Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jennie Downes, Leah Crimes, Susan
Williams, Jennifer Harding-Richards a’r Cynghorwyr Gill German a Delyth Jones. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol ag
eitem 7 gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag
Eitem 7 gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 401 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 22 Chwefror
2024. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2024. PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2024 yn gofnod gwir a chywir
o’r gweithrediadau. |
|
CANOLFAN GENEDLAETHOL ADDYSG GREFYDDOL CYMRU PDF 79 KB Derbyn cyflwyniad gan Dr Joshua Andrews ar waith Canolfan
Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Cofnodion: Rhoddodd Dr Joshua Andrews o Brifysgol Bangor
gyflwyniad ar Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Ail-lansiwyd y ganolfan yn 2022 gyda’r nod o
gynnig arbenigedd academaidd a chefnogaeth addysgegol ar gyfer addysgu addysg
grefyddol. Mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar athroniaeth, crefydd a moeseg a’r
gynulleidfa darged yw athrawon a myfyrwyr cyrsiau cynradd a TAR. Mae’r ganolfan yn cynnig gweithgareddau
allweddol, yn cynnwys: · Gweithdai · Sesiynau
adolygu · Digwyddiadau
Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) Cafodd yr
aelodau wybodaeth am lwyddiannau’r ganolfan yn ystod y 12 mis diwethaf, a oedd
yn cynnwys: · Blychau
Arteffactau: crëwyd 10 bocs o arteffactau crefydd penodol ar gyfer
addysgu crefyddau mwyaf y byd i’w benthyg i ysgolion · Sesiynau
Adolygu Lefel A: Trefnwyd sesiwn adolygu Lefel A mewnol ar gyfer myfyrwyr
o Ynys Môn a Gwynedd, yn cynnwys sesiynau i fyfyrwyr Coleg Sir Gâr · Hyfforddiant
DPP: Darparwyd hyfforddiant DPP i athrawon ar Fwdhaeth a
Hindŵaeth · Sesiynau
ar-lein: Cynhaliwyd sesiynau ar-lein o fis Hydref 2023 tan fis
Ionawr 2024 ar gyfer myfyrwyr ac athrawon TGAU a Lefel A, i archwilio
perthnasedd athroniaeth, moeseg a chrefydd mewn cymdeithas gyfoes · Ysgol Haf: Cynhaliwyd
ysgol haf ar-lein fis Gorffennaf 2023, gan ddarparu 15 o ddarlithoedd i
gyflwyno testunau athroniaeth, moeseg a chrefydd i fyfyrwyr ar lefel prifysgol · Addysgeg
Holocost: Cafwyd panel ar addysgeg Holocost a rhoddwyd sgwrs
ar-lein gan oroeswr i ysgolion uwchradd Cafwyd
gwybodaeth am brosiectau cyfredol, yn cynnwys sesiynau adolygu, lansiad
cenedlaethol y canllawiau adolygu, Gwersi Heddwch a digwyddiadau DPP. Darparwyd
gwybodaeth am y prosiectau newydd mae’r ganolfan wedi’u cychwyn, yn cynnwys: · Fideos Adolygu
TGAU: Cyfres o fideos adolygu TGAU byr dan y teitl ‘A Topic in Ten’ ar wahanol
agweddau ar faes llafur TGAU CBAC · Podlediad
athroniaeth: Mae podlediad ar athroniaeth, crefydd a moeseg Lefel A yn cael ei
ddatblygu, sy’n canolbwyntio ar faes llafur Lefel A CBAC ac sy’n cynnwys
trafodaethau gydag ysgolheigion · Cwrs Gwella
Gwybodaeth Pwnc: Mae cyrsiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr TAR yn cael eu datblygu.
