Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU Y TYNNWYD SYLW AELODAU IDDYNT Clywodd Aelodau fod – ·
Cadeirydd CYSAG, Maxine Bradshaw
wedi ymddiswyddo oherwydd ei hymrwymiadau eraill [Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr
Is-Gadeirydd, y Parchedig Martin Evans-Jones], ac roedd ·
Mrs. Elaine Wright yn bresennol am ei chyfarfod CYSAG
olaf cyn gadael ei sedd fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru. Diolchodd y cadeirydd i Mrs. Wright am ei
gwasanaeth ar y pwyllgor a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol |
|
ADLEWYRCHIAD TAWEL Dechreuodd y
cyfarfod gydag ychydig funudau o adlewyrchu tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Maxine Bradshaw,
Dominic Oakes, Lt. Siân Radford a Gavin Craigen. Derbyniwyd
ymddiheuriad hefyd gan Karen Evans, Pennaeth Addysg. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai aelodau ddatgan unrhyw
gysylltiad personol neu ragfarnus ag unrhyw fusnes y bwriedir ei ystyried yn y
cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o gysylltiad personol neu ragfarnol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Unrhyw eitem y dylid, ym marn
y Cadeirydd, ei hystyried yn y cyfarfod fel mater brys dan Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi’u codi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 174 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 1 Chwefror
2013 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2013 (a gafodd eu cylchredeg yn flaenorol). Materion yn Codi – Tudalen 11 –
Eitem Rhif 9 – Trefniadau i’r Dyfodol ar gyfer Monitro AG mewn ysgolion –
Dywedodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai athrawon o’r ysgol
beilot yn gwneud cyflwyniad ar y Marc Ansawdd AG i CCYSAGC ar 19 Mehefin
2013.Cytunodd yr Aelodau i dderbyn cyflwyniad gan yr AS ar y mater hwnnw yn eu
cyfarfod nesaf ar 2 Hydref 2013. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2013 fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH YMCD YN Y SECTOR ADDYSG BELLACH (AB) PDF 91 KB Derbyn cyflwyniad
gan Toni Coulton ar ddarpariaeth YMCD yn y sector addysg bellach a thrafod sut
gal CYSAG gefnogi Chweched Dosbarth a
Choleg Addysg Bellach y Rhyl. Cofnodion: Roedd yr angen am gaplaniaeth yn y sector addysg
bellach wedi’i godi o’r blaen mewn cyfarfod CCYSAGC. Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE
(AS) Toni Coulton a oedd wedi ei gwahodd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar
ddarpariaeth YMCD ac er mwyn i CYSAG drafod sut y gallai gefnogi Coleg Chweched
Dosbarth ac AB y Rhyl. Roedd Ms Coulton
yn gweithio gyda FESTIVE (Menter AB a Chweched Dosbarth), cynllun Cristnogol i
gefnogi’r rhai oedd yn gweithio yn y sector addysg bellach. Rhoddodd Ms.
Coulton gyflwyniad PowerPoint i CYSAG dan y teitl ‘Addysg Bellach a Lles’. Amlygodd y ffaith fod darpariaeth AG ac Addoli
ar y Cyd yn ofyniad statudol yn chweched dosbarth ysgolion ond nid mewn colegau
AB. Er ei bod yn cydnabod ei bod yn
annhebygol y byddai darpariaeth AG yn cael ei wneud yn bwnc statudol ar gyfer
pob person ifanc 16 – 19 oed, credai ei bod yn bosibl gwneud achos da dros AG
anstatudol mewn addysg bellach.
