Agenda and draft minutes
Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Emrys Wynne y Cynghorydd
Ellie Chard i barhau fel Cadeirydd.
Cytunodd holl aelodau’r Pwyllgor oedd yn bresennol yn unfrydol. PENDERFYNWYD fod y Cynghorydd Ellie Chard yn parhau fel Cadeirydd CYSAG. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Emrys Wynne Jennie Downes i
fod yn Is-Gadeirydd. Cytunodd holl
aelodau’r Pwyllgor oedd yn bresennol yn unfrydol. PENDERFYNWYD fod Jennie Downes yn Is-Gadeirydd CYSAG |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 279 KB Cael a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 24 Mehefin
2021. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Gofynnodd yr Ymgynghorydd AG os oedd gan Aelodau'r
Pwyllgor unrhyw aelodau o'r gymuned o gredoau gwahanol a oedd yn dymuno cael eu
cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac i gadarnhau’r manylion gydag ef. Eglurodd Dominic Oakes mewn cyfarfodydd yn y
dyfodol, dylai ffydd gael ei nodi fel ffydd a chred. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
AGORED CYMRU DYFARNIAD LEFEL 2 MEWN ARCHWILIO BYDOLYGON PDF 23 KB Cael cyflwyniad
gan Libby Jones am y cymhwyster newydd a fydd yn cwrdd â disgwyliadau Maes
Llafur Cytunedig yn CA4. Ystyried y ffordd
orau o hyrwyddo'r cymhwyster i Ysgolion Uwchradd lleol. Cofnodion: Rhoddodd Libby Jones gyflwyniad mewn perthynas â chymhwyster newydd a
fyddai’n bodloni disgwyliadau maes llafur cytunedig yng nghyfnod allweddol 4.
Roedd y cyflwyniad yn cael ei rannu i aelodau'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod. Roedd y cymhwyster ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed
nad oedd wedi dewis astudiaethau crefyddol ar lefel TGAU. Roedd yn hygyrch i ddysgwyr o bob gallu. Roedd
y cymhwyster yn unol â’r maes llafur cytunedig presennol. Byddai’r dull byd-olygon yn fwy cynhwysol i bob
dysgwr. Cadarnhawyd y byddai Lefel 1 o'r cymhwyster yn dda
ar gyfer ysgolion arbennig a dysgwyr gydag anghenion ychwanegol. Mae wedi cael ei ddatblygu gydag anghenion
dysgu ychwanegol dan sylw. Y nod oedd dysgu am Dduw ac i ddysgu am werthoedd a moeseg grefyddol.
Roedd hon yn ffordd mwy cynhwysol o weithio gyda dysgwyr. Yn ystod y drafodaeth, cadarnhaodd aelodau'r
Pwyllgor eu cymeradwyaeth a chefnogaeth i’r cymhwyster. Diolchodd
pawb oedd yn bresennol i Libby Jones am ei chyflwyniad. PENDERFYNWYD fod Aelodau CYSAG wedi cadarnhau eu
cymeradwyaeth a chefnogaeth i’r
cymhwyster. |
|
CYNRYCHIOLAETH DDYNEIDDIOL AR CYSAG PDF 22 KB Cael cyflwyniad
gan Kathy Riddick, Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru, ar Ddyneiddiaeth yng
Nghymru. Cofnodion: Yn anffodus, nid oedd Kathy Riddick, Cydlynydd
Dyneiddwyr Cymru ar Ddyneiddiaeth yng Nghymru, yn gallu mynychu yn sgil salwch. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2020/21 PDF 111 KB Ystyried a
chymeradwyo Adroddiad Blynyddol CYSAG 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG yr Adroddiad
Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG Sir Ddinbych 2021/2022 (wedi'i ddosbarthu
eisoes) er cymeradwyaeth a oedd yn rhoi manylion am weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn
academaidd flaenorol yn cynnwys y cyngor a roddwyd i’r awdurdod addysg lleol a
materion lleol a chenedlaethol eraill. Atgoffodd yr Ymgynghorydd AG yr aelodau fod yr
adroddiad blynyddol yn ddogfen hanesyddol a gofynnodd i’r aelodau ei
chymeradwyo, yn amodol ar unrhyw gamgymeriadau i’w cywiro. Rhoddodd grynodeb o’r adroddiad a thynnodd
sylw penodol at y canlynol: ·
Cadarnhawyd
mewn cofnodion yn y dyfodol, pan grybwyllir "ffydd” dylid nodi “ffydd a
chred” a dylai “crefydd" fod yn “crefydd ac athroniaeth” ·
Mabwysiadodd CYSAG Sir Ddinbych y ‘Fframwaith Enghreifftiol
Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno addysg grefyddol i ddysgwyr 3 i 19 ' fel y Maes
Llafur Lleol Cytunedig ar gyfer y sir yn 2008.
Y fframwaith hwn yw sail y Maes Llafur cytunedig yn Sir Ddinbych o hyd. Bydd y Maes Llafur
Cytunedig yn cael ei adolygu unwaith i’r canllawiau ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg ei gyhoeddi. ·
Prif swyddogaeth CYSAG yw ‘........cynghori’r awdurdod ar
y cyfryw faterion sy’n gysylltiedig ag addoli crefyddol mewn ysgolion sirol a'r
addysg grefyddol sydd i'w rhoi yn unol â
maes llafur cytunedig y bydd yr awdurdod
yn ei gyfeirio i'r cyngor neu fel y gwêl y cyngor yn dda'. Deddf Diwygio
Addysg 1988 a.11 (1) (a). ·
Daeth Estyn ag arolygiadau safon i ben o Fedi 2020-21 i
alluogi amser i ysgolion baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yn dechrau ym Medi
2022. Hefyd yn sgil y pandemig, ni wnaeth Estyn gyflawni arolygiadau o fis
Mawrth 2020. ·
Cyfarfu aelodau CYSAG dair
gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Cynhaliwyd yr holl gyfarfodydd yn electronig yn sgil y pandemig. ·
Cyhoeddodd Sir Ddinbych ei newyddlen CYSAG cyntaf ar y
cyd â Chonwy, a oedd yn darparu ysgolion gyda newyddion mewn perthynas ag
AG/CGM ac roedd yn hynod o bwysig wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm
newydd. ·
Roedd aelodau'r CYSAG a’r ALl
yn cael eu cynrychioli yn nhri chyfarfod CCYSAGC, ac wedi derbyn rhai o'r
cyflwyniadau yr oeddent wedi'u gwneud. Parhaodd CYSAG i dderbyn adroddiadau gan gynrychiolwyr a fynychodd
gyfarfodydd y Gymdeithas. Mae cofnodion
a phapurau o CCYSAGC hefyd wedi cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd CYSAG. Roedd yr aelodau yn hapus i dderbyn yr adroddiad fel cofnod cywir o waith
CYSAG. PENDERFYNWYD bod - ·
Bod Adroddiad Blynyddol
CYSAG Sir Ddinbych 2020/2021 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith
CYSAG, ac ·
Y dylid gofyn i’r Awdurdod Lleol drefnu bod yr adroddiad yn cael ei
gyfieithu i’r Gymraeg a’i ddosbarthu i holl ysgolion a cholegau Sir Ddinbych ac
i dderbynyddion eraill fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y'u dynodir yn
yr adroddiad. |
|
Cael cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar-lein 16
Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG, Phil Lord gofnodion CCYSAGC o’r cyfarfod a
gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 (dosbarthwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD bod aelodau CYSAG yn
derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC ar 16 Mehefin 2021 |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Gwanwyn ’22 - 1 Chwefror 2022 Haf ’22 - 23 Mehefin 2022 Hydref ’22 - 19 Hydref 2022 Cofnodion: Dyddiad y cyfarfod nesaf fydd: 1 Chwefror 2022 23 Mehefin 2022 19 Hydref 2022 |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |