Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Roedd
ymddiheuriadau am absenoldeb wedi dod i law oddi wrth y Cadeirydd newydd, y
Parchedig Martin Evans-Jones a oedd wedi methu dod i'r cyfarfod a aildrefnwyd. Yn
ei absenoldeb, ac absenoldeb yr Is-gadeirydd, cymerodd y Cynghorydd Dewi Owens
y Gadair ar gyfer y cyfarfod. |
|
MYFYRDOD TAWEL Dechreuodd y
cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr
Margaret McCarroll, Bill Tasker ac Arwel Roberts ynghyd ag Ali Ballantyne, y
Parchedig Martin Evans-Jones, Cate Harmsworth, y Parchedig Brian H Jones a
Tania Ap Siôn |
|
PENODI’R IS-GADEIRYDD YN GADEIRYDD Gwahoddir yr
Is-Gadeirydd, y Parchedig Martin Evans Jones, i ddod yn Gadeirydd ar gyfer
2013-2015 yn unol â chyfansoddiad CYSAG. Cofnodion: Yn unol â chyfansoddiad CYSAG Sir Ddinbych penodwyd yr Is-Gadeirydd
presennol, y Parchedig Martin Evans-Jones yn Gadeirydd ar gyfer 2013-2015. PENDERFYNWYD penodi'r
Parchedig Martin Evans-Jones yn Gadeirydd CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer
2013-2015. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD NEWYDD – UN O GYNRYCHIOLWYR YR AWDURDOD ADDYSG LLEOL Enwebu ac ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2013-2015 (un o gynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol). Cofnodion: Yn unol â chyfansoddiad CYSAG Sir Ddinbych gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer
penodi Is-Gadeirydd ar gyfer 2013 - 2015 oddi wrth Gynrychiolwyr yr AALl. Yn
absenoldeb nifer o gynrychiolwyr yr AALl cytunwyd i ohirio penodi tan gyfarfod
nesaf y Cyngor Ymgynghorol. PENDERFYNWYD gohirio penodi
Is-Gadeirydd CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2013-15 tan gyfarfod nesaf y Cyngor
Ymgynghorol. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys i'w hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 154 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 10 Mehefin
2013 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2013 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). Materion yn codi: - Tudalen 6, eitem
rhif 4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Mark Ansawdd Addysg Grefyddol - Ar gais
yr Arweinydd Systemau ar gyfer aelodau GwE (AS) cytunodd yr aelodau ohirio'r
cyflwyniad ar y Marc Ansawdd Addysg Grefyddol tan gyfarfod nesaf y Cyngor
Ymgynghorol ym mis Chwefror 2014. Tudalen 7 - eitem
rhif 5 Darpariaeth SMSC yn y Sector Addysg Bellach - Cadarnhaodd yr AS fod
llythyr wedi cael ei anfon i Goleg Chweched Dosbarth y Rhyl fel y gofynnwyd gan
y Cyngor Ymgynghorol ac roedd yr arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Cadarnhaodd
y byddai'n parhau i symud y mater ymlaen a cheisio cael aelodaeth gyfetholedig. Mewn ymateb
i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd yr AS bod ystafell weddi wedi ei neilltuo
ond heb ei defnyddio ac yn tueddu i gael ei defnyddio fel man storio. Awgrymodd
y Cadeirydd y dylid cysylltu’n uniongyrchol â Chyfarwyddwr y Coleg, Celia
Jones, ynglŷn â phryderon parhaus am y defnydd o'r ystafell. Tudalen 9 - eitem
rhif 6 Dadansoddiad o Adroddiadau Archwilio - Cadarnhaodd yr AS fod llythyrau
wedi eu hanfon at yr ysgolion a arolygwyd yn eu llongyfarch ar y nodweddion da
a nodwyd. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 10 Mehefin,
2013 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2012/13 (DRAFFT) PDF 115 KB Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno copi drafft o
Adroddiad Blynyddol CYSAG 2012/13 er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS)
Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Sir Ddinbych 2012/13 (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i’w cymeradwyo a oedd yn rhoi manylion am weithgareddau CYSAG yn
ystod y flwyddyn academaidd flaenorol gan gynnwys cyngor a roddwyd i'r awdurdod
addysg lleol ynghyd â materion lleol a chenedlaethol eraill. Gofynnodd yr AS am
gymeradwyaeth yr aelodau i’r adroddiad, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau, fel
cofnod cywir i'w ddosbarthu i’r derbynwyr hynny a restrir yn yr adroddiad. Roedd y diwygiadau canlynol wedi cael eu nodi - -
tudalennau
17 a 18 - cyfeiriadau at 'Sir y Fflint’ yn cael ei newid i ‘Sir Ddinbych' -
tudalen
21 – newid 'Arolygydd/ Ymgynghorydd' i 'Uwch Ymgynghorydd Dysgu' Roedd yr aelodau’n hapus i dderbyn yr adroddiad fel
cofnod cywir o waith CYSAG. PENDERFYNWYD:- (a) yn
amodol ar y diwygiadau uchod bod Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych ar
gyfer 2012 - 2013 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith CYSAG, a (b) gofyn
i'r Awdurdod Addysg Lleol drefnu cyfieithu, argraffu a dosbarthu’r adroddiad
i'r holl ysgolion a cholegau yn Sir Ddinbych a derbynwyr eraill fel sy'n
ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGIADAU PDF 90 KB Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn darparu dadansoddiad o
Adroddiadau Arolwg Estyn ar gyfer tair ysgol a arolygwyd rhwng mis Mawrth a mis
Mai 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
yn dadansoddi canlyniadau arolygiadau diweddar Estyn o ran darpariaeth Addysg
Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn tair ysgol rhwng mis Mawrth a mis Mai 2013.
