Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O WYBODAETH

Yn absenoldeb y Cadeirydd - Y Parchedig Martin Evans-Jones, llywyddodd yr Is-Gadeirydd - y Cynghorydd Arwel Roberts yn ystod y cyfarfod.

 

 

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Parchedig Martin Evans-Jones (Cadeirydd), Gavin Craigen, Cate Harmsworth, Dominic Oakes, Tania Ap Sion, ynghyd â'r Cynghorwyr Ann Davies a Dewi Owens

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 128 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2014 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd 16 Mehefin 2014 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Materion yn Codi - Tudalen 7 - Gweithio gyda Chymunedau Crefyddol – Rhoddodd Arweinydd Systemau GwE wybod y byddai diweddariad yn cael ei roi yn ddiweddarach yn y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd 16 Mehefin 2014 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2013/14 pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd systemau ar gyfer GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG i'w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Systemau GwE (AS) Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Sir Ddinbych 2013/14 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w gymeradwyo, a oedd yn rhoi manylion am weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, gan gynnwys cyngor a roddwyd i'r awdurdod addysg lleol ynghyd â materion lleol a chenedlaethol eraill.

 

Atgoffodd yr AS yr aelodau bod yr adroddiad blynyddol yn ddogfen hanesyddol, a cheisiodd gymeradwyaeth i’r adroddiad, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau, fel cofnod cywir i'w ddosbarthu i’r derbynwyr hynny a restrir yn yr adroddiad.  Gofynnodd i'r aelodau ystyried cael gwared ag Esgobaeth Bangor o'r rhestr o dderbynwyr swyddogol, am nad oedd yn gwasanaethu unrhyw ddiben penodol yn yr ardal a oedd yn dod o dan Esgobaethau Llanelwy a Wrecsam.  Cytunodd yr aelodau gyda'r awgrym bod cyswllt e-bost at yr adroddiad yn cael ei anfon at Esgobaeth Bangor yn lle hynny.

 

Trafododd yr Aelodau’r swyddi gwag sy'n weddill ar CYSAG ac adroddodd yr AS ar ymdrechion sy'n cael eu gwneud i lenwi'r swyddi hynny.  Nododd y Cadeirydd y swydd wag ar gyfer cynrychiolydd o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (yr oedd ef yn gysylltiedig ag ef), a chytunodd i ddarparu'r AS gyda'r manylion cyswllt perthnasol gyda'r bwriad o lenwi’r swydd wag benodol honno.  Holodd Ms Mary Ludenbach ynghylch absenoldeb data arholiadau ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones o ran canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2013 mewn Astudiaethau Crefyddol.  Fe sefydlwyd bod problem dros ddarparu data AG ar gyfer yr ysgol wrth gael mynediad at wybodaeth Ymddiriedolaeth Teulu Fischer, sef y rheswm tebygol dros hepgor.  Cytunodd yr AS i siarad â Ms Ludenbach y tu allan i'r cyfarfod gyda'r bwriad o sicrhau bod y data arholiadau perthnasol yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol CYSAG cyn ei ddosbarthu.

 

Roedd yr aelodau’n hapus i dderbyn yr adroddiad fel cofnod cywir o waith CYSAG, yn amodol ar y diwygiadau fel a drafodwyd.

 

 PENDERFYNWYD:-

 

(a)       yn amodol ar y diwygiadau uchod, bod Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2013 - 2014 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith CYSAG, a

 

(b)       gofyn i'r Awdurdod Addysg Lleol drefnu cyfieithu, argraffu a dosbarthu’r adroddiad i'r holl ysgolion a cholegau yn Sir Ddinbych a derbynwyr eraill fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn darparu dadansoddiad o Adroddiadau Arolwg Estyn ar gyfer ysgolion a arolygwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2014.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Systemau GwE (AS) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau'r Arolygiadau Estyn diweddar o ran darpariaeth AG ac addoli ar y cyd mewn pedair ysgol rhwng Mawrth a Mai 2014. Cynhaliwyd arolygiadau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl; Ysgol Bro Famau, Llanferres a Llanarmon-yn-Iâl; Ysgol y Castell, Rhuddlan ac Ysgol Caer Drewyn, Clawdd Poncen. [Ymddiheurodd yr AS fod data ar gyfer Ysgol Gynradd Borthyn a reolir yn wirfoddol wedi'i hepgor a chadarnhaodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad nesaf fel rhan o raglen y Gwanwyn.]

 

RRhoddodd yr AS grynodeb byr i’r aelodau o'r canfyddiadau'n ymwneud â phob ysgol ac roedd yr aelodau'n falch o nodi'r sylwadau a’r deilliannau cadarnhaol.  Roedd yn arbennig o braf nodi'r cysylltiadau agos rhwng ysgolion ac eglwysi lleol. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac wedi synnu na nodwyd unrhyw gyfeiriad at gysylltiadau cadarnhaol yr ysgol honno gyda'r eglwys leol.  Teimlai fod yr adroddiad yn adlewyrchu'n dda iawn ar bob un o'r ysgolion a arolygwyd.  Dywedodd yr AS fod yr un maes wedi'i farcio ar gyfer datblygiad yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn dangos fod dealltwriaeth disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang yn llai datblygedig, a allai neu na allai gyfeirio at AG.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad;

 

(b)       anfon llythyr i’r ysgolion a arolygwyd yn eu hysbysu bod eu Hadroddiad Arolwg wedi cael ei ystyried a’u llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd, a

 

(c)        gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod.

 

 

7.

ADRODDIAD ESTYN 'ADCDF CYNNYDD MEWN ADDYSG AR GYFER DATBLYGU CYNALIADWY A DINASYDDIAETH FYD-EANG' pdf eicon PDF 63 KB

Derbyn cyflwyniad ar Adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 (copi wedi ei amgáu) a oedd yn canolbwyntio ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd System GwE (AS) adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 (copi wedi’i ddosbarthu’n flaenorol), a oedd yn canolbwyntio ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

 

Darparodd yr AS rhywfaint o gyd-destun i'r adroddiad gan egluro bod hyrwyddo ADCDF yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, a oedd yn anelu at annog ysgolion i ddarparu cyfleoedd i athrawon a disgyblion ystyried y materion hynny.  Roedd yn disgrifio cynnydd roedd ysgolion wedi'i wneud ers yr adroddiad diwethaf yn 2006, a thrafododd AS gyda’r aelodau am nifer o'r canfyddiadau mewn perthynas ag AG fel a ganlyn -

 

·        gwahaniaeth sylweddol rhwng adroddiadau 2006 a 2014 oedd y gwelliant mewn dinasyddiaeth fyd-eang a oedd bellach yn gyfartal â datblygu cynaliadwy o ran dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth

·        canfu'r adroddiad fod disgyblion mewn ysgolion sydd â chyfran uchel o ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig ar y cyfan â gwell dealltwriaeth o effaith gwahaniaethu a rhagfarnu unigolion, na disgyblion mewn ysgolion eraill.  Canfu hefyd mai ychydig o ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 oedd â dealltwriaeth dda o hunaniaeth a diwylliant, gan gynnwys cysyniadau cymhleth fel y cyswllt rhwng diwylliant, ffydd a systemau gwerth unigol a chredoau.  Adroddodd yr AS ar un gwerslyfr Cyfnod Allweddol 3 roedd yn ei ysgrifennu gyda Gavin Craigen yn archwilio’r pwynt hwn a’r systemau cred.  Nododd yr aelodau gyfrifoldeb adrannau AG yn hyn o beth, gan gynnwys cysylltu systemau cred, a wnaethpwyd yn dda.  Nodwyd hefyd, ar gyfer Gogledd Cymru yn arbennig, bod diffyg disgyblion o leiafrifoedd ethnig, ond awgrymwyd y gellid gwneud cysylltiadau gydag ysgolion eraill â mwy o gymysgedd ethnig er mwyn archwilio’r amrywiaeth honno.  Cytunodd CYSAG y dylid gwneud argymhelliad yn hynny o beth i Bennaeth Addysg Sir Ddinbych

·        roedd yr adroddiad hefyd wedi darganfod, mewn ysgolion lle’r oedd ADCDF wedi'i sefydlu'n dda, neu lle'r oedd canran uchel o ddisgyblion o gefndir lleiafrifol ethnig, roedd bron yr holl ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn gallu adnabod effaith bosibl gwahaniaethu a rhagfarnu unigolion.  Fodd bynnag, mewn ysgolion lle nad oedd hyn yn wir, ychydig o'r disgyblion oedd yn deall y cysyniad hwnnw yn y cyfnod cynnar hwnnw.  Nid oedd disgwyl y byddai disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn deall bod gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio'r ffordd y mae pobl yn byw, ond trafodwyd y materion – mae’r ddealltwriaeth hon yn datblygu wrth i'r disgyblion symud ymlaen trwy Gyfnod Allweddol 2

·        cyfeiriwyd yn yr adroddiad at ychydig o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gysyniadau mwy cymhleth fel y cysylltiad rhwng diwylliant, ffydd a systemau gwerth unigol a chredoau.  Roedd hyn yn siomedig i’w nodi oherwydd bod y gymuned AG wedi gweithio'n galed i hyrwyddo’r materion hynny

·        Tynnodd Ms Ali Ballantyne sylw at arweinyddiaeth, rheolaeth a chefnogaeth ar gyfer ADCDF, a'r canfyddiadau lle nad oedd hyfforddiant wedi bod yn flaenoriaeth, bod diffyg hyder yn yr athrawon wrth addysgu'r cysyniadau mwy cymhleth, ac y byddai’r rhan fwyaf o ysgolion yr ymwelwyd â nhw’n cael budd o hyfforddiant pellach mewn agweddau penodol ar ADCDF.  Teimlai fod y mater hwn yn gyffredin ar draws y sir ac roedd yn awyddus i fwrw ati i hyfforddi ar lefel sirol.  Dywedodd yr AS fod y canfyddiad hwn yn groes i Adroddiad Estyn ar AG mewn ysgolion uwchradd (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013), a ganfu nad oedd addysgu AG gan unigolion nad oeddynt yn arbenigwyr mewn AG mewn ysgolion uwchradd yn cael effaith negyddol ar safonau yn y mwyafrif o ysgolion

·        nododd yr aelodau, lle’r oedd ysgol wedi ysgrifennu ei pholisi ei hun gydag athrawon yn cael cyfrannu'n uniongyrchol at ei gynnwys (yn hytrach nag addasu polisi a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

AG A CHYMUNEDAU LLEOL pdf eicon PDF 62 KB

Derbyn diweddariad ar lafar gan yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Systemau GwE (AS) ddiweddariad ar lafar ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol, gan roi gwybod mai ymateb cymharol isel a gafwyd gan ysgolion i gais am astudiaethau achos.  O ganlyniad, roedd dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’i ymestyn ac roedd yr AS wedi llunio ffurflen gydag awgrymiadau a syniadau i'w dosbarthu i ysgolion er mwyn annog ymatebion mwy ysbrydoledig.

 

Roedd yr Aelodau’n tybied mai pwysau a gofynion cyfredol ar ysgolion oedd y rheswm tebygol dros yr ymateb gwael.  Trafododd yr Aelodau ffyrdd o sicrhau y cysylltir ag unigolion perthnasol o fewn yr ysgolion er mwyn ennyn yr ymatebion gorau.  Roedd camau gweithredu ymarferol yn cynnwys -

 

·        cylchredeg copi o'r ffurflen i'r holl aelodau CYSAG i'w rhoi i’w hysgolion

·        anfon y ffurflen yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer sylw'r Cydlynwyr AG er mwyn sicrhau bod y cais yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn priodol

·        y posibilrwydd o gynnig cymhelliant i ysgolion i ymateb

·        tynnu sylw aelodau o'r corff llywodraethu i godi ymwybyddiaeth

 

