Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
MYFYRIO TAWEL Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Gill German ac Emrys Wynne ynghyd
â’r Parchedig Brian H Jones, Dominic Oakes, Sarah Griffiths a Tania Ap Siôn |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd Jennie Downes gysylltiad personol sy’n
rhagfarnu yn eitem 8 ar y rhaglen CCYSAGC
i'r graddau yr oedd yn ymwneud ag Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith
CCYSAGC oherwydd ei bod yn enwebai. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfynodd y Cadeirydd ei bwriad i gynnwys y mater
canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo:- Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGC Cytunwyd i ystyried yr eitem hon yn ystod eitem 8 ar y rhaglen gan ei fod yn ymwneud â CCYSAGC. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 371 KB Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod
CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 (copi wedi’i gynnwys). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Derbyn cyflwyniad
ynglŷn â Modiwl Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg. ·
Modiwl Cymraeg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3 ·
Modiwl Saesneg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3 Cofnodion: Rhoddodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol gyflwyniad ynglŷn â Rhestr Chwarae Dysgu Proffesiynol
Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, drwy gyswllt gwefan i
wefan Hwb. Hysbyswyd yr Aelodau fod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau dysgu proffesiynol yn ddiweddar i
gefnogi athrawon ac uwch arweinyddion i ddeall a chynllunio ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a diben y cyflwyniad oedd cynorthwyo dealltwriaeth
aelodau o’r gofynion a goblygiadau cynllunio CGM ar ysgolion a chodi
ymwybyddiaeth o’r adnoddau hynny o fewn ysgolion ac ati. Yn ystod y cyflwyniad
dangoswyd i’r aelodau sut i gael mynediad i’r dudalen dysgu proffesiynol oedd
yn canolbwyntio ar bump modiwl perthnasol i amrywiaeth o rhanddeiliaid: (1) Blynyddoedd Cynnar, (2) Ysgolion Cynradd,
(3) Lleoliadau Uwchradd, (4) Anghenion Dysgu Ychwanegol, a (5)
Phenaethiaid. At ddibenion y cyflwyniad,
cafodd yr aelodau eu harwain drwy’r Rhestr Chwarae Penaethiaid. Roedd meysydd wedi eu cynnwys
fel rhan o’r Rhestr Chwarae Penaethiaid yn cynnwys - ·
Croeso - i ddarparu
cefnogaeth gyda’r newidiadau i’r CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru a thrawsnewid i
ffordd newydd o feddwl, cynllunio a darparu CGM. ·
Ymgysylltu Critigol -
darparu astudiaethau achos ac enghreifftiau i gynnig ysbrydoliaeth a syniadau
ar gyfer cynllunio i leoliadau ysgol unigol. ·
Nod - datblygu mwy o
ddealltwriaeth o’r newidiadau i CGM i gefnogi’r dull i weithredu
newidiadau mewn lleoliadau ysgol
penodol. ·
manylu’r prif newidiadau
yn codi o’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 gan ei fod yn ymwneud ag
Addysg Grefyddol a CGM a beth oedd wedi aros yr un fath. ·
Hunanwerthuso - rhoi’r
cyfle i gynnal hunanwerthusiad ·
Cwis - roedd aelodau
wedi cymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol i brofi eu gwybodaeth. ·
Goblygiadau - manylu’r
goblygiadau yn ymwneud â’r model dylunio’r cwricwlwm; staff; cyfathrebu gyda
rhanddeiliaid a sgyrsiau gyda rhieni
sydd o bosibl yn bryderus nad oedd yna hawl i dynnu eu plentyn allan o CGM. ·
Crynodeb - darparwyd crynodeb o’r prif bwyntiau a phethau i’w
hystyried. Roedd aelodau yn croesawu’r deunydd adnodd cynhwysfawr a ddarparwyd a
fyddai’n gefnogaeth werthfawr i ymarferwyr a chytunwyd bod llythyr canmoliaeth
yn cael ei anfon at awduron y deunydd yn y cyswllt hwnnw. Roedd yna drafodaeth bellach ar y sgyrsiau gyda rhieni oedd yn bryderus nad
oedd yna unrhyw hawl i dynnu eu plant allan o CGM, a goblygiadau tynnu’r hawl i
dynnu allan fesul cam, o ystyried y caiff plentyn ei dynnu allan o Addysg
Grefyddol ond nid CGM. Dywedodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei fod eisoes wedi cael un ysgol yn cysylltu yn
ceisio cyngor yn y cyswllt hwnnw a hefyd yn adrodd ar waith i’w wneud mewn
cydweithrediad â CCYSAGC, NAPfRE a Llywodraeth Cymru ar lunio canllawiau
ffurfiol yn y dyfodol. Fodd bynnag,
nodwyd bod y pryderon a thrafodaethau hynny yn gyfredol a chytunwyd i
ganllawiau/pwyntiau bwled gael eu datblygu yn y cyfamser gyda’r bwriad i
ddarparu cefnogaeth fuan i fynd i’r afael â’r materion a phryderon hynny. Byddai unrhyw ganllawiau ffurfiol dilynol a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn naturiol yn disodli’r canllawiau dros dro a
gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru. I’r
perwyl hwnnw, cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr
Addysg ynghyd â chynrychiolwyr o’r ddwy Esgobaeth a chynrychiolwyr ysgol yn
gweithio gyda’i gilydd i ystyried ffurfio’r canllawiau dros dro hynny i
ysgolion Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD – (a) derbyn y cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol; (b) aelodau i wneud ysgolion mae
ganddynt gysylltiad â nhw yn ymwybodol o’r adnoddau dysgu proffesiynol; (c) anfon llythyr canmoliaeth at awduron yr
adnoddau dysgu ar y deunydd ardderchog a ddarparwyd a’i werth i’r sector
addysg, a (d) yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i weithio gyda’r Prif Reolwr Addysg ynghyd â chynrychiolwyr Esgobeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUNIO AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD PDF 162 KB Derbyn cyflwyniad
gan Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych, ar
sut maent wedi cynllunio a chyflwyno Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y
Cwricwlwm i Gymru. Cofnodion: Rhoddodd Leah Crimes, Pennaeth
Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych gyflwyniad ar sut oedd yr ysgol wedi cynllunio a
gweithredu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fewn y Cwricwlwm i Gymru hyd
yma, ynghyd â’r camau nesaf. Rhoddodd Ms Crimes rhywfaint o
gyd-destun i Ysgol y Santes Ffraid oedd yn ysgol grefydd 3-19 gwirfoddol a
gynorthwyir gyda nod crefyddol dynodedig oedd yn Gatholig Rufeinig. Roedd CGM yn statudol ar hyn o bryd hyd at
flwyddyn 6 ac o fis Medi byddai’n statudol hyd at flwyddyn 8. Roedd yr ysgol wedi mapio a threialu eu
cynllun CGM cyfan o’r feithrinfa i Flwyddyn 7 oedd wedi bod yn gweithio’n dda. Roedd yr elfennau canlynol wedi
eu cynnwys yn y cyflwyniad cynhwysfawr - ·
Gweledigaeth Cwricwlwm
Ysgol y Santes Ffraid - yn darparu rhywfaint o hanes i’r ysgol, ethos a
gwerthoedd a datganiad bwriad a gwaith i sicrhau bod yr ysgol wedi gallu bod yn
blwraliaethol tra’n hybu dysgu’r Eglwys Gatholig. ·
yn cyfuno’r Proffil
Pedwar Diben a Dysgu Catholig i greu’r Proffil Dysgwr Santes Ffraid yn sail i’r
Cwricwlwm i Gymru. ·
gweledigaeth CGA
ardderchog i gyflwyno dinasyddion byd-eang, meddylwyr beirniadol, unigolion
empathetig, ymarferwyr hunan-fyfyriol yn ogystal ag arbenigwyr crefyddol. ·
y siwrnai hyd yma -
mapio drwy’r 7 lens yn unol â thestunau ehangach a chynnal yr ethos Catholig a
ffordd Santes Ffraid ynghyd â’r cwricwlwm CGM. ·
darparwyd enghreifftiau
manwl o’r mapio CGM Ysgol Isaf drwy dymhorau’r ysgol a thestunau ar gyfer
Dosbarth Meithrin a Derbyn hyd at Flynyddoedd 1, 2, 3 a 4. ·
y camau nesaf i feddwl
am ‘beth yw’r Llinyn Euraidd’ sy’n rhedeg drwy’r straeon i blant cysylltiedig â
chysyniadau gyda mapio a gwaith archwilio pellach. ·
mapio’r cwricwlwm
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 ac ystod o destunau wedi
eu hystyried. ·
ymdrechu i baratoi’r
dysgwyr gyda’r sgiliau i benderfynu ar y gwir ·
disgyblion i astudio
testunau yn archwilio amrywiaeth cred yn y byd modern ·
darparwyd adnoddau
‘blasu’ o’r gwersi Blwyddyn 7 ·
eglurwyd nod cwricwlwm
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Ysgol y Santes Ffraid i gyflawni deddfwriaeth
Llywodraeth Cymru, bodloni Proffil Dysgwyr Santes Ffraid, paratoi i archwilio
Datganiad Beth sy’n Bwysig y Dyniaethau a chynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau
trosglwyddadwy a llunio cysylltiadau gyda disgyblaethau eraill. Diolchodd y Cadeirydd i Ms
Crime am y cyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth a chafodd ymateb da gan yr
aelodau oedd yn cydnabod gwaith caled a wnaed i gynllunio a gweithredu Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg yn yr ysgol ynghyd â’r dull cydweithredol ar gyfer lles y
disgyblion i gyd. Roedd yn arbennig o
ddiddorol gweld sut oedd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi’i weithredu fel
ysgol ffydd ddynodedig. Mewn ymateb i gwestiynau,
eglurodd Ms Crimes gyfraniad Ymddiriedolwyr a Llywodraethwyr o fewn y broses
oedd hyd yma wedi bodloni holl rhanddeiliaid a hefyd egluro sut oedd gwybodaeth
wedi’i rhannu gyda rhieni, gyda diweddariadau rheolaidd ar weithgareddau drwy
Seesaw a Google Classroom. Ar ddiwedd y drafodaeth,
diolchodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol, gan ddweud ei fod wedi gofyn i Ms
Crimes roi’r cyflwyniad yng nghyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol
Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ddydd Llun.