Roedd arolygiadau wedi'u gwneud yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn; Ysgol
Esgob Morgan, Llanelwy ac Ysgol Stryd y Rhos CP Rhuthun. Darparodd yr AS yr aelodau â chrynodeb byr o'r
canfyddiadau'n ymwneud â phob ysgol ac roedd yr aelodau'n falch o nodi'r
sylwadau cadarnhaol ar draws yr ysgolion heb i unrhyw sylwadau negyddol ddod i
law. Roedd Mr Gavin Craigen wedi synnu na
chyfeiriwyd at weithio mewn partneriaeth ar draws y tair ysgol gan ei fod yn
ystyried hyn i fod yn nodwedd gadarnhaol ac arfer da o fewn yr ysgolion hynny.
Cadarnhaodd yr AS nad oedd yn nodwedd y
rhoddwyd sylwadau cyson arno. PENDERFYNWYD:- (a) Y
dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. (b) Bod
llythyr yn cael ei anfon i’r ysgolion a arolygwyd yn eu hysbysu bod eu
Hadroddiad Arolwg wedi cael ei ystyried a’u llongyfarch ar y nodweddion da a
nodwyd, a (c) gofyn
i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod. |
|
ADRODDIAD ESTYN AR ADDYSG GREFYDDOL MEWN YSGOLION UWCHRADD PDF 70 KB Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno adroddiad Estyn ar
safonau addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd
ym mis Mehefin 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE (AS) adroddiad Estyn ar safonau
addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn y sector ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd
ym mis Mehefin 2013 (dosbarthwyd yn flaenorol). Adroddodd hefyd am
fynychu Cynhadledd CCYSAGC Genedlaethol y diwrnod blaenorol lle trafodwyd
negeseuon allweddol o'r Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol
ynghyd â blaenoriaethau cenedlaethol Llythrennedd a Rhifedd trwy Addysg
Grefyddol. Y prif siaradwyr yn y Gynhadledd oedd - -
Mark Campion, Estyn - Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer
Addysg Grefyddol -
Richard Roberts, CfBT - Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Roedd sampl o 20 o ysgolion uwchradd wedi eu harolygu yng Nghymru fel rhan
o'r astudiaeth (roedd Ofsted wedi ymweld â 70 o ysgolion yn Lloegr) ac roedd yr
adroddiad yn cynnwys safonau yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, mae cyrhaeddiad
mewn astudiaethau crefyddol TGAU a chyfranogiad ac ymgysylltu mewn dysgu. Roedd hefyd yn
cynnwys ffactorau sy'n effeithio ar safonau gan gynnwys cynllunio'r cwricwlwm,
addysgu, asesu, arweinyddiaeth, gwella ansawdd a dylanwadau allanol. Tynnwyd sylw’r
Aelodau at y prif ganfyddiadau canlynol - ·
Roedd canlyniadau yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol iawn
gyda mwy o ddisgyblion yn ennill cymhwyster mewn AG nag mewn unrhyw bwnc
di-graidd eraill ·
Mae’r niferoedd sy’n cymryd y cwrs TGAU llawn a byr mewn
Astudiaethau Crefyddol wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf, gydag ychydig
dros chwarter y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs llawn ac ychydig dros
hanner y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs byr ·
Mae cyrhaeddiad wedi codi'n gyson yn y cwrs llawn ac yn
sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer pynciau eraill ac er bod cyrhaeddiad
wedi disgyn yn y cwrs byr mae perfformiad wedi aros yn gyson well na'r DU ·
Roedd y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched yn
ehangach yng Nghymru ar gyfer y ddau gwrs nag ar draws y DU ·
roedd y safonau'n dda yn y mwyafrif o ysgolion yng
Nghyfnod Allweddol 3, ond roedd ychydig o ysgolion lle'r oedd y safonau'n
anfoddhaol ac roedd argymhelliad i sicrhau bod tasgau yn ddigon heriol i
alluogi disgyblion mwy galluog i gyrraedd lefelau uwch - ers cyhoeddi'r
adroddiad darparwyd hyfforddiant ar gyfer athrawon Sir Ddinbych er mwyn gwella
cywirdeb asesiadau athrawon o lefelau disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 ·
Defnyddiwyd athrawon anarbenigol i addysgu AG a'r cwrs
byr ond anaml y cânt yn eu defnyddio i addysgu'r cwrs llawn - nid oedd athrawon
anarbenigol wedi cael effaith negyddol ar safonau yn y rhan fwyaf o ysgolion ·
Roedd hunan-arfarnu yn dda neu'n well mewn dim ond
lleiafrif o adrannau AG ac roedd yn argymhelliad i gryfhau hunan-arfarnu a
defnyddio data i nodi ble a beth i'w wella ·
Nodwyd bod diffyg cyfleoedd ar gyfer datblygiad
proffesiynol a rhwydweithiau dysgu a oedd yn golygu nad oedd digon o rannu
arfer da ac nad aethpwyd i'r afael â heriau yn effeithiol. Ymhelaethodd yr AS hefyd ar yr argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad. O ran argymhelliad Llywodraeth Cymru (LlC) R7 y dylid trin data cyrhaeddiad ar gyfer Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol yn yr un modd â phynciau di-graidd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb na fyddai'n briodol i fwrw ymlaen â'r argymhelliad yng ngoleuni'r adolygiad cwricwlwm parhaus ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Yr argymhelliad olaf A8 oedd bod LlC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CYSAG i wella'r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau cefnogi dysgu ar gyfer athrawon addysg grefyddol. Roedd rhwydweithiau wedi diflannu yn Sir Ddinbych ar ôl cael gwared ar y swyddi ymgynghorydd dysgu ac er mwyn symud ymlaen yr argymhelliad hwnnw, cynigiwyd y dylid anfon llythyr at Bennaeth Addysg Sir Ddinbych, Karen Evans, yn holi am gyfleoedd a chefnogaeth i athrawon AG ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
(a) Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a
gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2013 yng Nghaernarfon (copi wedi ei amgáu) (b) Trafod pwy fydd yn mynychu’r cyfarfod
nesaf a thrafod enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol (copi wedi ei amgáu)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (A) Cofnodion
CCYSAGC - 19 Mehefin, 2013 Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru
(CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2013 yng Nghaernarfon (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau. Soniodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE
(AS) ar gyflwyniad a wnaeth yn y cyfarfod ar y Marc Ansawdd AG (REQM) mewn
cyd-destun Cymreig penodol a oedd wedi cael ei dreialu yn ddiweddar mewn rhai
ysgolion.
Mae'r ysgolion
hynny wedi rhannu eu profiadau yn CCYSAGC a chadarnhaodd yr AS byddai hefyd yn
eu gwahodd i'r cyfarfod CYSAG nesaf pan fydd y REQM ar y rhaglen. Roedd CCYSAGC wedi cytuno i
ddarparu cyllid ar gyfer cyfieithu'r dogfennau. Mewn ymateb i gwestiynau, soniodd yr AS am y gwaith
parhaus i newid y meini prawf Saesneg ar gyfer y REQM i'r cyd-destun Cymreig. Y gost o wneud cais ar gyfer
yr asesiad REQM fyddai £450.00 fesul ysgol ond byddai ysgolion yn cael eu
hannog i edrych trwy'r deunyddiau hyd yn oed os nad oeddent yn gwneud cais am y
marc ansawdd. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2013 a nodi’r adroddiad
llafar gan yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE ar y Marc Ansawdd Addysg
Grefyddol. (B) cyfarfod
CCYSAGC - 27 Mawrth, 2014 Dywedodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai
cyfarfod nesaf CYSAG Cymru yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth 2014 yng Nghaerffili
a gofynnodd am gadarnhad o gynrychiolwyr i fod yn bresennol. Hefyd tynnodd sylw'r aelodau
at enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn rhoi gwybod bod dau enwebiad ar gyfer un swydd. Trafododd yr Aelodau bresenoldeb yn y cyfarfod nesaf ac
ystyried yr ymgeiswyr ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a - PENDERFYNWYD:- (a) Bod
y Cynghorydd Ann Davies a Philip Lord yn mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC ar 27
Mawrth 2014, ac (b) Bod
y Cynghorydd Michael Gray, Caerffili yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych ar
gyfer ei ethol ar Bwyllgor Gwaith CCYSAGC. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Bydd cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ar ddydd Gwener 14 Chwefror 2014 yn Siambr y
Cyngor, Ffordd Nant Hall, Prestatyn. Cofnodion: Bydd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ar
ddydd Gwener 14 Chwefror 2014 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Nant Hall, Prestatyn. Daeth y cyfarfod i ben am 3.20 pm. |