Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, FFORDD LLYS NANT, PRESTATYN LL19 9LG
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 163 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd 22 Hydref 2014 (copi ynghlwm). Ac
ystyried unrhyw faterion yn codi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd
ar 22 Hydref 2014 (wedi’u dosbarthu yn flaenorol). Cywirdeb - Tudalen 6, 5.
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2013/14 - Eglurodd Ms M Ludenbach fod
absenoldeb data arholiadau ar gyfer Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones o
ran 2013 yn ymwneud â Chanlyniadau TGAU yn unig ac nid Canlyniadau Safon Uwch. Materion yn codi - Tudalen 6, 5.
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2013/14 - Cadarnhaodd Ymgynghorydd Her GwE
(SL) fod yr Adroddiad Blynyddol wedi'i anfon at CCYSAGC ac roedd wedi ei
gynnwys ar eu gwefan. Tudalen 7, 6.
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu - Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her fod
llythyrau wedi eu hanfon at yr ysgolion yn eu llongyfarch ar y nodweddion da a
nodwyd yn eu Hadroddiadau Arolygu Estyn. Tudalen 9, 8.
Addysg Grefyddol a Chymunedau Lleol - Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her fod
dyddiadau wedi eu cytuno erbyn hyn i gyfarfod i drafod agweddau ymarferol o
drefnu sesiynau ar gyfer Cydlynwyr Addysg Grefyddol. PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo Cofnodion cyfarfod CYSAG a
gynhaliwyd ar 22 Hydref 2014 fel cofnod
cywir. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU PDF 73 KB Derbyn
dadansoddiad o Adroddiad Arolwg diweddar gan Estyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau'r Arolygon Estyn diweddar
o ran darpariaeth Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn pedair ysgol rhwng
mis Mawrth a mis Mehefin 2014. Roedd arolygon wedi eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Prestatyn; Ysgol Gynradd
Wirfoddol a Reolir Borthyn; Ysgol Penmorfa ac Ysgol Pendref. Rhoddwyd crynodeb byr i’r aelodau o'r canfyddiadau'n ymwneud â phob
ysgol a nododd yr aelodau y sylwadau a’r deilliannau cadarnhaol. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her yn benodol
at y canlynol:-
PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2013 PDF 63 KB Ystyried
adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau ar gyfer 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Ymgynghorydd Her yr Adroddiad Crynodeb o Ganlyniadau Arholiadau 2013-14 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn cynnwys manylion am:- -
TGAU
Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Llawn. Ymatebodd Ms M. Ludenbach i gwestiwn gan Mr D.
Oakes a chadarnhaodd fod gan Ysgol y Bendigaid Edward Jones Ganlyniadau Cwrs Llawn. Eglurodd
yr Ymgynghorydd Her ei fod wedi cynnwys yr holl ganlyniadau a ddarparwyd gan Ysgol
y Bendigaid Edward Jones, a chytunodd i gysylltu â'r ysgol i ofyn am ragor o
wybodaeth. Mynegodd Mr Oakes bryder ynghylch y gostyngiad yn y niferoedd yn Ysgol
Brynhyfryd. Eglurodd yr Ymgynghorydd Her nad oedd unrhyw
wybodaeth bellach wedi dod i law oddi wrth yr ysgol. Eglurodd Mr G. Craigen ei fod wedi ei arwain i gredu bod y cofrestriad