Roedd yn ddiddorol nodi fel Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, nid
oedd Ysgol y Santes Ffraid wedi’i chynnwys yn sgôp CYSAG a CCYSAGC o’r
blaen. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGON PDF 164 KB Derbyn adroddiad
gan yr Ymgynghorydd AG (copi wedi’i gynnwys) sy’n dadansoddi Adroddiadau
Arolygon Estyn ar gyfer deuddeg ysgol a gynhaliwyd rhwng Mai 2022 a Mai 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol adroddiad (dosbarthwyd ymlaen
llaw) yn dadansoddi canlyniadau arolygon diweddar Estyn o ran darpariaeth
Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd mewn deuddeg ysgol rhwng Mai 2022 a Mai
2023. Mae arolygon wedi eu cynnal yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn; Ysgol Pendref;
Ysgol Penmorfa; Ysgol Caer Drewyn; Ysgol Gynradd Carrog; Ysgol Castell, Ysgol
Borthyn, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir, Ysgol Llewellyn; Ysgol Frongoch;
Ysgol Uwchradd Prestatyn; Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Uwchradd Glan
Clwyd. Roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wedi darparu crynodeb byr o’r
canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a sylwadau oedd yn ymwneud â Chrefydd,
Gwerthoedd a Moeseg. Oherwydd newidiadau
yn y broses arolwg, roedd y nifer o sylwadau sy’n ymwneud â darpariaeth Addysg
Grefyddol ac Addoli ar y Cyd mewn ysgolion wedi gostwng ac o ganlyniad roedd
adroddiadau i CYSAG wedi eu cyflwyno yn flynyddol yn hytrach na phob tymor fel
mewn blynyddoedd blaenorol. Nid oedd
unrhyw arolygon wedi eu cynnal yn ystod y pandemig Covid ac roedd yr adroddiad
yn manylu arolygon a gynhaliwyd ers hynny.
Roedd rhywfaint o wybodaeth cyd-destun yn ymwneud â phob ysgol hefyd
wedi’i darparu fel y gofynnwyd yn flaenorol gan CYSAG. Roedd Aelodau yn falch o nodi ailddechrau dadansoddiad blynyddol o
adroddiadau arolwg yn dilyn y pandemig a’r sylwadau cadarnhaol a wnaed oedd yn
rhoi cipolwg ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn ysgolion Sir Ddinbych a’r
gwaith a wnaed. Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am gyfarfod ar 14
Chwefror 2023 rhwng Estyn ac Aelodau Gweithredol CCYSAGC ynglŷn â monitro
safonau a chynnydd (cofnodion CCYSAGC ar 21 Mawrth 2023 yn cyfeirio) oedd yn
cynnwys testunau fel: Monitro
darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion ac ystyried y Maes
Llafur a gytunwyd; monitro safonau a chynnydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;
Addoli ar y Cyd ac ymarfer effeithiol.
Nodwyd na fyddai ysgolion yn cael eu harolygu’n benodol mewn perthynas
ag ansawdd darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ond sicrhau bod CGM yn
cael ei addysgu a bodloni’r gofynion statudol. O ran Addoli ar y Cyd, roedd canllawiau
Estyn 2017 yn parhau’n berthnasol. Roedd Estyn a CCYSAGC wedi ystyried bod y
cyfarfod yn fuddiol a chytunwyd i gyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn y dyfodol,
gyda chydweithwyr Estyn yn derbyn gwahoddiad i roi diweddariadau ym mhrif
gyfarfodydd CCYSAGC fel bo’r angen.
Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai peilot Fframwaith
Arolwg newydd Estyn ar gyfer 2024 yn debyg o gael ei gynnal o dymor y Gwanwyn
ymlaen. O ystyried perthnasedd y
fframwaith arolwg newydd, byddai manylion pellach yn cael eu darparu mewn
cyfarfod CYSAG yn y dyfodol. PENDERFYNWYD – (a) derbyn a nodi’r
adroddiad. (b)
Anfon llythyr i bob ysgol i roi gwybod iddyn nhw bod eu Hadroddiad
Arolygu wedi ei ystyried, eu llongyfarch ar yr elfennau da a nodwyd, a’u hatgoffa
o wasanaethau’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion
mewn perthynas ag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater y mae
angen mynd i’r afael ag ef. (c) y dylid gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau i’r ysgolion dan sylw. |
|
·
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar
21 Mawrth 2023 (copi wedi’i gynnwys) ·
Cytuno ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfod nesaf y
Gymdeithas ar 19 Mehefin 2023 (Sir Ddinbych sy’n cynnal cyfarfod haf y
Gymdeithas) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ·
Cofnodion CCYSAGC - 21 Mawrth 2023 Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas Cynghorau
Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd drwy
Microsoft Teams ar 21 Mawrth 2023 (dosbarthwyd ymlaen llaw). Arweiniodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr aelodau
drwy’r cofnodion. Rhoddwyd sylw
penodol i Gofnod Rhif 9 Sgyrsiau gyda chydweithwyr Lloegr (NASACRE, REC,
Canolbwyntiau Addysg Grefyddol Rhanbarthol) o ystyried bod addysg yng Nghymru
yn dod yn gynyddol wahanol i Loegr gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru newydd
a sut yr oedd y sefydliadau hynny yn gweithio gyda’i gilydd. Byddai trafodaethau pellach yn cael eu
cynnal gyda’r sefydliadau hynny i ddatblygu’r berthynas rhwng NASACRE a
CCYSAGC; yn galluogi cyfathrebu a chydweithio gwell gyda REC dros yr hirdymor
ac o bosibl sefydlu fforwm REC Cymru, a mynd i’r afael â materion a godwyd
ynglŷn â datblygu canolbwyntiau Addysg Grefyddol Rhanbarthol heb
gyfathrebu uniongyrchol gyda CCYSAGC neu NAPfRE a’r ffordd ymlaen. Hefyd, cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol at y Gynhadledd EFTRE ac anogodd aelodau i ymweld â gwefan EFTRE oedd
yn rhoi cipolwg ar Addysg Grefyddol ar draws Ewrop. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. ·
Cyfarfod CCYSAGC - 19 Mehefin 2023 Byddai’r cyfarfod CCYSAGC nesaf yn cael
ei gynnal ar-lein drwy Zoom ar 19 Mehefin 2023 a chynhelir gan Sir
Ddinbych. Nodwyd y byddai’r Pennaeth
Addysg, Geraint Davies yn rhoi araith groesawu.
Gofynnwyd i’r Aelodau gysylltu â naill ai’r Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol neu’r Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer dolen i’r cyfarfod os
oeddent yn dymuno bod yn bresennol. ·
Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGC [Ystyriwyd y mater hwn fel mater brys,
a rhoddodd y Cadeirydd rybudd o hyn ar ddechrau’r cyfarfod]. Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu
yn y mater hwn, gadawodd Jennie Downes y cyfarfod ar y pwynt hwn ac ni
chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol am dri enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer y ddwy swydd ar y Pwyllgor
Gweithredol, yn benodol Jennie Downes, CYSAG Sir Ddinbych/CYS, y Cynghorydd
Arfon Wyn, CYSAG Ynys Môn/CYS ynghyd â Marged Williams a Tyler Saunders,
CYSAG/CYS Morgannwg (rhannu swydd), a gofynnwyd am farn aelodau ar yr ymgeiswyr
hynny. Roedd Aelodau yn ystyried cefndir a
phrofiad yr ymgeiswyr a chytunwyd fod gan bob un eu rhinweddau. Yn dilyn trafodaeth fer - PENDERFYNWYD
bod Jennie Downes, Sir Ddinbych ac Arfon Wyn,
Ynys Môn yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych i’w hethol i’r CCYSAGC/Pwyllgor
Gweithredol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Hydref 2023 – 17
Hydref 2023 Cofnodion: Byddai cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn cael ei
gynnal ar 17 Hydref 2023. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 am. |