Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
MYFYRDOD TAWEL
|
||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan Dominic Oakes, y Parchedig Brian Huw Jones, Tania Ap
Siôn, Collette Owen, Leah Crimes a’r Cynghorydd Gill German |
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n
rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad
ei ddatgan. |
||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 308 KB Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir
Ddinbych a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Materion cywirdeb – Tudalen 10 - Dadansoddiad o
Adroddiadau Arolygu – Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod ‘Ysgol Gynradd
Carrog’ wedi’i gamsillafu yn y cofnodion Saesneg. Materion yn codi – Tudalen 11 - Dadansoddiad o
Adroddiadau Arolygu – Gofynnodd yr Aelodau a oedd llythyrau wedi cael eu hanfon
at yr ysgolion a oedd wedi cael arolwg.
Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod llythyrau wedi cael eu hanfon
at bob ysgol a oedd wedi cael arolwg. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar
Addysg Grefyddol a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023 fel cofnod cywir. |
||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CWRICWLWM I GYMRU PDF 111 KB Derbyn diweddariad ar lafar am gyflwyno’r Cwricwlwm i
Gymru, Maes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
a’r Canllawiau Ategol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol yr adroddiad i’r Aelodau. Fe hysbyswyd yr Aelodau nad oedd
llawer o wybodaeth newydd i’w rhannu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
Atgoffodd yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi cytuno ar y maes llafur cytunedig yn
2022 a’i fod ar gael i bob ysgol yn Sir Ddinbych. Roedd cydweithio agos yn
parhau rhwng yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr Addysg, gan
gynnwys yr holl ysgolion a staff addysgu ar gyfer cyflwyno’r maes llafur. Dywedodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol wrth yr Aelodau ei fod wedi darparu hyfforddiant i ysgolion ar
y maes llafur cytunedig ar gyfer egluro ac ateb unrhyw faterion. Roedd rhaid i ysgolion fod yn
ymwybodol o’r 4 elfen newidiol sy’n gysylltiedig â’r maes llafur cytunedig.
Unwaith y byddai ysgolion wedi dod i arfer ag iaith a geiriad y maes llafur,
byddai’n fwy eglur, a byddai ganddynt well dealltwriaeth. Bob tro y caiff
cwricwlwm newydd ei gyflwyno yng Nghymru, mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo â
chysyniadau’r newidiadau. Awgrymwyd y dylid cynnwys yr
eitem fel eitem reolaidd ar raglenni yn y dyfodol, er mwyn hysbysu’r Aelodau am
y gwaith cyflwyno ac unrhyw feysydd y mae angen eu trafod ymhellach. Eglurwyd
wrth yr Aelodau ei bod yn orfodol i bob ysgol uwchradd gyflwyno’r maes llafur
cytunedig newydd i ddisgyblion blwyddyn 8. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau
fod cynhadledd ddyniaethau yn cael ei threfnu ym mis Tachwedd ar gyfer bob
athro dyniaethau, er mwyn rhannu arferion newydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm i
Gymru. Roedd nifer o gyflwyniadau wedi
cael eu trefnu ar gyfer y diwrnod. Y gobaith oedd bod rhwydwaith o bell yn cael
ei sefydlu ar draws y rhanbarth ar gyfer ysgolion yn dilyn y gynhadledd, er
mwyn cysylltu, rhannu arferion da a chymorth â’r dyniaethau. Dywedodd yr Aelod, Jennie
Downes, fod Ysgol Pant Pastynog, Prion wedi rhoi cyflwyniad trwy gyfrwng y
Gymraeg i grŵp o benaethiaid yng Nghaernarfon am y gwaith a wnaed ganddynt
ar gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwaith a wnaed
ar y cam cynllunio a sut y byddai’r newidiadau yn digwydd yn yr ysgol. Rhoddodd Ysgol Borthyn yn
Rhuthun, ysgol arall yn Sir Ddinbych, gyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg ar y
gwaith a gyflawnwyd, gan gynnwys astudiaeth achos o ethos y Cwricwlwm. Ysgol Esgob Morgan oedd yr
ysgol gynradd gyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad Ysgolion Noddfa.
Roedd y wobr yn achrediad pwysig a oedd yn edrych ar ddysgu, yn ymgorffori a
rhannu gwybodaeth ynghylch pwysigrwydd goddefgarwch, cydnabod gwahaniaeth a
derbyniad, gan sicrhau bod eu hysgol yn ddeniadol a chroesawgar i bawb.