cyfrwng Cymraeg wedi cael problemau o ganlyniad i faterion staffio. Mewn ymateb i gwestiwn gan Ms M. Ludenbach, amlinellodd yr Ymgynghorydd Her
y broses ar gyfer cael data a thynnodd sylw at y problemau a gafwyd wrth gasglu
gwybodaeth, oedd wedi arwain at anawsterau wrth gasglu ystadegau. Roedd Ysgolion a’r Awdurdod Lleol yn
defnyddio “Fischer Family Trust” er mwyn gallu dadansoddi’r data ymhellach yn
yr ysgolion ac ar draws yr ysgolion. -
TGAU
Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Byr. Mynegodd Mr D. Oakes bryder ynghylch y gwahaniaeth rhwng ffigurau mynediad
yr Awdurdod Lleol a ffigurau mynediad Cymru gyfan ar gyfer disgyblion. Eglurodd
yr Ymgynghorydd Her fod y data a ddarparwyd gan CBAC wedi amlygu cynnydd
sylweddol mewn Cyrsiau Llawn dros y tair blynedd diwethaf. Rhoddodd
hefyd fanylion y canfyddiad yn y gwahaniaeth o ran gwerth Cwrs Llawn a Chwrs
Byr yng Nghymru a Lloegr, o ran achrediad gan Brifysgol. Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd, awgrymodd Mr Oakes y dylid cyflwyno
sylwadau ynghylch y pryderon a godwyd gan Aelodau CYSAG ynghylch statws Addysg
Grefyddol Statudol. Amlygodd yr Arweinydd Systemau y symudiad
yn ôl at ddysgu seiliedig ar wybodaeth, a fabwysiadwyd yn Lloegr, heb unrhyw
gyfeiriad at faterion megis gwneud penderfyniadau moesol. Cadarnhaodd
fod y dull gweithredu gan CBAC yng Nghymru wedi bod yn fwy ffafriol mewn
perthynas â chynnwys y cyrsiau, ac roedd proses ymgynghori wedi digwydd. -
TAG Astudiaethau
Crefyddol – Safon Uwch. Cytunodd yr Ymgynghorydd Her i archwilio cywirdeb y canlyniadau Safon Uwch
a ddarparwyd mewn perthynas ag Ysgol y Santes Ffraid. Dywedwyd wrth Aelodau CYSAG nad oes gan Ysgol y Bendigaid Edward Jones
chweched dosbarth mwyach. Fodd bynnag, mae cyrsiau Addysg Grefyddol
yn cael eu darparu yn Ysgol Uwchradd Prestatyn gydag opsiwn hefyd yng Ngholeg y
Rhyl. -
Cymariaethau
Canlyniadau â Chyfartaledd Cenedlaethol (Cwrs Llawn A * - C) (Cwrs Byr A * -
C). -
Cymariaethau
Canlyniadau â Chyfartaledd Cenedlaethol – Safon Uwch. -
Pob
cwrs Astudiaethau Crefyddol. -
Canlyniadau
TGAU 2014: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol. -
Canlyniadau
TGAU 2013: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol. -
Canlyniadau
TGAU 2014: Pob Cwrs Byr Addysg Grefyddol. -
Canlyniadau
TGAU 2013: Pob Cwrs Byr Addysg Grefyddol. -
Canlyniadau
TAG Safon Uwch 2014: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol. -
Canlyniadau
TAG Safon Uwch 2013: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn a nodi’r
adroddiad Crynodeb o Ganlyniadau Arholiadau 2013-14 yn amodol ar yr uchod. |
|
Derbyn cyflwyniad
PowerPoint a grëwyd gan CBAC ar gyfer cyfarfod CCYSAGC yr Hydref. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her y cyflwyniad PowerPoint a
grëwyd gan CBAC, Astudiaethau Crefyddol: Adborth Data, ar gyfer y cyfarfod
CCYSAGC ar 26 Tachwedd 2014. Roedd y cyflwyniad wedi ystyried newidiadau pwysig
yn y tueddiadau o ran arholiadau Astudiaethau Crefyddol, a chyfeiriwyd yn
arbennig at yr anghysondebau rhwng y ddarpariaeth yng Nghymru a Lloegr. Darparodd yr Ymgynghorydd Her grynodeb manwl o gynnwys y
cyflwyniad oedd yn cynnwys y materion canlynol, a materion a godwyd gan aelodau
CYSAG:-
Cyfeiriodd Aelodau CYSAG at y ffaith fod y rhaniad
cyfartalog, ar lefel UG/Safon Uwch, â gogwydd at ferched yn bennaf.
Cyfeiriodd Mr D. Oakes
at y ffigyrau lefel Safon Uwch ar gyfer Cristnogaeth a ddarparwyd ar Dudalen 46
a gofynnodd a oedd myfyrwyr yn cael Addysg Grefyddol o ffynonellau neu
ddarparwyr eraill. Awgrymodd yr Ymgynghorydd Her y gallai fod rhagfarn
gan yr athro wrth ddewis unedau i gael eu haddysgu mewn ysgolion, a chyfeiriwyd
at argaeledd darpariaeth mewn rhai ysgolion Sir Ddinbych. Awgrymodd Mr Oakes fod
sylwadau yn cael eu gwneud gan CYSAG yn mynegi’r farn y teimlwyd bod Crefydd a
Moeseg ac Athroniaeth Crefydd yn parhau fel unedau ar wahân. Eglurodd yr Ymgynghorydd Her fod y broses
ymgynghori wedi dod i ben yn Lloegr. Fodd bynnag,
gallai'r cyfle godi o hyd yng Nghymru drwy CBAC a chytunodd i ddarparu ymateb i
annog eu cadw fel unedau ar wahân. Mewn ymateb i gwestiwn
gan Mr Craigen ynglŷn â dilysrwydd cyrsiau yng Nghymru a Lloegr yn y
dyfodol, eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei fod ar ddeall y byddai dyletswyddau
statudol gwahanol iawn yng Nghymru a Lloegr gyda CBAC yn cynnig y dyletswyddau
hynny yng Nghymru.
Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD -– (a) derbyn
yr adroddiad a nodi’r cynnwys, a (b) bod
Arweinydd Systemau GwE yn darparu ymateb gan CYSAG er mwyn annog cadw Crefydd a
Moeseg ac Athroniaeth Crefydd fel unedau ar wahân. |
|
TREFNIADAU CYSAG A CHONSORTIA PDF 75 KB Derbyn adborth
gan CCYSAGC ar sut gallai Aelodau gefnogi gwaith CYSAG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd yr
Ymgynghorydd Her fod CCYSAGC wedi adrodd yn ôl ar ganlyniadau trafodaethau Aelodau
ar sut y gallant fod yn fwy o ran yn rôl CYSAGau lleol. Roedd yr
adroddiad hwn yn amlinellu rhai o’r ymatebion a chanfyddiadau ar sut i gefnogi
CYSAGau wrth iddynt geisio cefnogi a monitro Addysg Grefyddol ac Addoli ar y
Cyd yn eu hysgolion lleol. Rhoddodd yr Arweinydd Systemau grynodeb manwl o'r cyflwyniad PowerPoint a
ddosbarthwyd gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod, gan grynhoi’r cwestiynau, fel
y nodir isod, a'r ymatebion a gafwyd:- ·
Sut gall aelodau gyfrannu at
waith CYSAGau? ·
Sut gallwn sicrhau presenoldeb
rheolaidd o bob grŵp? ·
Sut gallech chi berswadio pobl
i ddod yn aelod o CYSAG? Awgrymodd Ms S. Harris benodi Swyddog y
Wasg. ·
Sut gallwn fonitro Addysg
Grefyddol ac addoli ar y cyd? ·
Sut gallwn ni gefnogi ysgolion
i gyflwyno Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd da? ·
Sut gallwn ni sicrhau bod ALl
yn cefnogi CYSAGau? Cyfeiriodd Mr D. Oakes at ystyriaeth sy’n cael ei
rhoi i gyfarfodydd CYSAG yn cael eu cynnal mewn ysgolion. Cytunodd yr
Ymgynghorydd Her i gysylltu â'r ysgolion perthnasol ynglŷn â'r awgrym. Awgrymodd Mr G.
