Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Jennie Downes, Sarah Griffiths, Dominic Oakes a Susan Williams

 

Byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne ychydig yn hwyr yn cyrraedd y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol â busnes y cyfarfod, gan ei bod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Christchurch.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 365 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2024 (copi wedi’i gynnwys).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Materion yn Codi – Tudalen 10: Eitem 6, RE Hubs – Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai’n darparu mwy o wybodaeth am y mater hwn ar ddiwedd y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2024 fel cofnod cywir.

 

 

5.

NEWYDDLEN YR HAF SIR DDINBYCH 2024 pdf eicon PDF 76 KB

Derbyn Newyddlen yr Haf Sir Ddinbych a Chonwy 2024 (copi wedi’i gynnwys).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol drydydd argraffiad cyhoeddedig o Newyddlen yr Haf Sir Ddinbych a Chonwy 2024, REach (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn cefnogi gwaith Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Sir Ddinbych a Chonwy.

 

Arweiniwyd yr aelodau drwy’r newyddlen, a oedd yn cynnwys yr erthyglau canlynol –

 

·       Yr hyn sy’n newydd ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), gan gyfeirio at y gyfres o fodiwlau Dysgu Proffesiynol ar CGM yn y cwricwlwm newydd sydd wedi eu dylunio i ddatblygu dealltwriaeth a chefnogi athrawon

·       Yr Hawl i Dynnu yn Ôl – nid oedd hawl i dynnu disgybl allan o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ond yr oedd rhieni sydd â phlant sydd yn cael yr Addysg Grefyddol bresennol (e.e. blynyddoedd 10 ac 11 ym mis Medi 2024) yn parhau i fod â’r hawl i dynnu eu plentyn o wersi AG

·       Adnoddau Hyfforddi Cenedlaethol a Rhanbarthol – darparwyd dolenni i gael mynediad at sesiynau cenedlaethol yn canolbwyntio ar gynnydd yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a deunyddiau hyfforddi GwE

·       y gefnogaeth a ddarperir gan CCYSAGC i aelodau Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, sy’n cynnwys Eiriolaeth a Chynrychiolaeth; Cyngor a Chefnogaeth; Rhwydweithiau; Perthnasoedd a Phartneriaethau; Lleisiau Awdurdodol; Adnoddau Dibynadwy a Gwybod Beth yw’r Diweddaraf

·       yr oedd Cynhadledd CCYSAGC 2024 yn cynnwys prif sesiynau y gellid cael mynediad atynt drwy wefan CCYSAGC ynghyd â seminarau ar-lein cyn y gynhadledd.

 

Tynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol sylw at waith CCYSAGC fel corff cenedlaethol a chamau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i greu taflen i hybu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’i waith CYSAG.  Cadarnhaodd yr aelodau y byddent yn hoffi i Sir Ddinbych ddefnyddio dull tebyg o weithredu er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ysgolion o rôl CYSAG.  Parthed erthyglau ar gyfer y newyddlen, bu rhywfaint o drafodaeth am y ffordd orau o annog ysgolion i gyfrannu, a chytunodd yr aelodau i godi’r mater yn yr ysgolion yr oeddynt yn gysylltiedig â hwy.  Dywedodd Leah Crimes y byddai ei hysgol hi’n hoffi cyfrannu, a byddai hefyd yn codi’r mater yng nghyfarfod nesaf y clwstwr ysgolion.  Cadarnhaodd Prif Reolwr Addysg y gellid gwneud cais am erthyglau yn y cyfarfodydd wythnosol gyda Phenaethiaid.  Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am geisio safbwyntiau hefyd ynglŷn â’r hyn fyddai athrawon yn hoffi ei weld mewn newyddlenni yn y dyfodol.  Yr oedd yr aelodau’n fodlon gyda’r dull a’r camau rhagweithiol i hyrwyddo gwaith CYSAG.

 

PENDERFYNWYD derbyn Newyddlen yr Haf Sir Ddinbych 2024.

 

 

6.

CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG, SAFBWYNT UWCHRADD - SARAH GRIFFITHS (PENNAETH CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG, YSGOL DINAS BRÂN) pdf eicon PDF 248 KB

Derbyn cyflwyniad ar y ddarpariaeth AG a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgol Dinas Brân.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ymddiheuriadau gan Sarah Griffiths, Pennaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgol Dinas Brân, a oedd yn methu bod yn bresennol i draddodi’r cyflwyniad.  Dymunwyd gwellhad buan i Sarah gan yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y cyflwyniad yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf CYSAG.

 

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM AROLYGON ESTYN pdf eicon PDF 83 KB

Cyhoeddwyd canllawiau arolygon Estyn ar gyfer ysgolion a gaiff eu harolygu rhwng mis Medi 2024 a 2030 yn ystod yr haf.  Gellir dod o hyd i ddogfennau’n egluro beth mae Estyn yn ei arolygu a sut ar Wefan Estyn

 

Sut rydym yn arolygu

 

Cymraeg Sut-rydym-yn-arolygu-Ysgolion-a-gynhelir-ac-UCDau_0.pdf (gov.wales)

Saesneg - How We Inspect - 2024 maintained schools and PRUs (gov.wales)

 

Beth rydym yn ei arolygu

 

Cymraeg - Beth rydym yn ei arolygu - Ysgolion a gynhelir ac UCDau (gov.wales)

Saesneg - What We Inspect - 2024 Maintained Schools and PRUs (gov.wales)

 

 

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod canllawiau arolygon Estyn o fis Medi 2024 i 2030 wedi eu cyhoeddi yn ystod yr haf, a rhoddodd wybod i’r aelodau am y newidiadau i’r fframwaith arolygu.

 

Gellid cael mynediad at y dogfennau sy’n egluro’r hyn y mae Estyn yn ei arolygu, a sut, ar wefan Estyn. Darparwyd y dolenni canlynol –

 

Cymraeg – Sut-rydym-yn-arolygu-Ysgolion-a-gynhelir-ac-UCDau_0.pdf (gov.wales)

Saesneg – How We Inspect – 2024 maintained schools and PRUs (gov.wales)

 

Cymraeg – Beth rydym yn ei arolygu – Ysgolion a gynhelir ac UCDau (gov.wales)

Saesneg – What We Inspect – 2024 Maintained Schools and PRUs (gov.wales)

 

Llywodraethid arolygon gan Ddeddf Addysg 2005, ac yr oedd Adran 28 yn nodi nifer o feysydd y mae’n rhaid i arolygwyr adrodd amdanynt, a oedd yn cynnwys datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion (YMCD).  Yr oedd gan rai ysgolion gymeriad crefyddol ac yn addysgu AG enwadol, ac yn yr ysgolion hynny yr oedd AG enwadol a chynnwys yr addoli ar y cyd yn cael eu harolygu ar wahân dan Adran 50 Deddf Addysg 2005, ac nid oeddynt yn cael eu cynnwys yn arolygiadau Adran 28.  Yr oedd yr Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd yn datblygu ei fframwaith, nad oedd eto wedi ei roi ar waith mewn ysgolion.  Dywedodd Colette Owen fod y fframwaith Catholig wedi bod yn weithredol ers tua deuddeng mis a’i fod yn cael ei addasu wrth i bethau newid ac er mwyn cyd-fynd yn well ag arolygiadau Estyn, gan gofio bod y fframwaith yn berthnasol i Gymru ac i Loegr.  Yr oedd yna bellach raglen dreigl o arolygiadau Adran 50 yn debyg i Estyn, lle cynt, os oedd ysgol yn cael arolygiad gan Estyn, byddai’n awtomatig yn creu arolygiad Adran 50.

