Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Parchedig Brian Jones, Dominic Oakes, Tania ap Siôn a Susan Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwriadu cynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo – Aelodaeth CYSAG Sir Ddinbych.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Jennie Downes yn mynychu ei chyfarfod olaf fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru, ac y byddai Louise Williams yn cynrychioli Esgobaeth Llanelwy o hynny ymlaen. O ystyried cyfranogiad Jennie o ran Addysg Grefyddol ar draws y rhanbarth, roedd wedi gofyn a fyddai modd ei chyfethol i’r CYSAG. Eglurodd Jennie ei bod wedi newid swydd fel Swyddog Addysg gydag Esgobaeth Llanelwy ac ymchwil ôl-raddedig gyda Phrifysgol Bangor mewn perthynas â chyfieithwyr y Beibl Cymraeg. O ystyried y manteision o gadw Jennie fel aelod ar y CYSAG, bu i’r Cadeirydd gynnig ei phenodi fel aelod cyfetholedig.

 

Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD bod Jennie Downes yn cael ei phenodi fel aelod cyfetholedig o’r CYSAG.

 

Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch y grwpiau cynrychiadol ar y CYSAG ac fe nodwyd fod yna nifer o swyddi athrawon gwag ar hyn o bryd. Cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Prif Reolwr Addysg, er mwyn ceisio llenwi’r seddi gwag hynny.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 402 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 15 Hyref 2024 (copi wedi’i gynnwys).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Materion yn Codi – Tudalen 12: Eitem 9 Cyfarfod CCYSAGC 14 Tachwedd 2024 – Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y cyfarfod ac felly nad oedd wedi mynychu. Ymddiheurodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg nad oedd y wybodaeth ynghylch y cyfarfod wedi cael ei rhannu, a gofynnodd i unrhyw gynrychiolwyr gytuno yn y dyfodol i gysylltu naill ai gyda hi a/neu’r Gweinyddwr Pwyllgorau, a fyddai’n trefnu i’r manylion angenrheidiol gael eu hanfon ymlaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG, SAFBWYNT UWCHRADD - SARAH GRIFFITHS (PENNAETH CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG, YSGOL DINAS BRÂN) pdf eicon PDF 79 KB

Derbyn cyflwyniad ar y ddarpariaeth AG a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgol Dinas Brân.

 

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Sarah Griffiths, Pennaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen ynghylch sut roedd Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei gynllunio a’i gyflwyno yn yr ysgol, yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru 2022.

 

Cafodd yr elfennau canlynol eu cynnwys yn y cyflwyniad cynhwysfawr –

 

·       Blwyddyn 7 – ymhlith y meysydd y rhoddir sylw iddynt mae beth yw cred a grym cred, ac yna symudir ymlaen at Gynefin - beth ydyw, tarddiadau diwylliannol crefydd, crefyddau yn yr ardal leol a mannau addoli, cyn symud ymlaen at drychinebau, a rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr ddewis canolbwyntio ar ‘Ddrygioni’ neu ‘Garedigrwydd’.

·       Blwyddyn 8 – ymhlith y meysydd y rhoddir sylw iddynt mae ‘Darganfod’ ar ddechrau’r flwyddyn, gan ganolbwyntio ar greadigaeth, gwyddoniaeth a chrefydd, stiwardiaeth a hawliau anifeiliaid, cyn symud ymlaen at ‘Newid’ gan gynnwys materion amgylcheddol, datblygiadau technolegol, a chanolbwyntio’n fanwl ar un grefydd a ddewiswyd gan y myfyrwyr.

·       Blwyddyn 9 – ymhlith y meysydd y rhoddir sylw iddynt mae ‘Gwrthdaro’, gan gynnwys bod â ffydd, sancteiddrwydd bywyd, rhyfel a marwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth, cyn symud ymlaen at ‘A yw’n deg?’ gan gynnwys anghyfiawnder a hawliau cyfartal.

·       Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn gwersi Saesneg:  Blwyddyn 7 – Hunaniaeth, Diwylliant a Ffoaduriaid; Blwyddyn 8 – ‘The Boy in the Striped Pyjamas (prosiect yr Holocost) a ‘Noughts and Crosses’ (arwahanu a hiliaeth); Blwyddyn 9 – Animal Farm (comiwnyddiaeth, meddylfryd torfol a gorthrwm) ac ysgrifennu safbwyntiau yn y byd digidol (bod yn garedig ar-lein, ac ati).

