Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL LL18 3DP

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O WYBODAETH

Yn absenoldeb y Cadeirydd - Y Parchedig Martin Evans-Jones, llywyddodd yr Is-Gadeirydd - y Cynghorydd Arwel Roberts yn ystod y cyfarfod.

 

 

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Parchedig Martin Evans-Jones (Cadeirydd), Ms Ali Ballantyne, Mrs Cate Harmsworth, Mr Dominic Oakes a'r Cynghorydd Dewi Owens.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 108 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2014 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2014 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

Materion yn Codi - Tudalen 7 - Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu, penderfyniad (c) - Dywedodd yr Arweinydd Systemau GwE fod yr holiadur i ysgolion ynghylch cysylltiadau i eglwysi wedi cael ei ohirio tra'n aros canlyniad y ddadl ar y posibilrwydd o greu adnodd i annog cysylltiadau agosach rhwng ysgolion a grwpiau ffydd dan eitem 7 ar y rhaglen. Y gobaith oedd y gallai'r mater hwn gael ei ddatblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol Conwy a Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2014 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ARAITH GAN HUW LEWIS I’R CYNGOR ADDYSG GREFYDDOL (CAG) pdf eicon PDF 87 KB

Derbyn y trawsgrifiad o araith a roddwyd i'r CAG yn y Gynhadledd Flynyddol yng Nghaerdydd gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis (copi wedi ei amgáu).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE y trawsgrifiad o araith a roddwyd i'r Cyngor Addysg Grefyddol (REC) yn y Gynhadledd Flynyddol yng Nghaerdydd ar 7 Mai 2014 gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis.  Roedd y Gweinidog Addysg wedi noddi'r digwyddiad a rhoddodd araith agoriadol a oedd yn darparu mewnwelediad pwysig i ddealltwriaeth y Gweinidog a’i ystyriaeth ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

Croesawodd yr Arweinydd Systemau yr araith a’r sylwadau cadarnhaol roedd y Gweinidog wedi’u gwneud mewn perthynas ag Addysg Grefyddol.  Roedd rhan gyntaf yr araith wedi canolbwyntio ar bolisi addysg ac wedyn cyfeiriwyd at sut gwelodd y Gweinidog Addysg Grefyddol fel rhan o'r rhaglen ddiwygio.  Roedd llawer o'r sylwadau a gafwyd yn adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol ym Mehefin 2013 hefyd wedi eu hadlewyrchu yn araith y Gweinidog.  Soniwyd yn benodol am bwysigrwydd Addysg Grefyddol a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i gwricwlwm yr ysgol.  Byddai Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGC) yn gwneud defnydd o rai o sylwadau'r Gweinidog i gefnogi eu gwaith ac roeddent wedi diolch iddo am ei araith.

 

Roedd Mr Gavin Craigen yn bresennol yn ystod yr araith yn y REC a chadarnhaodd ei fod wedi bod yn gyflwyniad cadarnhaol iawn â datganiadau penodol wedi’u gwneud am Addysg Grefyddol.  Roedd y Gweinidog hefyd wedi gwahodd ymatebion i’r adolygiad o'r cwricwlwm sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru a byddai'r REC yn cynnwys Cymdeithas CYSAGau Cymru yn yr ymateb hwnnw er mwyn sicrhau ei bod yn briodol i Gymru hefyd.  Roedd yr Athro Graham Donaldson wedi cael ei benodi i arwain adolygiad a oedd yn cynnwys y Cwricwlwm Sylfaenol, a oedd yn cynnwys Addysg Grefyddol.  Roedd yr Athro Donaldson yn y broses o gwrdd â'r gymuned AG yng Nghymru ar gyfer ymgynghori penodol.

 

Roedd y Cyngor Ymgynghorol yn falch o dderbyn a nodi'r araith a oedd yn cydnabod pwysigrwydd Addysg Grefyddol a'i gyfraniad mewn ysgolion a chymdeithas.  Roedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi’r cyfleoedd i'r gymuned Addysg Grefyddol i ymateb i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r cwricwlwm.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(i)            derbyn y trawsgrifiad o’r araith a'i nodi, a

 

(ii)           Diolch i'r gweinidog am noddi'r digwyddiad ac am baratoi a chyflwyno’r araith.

 

 

6.

AG A CHYSYLLTIADAU CYMUNEDOL DA pdf eicon PDF 79 KB

Derbyn adroddiad a gomisiynwyd gan 'Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar AG’ San Steffan ynghylch Addysg Grefyddol a chysylltiadau cymunedol da (copi wedi ei amgáu).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a gomisiynwyd gan 'Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Addysg Grefyddol’ o San Steffan ynghylch Addysg Grefyddol a chysylltiadau cymunedol da.  Roedd ffocws y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Addysg Grefyddol ar ddiogelu darpariaeth AG mewn ysgolion ac yn archwilio sut y gall y pwnc barhau i ddarparu dimensiwn gwerthfawr i addysg pob plentyn a pherson ifanc.