 

Trafodwyd y prif newidiadau i fframwaith arolygu Estyn fel a ganlyn –

 

·       ni fyddai unrhyw batrwm o ran pryd y byddai ysgolion yn cael eu harolygu, o gymharu â’r cylch chwe blynedd blaenorol.  Yn dilyn prif arolygiad cyflwynwyd arolygiad interim i adrodd ar y cynnydd a wnaed wrth roi’r argymhellion o’r prif arolygiad ar waith.  Yr oedd y cyfnod o dair wythnos o rybudd cyn arolygiadau hefyd wedi ei gwtogi i bythefnos

·       yn hanesyddol yr oedd arolygiadau’n cynnwys arsylwi’r ysgol / gwersi ac yr oedd yna newid mewn ffocws i fwy o ymgysylltu â disgyblion a dull a oedd yn canolbwyntio ar y disgyblion

·       yr oedd yr adroddiadau ar hyn o bryd yn anodd eu dehongli o safbwynt YMCD, AG ac addoli ar y cyd, gydag adroddiadau blaenorol yn canolbwyntio’n bennaf ar faes arolygu lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad.  Fodd bynnag, mwya’n y byd o adroddiadau a gyhoeddid, yr hawsaf a fyddai i gael yr wybodaeth angenrheidiol.  Fel sydd mewn canllawiau arolygu blaenorol, ni fyddai sylwadau am yr ysgolion hynny sy’n bodloni gofynion AG neu CGM yn cael eu cynnwys, a byddai cyfeiriad yn cael ei wneud dim ond pan na fyddai’r gofynion statudol hynny’n cael eu bodloni / ar gyfer meysydd i’w datblygu neu pan fo meysydd penodol o arferion da

·       byddai’r tri maes arolygu’n canolbwyntio ar (1) addysgu a dysgu; (2) lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, ac (3) arwain a gwella, a byddai’r adroddiadau yn naratif o brofiad yr arolygwyr yn yr ysgol. Anogwyd yr aelodau i edrych ar wefan Estyn a’r adroddiadau arolygu newydd wrth iddynt ymddangos, gan eu bod yn wahanol iawn i adroddiadau blaenorol

·       yr oedd timau arolygu’n cynnwys arolygwyr arweiniol ynghyd ag ymarferydd sy’n cymryd rhan fel arolygydd cymheiriaid. Gallent fod yn benaethiaid neu’n uwch arweinwyr ysgol sydd wedi derbyn yr hyfforddiant priodol.

 

Nododd y Cadeirydd na wneid unrhyw sylwadau yn yr adroddiad os yw’r meysydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2023-24 pdf eicon PDF 78 KB

To consider and approve the draft SACRE Annual Report 2023 – 24 (copy enclosed).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG Sir Ddinbych 2023-24 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w gymeradwyo. Yr oedd yr adroddiad yn cydnabod a chofnodi gwaith y CYSAG am y flwyddyn o fis Medi 2023 tan fis Gorffennaf 2024.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adroddiad blynyddol yn ddogfen hanesyddol a gofynnwyd i’r aelodau ei chymeradwyo, yn amodol ar unrhyw bwyntiau yn ymwneud â chywirdeb.  I wneud yr adroddiad yn fwy defnyddiol i ysgolion, cynhwyswyd nifer o ddolenni i adnoddau a chefnogaeth, ac yr oedd yna adran fawr ar AG / CGM a’r Maes Llafur Cytunedig.

 

Arweiniodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr aelodau drwy’r adroddiad, gan ymhelaethu ar feysydd penodol mewn manylder, a darparodd drosolwg o’r cynnwys a oedd yn ymdrin â’r canlynol –

 

·       yr oedd rôl CYSAG wedi ei chynnwys yn y rhagymadrodd, a fyddai’n cael ei ddiwygio i gyfeirio at y CYSAG i adlewyrchu’r ddau gorff yn rhedeg yn gyfochrog a’i ddiweddaru i gynnwys cyfeiriad at CGM

·       penderfynwyd ar benawdau’r cynnwys beth amser yn ôl gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac yr oedd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi cynnal adolygiad o adroddiadau blynyddol a gwneud rhai argymhellion i LlC – ni wyddys y canlyniad eto

·       yr oedd cyngor a roddwyd i’r awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at y Maes Llafur Cytunedig newydd ar gyfer CGM (Cwricwlwm i Gymru, 2022) a’r Maes Llafur Cytunedig blaenorol ar gyfer AG (Cwricwlwm 2008) sy’n berthnasol i ysgolion uwchradd

·       nid oedd adroddiadau arholiadau’n cael eu rhyddhau mwyach, ac nid oedd aelodau’n gallu trafod data cymharol; darparwyd dolenni i amryw adroddiadau Estyn

·       Dysgu ac Addysgu – darparwyd cyfoeth o ddeunydd cyfeiriol a dolenni o ystod o adnoddau ac ymhelaethwyd ymhellach arnynt yn y cyfarfod; yr oedd Marc Ansawdd AG wedi ei amlygu.  Parthed y rhestrau chwarae ar Hwb, byddai Rhestr Chwarae Llywodraethwyr yn cael ei rhyddhau’n fuan, a rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol adroddiad am ei waith ei hun gyda Phrifysgol Bangor drwy GwE yn hyfforddi myfyrwyr TAR / PCSE a gweithio’n agos gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

·       Addoli ar y Cyd – amlygwyd yr anhawster wrth fonitro darpariaeth drwy adroddiadau Estyn yn dilyn canllawiau arolygu diweddaredig, heb unrhyw ddisgwyliad i adrodd pa un a oedd ysgol yn bodloni’r ddyletswydd statudol ai peidio, ac absenoldeb cyffredinol sylwadau YMCD; darparwyd hyfforddiant a dolenni i ganllawiau.  Ni fu unrhyw benderfyniadau i’r CYSAG am ysgolion a oedd eisiau newid CGM / addoli ar y cyd

·       yr oedd materion eraill yn cynnwys cyfeiriad at y newyddlen a rhwydwaith CGM, fframwaith arolygu newydd Estyn, ac adnoddau i ategu’r fframwaith ar gyfer AG a gwaith CCYSAGC a deunydd cynhadledd

·       yr oedd yr atodiadau’n cynnwys cyfansoddiad CYSAG (‘Collette’ i gael ei newid i ‘Colette’), dyddiadau cyfarfodydd a sefydliadau sy’n derbyn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am yr adroddiad, a chadarnhaodd yr aelodau y dylid cadarnhau’r adroddiad fel cofnod cywir o waith y CYSAG, yn amodol ar unrhyw fân newidiadau a drafodwyd yn y cyfarfod.  Gan gydnabod bod polisi presennol y Cyngor yn caniatáu i adroddiadau drafft fod yn Saesneg yn unig tan iddynt gael eu cymeradwyo, gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne a ellid gwneud y drafft i fod ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol, gan gofio bod cyfarfod y CYSAG yn gyfarfod cyhoeddus, a dim ond mân newidiadau fyddai eu hangen ar yr adroddiad drafft.  Cadarnhaodd Prif Reolwr Addysg y gellid cyfieithu’r adroddiad blynyddol ar ffurf drafft wrth symud ymlaen.

 

Ymatebodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i gwestiwn yn ymwneud ag argaeledd athrawon AG arbenigol. Dywedodd y dyrannwyd nifer penodol o athrawon CGM uwchradd i’w recriwtio i amryw sefydliadau hyfforddi athrawon  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CCYSAGC pdf eicon PDF 78 KB

·       Derbyn diweddariad llafar am gynhadledd CCYSAGC a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024.

 

·       Cytuno pwy fydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 14 Tachwedd 2024.

 

Cofnodion:

·       Cynhadledd CCYSAGC – 13 Mehefin 2024

 

Darparwyd diweddariad byr ar lafar ynglŷn â Chynhadledd CCYSAGC a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024 – yr oedd yn ddiwrnod o gynhadledd wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Wrecsam a chyfres o seminarau ar-lein.  Bu’n ddiwrnod gwych, gyda phrif areithiau gan yr Athro Graham Donaldson, Lynne Neagle AS ac Esgob Llandaf hefyd, ynghyd â chyflwyniadau gan ysgolion.  Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Gweithredol CCYSAGC ar ddiwedd y gynhadledd.