Trafododd y cyflwyniad – ·
anghysonderau
mewn darpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd statudol ac anstatudol ·
y
nifer o bobl ifanc 16 – 18 oed yn astudio mewn ysgolion a cholegau ynghyd â dadansoddiad
pellach o'r rhai mewn addysg a chyflogaeth neu’r tu allan i addysg a
chyflogaeth ·
sefydliadau
sy’n cyfrannu at gefnogi gwaith cenedlaethol a chynhyrchu adnoddau gan gynnwys
y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ffydd a Chred mewn Addysg Bellach; Dare 2
Engage, Tiwtorialau Ffydd ac AFAN (All Faiths and None) ·
gwahaniaethau
yn y canllawiau a gynhyrchir gan Ofsted yn Lloegr ac Estyn yng Nghymru gyda
chyfeiriad penodol at YMCD yn Lloegr ond dim ond cyffredinoliad a diffyg
arweiniad clir yng Nghymru ·
cyfeiriad
at nifer o adnoddau a chyhoeddiadau, gyda rhai ohonynt ar gael yn y cyfarfod i
fwrw golwg drostynt, gan gynnwys ‘Making Space for Faith’ a ‘Challenging
Voices’ ·
dyfyniadau
o ddangosyddion ansawdd Estyn sy’n dangos fod canolbwyntio ar ganlyniadau ar
gyfer Lles yn lle’r pwyslais ar ddarpariaeth. Wrth ystyried y
ffordd ymlaen, awgrymodd Ms. Coulton – ·
rhywfaint
o ymchwil – efallai gyda chaplaniaid colegau AB Cymru ·
ategu
at ‘Challenging Voices’ (sut i gynnig caplaniaeth mewn coleg) ·
gofyn
am ddisodli gwaith AB i fod yn rhan o’r CYSAG lleol ·
dangos
i Estyn y gall ac y dylai ffydd / cred fod yn y canllawiau fel yn Lloegr Yn olaf, tynnwyd
sylw aelodau at waith Joseph George, Gweithiwr Prosiect (cylchredwyd y manylion
yn y cyfarfod) a oedd wedi’i benodi i uno gwaith presennol yn seiliedig ar
ffydd a chyflwyno gwaith newydd i ardaloedd mewn colegau lle nad oedd unrhyw
Grwpiau Cristnogol ar hyn o bryd. Roedd
Joseph yn gweithio 16 awr yr wythnos: 8 yn Rhos, 4 yn Chweched y Rhyl a 4 ar
bob safle arall. Roedd y cyfleoedd a
ddarparwyd yn Chweched y Rhyl yn cynnwys tiwtorialau, ystafell ffydd a
chyfarfodydd staff a myfyrwyr. Mae aelodau’n
cefnogi’r ddarpariaeth yn y sector addysg bellach ac ymatebodd Ms. Coulton i
gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn – ·
roedd
ystafell ffydd wedi’i darparu yn Chweched y Rhyl ond roedd angen rhagor o waith
i fewnoli ei ddefnydd yn y coleg ·
cydnabuwyd
pwysigrwydd gwaith wedi’i gydgysylltu ac amlygwyd y perthnasau a ffurfiwyd gyda
cholegau addysg bellach a chlerigwyr yn yr ardal ·
roedd
angen codi ymwybyddiaeth am y ddarpariaeth / cefnogaeth sydd ar gael a rhoi
cyfle i’r rhai oedd yn dymuno ymgysylltu mewn lleoliad addysgol ·
dywedodd er bod Coleg Llysfasi yn
Sir Ddinbych roedd yn rhan o Goleg Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint lle'r oedd
darpariaeth yn gyfyngedig iawn · cydnabuwyd pwysigrwydd darparu gwybodaeth a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd cynnydd yn digwydd i’r perwyl hwnnw; yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGON PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu
AG (copi wedi ei amgáu) sy’n
dadansoddi canlyniadau arolygon a gynhaliwyd mewn pum ysgol rhwng mis Tachwedd
2012 a mis Ionawr 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS)
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau archwiliadau
diweddar gan Estyn o safbwynt darpariaeth AG ac addoli ar y cyd mewn pum ysgol
rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Ionawr 2013.
Cafwyd arolygiadau yn Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen; Ysgol Bryn
Hedydd, y Rhyl; Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Llywelyn, y Rhyl ac
Ysgol y Llys, Prestatyn. Rhoddodd yr AS grynodeb fer i aelodau o’r
canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol ac roedd aelodau’n falch i nodi fod
sylwadau positif wedi’u gwneud ar draws yr ysgolion ac nad oedd unrhyw sylwadau
negyddol wedi’u derbyn. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd yr AS nad oedd unrhyw reidrwydd dan y canllawiau i wneud
sylw ar Addoli ar y Cyd felly roedd y sylw positif ar gyfer Ysgol Gwernant i’r
perwyl hwnnw i’w groesawu’n fawr. Nododd
Aelodau’r gymysgedd o ysgolion a arolygwyd ar draws ardaloedd difreintiedig a
mwy cefnog a chyfeiriodd yr AS at bwysigrwydd sicrhau fod ysgolion yn
perfformio’n dda mewn datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol
(YMCD) i sicrhau gwell addysg holistig. PENDERFYNWYD – (a) derbyn
a nodi’r adroddiad;; (b) anfon
llythyr at yr ysgolion a arolygwyd yn rhoi gwybod iddynt fod Adroddiad eu
Harolwg wedi’i ystyried, eu llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd, a (c) gofyn
i’r Awdurdod Lleol ddosbarthu’r llythyrau uchod. |
|
CYSTADLEUAETH LLYTHRENNEDD A RHIFEDD AG PDF 88 KB Derbyn
diweddariad llafar gan yr Uwch
Ymgynghorydd Dysgu Addysg Grefyddol ar gystadleuaeth Llythrennedd a Rhifedd AG. Cofnodion: Rhoddodd yr
Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad llafar ar y Gystadleuaeth
Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer ysgolion i gynhyrchu adnoddau a fyddai’n
cynnwys Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol. Derbyniwyd un ar bymtheg o gynigion yn y
gystadleuaeth gan gynnwys cynigion gan dair ysgol o Sir Ddinbych - Clocaenog;
Esgob Morgan a Threfnant. Cytunwyd
dyfarnu gwobr o £150 i bob ysgol a gymerodd ran yn ogystal â thystysgrif yn
cadarnhau fod eu cynigion yn rai buddugol.