·       Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn gwersi Addysg Gorfforol: cysylltiadau rhwng gwyliau Cristnogol a phêl-droed; effaith yr Eglwys ar bêl-droed; Cristnogaeth gyhyrog; materion moesegol a chwaraeon ar draws y byd.

·       Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth a Sw Caer: Stiwardiaeth a Chynefin; helpu i achub Cerddinen Wen Llangollen sydd mewn perygl difrifol; myfyrwyr yn helpu i blannu coed ifanc o amgylch yr ardal leol.

·       Ymhlith cynlluniau sydd ar y gweill mae Cystadleuaeth Barddoniaeth Nadolig a phrosiect gwyddoniaeth yn ymwneud ag Ystâd Rhug ynghylch cysylltiadau posibl rhwng cynaliadwyedd a chrefydd, gwerthoedd a moeseg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms. Griffiths am y cyflwyniad diddorol, llawn gwybodaeth a chafwyd ymateb da iddo gan yr aelodau, a oedd yn cydnabod y gwaith caled o ran cynllunio a gweithredu’r elfen Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan gynnwys cysylltiadau â phynciau eraill.   Trafododd yr aelodau yr holl gwestiynau a godwyd mewn perthynas ag addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a sut y mae wedi’i blethu ar draws yr ysgol mewn gwahanol feysydd pwnc. Mewn ymateb i’r cwestiynau, dywedodd Ms. Griffiths ei bod yn credu mai'r prif newid o Addysg Grefyddol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, oedd y ffocws ar fyfyrwyr yn achos Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyda llawer mwy o arweiniad gan fyfyrwyr, gan ganolbwyntio ar ddyfnder yn hytrach nag ehangder, a phwyslais mwy lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y cyflwyniad yn cael ei dderbyn a’i nodi.

 

 

6.

CYFLEOEDD CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG AC ADDYSG GREFYDDOL GORFODOL I FLYNYDDOEDD 10 AC 11 pdf eicon PDF 76 KB

Derbyn cyflwyniad ynghylch y cyfleoedd i ysgolion ddarparu Addysg Grefyddol orfodol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr eitem, a’r bwriad oedd rhoi cyflwyniad i aelodau ac ysgolion ar y cyfleoedd y gallai ysgolion eu defnyddio i ddarparu’r elfen orfodol o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11.

 

Dosbarthwyd y cyflwyniad gyda’r rhaglen a bu i’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg arwain yr aelodau drwy'r cyflwyniad PowerPoint, a oedd yn cyfeirio at y canlynol –

 

·       roedd newid o Addysg Grefyddol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn adlewyrchu cynnydd yng nghwmpas y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y rhoddir sylw iddynt drwy’r disgyblaethau amrywiol.

·       statws gorfodol yr elfen Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer plant rhwng 3 – 16 oed a’r ddeddfwriaeth gryno ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a oedd yn ymgorffori ‘argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol’; dileu hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi Addysg Grefyddol mewn ysgolion sy’n cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru o 2022; ysgolion yn rhoi ystyriaeth i’r Maes Llafur Cytûn a'r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; Gofyniad Datblygiad Ysbrydol y gellid ei ddatblygu ym mhob maes o'r cwricwlwm, ac nid Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg neu’r Dyniaethau yn unig.

·       dolenni cyswllt i dudalen lanio’r Cwricwlwm i Gymru, Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau, tudalen Dylunio eich Cwricwlwm a Chanllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       cafodd y Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu llunio i ategu’r Cwricwlwm i Gymru a cheir adrannau sy’n cyfeirio at y themâu trawsbynciol, sgiliau trawsgwricwlaidd, sgiliau hanfodol a datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, ynghyd â datblygiad ysbrydol, cysyniadau pellach sy’n berthnasol i ddisgyblaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r Lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       byddai'r lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddeall agweddau arwyddocaol o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i gefnogi datblygiad y cwricwlwm.

·       mae’n rhaid i bob ysgol a gynhelir roi ystyriaeth i’r maes llafur cytûn a’r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a rhannwyd enghreifftiau o sut y gellid cynnwys hyn yn natganiad rhesymeg ysgol mewn ysgolion sirol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig.