 

Yn anffodus, nid oedd Jennie Downes yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y CYSAG, ond darparodd nodiadau byrion ar gyfarfod Gweithredol diwethaf CCYSAGC ar 2 Hydref 2024.  Rhannodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y nodiadau hynny gyda’r aelodau, fel y’u crynhoir isod –

 

·       yr oedd yna fanyleb newydd gan CBAC yn ymwneud â’r cymwysterau TGAU newydd a fyddai ar gael i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2027, a byddai CCYSAGC yn darparu ymateb i’r meini prawf cymeradwyo drafft erbyn y dyddiad cau, sef 23 Hydref 2024

·       trafodaethau yn ymwneud ag Adroddiadau Blynyddol CYSAG mewn perthynas â’u cynnwys yn y dyfodol, a’r hyn oedd ei angen wrth ymateb i dirlun addysgol Cymru

·       byddai Rhestr Chwarae Llywodraethwyr yn cael ei rhyddhau’n fuan ar Hwb, a nodwyd bod set gynhwysfawr o restrau chwarae i ategu datblygiad proffesiynol eisoes ar Hwb

·       derbyniwyd llawer o adborth cadarnhaol i Gynhadledd CCYSAGC a chroesawyd arferion a oedd yn dod i’r amlwg; croesawyd y seminarau ar-lein ac fe’u cyhoeddwyd ar wefan CCYSAGC ynghyd â fideos o’r prif siaradwyr

·       bu trafodaeth ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddatblygu yn dilyn y Gynhadledd a gwneud cefnogaeth ac arweiniad yn fwy hygyrch i ysgolion, yn benodol mewn perthynas â CGM, yn arbennig uwchradd anarbenigol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad ar lafar.

 

·       Cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru – 14 Tachwedd 2024

 

Cynhelid cyfarfod nesaf CCYSAGC ar-lein am 10.30am ar 14 Tachwedd 2024.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai’n bresennol a gofynnodd hefyd am gadarnhad o hyd at dri chynrychiolydd arall i fod yn bresennol.  Yn anffodus, dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn gallu bod yn bresennol ar yr achlysur hwnnw.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne a Leah Crimes yn bresennol yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 14 Tachwedd 2024, yn ogystal â’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol.

 

·       RE Hubs

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol mai Jennifer Harding-Richards (CYSAG Abertawe) oedd arweinydd Prosiect RE Hubs yng Nghymru.  Yr oedd prosiect RE Hubs yn ymroddedig i gefnogi athrawon ac ymarferwyr AG a CGM ledled Cymru a Lloegr, a gellid cael mynediad at arferion gorau a chefnogaeth ar wefan RE Hubs.  Yr oedd rhywfaint o bryder ledled Cymru y byddai dryswch rhwng RE Hubs a Hwb, a byddai’n well gan CCYSAGC pe bai ysgolion yn cyfeirio at Hwb ac yn cysylltu â’r CYSAG ar faterion o’r fath.  Fodd bynnag, yr oedd angen llawer o gefnogaeth ar ysgolion ar hyn o bryd, ac yr oeddynt wedi bod yn symud yn naturiol tuag at yr Hub, ac yr oedd RE Today yn darparu rhywfaint o hyfforddiant ar gyfer ysgolion ledled Cymru wedi ei drefnu gan Brifysgol Bangor a CYSAG Abertawe ar 19 Tachwedd 2024.  Cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol gwneud ysgolion Sir Ddinbych yn ymwybodol o’r cwrs, y gellid ei archebu drwy RE Today.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad llafar.

 

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFODYDD NESAF

·       Gwanwyn 2025 - 10am 14 Chwefror 2025

·       Haf 2025 - 10am 4 Mehefin 2025

·       Hydref 2025 - 10am 2 Hydref 2025

 

Cofnodion:

Mae cyfarfodydd CYSAG Sir Ddinbych yn y dyfodol wedi eu trefnu fel a ganlyn –

 

·       Gwanwyn 2025 – 10am, 14 Chwefror 2025

·       Haf 2025 – 10am, 4 Mehefin 2025

·       Hydref 2025 – 10am, 2 Hydref 2025

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am.