Amlygodd y Cadeirydd yr amser a oedd wedi mynd heibio ers darparwyd unrhyw hyfforddiant penodol, ac yn teimlo mai’r ffordd orau ymlaen fyddai trefnu sesiwn hanner diwrnod benodol ar gyfer pob Cydlynydd AG.  Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o drefnu sesiwn o'r fath a nodwyd na fyddai'r AS yn cael caniatâd i ymgymryd â'r dasg hon fel rhan o'i rôl bresennol.  Cynigiodd Mr. Simon Cameron i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw, gan roi gwybod am ei rôl fel Swyddog Ysgolion ar gyfer Esgobaeth Llanelwy a sesiynau tebyg roedd wedi’u trefnu yn rhinwedd y swydd, gan dynnu sylw at werth digwyddiad o'r fath.  Roedd yn hapus i roi ei friff i ysgolion cymunedol os oes angen.  Teimlai'r AS y byddai GwE yn caniatáu iddo fynychu'r sesiwn os oedd Mr Cameron yn barod i gymryd y cyfrifoldeb am drefnu'r digwyddiad, a thynnodd sylw at  fanteision dull cydweithredol.  Adroddodd hefyd ar y trafodaethau diweddar yng ngoleuni'r trefniadau consortia newydd, a oedd yn awgrymu bod angen i CYSAG fod yn fwy rhagweithiol ac yn llai dibynnol ar eu swyddogion cefnogi.  Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai Pennaeth Addysg Sir Ddinbych yn debygol o fod eisiau cyfranogi yn y fenter hon.  Diolchodd yr AS a Mr Cameron am eu hymroddiad a -

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       nodi diweddariad llafar ar y prosiect Cymunedau Lleol ac AG, a

 

(b)       bod Arweinydd Systemau GwE a Mr. Simon Cameron yn cwrdd y tu allan i'r cyfarfod i drafod yr agweddau ymarferol ar drefnu sesiwn ar gyfer Cydlynwyr AG.

 

 

9.

CCYSAGC pdf eicon PDF 75 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2014 ym Mhowys (copi wedi ei amgáu)

 

(b)  Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC i'w gynnal ym Mhont-y-pŵl ar 26 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(A) Cofnodion CCYSAGC – 2 Gorffennaf 2014

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ym Mhowys 2 Gorffennaf 2014 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.

 

Adroddodd Systemau Arweiniol GwE (AS) ar gyflwyniad gan y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer AG a CYSAGau, a threfniadau consortia presennol a gafodd ei ddilyn gan weithdy gyda CYSAGau am eu gwaith ac ymateb i chwe chwestiwn penodol – gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu trafod yn ystod cyfarfod heddiw.  Byddai canfyddiadau'r gweithgaredd gweithdy yn cael eu cyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd 2 Gorffennaf 2014.

 

(B) cyfarfod CCYSAGC – 26 Tachwedd 2014

 

Dywedodd Arweinydd Systemau GwE (AS) y bydd cyfarfod nesaf CCYSAGC yn cael ei gynnal 26 Tachwedd 2014 ym Mhont-y-pŵl ac y byddai ef yn mynychu ar ran CYSAG Sir Ddinbych.  Gofynnodd hefyd i ddau gynrychiolydd arall fynychu gydag ef.  Dywedodd Mr. Simon Cameron y byddai'n barod i fod yn bresennol.  Mynegodd Ms Ali Ballantyne ddiddordeb ond dywedodd y byddai'n anodd gan y byddai angen trefnu staff cyflenwi.

 

PENDERFYNWYD bod Mr. Simon Cameron a Philip Lord (Arweinydd Systemau GwE) yn mynychu'r cyfarfod CCYSAGC nesaf 26 Tachwedd, 2014.

 

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Bydd y cyfarfod nesaf am 10am ddydd Gwener 13 Chwefror 2015 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Llys Nant, Prestatyn.

 

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ar ddydd Gwener 13 Chwefror 2015 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Nant Hall, Prestatyn.

 

Wrth gloi'r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd Systemau GwE am ei waith caled wrth gefnogi CYSAG.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m.