Bydd y rhain hefyd ar gael i athrawon er mwyn gwella eu gwybodaeth am y pwnc Diolchodd y
Cadeirydd i Dr Andrews am ei gyflwyniad a dywedodd fod croeso i’r Aelodau ofyn
cwestiynau. Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad ynghylch plant o gefndiroedd gwahanol yn cael eu
hintegreiddio gyda chrefyddau gwahanol pan fyddan nhw’n dechrau yn yr ysgol
uwchradd. Eglurodd Dr Andrews fod gan bob ysgol faes llafur wedi’i llunio’n
lleol sy’n gallu cynnwys credoau crefyddol yn y gymuned. Mae llawer o ysgolion
wedi gofyn am sesiynau gan y ganolfan ar destunau penodol. Trafododd yr
aelodau yr Ysgol Haf a gynhaliwyd a holi a fyddai modd cynnal sesiynau gwahanol
dros nifer o wythnosau yn ystod y gwyliau haf. Eglurodd Dr Andrews fod yr Ysgol
Haf yn rhad ac am ddim, a bod sesiynau’n cynnal ar-lein er mwyn i fwy o bobl
allu manteisio arnynt. Gall sesiynau ychwanegol fod yn bosibilrwydd, a bydd
hynny’n cael ei gyflwyno i’r Bwrdd i’w drafod a’i ystyried ymhellach. Diolchodd yr
aelodau i Dr Andrews am yr adnoddau gwerthfawr sydd ar gael drwy’r ganolfan, yn
enwedig y blychau arteffactau a gofynnwyd iddo a oes gwefan ar gael i ysgolion
wneud cais i’w benthyg. Dywedodd Dr Andrews fod gwefan ar gael a bod system
rota ar gyfer benthyg y blychau arteffactau. Holodd yr
aelodau a oes modd i gydweithwyr o ysgolion cynradd ddefnyddio adnoddau’r
ganolfan. Croesawodd Dr Andrews y syniad a dywedodd y byddai’n cyflwyno hyn yng
nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Diolchodd Dr
Andrews i’r aelodau am eu sylwadau a’u hadborth. Diolchodd y
Cadeirydd i Dr Andrews am y cyflwyniad ac am ddod i’r cyfarfod, a chroesawodd y
syniad o weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol. Penderfynwyd: derbyn a nodi’r cyflwyniad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Derbyn cyflwyniad
ar RE Hubs gan Jennifer Harding-Richards, Arweinydd RE Hubs. Cofnodion: Mae Jennifer Harding yn ymddiheuro nad yw’n
gallu bod yn bresennol. Bydd eitem ar RE Hubs yn cael ei chynnwys ar raglen
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yn yr hydref. PENDERFYNWYD: gohirio’r
eitem ar RE Hubs tan gyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol
yn yr hydref. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGON PDF 78 KB I dderbyn a dadansoddi Adroddiadau Arolygon
diweddar Estyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd yr Ymgynghorydd AG drosolwg bras o
ddadansoddiad adroddiadau arolygon CYSAG. Mae’r dadansoddiad yn berthnasol i
adroddiadau arolygon a gyhoeddwyd rhwng 7 Mehefin 2023 ac 1 Mai 2024. Gan fod yr aelodau wedi darllen yr
adroddiadau cyn y cyfarfod, gofynnodd yr Ymgynghorydd AG a oes gan unrhyw un
gwestiwn neu sylwadau. Dywedodd yr aelodau fod yr adroddiadau yn
gadarnhaol iawn, ac roedd yn braf darllen sylwadau calonogol ar Les ac Agweddau
ar Ddysgu a Gofal, Cefnogaeth a Chanllawiau. PENDERFYNWYD derbyn a
nodi’r Dadansoddiad Adroddiadau Arolygon. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas,
a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024, a derbyn diweddariad ar lafar ar gynhadledd
CCYSAGC a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024. Cofnodion: Nid oedd cynrychiolydd Enwadau Crefyddol yn gallu bod yn
bresennol. Darparodd y Cynghorydd Ellie Chard y wybodaeth ddiweddaraf ar eu
rhan. Roedd y
gynhadledd ym Mhrifysgol Wrecsam ar 13 Mehefin 2024 yn gyfle da i bawb sy’n
ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg rwydweithio. Cafwyd
anerchiad ysbrydoledig gan yr Athro Graham Donaldson, a siaradodd am raddfa’r
diwygiad addysg a oedd yn angenrheidiol i ymateb i ddisgwyliadau newydd a
chynyddol o ran pwrpas addysg. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar anghenion
cymdeithas sy’n newid yn gyflym a chysyniadau newydd am wybodaeth. Edrych ar
fyd lle mae deallusrwydd artiffisial yn dominyddu a’r farchnad swyddi yn fwy
hylifol a byd-eang. Mae sgiliau digidol yn dal yn cynyddu’n gyflym ac mae ar
ddysgwyr angen y sgiliau anhepgor o greadigrwydd a meddwl beirniadol sydd eu
hangen i addasu ac esblygu dysgu gydol oes. Cafwyd
anerchiad gan Ysgrifennydd Cabinet Addysg, Lynne Neagle ac Esgob Llandaf sy’n
gyfrifol bortffolio addysg yr Eglwys yng Nghymru a mynegodd y ddau eu
cefnogaeth i CCYSAGC. Roedd y
gweithdai a’r seminarau ar gael cyn diwrnod y gynhadledd, ar y diwrnod (mi
fyddan nhw dal ar-lein fis Medi), gan archwilio cynllunio Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg beirniadol, gwrthrychol a phlwraliaethol o’r blynyddoedd cynnar i
leoliadau cynradd ac uwchradd. Ar ddiwrnod
y gynhadledd rhoddodd athrawon o bob cwr o Gymru gipolwg ar eu siwrneiau
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac roedd nifer o enghreifftiau o addysgeg
greadigol. Cynhaliwyd
Cyfarfod Blynyddol CCYSAGC ar ddiwedd y gynhadledd. Diolchwyd i bawb a oedd yn
rhan o drefniadau’r gynhadledd am eu gwaith caled ac i ALl Wrecsam am ei
chynnal. Bydd
cyfarfod gweithredol nesaf CCYSAGC ar 2 Hydref 2024 gyda’r cadeirydd newydd, y
Parch. Edward J Evans. PENDERFYNWYD: nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am CCYSAGC. |
|
DYDDIAD CYFARFODYDD NESAF SIR DDINBYCH Hydref 2024 – 15 Hydref 2024 Cofnodion: Bydd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn
cael ei gynnal ar 15 Hydref 2024. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am |