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau fod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn ac yn amlygu’r themâu a drafodwyd gan CYSAG Sir Ddinbych.  Tynnodd sylw arbennig yr aelodau at dudalennau 24 a 25 o'r adroddiad yn ymwneud â thystiolaeth a chanlyniadau dymunol a chyfranogiad CYSAGau wrth gefnogi dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth a chefnogi ysgolion yn y defnydd o ymwelwyr i ystafelloedd dosbarth.  Cyfeiriwyd hefyd at y gwahaniaethau yng Nghymru a Lloegr gyda Chymru yn mabwysiadu dull mwy rhagweithiol yn y ffordd mae CYSAGau yn gweithio gyda'i gilydd i rannu syniadau, cyflwyniadau a hyrwyddo arfer gorau.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei aelodaeth o Grŵp Monitro Safonau Ysgolion Sir Ddinbych ac roedd yn falch o ddweud bod y mwyafrif o ysgolion yn sôn am ymweliadau a wnaed i eglwysi a chapeli.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

 

7.

GWEITHIO GYDA CHYMUNEDAU CREFYDDOL pdf eicon PDF 88 KB

Trafod y posibilrwydd o CYSAG yn creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach rhwng ysgolion a grwpiau ffydd.

 

Cofnodion:

Hwylusodd yr Arweinydd Systemau GwE drafodaeth ar y posibilrwydd o CYSAG yn creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach rhwng ysgolion a grwpiau ffydd.  Er ei fod wedi awgrymu i ddechrau cael 'grŵp llai' i ddatblygu'r adnodd hwn, yn hytrach roedd CYSAG Sir y Fflint wedi penderfynu llunio astudiaeth achos o arfer da o ran roedd ysgolion a'r gymuned grefyddol yn rhyngweithio â'i gilydd.  Cytunwyd i gysylltu ag ysgolion a chyrff crefyddol i ofyn am astudiaeth achos ac i ddewis yr enghreifftiau gorau i rannu arfer da ar draws yr ysgolion a'r gymuned grefyddol.  Teimlwyd y byddai'r opsiwn hwn yn gwneud gwell defnydd o adnoddau a byddai'n haws i’w hwyluso na 'grŵp llai'.   Y gobaith oedd cyfuno astudiaethau achos o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn un adnodd.  Os cytunwyd ar yr opsiwn hwn byddai costau cyfieithu tua £400 - £500 ac awgrymwyd gofyn i sefydliadau eglwysig ar draws y tri awdurdod am gyfraniad ariannol i gwrdd â'r gost.

 

Rhoddodd yr Aelodau enghreifftiau o arfer da presennol a rhyngweithio rhwng ysgolion, cyrff crefyddol a'r gymuned ehangach, gan roi sylwadau fel a ganlyn -

 

·        Cadarnhaodd Mrs Sylvia Harris bod ymweliadau â’r eglwys gadeiriol yn parhau gan ysgolion a bod llawer yn manteisio ar hyn.  Cyfeiriodd hefyd at Brosiect Drysau Cysegredig a oedd yn fenter dwristiaeth yn gweithio gydag eglwysi a chapeli ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint gyda llwybrau i’w harchwilio

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at ymweliadau ysgol i Eglwys Llanasa pan oedd yn Bennaeth a oedd yn rhoi cyfle i blant i ymweld â lle cysegredig a defnyddio’r adnoddau oedd ar gael yn yr eglwys - roedd yn teimlo bod rhyngweithio rhwng ysgolion ac eglwysi yn dibynnu i raddau helaeth ar y ficeriaid a’r gweinidogion a oedd yn gofalu amdanynt

·        Pwysleisiodd y Cynghorydd Joe Welch y manteision o gysylltiadau traws gwricwlaidd gyda'r rhan fwyaf o bynciau eraill ac adroddodd ar brosiect hanner tymor a oedd yn cynnwys taith gerdded natur o gwmpas pentref Nantglyn gan orffen yn eglwys Nantglyn – cytunodd i gysylltu â'r ysgol dan sylw gyda’r bwriad iddynt gyfrannu at astudiaeth achos

·        Soniodd Mr Simon Cameron am y gwaith ar y gweill mewn ysgolion eglwys a menter i gasglu arfer da ac astudiaethau achos mewn Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd a fyddai ar gael i ysgolion eu defnyddio ar y wefan stasaph.churchinwales.org.uk/.  Cyfeiriodd hefyd at Ymddiriedolaeth Elusennol yr Archesgob Rice Jones a oedd yn darparu grantiau i ysgolion i brynu adnoddau ar gyfer Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd

·        Teimlai'r Cynghorydd Ann Davies fod ymweliadau ysgolion yn tueddu i ganolbwyntio ar achlysuron arbennig fel y Nadolig ac y gellid annog plant i gymryd rhan mewn gwasanaethau ar y Sul.  Awgrymodd y Cynghorydd Margaret McCarroll y gellid cynnal cyflwyniadau cofnodi cyrhaeddiad ysgolion mewn eglwysi fel mater o arfer da

·        Roedd Ms Mary Ludenbach yn falch o adrodd ar y cysylltiadau niferus oedd gan Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones gyda'r gymuned grefyddol, a dywedodd fod grwpiau o'r ysgol yn mynychu gwasanaethau yn ystod yr wythnos.  Wrth nodi manteision cysylltiadau traws gwricwlaidd pwysleisiodd bwysigrwydd rhywbeth mwy dwys, sef rhoi cyfle i blant fod mewn, amsugno a myfyrio mewn lle sanctaidd.