·       dewisiadau cynllunio posibl manwl ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.

 

Wrth ddod â’r cyflwyniad i ben, pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ei fod yn bwnc unigryw a phwysig ar y cwricwlwm, yn ogystal ag ar draws meysydd pwnc eraill, megis gwyddoniaeth a thechnoleg, a pha mor bwysig oedd sicrhau na chaiff gwybodaeth ei chamddefnyddio, ac yn hytrach ysgogi rhinweddau gorau disgyblion o ran dysgu a datrys problemau.

 

Bu i’r aelodau ymateb yn dda i’r cyflwyniad a diolchwyd i’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am ei waith, a myfyriodd yr aelodau ar eu profiadau eu hunain o ran dysgu ac ysbrydolrwydd. Cafwyd rhywfaint o ddadl ynghylch cyfrifoldebau ysgolion o ran darparu gofynion gorfodol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a sicrhau bod y ddarpariaeth yn un ystyrlon a chyson ar gyfer pob dysgwr.   Adroddodd y Prif Reolwr Addysg ar Weithgor yn cynnwys dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol o saith ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych, a gefnogir gan arweinydd craidd ysgolion uwchradd GwE a Rheolwr Ymgysylltu a Dilyniant y Cyngor ar ddylunio eu cwricwlwm newydd ar gyfer mis Medi, yn unol â’r disgwyliadau newydd a’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd y dasg o fodloni holl ofynion y cwricwlwm o fewn amserlen yr ysgol yn her sylweddol, ond bu i’r gwaith brofi’n fuddiol.

 

Trafododd y Cadeirydd gyda'r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg pa wybodaeth bellach y gellid ei darparu i’r CYSAG ynghylch darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion uwchradd ar draws pob grŵp blwyddyn, a’r hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

POLISÏAU ENGHREIFFTIOL AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG AC ADDOLI AR Y CYD pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried a chymeradwyo Polisïau Enghreifftiol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addoli ar y Cyd (copïau ynghlwm) y gall ysgolion Sir Ddinbych eu mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod ysgolion yn dal i ddatblygu eu cwricwlwm yng ngoleuni’r Cwricwlwm i Gymru a gofynnodd i’r CYSAG ystyried a chymeradwyo enghreifftiau o Bolisïau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addoli ar y Cyd (sydd wedi’u hatodi i’r adroddiad) y gallai ysgolion Sir Ddinbych eu mabwysiadu.

 

Cafodd yr aelodau eu harwain drwy’r Polisi Addoli ar y Cyd Drafft gan yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a oedd yn cynnwys nifer o bynciau: (1) Nodau a Manteision Addoli ar y Cyd; (2) Beth yw Addoli ar y Cyd? 3) Beth yw'r gofynion cyfreithiol ar gyfer Addoli ar y Cyd; (4) Hawl i Dynnu Allan o Addoli ar y Cyd; (5) Sut rydym ni’n darparu Addoli ar y Cyd, ac (6) atodiadau posibl gan gynnwys trefniadaeth, cynllunio a themâu. Cafodd y Polisi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Drafft ei gyflwyno hefyd i’w ystyried, ac roedd yn cwmpasu’r meysydd allweddol i ysgolion eu cynnwys a’u teilwra fel y bo’n briodol.

 

Bu i’r aelodau ystyried y dogfennau polisi enghreifftiol ac roeddent yn fodlon â’r cynnwys, ac o’r farn y byddent yn adnodd defnyddiol i ysgolion ac y dylent fod ar gael i ysgolion pe baent yn dymuno.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod y polisïau drafft yn cael eu cymeradwyo, fel y cawsant eu cyflwyno, a

 

(b)      gofyn i’r Awdurdod Lleol wneud trefniadau i’r polisïau gael eu cyfieithu i’r Gymraeg, a sicrhau eu bod ar gael i bob ysgol yn Sir Ddinbych.

 

 

8.

CCYSAGC pdf eicon PDF 80 KB

·       Derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2024.

·       Cytuno pwy fydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 6 Mawrth 2025.

