Agenda and minutes
Lleoliad: Council Chamber, Russell House, Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator
Rhif | Eitem |
---|---|
MYFYRDOD TAWEL Dechreuodd y cyfarfod gydag
ychydig funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
ddatganiad o fuddiannau personol neu fuddiannau
a oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 145 KB Derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod CYSAG
Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2012 (copi’n amgaeëdig) ac ystyried unrhyw faterion sy’n codi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog
ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 24ain Chwefror 2012 (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Materion yn Codi - Tudalen 6 – Eitem Rhif 8 – Cystadleuaeth
Llythrennedd/Rhifedd mewn AG ar gyfer ysgolion. Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG bod cais i
Ymddiriedolaeth Elusennol Archesgob Rice Jones am gyllid grant i efnogi’r
gystadleuaeth wedi ei wrthod. Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd y Byddai Cyngor
Sir Ddinbych yn ariannu’r gystadleuaeth. Tudalen 7 – Cadarnhaodd Mrs Mairwenna Lloyd bod llythyrau o
werthfawrogiad wedi eu derbyn gan aelodau hir eu gwasanaeth a oedd wedi ymddeol
o CYSAG. Anfonwyd y llythyrau yn diolch i’r unigolion am eu hymroddiad a’u
gwasanaeth gwerthfawr dros y blynyddoedd. Tudalen 8 – Eitem Rhif 9 – Archwiliadau Newydd Estyn a’r
Ffocws ar Werthuso Ysgolion. Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysg AG bod gwahoddiad eto
i’w roddi i ysgol a oedd wedi bod yn destun archwiliad gan Estyn dan y
fframwaith newydd i fynychu cyfarfod CYSAG yn y dyfodol. Byddai mynychu
cyfarfod CYSAG yn galluogi i’r ysgol adrodd am y profiad a sut yr oedd
Arolygwyr Estyn wedi ystyried AG. Tudalen 9 – Eitem Rhif 10 – Enwebiad i Bwyllgor Gwaith
Cymdeithas CYSAG Cymru. Enwebwyd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG a’i dderbyn ar
Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAG Cymru. Esboniodd yr Uwch Ymgynghorydd bod 22 Awdurdod Lleol yng
Nghymru a bod cynrychiolwyr o bob Awdurdod Lleol yn cyfarfod deirgwaith y
flwyddyn yng nghyfarfod y CCYSAGC. Mae aelodau gweithredol CCYSAGC yn cyfarfod
gyda chorff ehangach ledled y DU. PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 24ain Chwefror 2012 fel
cofnod cywir. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU ARCHWILIO PDF 103 KB Ystyried adroddiad
gan yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG (copi'n amgaeëdig) yn dadansoddi canlyniadau
archwiliadau chwe ysgol a ymgymerwyd rhwng Tachwedd 2011 a Mawrth 2012. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch
Ymgynghorydd Addysgu AG Adroddiad Dadansoddi Archwiliad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Rhoddodd yr Ymgynghorydd
grynodeb o’r adroddiad a gwnaeth sylw at y ffaith bod adroddiad Estyn
yn cyfeirio at AG a dderbyniwyd yn ddiolchgar. Cyflwynodd Mairwenna
Lloyd ei gwerthfawrogiad i’r Uwch Ymgynghorydd
am dynnu’r wybodaeth o Adroddiad Estyn i’r Pwyllgor ei
thrafod. Hefyd, argymhellodd bod llythyrau llongyfarch yn cael eu
hanfon at y chwe ysgol am eu gwaith
rhagorol. Nododd Sylvia Harris y ffaith bod gan
Ysgol Tir Morfa ddsgyblion gydag ananwsterau dysgu difrifol a dylid anfon llongyfarchiadau
arbennig i Ysgol Tir Morfa
yn dilyn y sylwadau yn yr Adroddiad. PENDERFYNWYD – (a)
Derbyn a chydnabod yr adroddiad; (b)
Anfon llythyr i bob ysgol
yn eu hysbysu
bod eu Hadroddiad
Archwilio wedi ei ystyried, yn
eu llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd, ac yn eu hatgoffa
o wasanaethau’r Uwch Ymgynghorydd Addysgu a’r Swyddogion Gwella Ysgolion mewn perthynas ag unrhyw feysydd
lle gellid gwella neu faterion
allweddol a oedd angen sylw; (c)
Gofyn i’r AALl ddosbarthu’r
llythyrau i’r ysgolion da sylw. |
|
ADOLYGIADAU MONITRO A CHEFNOGI PDF 91 KB Derbyn adroddiad
gan yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG (copi’n amgaeëdig) ar ddarparu Addysg
Grefyddol yng nghonsortiwm ysgolion Ysgol Uwchradd Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG yr adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Ymwelodd yr Uwch Ymgynghorydd â 2 Ysgol Uwchradd, ynghyd â’u
Hysgolion Bwydo Cynradd, bob blwyddyn ar ran y Cyngor Sir i arsylwi gwersi.
Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Dinbych ac
Ysgolion Cynradd Bwydo. Hysbysodd yr Uwch Ymgynghorydd y Pwyllgor bod Sesiwn Gyda’r
Nos wedi ei gynnal a bod rhyw 55 o athrawon wedi mynychu, a oedd yn nifer dda
iawn. Roedd cyflwyno data yn yr adroddiad yn galluogi i’r Uwch Ymgynghorydd
fonitro cynnydd ac eistedd gydag athrawon ac awgrymu dulliau amgen o weithio os
oedd angen. Ar y pwnt hwn
(2.45pm) gadawodd y Cynghorydd Arwyl Roberts y cyfarfod. Rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd grynodeb o’r adroddiad. Diolchodd Mairwenna Lloyd ar ran CYSAG i’r Uwch Ymgynghorydd
Addysgu AG am y gwaith caled o drefnu’r sesiwn gyda’r nos. Gofynnodd y Cynghorydd Margaret McCarroll am gael nodi ei
bod yn hynod falch gyda gwaith CYSAG ac er iddi fod yn llywodraethwr ysgol am
nifer o flynyddoedd, nid oedd yn ymwybodol o rôl CYSAG. Hysbysodd Mairwenna Lloyd y Cynghorydd McCarroll nad oedd yr
Uwch Ymgyngorydd, ers 2007/2008, bellach yn cael mynychu Ysgolion Pabyddol gan
mai’r ethos Babyddol oedd bod ganddynt eu cynghorwyr eu hunain. Dywedodd y Cynghorwyr Bill Tasker a Margaret McCarroll y
buasent yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd Llywodraethwyr ac esbonio am CYSAG a’r gwaith
rhagorol mae’n ei wneud. Dymunodd Cate Harmsworth hysbysu’r cyfarfod pa mor galed y
mae athrawon yn gweithio. Roedd gan athrawon ond 2.5 awr o amser rhydd yr
wythnos i ddelio â chynlluniau gwersi ac ati. Roedd athrawon a fynychodd y
sesiwn gyda’r nos wedi gwneud hynny yn eu hamser eu hunain ac yn ddi-dâl, a
oedd yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol. PENDERFYNWYD – (a)
Derbyn
a chydnabod yr adroddiad; (b)
Cytuno
bod llythyrau yn cael eu hanfon i’r ysgolion gyda chopi o’r adroddiad llawn,
fel y’i cyflwynwyd i gyfarfod CYSAG; (c)
Gofyn
i’r AALl ddosbarthu’r llythyrau i’r ysgolion dan sylw. |
|
CYMDEITHAS CYSAG CYMRU PDF 103 KB (a) Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2012 yng Ngheredigion (copi’n amgaeëdig) (b) Ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar fater
cynrychiolaeth gan Gymdeithas Ddyneiddwyr Prydain ar GYSAGau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 7(a) Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu
AG gofnodion cyfarfod diwethaf CCYSAGC (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cyfeiriodd yr Uwch Ymgynghorydd at dudalen 35, Eitem rhif 10
yn y cofnodion – Cyflwyniad Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol
(PYCAG): Dysgu y tu allan i’r dosbarth. Aeth rhyw 150 o ddisgyblion trwy Eglwys
Gadeiriol Bangor ar ddiwrnod y cyflwyniad. Ymgymerodd Canolfan y Santes Fair â
phrosiect ymchwil, gan gyflwyno holiaduron cyn ac ar ôl y profiad. Y canlyniad
oedd bod Addysg Grefyddol y plant wedi elwa o’r profiad. Gofynnodd Mairwenna Lloyd i’r Uwch Ymgynghorydd a fyddai’n
atgynhyrchu diwrnod cyflwyno tebyg y Nadolig nesaf yn Sir Ddinbych. Cadarnhaodd
yr Uwch Ymgynghorydd y byddai’n cysylltu ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roedd
Eglwys Gadeiriol Bangor wedi gofyn am ddiwrnod cyflwyno tebyg eto ar gyfer y
Nadolig nesaf. 7(b) Esboniodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu
AG bod CYSAG yn cynnwys aelodau lleol y Cyngor, yr Eglwys, athrawon a chyrff
crefyddol eraill. Roedd Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain (BHA) wedi anfon cais i
un o’u haelodau gael bod yn gynrychiolydd corff crefyddol ar CYSAG. Ymateb
cyfreithiol CCYSAGC oedd na allai cynrychiolydd y BHA fod yn aelod Rhan A ond
gallai gael ei Gyfethol, ac felly ni allai bleidleisio. Ar hyn o bryd, dim ond
nifer fechan o bobl sy’n aelodau’r BHA yn Sir Ddinbych. Cafwyd trafodaeth fer a chytunwyd gwahodd Aelod o’r BHA i
gyfarfod CYSAG i gyflwyno’r rheswm pam y dylai fod yn Aelod a hefyd beth y
byddai cynrychiolydd y BHA yn ei gyfrannu i CYSAG. PENDERFYNWYD – (a)
Derbyn
cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth 2012 a’u cymeradwyo fel
cofnod cywir; (b)
Bod yr
Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG yn cysylltu ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy
ynglŷn â diwrnod cyflwyno ar gyfer disgyblion y Nadolig nesaf (c)
Bod yr
Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG yn gwahodd aelod o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain i
roddi cyflwyniad i gyfarfod CYSAG yn esbonio pam y maent eisiau bod yn Aelod
a’r hyn y byddant yn ei gyfrannu i CYSAG. |
|
Derbyn adroddiad
llafar gan yr Uwch Ymgynghorydd Addysg AG ar ddefnyddio
gwefan Moodle i ysgolion gyrchu
adnoddau AG. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch
Ymgynghorydd Addysgu AG adroddiad llafar i’r aelodau ar
ddefnyddio Gwefan Moodle i ysgolion
gyrchu adnoddau AG. Yn Sir y Fflint, roedd nifer o ddogfennau
wedi eu hychwanegu
i Moodle i ysgolion eu
defnyddio. Roedd yr Uwch Ymgyngorydd wedi trefnu lle
ar Moodle Sir Ddinbych a byddai’r holl adnoddau ar
gael erbyn diwedd yr wythnos ganlynol. Roedd ysgolion y medru defnyddio safle Moodle gyda
chyfrineiriau ac yn medru mynd ar
safle Moodle y Cyngor. Byddai’r Uwch Ymgynghorydd yn ymymryd â
diweddariadau rheolaidd ar safle Moodle. PENDERFYNWYD bod yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG yn diweddaru
gwefan Moodle gydag adnoddau AG perthnasol i ysgolion
eu defnyddio. |
|
CYSTADLEUAETH LLYTHRENNEDD/RHIFEDD MEWN AG AR GYFER YSGOLION PDF 90 KB Derbyn diweddariad
llafar gan yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG ar y gystadleuaeth i ysgolion gynhyrchu adnoddau a fydd yn cynnwys Llythrennedd
a Rhifedd mewn Addysg Grefydol Cyfnod Allweddol 2 a/neu Gyfnod Allweddol
3. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG adroddiad llafar
yn hysbysu’r Aelodau o’r gystadleuaeth Llythrennedd/Rhifedd mewn AG ar gyfer
ysgolion. Darllennodd lythyr a
dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth Archesgob Rice Jones yn gwrthod y cais am
ariannu. Mae Cyngor Sir Ddinbych ers hynny wedi cynnig ariannu’r gystadleuaeth. Esboniodd Sylvia Harris ei bod yn Ymddiriedolwr
Ymddiriedolaeth Archesgob Rice Jones, a oedd yn elusen bychan iawn, a
chyfyngiad uchaf eu cyllid oedd £250. Yn
anffodus, ni ellid rhoi hyn i’r gystadleuaeth, ond roedd yr Ymddiriedolaeth yn
cefnogi’r gystadleuaeth yn gyfan-gwbl. Hysbysodd yr Uwch Ymgynghorydd y Pwyllgor mai’r wobr oedd
£200 i’r cynnig buddugol. Yn wreiddiol roedd y dyddiad cau cyn hanner tymor,
ond dim ond un cais a dderbyniwyd, gan Ysgol Morgan yn Sir Ddinbych. Awgrymodd
yr Uwch Ymgynghorydd ymestyn y dyddiad cau hyd at hanner tymor mis Hydref i
annog mwy o geisiadau. Cytunodd Mairwenna Lloyd gyda hyn ac awgrymu bod yr Uwch
Ymgynghorydd yn cysylltu ag Ysgol Morgan
i esbonio bod y dyddiad wedi ei ymestyn, ac y gallent dynnu’r cais presennol yn
ôl a gwneud cais newydd os hoffent; eu penderfyniad hwy fyddai hynny.Eiliodd y
Cynghorydd Margaret McCarroll yr argymhelliad hwn. Esboniodd yr Uwch Ymgymghorydd mai dwy gystadleuaeth oedd
yna, un ar gyfer llythrennedd ac un ar gyfer rhifedd. PENDERFYNWYD – (a)
Bod yr
Uwch Ymgynghorydd Addysgu AG yn hysbysu ysgolion mai dyddiad cau’r
gystadleuaeth nawr oedd hanner tymor mis Hydref (b)
Bod yr
Uwch Ymynghorydd yn cysylltu ag Ysgol Morgan yn eu hysbysu bod y dyddiad cau
wedi ei ymestyn ac yn gofyn a hoffent dynnu eu cais yn ôl a chyflwyno cais
newydd, neu a oeddynt yn fodlon gyda’r cais presennol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych am
10.00a.m. ar ddydd Gwener 5 Hydref 2012 yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Cyfarfod nesaf
i’w gynnal ar ddydd Gwener
5ed Hydref 2012 am 10.00am Lleoliad – Siambr
y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun. Wrth ddwyn
y cyfarfod i ben, diolchodd y Cadeirydd i bawb
am eu presenoldeb. Daeth y cyfarfod i ben am 3.40pm |