 

Yng ngoleuni'r enghreifftiau ardderchog o arfer da presennol, holodd y Cadeirydd a oedd angen ar gyfer adnodd ychwanegol.  Trafododd yr aelodau y manteision o ddarparu astudiaeth achos ar gyfer cynhyrchu syniadau ac ysbrydoliaeth i wella a hyrwyddo cysylltiadau cryf ymhellach, ac ar gyfer adfywio'r ddarpariaeth bresennol.  Ychwanegodd yr Arweinydd Systemau y gellid cyfeirio yn yr adnodd at y ddarpariaeth bresennol.  Y gobaith oedd y byddai'r astudiaethau achos yn ysbrydoli  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CYMDEITHAS CYSAG CYMRU (CCYSAGC) pdf eicon PDF 70 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2014 (copi wedi’i amgáu), a

 

(b)  chytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC i'w gynnal ym Mhowys ar 2 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a) Cofnodion CCYSAGC - 27 Mehefin, 2014

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2014 yng Nghaernarfon (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.

 

Soniodd yr Arweinydd Systemau GwE am gyflwyniad ar RE Quest a oedd yn darparu adnoddau ar gyfer addysgu am Gristnogaeth mewn Addysg Grefyddol a oedd yn addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 - 4. Soniodd am y buddsoddiad diweddar a’r adnoddau ardderchog a ddarperir ac anogodd aelodau i ymweld â'r wefan a oedd wedi ei ailadeiladu a'i lansio fel www.request.org.uk.  Byddai rhai adnoddau Cymraeg ar y wefan newydd yn ogystal â'r hen wefan.

 

 Holodd y Cadeirydd am gysylltiad Coleg y Rhyl a chadarnhaodd yr Arweinydd Systemau bod gwahoddiad wedi cael ei roi ar gyfer aelodaeth gyfetholedig i'r Coleg ac nid oedd neb wedi cymryd y cyfle.  Fodd bynnag, byddai adnodd hwn yn hynod ddefnyddiol iddynt.  Cynigiodd y Cadeirydd i fynd â’r mater o aelodaeth gyfetholedig at y Pennaeth.  Dywedodd Mr Gavin Craigen bod Coleg y Rhyl â chynrychiolaeth yn y Rhwydwaith Gweddi, Y Rhyl a oedd â chysylltiadau gydag eglwysi lleol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2014.

 

(b) cyfarfod CCYSAGauC- 2 Gorffennaf 2014

 

Dywedodd Arweinydd Systemau GwE y bydd cyfarfod nesaf CCYSAGauC yn cael ei gynnal ar 2 Gorffennaf 2014 ym Mhowys ac y bydd ef yn mynychu ar ran CYSAG Sir Ddinbych. Gofynnodd hefyd i ddau gynrychiolydd arall fynychu gydag ef. Dywedodd Mr Gavin Craigen mai ef fydd Cadeirydd y cyfarfod hwnnw ac nad oedd yn siŵr y gallai ef gynrychioli CYSAG Sir Ddinbych a chadeirio’r cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd y gallai ef fynychu a gofynnodd i’r Arweinydd Systemau gysylltu ag ef pe na allai lenwi’r lleoedd sy'n weddill.

 

Tynnodd yr Arweinydd Systemau sylw'r aelodau at enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith (a gylchredwyd yn flaenorol) gan roi gwybod iddynt fod saith o enwebiadau wedi dod i law ar gyfer y ddwy swydd. Ystyriodd yr Aelodau gefndir a phrofiad yr ymgeiswyr -

 

PENDERFYNWYD bod Wyn Myles Meredith, CYSAG Gwynedd a Vicky Thomas, CYSAG Torfaen yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer eu hethol i Bwyllgor Gwaith CCYSAGauC.

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Cynhelir y cyfarfod nesaf am 10.00 am ddydd Mercher 22 Hydref 2014 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Roedd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych wedi'i drefnu ar gyfer 10:00am ddydd Mercher 22 Hydref, 2014 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun.  Awgrymodd y Cynghorydd Joe Welch, gan fod y rhan fwyaf o aelodau CYSAG yn byw yng ngogledd y sir, i gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol naill ai yn y Rhyl neu Brestatyn.  Cytunodd yr Aelodau byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei symud o Ruthun i'r Rhyl a bod cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu trefnu ar gyfer y Rhyl neu Brestatyn.

 

Hefyd ystyriodd yr Aelodau sut y gallent annog pobl i gymryd y seddi sydd ar gael ar CYSAG a chydnabuwyd y nifer o seddi gwag hirsefydlog.  Nodwyd bod dwy swydd wag ar gyfer cynghorwyr, un o’r Grŵp Annibynnol a’r llall o’r Grŵp Llafur.  Cytunodd y cynghorwyr a oedd yn bresennol i fynd â’r mater yn o i’w grwpiau gwleidyddol priodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50 a.m.