·       Gwylio fideo CCYSAGC a grëwyd i feithrin dealltwriaeth o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg https://www.youtube.com/watch?v=mdFxWoCvqzo

·       Derbyn gwybodaeth ynglŷn â Phrosiect Llais Athrawon CCYSAGC (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru – 14 Tachwedd 2024

 

Nid oedd cofnodion cyfarfod diwethaf CCYSAGC a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2024 ar gael eto a chytunwyd i dderbyn y cofnodion hynny unwaith y byddent yn cael eu cyhoeddi.

 

·       Fideo CCYSAGC a grëwyd i gefnogi dealltwriaeth o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

 

Gwyliodd yr aelodau y ffilm fer a grëwyd gan CCYSAGC, a oedd yn hyrwyddo gwerth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru ac a oedd wedi'i hanelu at bobl ifanc, ysgolion a lleoliadau, rhieni/ gwarcheidwaid, ac unigolion eraill sydd â diddordeb mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Bu i’r aelodau fwynhau gwylio’r ffilm fer, a oedd yn eu barn nhw yn adnodd ardderchog, sy’n ennyn chwilfrydedd. Tynnodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sylw at bwysigrwydd y fideo, a chadarnhaodd y byddai’r ddolen gyswllt ar gyfer gwylio’r ffilm yn cael ei hanfon eto at bob ysgol, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol ohono.

 

·       Prosiect Llais Athrawon: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru

 

Rhannwyd gwybodaeth (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am y Prosiect Llais Athrawon, sef arolwg ymchwil ar-lein sy’n ceisio casglu safbwyntiau athrawon ynghylch Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru, er mwyn helpu i gyfrannu at ymchwil, llywio trafodaethau proffesiynol a dysgu proffesiynol. Cafodd yr astudiaeth ar y cyd, a noddir ac a hyrwyddir gan CCYSAGC ei chynllunio a’i chynnal gan ymchwilwyr o Ganolfan San Silyn, Wrecsam, Prifysgol yr Esgob Grosseteste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cymorth Addysg Castell-nedd Port Talbot, ac Ysgol Uwchradd Llanishen.

 

Cafwyd trosolwg gan Jennie Downes o’r prosiect cenedlaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob athro ar draws y continwwm dysgu fynd ati i gefnogi datblygiad proffesiynol a chyrff megis y CYSAG ac awdurdodau lleol.   Roedd yna sawl Prifysgol yn gysylltiedig â’r prosiect a byddai’r canfyddiadau yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru hefyd. Roedd yn ymdrech gyffrous ac uchelgeisiol i gasglu lleisiau’r holl athrawon hynny, gyda’r bwriad o gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl erbyn mis Mai ar gyfer y gyfres gyntaf o ganfyddiadau, ac yna dal ati i gasglu gwybodaeth a chynnal trafodaethau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r hyn y mae’n ei olygu i ysgolion.

 

PENDERFYNWYD bod y wybodaeth am y Prosiect Llais Athrawon yn cael ei derbyn.

 

·       Cyfarfod CCYSAGC – 6 Mawrth 2025

 

Byddai’r cyfarfod CCYSAGC nesaf yn cael ei gynnal ar-lein am 10.00am ar 6 Mawrth 2025 a byddai’r aelodau yn trafod presenoldeb yn y cyfarfod hwnnw. Dywedodd y Cadeirydd fod ganddi ymrwymiad parhaus ar y diwrnod hwnnw, ond y byddai’n ceisio gwneud trefniadau eraill os yn bosibl, fel bod modd iddi fynychu’r cyfarfod CCYSAGC.

 

PENDERFYNWYD, yn ogystal â’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol, bod y Cadeirydd, y Cynghorydd Ellie Chard yn mynychu’r cyfarfod CCYSAGC nesaf ar 6 Mawrth 2025, os yn bosibl.

 

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFODYDD NESAF

·       Haf 2025 – 10am, 4 Mehefin 2025

·       Hydref 2025 – 10am, 2 Hydref 2025

 

Cofnodion:

Mae cyfarfodydd CYSAG Sir Ddinbych yn y dyfodol wedi eu trefnu fel a ganlyn –

 

·       Haf 2025 – 10am, 4 Mehefin 2025

·       Hydref 2025 – 10am, 2 Hydref 2025

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 am.