol, neu bod copïau’n cael eu dosbarthu i
Aelodau o CYSAG. Cyfeiriodd yn benodol hefyd at gyflwyniad addoli
ysgolion Wrecsam. Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr G. Craigen a Mr P.Lord (CA) am gael eu penodi yn Gadeirydd ac
Is-gadeirydd, yn y drefn honno, ar gyfer CCYSAGC am y flwyddyn nesaf. Cyfeiriodd Mr G. Craigen at dri chyflwyniad
rhagorol a gafwyd yn CCYSAGC yn ymwneud â’r cwricwlwm, fframwaith llythrennedd
a rhifedd ac ennyn diddordeb bechgyn mewn addysg grefyddol mewn ysgolion
uwchradd. Eglurodd y
Cadeirydd ei fod wedi ymweld â nifer o ysgolion cynradd yn ei rôl fel Cadeirydd
CYSAG. Fodd bynnag, mynegodd ei siom nad oedd wedi derbyn ymateb i’w gais i ymweld
ag ysgol uwchradd. Cytunodd y Cynghorydd A. Roberts i fynegi’r pryderon a fynegwyd gan y
Cadeirydd, ynghylch y diffyg ymateb, i Bennaeth yr Adran. Rhoddodd Ms M. Ludenbach wahoddiad i’r Cadeirydd ymweld
ag Ysgol y Bendigaid Edward Jones, y Rhyl. Yn dilyn y cyflwyniad a gafwyd gan aelod o SACRE Wrecsam,
eglurodd y CA y ceisiwyd barn ysgolion am Aelodau'n mynychu SACRE a’i ystyried yn weithred o gydaddoli. Cytunodd y CYSAG y byddai’r CA yn trafod ag ysgolion i ganfod os byddent yn
cytuno i aelodau CYSAG fynychu ac arsylwi ac addoli ar y cyd.
Cadarnhaodd y CA fod aelodau CYSAG yn Wrecsam a Gwynedd wedi derbyn
hyfforddiant ar fynychu a gwylio cydaddoli mewn ysgolion. (b) Presenoldeb yng
Nghyfarfod CCYSAGC – 25 Tachwedd 2015 Cafwyd cadarnhad y byddai Mr G. Craigen a Mr P. Lord
(CA), Cadeirydd ac Is-Gadeirydd CCYSAGC yn bresennol yng nghyfarfod nesaf
CCYSAGC a fyddai’n cael ei gynnal ym Mlaenau Gwent ym mis Tachwedd 2015. (c) Enwebiadau ar gyfer
Pwyllgor Gwaith ac Is-gadeirydd CCYSAGC Esboniodd Mr G. Craigen ar ôl i’r Cynghorydd D. Michael Gray dynnu ei
enwebiad yn ôl, roedd dau enwebiad yn parhau ar gyfer dwy swydd ar y Pwyllgor
Gweithredol. Penodwyd y ddau enwebydd arall i’r ddwy
swydd wag, sef y Cynghorydd Ernie Galsworthy o CYSAG Merthyr Tudful a Ms E.
Ruth Davies. Cafwyd cadarnhad bod Mr Phil Lord (CA) wedi'i benodi’n Is-Gadeirydd
CCYSAGC. |
|
DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF Nodi amser a
dyddiad y cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych nesaf i'w gynnal ar 21 Hydref, 2015 yn
Siambr y Cyngor, Tŷ Russell, Y Rhyl. Cofnodion: Cynhelir cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10.00am ddydd Mercher, 21 Hydref 2015 yn Ysgol
Bendigaid Edward Jones y Rhyl.
Daeth y cyfarfod
i ben am 11.20am. |