Craigen fod Adran Addysg Grefyddol yr ysgol letyol yn cael gwahoddiad i roi
cyflwyniad yng nghyfarfod CYSAG. Dywedodd Ms H. Pearson wrth yr Aelodau y byddai
Ysgol Llewellyn, y Rhyl yn hapus i gynnal cyfarfod CYSAG. Eglurodd y
Cadeirydd y byddai'r amserlen ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyngor sydd ar ddod
yn cael eu hystyried yn y Cyngor Sir. PENDERFYNWYD:- (a) y bydd yr Ymgynghorydd Her yn ysgrifennu
at ysgolion gyda'r bwriad o gynnal cyfarfodydd CYSAG ar y safle yn yr ysgolion,
a (b) derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys. |
|
AG A CHYMUNEDAU LLEOL PDF 61 KB Derbyn
diweddariad ar lafar ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio
gyda'u cymunedau crefyddol lleol. Cofnodion: Rhoddodd yr
Ymgynghorydd Her ddiweddariad ar lafar ar y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n
gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol, ac eglurodd, er nad oedd nifer yr
ymatebion a gafwyd mor uchel â'r disgwyl, roedd nifer digonol wedi ei sicrhau. Roedd
y rhan fwyaf o astudiaethau achos a gafwyd wedi bod yn seiliedig ar
Gristnogaeth ac roedd neges e-bost pellach wedi ei dosbarthu yn gofyn am
fanylion a gwybodaeth bellach yn ymwneud â chymunedau ffydd eraill yn yr ardal. Dywedwyd
wrth yr Aelodau fod niferoedd digonol wedi eu cael i'w cynnwys yn yr
astudiaethau achos. Cyfeiriwyd at
ymatebion a gafwyd mewn perthynas â gweithgarwch Ysgolion Uwchradd a oedd yn
golygu teithio i ardaloedd fel Manceinion a Lerpwl, a theimlwyd bod
gweithgarwch o'r fath wedi eu cynnwys yn y prosiect gan ei fod yn adlewyrchu
gweithgarwch yn y Gogledd. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her at gyfarfod CCYSAGC sydd ar ddod, i gael ei
gynnal gan Sir y Fflint, a fyddai'n cynnwys eitem ar y rhaglen ar gyflwyno'r
achos ar gyfer gweithio gyda chymunedau lleol, ar y cyd â San Silyn Wrecsam a’u
darpariaeth ar gyfer ysgolion lleol.
Tynnodd yr Ymgynghorydd Her
sylw at y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth rhwng y Gogledd a'r De, ac roedd yn
teimlo y byddai'r cyflwyniad yn gofyn am gyd-destun ehangach o’r gwahanol
grefyddau. Yn ystod y
drafodaeth a ddilynodd, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y dylai'r ddogfen gael ei
chwblhau a'i dosbarthu i ysgolion ar ddechrau tymor yr haf, ac yna ei chyflwyno
i gyfarfod CCYSAGC yn Sir y Fflint. PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar lafar ar y prosiect
Addysg Grefyddol a Chymunedau Lleol, a nodi’r sefyllfa. |
|
(a) Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a
gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014 (copi ynghlwm) (b) Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf
CCYSAGC ar 6 Mawrth, 2015 yn Sir Benfro. (c) Er Gwybodaeth - 25 Mehefin, 2015 Sir y
Fflint yn cynnal CCYSAGC a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Cofnodion
CCYSAGC – 2 Gorffennaf 2014 Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAG
Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ym Mhont-y-pŵl ar 26 Tachwedd 2014 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau. PENDERFYNWYD - derbyn cofnodion CCYSAGC a
gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014. (b) Cyfarfod
CCYSAGC - 6 Mawrth 2015 Dywedodd yr Arweinydd Systemau y bydd cyfarfod nesaf
CCYSAGC yn cael ei gynnal ar 6 Mawrth 2015 ym Mhont-y-pŵl a chadarnhaodd y
byddai ef yn mynychu ar ran CYSAG Sir Ddinbych.
(c) CCYSAGC a
Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC - 25 Mehefin 2015 Dywedodd yr Ymgynghorydd Her y byddai Sir y Fflint yn
cynnal CCYSAGC a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC ar 25 Mehefin 2015, a
chadarnhaodd y byddai'n mynychu. Cytunodd yr Aelodau y bydd Mr
Dominic Oakes hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD - bod yr Ymgynghorydd Her a Mr
Dominic Oakes yn mynychu CCYSAGC a chyfarfod cyffredinol blynyddol CCYSAGC
nesaf ar 25 Mehefin 2015. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Nodi amser a
dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych ar y 29 Mehefin 2015. Lleoliad i'w
gadarnhau. Cofnodion: 29 Mehefin 2015
mewn lleoliad i'w gadarnhau. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.40am. |