Pwysleisiwyd pa mor dda y bu i’r disgyblion siarad. Diolchodd y Prif Reolwr Addysg
i’r Aelod am yr adborth o gyflwyniadau’r ysgol ac roedd yn falch o glywed y
bu’n fuddiol iawn. Roedd yr Awdurdod wedi cael gwybod am y gwaith da oedd yn
cael ei gynnig yn yr ysgolion. Rhannodd y wybodaeth
ddiweddaraf â’r Aelodau am y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn
ysgolion uwchradd yn Sir Ddinbych. Roedd Ysgol Glan Clwyd wedi dechrau
cyflwyno’r cwricwlwm i flwyddyn 7, 12 mis yn ôl. Roedd pob ysgol uwchradd arall
wedi dechrau ei gyflwyno y flwyddyn ysgol hon, ym mis Medi 2023 ar gyfer pob
disgybl blwyddyn 7 ac 8. Eglurwyd wrth yr Aelodau fod
meithrinfeydd mewn ysgolion yn feithrinfeydd a gynhelir. Mae’r cwricwlwm nas
cynhelir yn cyfeirio at y meithrinfeydd eraill a’r Meithrin. Mae canllaw ar
gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir ar wefan Gymraeg y Cwricwlwm i Gymru. PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Cwricwlwm i Gymru.
|
||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2022-23 PDF 110 KB Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG
2022-23. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Aelodau eu harwain
trwy’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 (dosbarthwyd ymlaen llaw)
gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy bob
adran yn yr adroddiad. Roedd adran flaen adroddiad CYSAG Sir Ddinbych yn cynnwys
prif swyddogaethau’r CYSAG. Roedd y penawdau ar y dudalen
gynnwys wedi cael eu defnyddio yn flaenorol ac roeddent wedi’u cymryd o hen
ddogfen a oedd yn arwain pwyllgorau trwy’r maes llafur cytunedig a’r hyn yr
oedd angen adrodd arno. Nid oedd rhai o’r gofynion blaenorol hynny mor
berthnasol erbyn hyn. Byddai sut roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn
gweithio gyda’r Awdurdod Lleol yn dra gwahanol pan gafodd y penawdau eu creu am
y tro cyntaf. Dywedodd wrth yr Aelodau fod CCYSAGC wedi bod yn lobïo Llywodraeth
Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gofynion sydd eu hangen yn yr
adroddiad blynyddol. Roedd cais wedi’i gyflwyno am arweiniad pellach gan
Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Jennie Downes,
sy’n aelod o’r CCYSAGC fod llawer o waith cefndirol yn cael ei wneud o ran sut
y caiff CCYSAGC ac felly pwyllgorau CYSAG eu cynnal. Roedd y cyfan yn cael ei adolygu er mwyn
sicrhau ei fod yn eglur o ran beth yw rôl y CYSAG a sut mae’r cyfan yn cyd-fynd
â’r darlun ehangach. Cadarnhaodd y byddai’n rhoi gwybod i’r pwyllgor pe bai
unrhyw ddatblygiadau pellach yn cael eu datgelu. Ar hyn o bryd, roedd yna ddwy
ffrwd waith, CYSAG ar gyfer Addysg Grefyddol a CYSAG ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg, a dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod popeth yn cael
ei gadw a’i drafod gyda’i gilydd, yn yr un fforwm. Teimlwyd bod y ddau faes yn
cael eu cadw ar wahân yn yr adroddiad blynyddol. Pwysleisiwyd bod yna
wahaniaeth rhwng y ddau faes pwnc. Roedd yr adroddiad blynyddol yn dal i fod o dan y teitl
Adroddiad Blynyddol y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, ond
roedd rhywfaint o’r cynnwys yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a rhywfaint yn
ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Awgrymwyd y gellid newid y teitl i gynnwys y ‘Cyngor
Ymgynghorol Sefydlog’. Roedd yr Aelodau
yn cytuno â’r newid a awgrymwyd. Cafodd y crynodeb gweithredol ei gyflwyno cyn yr
adroddiad blynyddol yn y pecyn. Roedd yn
cynnwys llawer o fanylion ynghylch y maes llafur cytunedig, ac roedd y maes
llafur cytunedig ar gyfer Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn
amlwg ar wahân. Fel y gwnaed yn flaenorol, roedd canlyniadau arholiadau
wedi cael eu cynnwys. Pe bai ysgolion yn gofyn am unrhyw gefnogaeth gydag
Addysg Grefyddol neu Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, byddai’r Prif Reolwr Addysg
a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn fodlon iddynt gysylltu â nhw a chynnig
cefnogaeth fel y bo’n briodol. Nid oedd adroddiadau arolygu
Estyn yn barnu pynciau. Cafodd sylwadau eu gwneud mewn perthynas â’r agweddau
Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol a oedd wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad. Roedd yr argymhellion gan
Estyn yn berthnasol o hyd, ac roeddent ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn tynnu
sylw at yr adnoddau a oedd ar gael i ysgolion. Roedd hyn yn cynnwys fideo yn
trafod y maes llafur cytunedig a rhan Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y
cwricwlwm newydd, yn ogystal â dolenni i ganllawiau ategol yn canolbwyntio ar
gysyniadau, lensys a’r teithiau. Roedd GwE wedi trefnu
digwyddiadau dan y teitl ‘Dadbacio a Deall MDaPh y Dyniaethau’. Roedd 2 sesiwn
wedi’u trefnu. Roedd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar ddeall yr elfennau
gorfodol a’r ail yn canolbwyntio ar ddulliau cynllunio ac asesu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dolenni i’r
cyflwyniadau a’r dogfennau hynny. Roedd yr holl adnoddau a oedd ar gael i ysgolion yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
||
CYFLEOEDD AC ADNODDAU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG AC ADDYSG GREFYDDOL PDF 109 KB Derbyn cyflwyniad ar yr ystod
o ddeunydd sydd ar gael i gefnogi athrawon Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac
Addysg Grefyddol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr
eitem i’r Aelodau a phwysleisiodd fod y rhan fwyaf o adnoddau wedi cael eu
trafod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem flaenorol. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol fod yr eitem wedi’i chynnwys yn ystod y drafodaeth ar eitem
rhif 6 ar y rhaglen. Yn ychwanegol i’r hyn a drafodwyd yn flaenorol, dywedodd
fod Modiwlau Llywodraeth Cymru ar Ddysgu Proffesiynol wedi cael eu cyhoeddi. Yn
y cyfarfod diwethaf, rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau ar ddeunyddiau’r modiwl.
Roedd y deunyddiau yn darparu sawl enghraifft o sut i’w gynnwys yn yr ystafell
ddosbarth a sut i gyflwyno pynciau i ddisgyblion. Roedd o’r farn bod cydbwysedd
rhwng y ddamcaniaeth a’r ymarfer yn y deunyddiau a ddarparwyd. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol y byddai’n cynnwys manylion am yr adnoddau trwy’r modiwlau ar
ddysgu proffesiynol yn yr adroddiad blynyddol.
Gofynnodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol a oedd yr Aelodau’n ymwybodol o unrhyw ddeunyddiau ychwanegol
a ddefnyddir gan ysgolion i gefnogi Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a
Moeseg mewn ysgolion. Os oedd yr Aelodau’n ymwybodol o unrhyw adnoddau,
gofynnodd iddynt eu rhannu gyda’r pwyllgor.
PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi’r cyflwyniad a’u bod yn rhannu
unrhyw gyfleoedd neu ddeunyddiau ychwanegol y maent yn ymwybodol ohonynt, er
mwyn eu rhannu ag ysgolion Sir Ddinbych. |
||
Derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar-lein 19 Mehefin 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ·
Cofnodion CCYSAGC – 19
Mehefin 2023 Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru
(CCYSAGC) a gynhaliwyd dros Microsoft Teams ar 19 Mehefin 2023 (dosbarthwyd
ymlaen llaw). Roedd Jennie Downes yn
bresennol yn y cyfarfod CCYSAGC. Dywedodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol yn flaenorol fod yr eitem hon yn caniatáu i’r cynrychiolydd yn
CCYSAGC adrodd am unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion i’r pwyllgor, yr
oeddent yn credu y dylai’r Aelodau gael gwybod amdanynt. Fe hysbyswyd yr Aelodau bod
CCYSAGC yn ymwybodol iawn o hyrwyddo gwerth a manteision hynny i Grefydd,
Gwerthoedd a Moeseg a’r diwylliant o fewn addysg. Fe ystyriwyd rôl y CYSAG a’r gwaith maent yn
ei wneud yn hanfodol. Roedd grŵp bach o CCYSAGC
yn cwrdd i drafod sut i hyrwyddo gwaith y CYSAG a CCYSAGC ar-lein. Roedd cynhadledd CCYSAGC yn
cael ei threfnu ar gyfer addysgwyr, gan gynnwys y Gweinidog Addysg ac ysgolion
i drafod yr arferion da o ran cyflwyno’r elfen Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg. Gofynnodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf, mewn perthynas â’r wybodaeth
ddiweddaraf am y Cwricwlwm i Gymru, roi gwybod i’r pwyllgor am y gwaith sy’n
cael ei wneud yn yr ysgolion y mae ganddynt gysylltiadau â nhw. Cytunodd y
Cadeirydd y byddai hynny o fudd i’r trafodaethau yn y maes pwnc hwn. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 19
Mehefin 2023. |
||
DYDDIADAU'R CYFARFODYDD NESAF Gwanwyn - 22/2/24 Haf - 26/6/24 Hydref - 15/10/24 Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG
Sir Ddinbych ar 22 Chwefror 2024. |
||
Daeth y cyfarfod i ben am 11.05am. |