Er bod y diffyg cystadleuwyr yn siomedig roedd wedi caniatáu creu adnodd
haws ei drin a oedd yn cael ei gasglu at ei gilydd ar hyn o bryd ac yn debygol
o fod ar gael yn yr hydref. Wrth ymateb
i gwestiwn, dywedodd AS y byddai’r adnodd yn cael ei anfon at bob ysgol ac, er
mwyn codi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth, anogodd y rhai oedd yn gysylltiedig ag
ysgolion i dynnu sylw’r consortia ysgolion tuag ato. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad
llafar ar y Gystadleuaeth Rifedd a Llythrennedd AG. |
|
TAITH NODDEDIG Y CYNGOR ADDYSG GREFYDDOL PDF 60 KB Derbyn adroddiad
llafar gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu
Addysg Grefyddol ar Daith
Noddedig y Cyngor Addysg Grefyddol. Cofnodion: Rhoddodd yr
Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad llafar ar Daith Gerdded Noddedig
y Cyngor Addysg Grefyddol (CAG) a gynhaliwyd ar 11 Mai 2013 yn Llangollen i
gefnogi gwaith Cyngor Crefyddol Cymru a
Lloegr. Rhoddodd fanylion pellach
ar y digwyddiad a fu’n llwyddiant gydag oddeutu £500 yn cael ei godi hyd yn
hyn. Roedd modd derbyn rhagor o
wybodaeth am y digwyddiad codi arian ar wefan Cyngor AG Cymru a Lloegr http://religiouseducationcouncil.org.uk/about/sponsored-walk ac roedd yn dal yn bosibl rhoi cyfraniad
drwy Virgin Money Giving http://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-web/fundraiser/showFundraiserPage.action Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd yr
AS fod y Daith Gerdded yn debygol o ddatblygu i fod yn daith gerdded AG
flynyddol ond nid yn ddigwyddiad noddedig. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad
llafar ar Daith Gerdded Noddedig CAG. |
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU (CCYSAGC) PDF 72 KB (a)
Derbyn
cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2013 yng
Nghasnewydd (copi wedi ei amgáu), a (b)
Penderfynu
pwy fydd yn mynychu cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 19 Mehefin 2013 yng
Nghaernarfon a thrafod enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol (copi yn
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Cofnodion CCYSAGC – 22 Mawrth 2013 Cyflwynwyd cofnodion drafft Cymdeithas
CYSAG Cymru (CCYSAGC) a
gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar 22 Mawrth 2013 (a gylchredwyd yn flaenorol) er
gwybodaeth i aelodau. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd
ar 22 Mawrth 2013. (b) Cyfarfod CCYSAGC – 19 Mehefin 2013 Dywedodd yr
Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai’r cyfarfod CCYSAGC yn cael ei
gynnal ar 19 Mehefin 2013 yng Nghaernarfon a gofynnodd am gadarnhad am y
cynrychiolwyr fyddai’n bresennol.
Tynnodd sylw aelodau hefyd at yr enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y
Pwyllgor Gwaith (a gylchredwyd yn flaenorol) yn nodi fod wyth enwebiad wedi’u
derbyn ar gyfer y tair swydd. Trafododd Aelodau bresenoldeb yn y
cyfarfod nesaf a rhoddwyd ystyriaeth i gefndir a phrofiad yr ymgeiswyr a – PENDERFYNWYD y dylai’r
– (a) Parchedig Martin Evans-Jones, y Cynghorydd Arwel Roberts
(sesiwn y bore) a Philip Lord fynd i gyfarfod nesaf CCYSAGC ar 19 Mehefin, a
bod (b) Mark Brown, Mary Parry a Judy Harris yn derbyn pleidlais CYSAG
Sir Ddinbych i’w hethol i Bwyllgor Gwaith CCYSAGC. Dywedodd yr AS
ei bod yn bryd cael adolygiad o’r Maes Llafur Cytûn, ond yn sgil yr Adolygiad
Cwricwlwm oedd ar fin cael ei gyhoeddi, roedd CCYSAGC wedi rhyddhau datganiad
yn argymell ‘fod CYSAGau yn dechrau proses adolygu’r maes llafur cytûn a
fyddai’n parhau am yr ychydig flynyddoedd nesaf ac y dylai weithredu newidiadau
i’r maes llafur cytûn mewn ymateb i’r trefniadau i adolygu’r cwricwlwm ar ôl
mis Medi 2014’. Gan ystyried effaith
yr adolygiad cwricwlwm ac argymhelliad CCYSAGC - PENDERFYNWYD gohirio’r adolygiad o’r Maes Llafur
Cytûn nes derbyn canfyddiadau’r adolygiad cwricwlwm. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Bydd y cyfarfod
nesaf am 10.00 a.m. dydd Mercher, 2 Hydref 2013 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y
Sir, Rhuthun. Cofnodion: Byddai cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn cael ei gynnal am 10.00 a.m. ddydd Mercher 2 Hydref
2013 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |