Agenda and minutes
Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Ruthin
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
Cytunodd Sylvia Harris i weithredu fel Cadeirydd gan nad
oedd Maxine Bradshaw yn gallu bod yn y cyfarfod a chan nad oedd yna safle
is-gadeirydd. ADLEWYRCHIAD TAWEL Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o adlewyrchu
tawel. Darllenodd y Cadeirydd lythyr a dderbyniwyd gan yr Aelod
Cyfetholedig, Mairwenna Lloyd. Roedd
wedi ymddiswyddo yn ôl cyngor ei Doctoriaid oherwydd salwch. Mynegodd y Cadeirydd ei thristwch o dderbyn
ymddiswyddiad Aelod mor ymroddedig o’r Pwyllgor gan y bu Mairwenna’n aelod mor
amlwg o CYSAG am flynyddoedd lawer.
Roedd y Pwyllgor am i’w dymuniadau gorau gael eu cyfleu i
Mairwenna. Yr Uwch Gynghorydd Dysgu
Addysg Grefyddol i ysgrifennu at Mairwenna ar ran CYSAG. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn
unrhyw fusnes sydd wedi ei
nodi i’w ystyried yn y cyfarfod
hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol na niweidiol. |
|
MATERION BRYS YN ÔL CYTUNDEB Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid eu hystyried, ym marn
y Cadeirydd, yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Cofnodion: Gofynnodd yr Uwch
Gynghorydd Dysgu AG
(UGD:AG) am enwebiadau ar gyfer swydd is-gadeirydd. Roedd yn ofynnol
i’r enwebai fod yn gynrychiolwyr
enwad crefyddol gan fod y Cadeirydd,
Maxine Bradshaw, yn gynrychiolydd
o Gymdeithas yr Athrawon. Fe enwebwyd ac fe
eiliwyd y Parch. Martin Evans-Jones yn is-gadeirydd. PENDERFYNWYD penodi’r Parch. Martin Evans-Jones yn
is-gadeirydd CYSAG. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 131 KB I dderbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar Fehefin 29ain 2012 (copi’n amgaeedig) ac i ystyried unrhyw faterion sy’n codi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol
(CYSAG) a gynhaliwyd ar Fehefin 29ain, 2012 (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Cywirdeb – Tudalen 8 – dylai
ddarllen “Fe aeth oddeutu 450 o ddisgyblion…” nid “150”. Tudalen 9, Eitem
9 – dylai ddarllen Ysgol Esgob Morgan ac nid Ysgol Morgan. Materion yn Codi – Dim. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar Fehefin
29ain 2012 yn gofnod
cywir, yn amodol ar yr uchod. |
|
CYFLWYNIAD GAN GYMDEITHAS DYNEIDDWYR PRYDAIN PDF 75 KB Cyflwyniad gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain ar “Sut y gall Cymdeithas y Dyneiddwyr gefnogi gwaith CYSAG”. Cofnodion: Adroddodd yr Uwch
Gynghorydd Dysgu AG
(UGD:AG) bod Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain wedi ei gwahodd
i’r cyfarfod i roi cyflwyniad
â’r teitl “Sut y gall Cymdeithas y Dyneiddwyr gynorthwyo gwaith CYSAG” ond, hyd yma, ni
chafwyd unrhyw ymateb. Cadarnhaodd yr UGD:AG y byddid yn ail-drefnu’r eitem ar gyfer
cyfarfod yn y dyfodol. PENDERFYNWYD gwahodd Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain i gyfarfod CYSAG yn y dyfodol. |
|
DADANSODDIAD O ADRODDIADAU ARCHWILIO PDF 101 KB I ystyried adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Addysg Grefyddol (copi’n amgaeedig) yn dadansoddi canlyniadau archwiliadau diweddar o bedair ysgol a gynhaliwyd rhwng Mawrth 2012 a Mai 2012. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr UGD:AG Ddadansoddiad o’r Adroddiad Archwilio
(a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd pedair ysgol wedi cael Archwiliad Estyn yn haf 2012,
sef: Ø
Ysgol Hiraddug, Dyserth Ø
Ysgol Y Faenol, Bodelwyddan Ø
Ysgol Uwchradd Dinbych Ø
Ysgol Dinas Brân, Llangollen. Codwyd y mater, o
fewn yr adran brofiadau dysgu, fod Ysgol Y Faenol yn llai effeithiol yn
hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang.
Cadarnhaodd yr UGD:AG y byddai’n cysylltu ag Ysgol y Faenol i drafod pa
gymorth y gellid ei roi i gynorthwyo â’r mater yma. Rhoddwyd awgrym y gellid rhoi gwahoddiad i Swyddog Gwella
Ysgolion Ysgol y Faenol ddod i gyfarfod CYSAG yn y dyfodol i gael
diweddariad. Cytunwyd i hyn. Codwyd mater
pellach ynglŷn ag Ysgol Dinas Brân gan ei fod wedi ei ddatgan o fewn yr
adroddiad nad oedd y rhan fwyaf o wersi tiwtor dosbarth a chynulliadau yn
cyfarfod â’r gofyniad statudol ar gyfer y weithred ddyddiol o addoli
cyfunol. Esboniodd yr UGD:AG ei fod wedi
ymweld ag Ysgol Dinas Bran a byddai’n mynd i gyfarfod y Gymuned Dysgu
Proffesiynol nesaf i drafod sut y gellid unioni hyn ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, roedd yr un broblem wedi ei
hadrodd yn dilyn archwiliad blaenorol Estyn.
Yn dilyn yr adroddiad blaenorol, roedd swm mawr o waith wedi ei wneud
efo’r ysgol ond roedd cynnal cysondeb dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn
anodd. PENDERFYNWYD :-
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DDRAFFT CYSAG 2011-12 PDF 103 KB I ystyried adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Addysg Grefyddol (copi’n amgaeedig) i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Gynghorydd Dysgu AG (UGD:AG) yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol). Adroddodd UGD:AG ei bod yn ofyniad statudol i CYSAG
gynhyrchu Adroddiad Blynyddol o’i waith, ac roedd yr Adroddiad Blynyddol i’w
roi ar gael i’r Adran Addysg a Sgiliau cyn Rhagfyr 31ain 2012. Mae’n rhaid i aelodau ystyried mai’r
adroddiad drafft i law oedd ar gyfer 2011-2012 ac nid y flwyddyn gyfredol. Gofynnodd yr UGD:AG am i’r adroddiad
blynyddol gael ei wirio o ran
cywirdeb. Y diwygiadau a oedd yn ofynnol
oedd y canlynol:- Ø
Tudalen 22
3bii – dylai hyn ddarllen “AdAS” nid APADGOS Ø
Tudalen 24 APADGOS i’w ddiwygio i AdAS. Ø
Tudalen 25 – ar waelod y dudalen roedd yna
ddyblygu %. Ø
Tudalen
26 - Dylai’r ail linell o’r top ddarllen “mwyafrif y disgyblion yn derbyn…..”
dileu’r gair “i”. Ø
Tudalen 31 – 3 b) ii) dylai hyn ddarllen AdAS
nid APADGOS. Ø
Tudalen
32 - Cynrychioli Enwadau Crefyddol - mae Methodistiaid â “Heulwen Ellis” fel yr
aelod ond dylai ddarllen “Y Parch. Martin Evans-Jones” gan iddo gymryd drosodd
gan Heulwen oddeutu 2 flynedd ynghynt.
Cadarnhaodd yr UGD:AG y byddai’n gwirio hyn. Codwyd y mater
ynglŷn â nifer y seddi aelodaeth gwag.
Dywedodd UGD:AG y bu yna anawsterau gyda chymryd y lleoedd
aelodaeth. Awgrymwyd y gellid cysylltu â
Vicky Barlow, Prifathro newydd Ysgol Santes Ffraid, Dinbych i fod yn aelod o
CYSAG a hefyd Isobel Barros-Curtis, Prifathro Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych
ar ran y Cymdeithasau Athrawon. PENDERFYNWYD :
|
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar Fehefin 29ain 2012 (i ddilyn).
Cofnodion: Fe ymddiheurodd yr Uwch Gynghorydd Dysgu AG i aelodau
CYSAG am nad oedd cofnodion cyfarfod blaenorol CCYSAGauC wedi eu derbyn
hyd yma, ond fe fydden
nhw ar gael
yng nghyfarfod nesaf CYSAG. Rhoddodd yr UGD:AG adroddiad
llafar. Cynhaliwyd y CYSAGauC blaenorol yng Nghanolfan
Busnes Conwy. Rhoddodd Lesley
Frances o Ganolfan y Santes
Fair gyflwyniad.
Roedd y Santes Fair wedi gwneud prosiect
ar ddigwyddiad y Gadeirlan a gynhaliwyd y Nadolig diwethaf ac wedi nodi adborth
gan ddisgyblion am eu profiad yn
y Gadeirlan. Dangoswyd fod y digwyddiad yma wedi cael effaith
bositif ar y rheiny a oedd wedi
bod yn bresennol
yn enwedig ynglŷn â chrefydd
Nadolig. Yn ei gyflwyniad roedd gan Lesley dystiolaeth gadarn yn dangos
cymaint yr oedd AG yn gwella safonau
mewn ysgolion. Roedd yna rai pobl
a oedd â diddordeb gwirioneddol a phryder ynglŷn ag AG yn
symud ymlaen ac yr oedd yn gam
positif fod AG yn cael ei
gynghori gan unigolion mor wybodus. Dywedodd yr UGD:AG fod y cyflwyniad yn un eithriadol bositif. PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad llafar.
|
|
LLYTHRENNEDD/RHIFEDD O FEWN CYSTADLEUAETH AG I YSGOLION PDF 88 KB I dderbyn diweddariad geiriol gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu AG ynglŷn â chystadleuaeth i ysgolion i gynhyrchu adnoddau a fydd yn cynnwys Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 a/neu Gyfnod Allweddol 3. Cofnodion: Rhoddodd yr UGD:AG adroddiad
llafar yn hysbysu Aelodau o Lythrennedd/Rhifedd o fewn cystadleuaeth AG i ysgolion. Dywedodd yr UGD:AG wrth y Pwyllgor y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf
i ddileu dyddiad cau’r gystadleuaeth
llythrennedd a rhifedd tan ddiwedd y tymor yma. Roedd hynny oherwydd
mai dim ond un cais a dderbyniwyd cyn hynny. Cytunwyd y byddid yn dod
â’r 5 cais uchaf i’r cyfarfod
nesaf. UGD:AG i anfon e-bost
at athrawon yn eu hannog i
anfon cais i mewn. Crybwyllwyd, yn
hytrach na chael cystadleuaeth, y gellid ei hyrwyddo
o fewn model gwahanol e.e. ymarfer rhannu. Cadarnhaodd yr
UGD:AG y rhoddwyd cynnig ar hyn yn
y gorffennol. Gobeithiwyd y byddai’r symbyliad o £200 o wobr yn annog mwy
o geisiadau. Cadarnhaodd UGD:AG y byddai’n gwirio hefyd a oedd e-byst a anfonwyd
i ysgolion yn cael eu
dargyfeirio i’r Adrannau perthnasol. PENDERFYNWYD bod yr UGD:AG i hysbysu ysgolion o’r gystadleuaeth. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Fe gynhelir cyfarfod nesaf CYSGA Sir Ddinbych am 10.00 a.m. ar ddydd Gwener, Chwefror 1af 2013 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Plas Nant, Prestatyn. Cofnodion: Y cyfarfod nesaf
i’w gynnal ar ddydd Gwener,
Chwefror 1af 2013 am 10.00 a.m. Lleoliad – Siambr
y Cyngor, Ffordd Plas Nant, Prestatyn. Wrth gau’r
cyfarfod diolchodd y Cadeirydd i bawb
am eu presenoldeb. Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 a.m. |