Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
MYFYRIO TAWEL Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod
tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd Meirick Davies, Dominic Oakes a Katie Mason Byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne a Sarah Griffiths yn
cyrraedd y cyfarfod yn hwyr. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
CYFLWYNIAD AR BWRPAS CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTUNEDIG PDF 164 KB Derbyn cyflwyniad
ar bwrpas cynhadledd maes llafur cytunedig. Cofnodion: Eglurodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol y gofyn i’r awdurdod lleol gynnal Cynhadledd Maes Llafur
Cytunedig i drafod mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig yn ffurfiol ar gyfer
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg bob pum mlynedd.
Rhoddodd gyflwyniad byr ar bwrpas Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig, a
oedd yn ymwneud â’r canlynol – ·
Roedd Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn bwnc a benderfynwyd arno’n lleol, ac roedd y Maes
Llafur Cytunedig yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn RVE o fewn pob un o’r 22
awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer yr ysgolion a oedd yn dysgu’r Maes Llafur
Cytunedig. ·
Roedd y Canllawiau
wedi’u cyfeirio at y rhai sy’n gyfrifol am baratoi Maes Llafur Cytunedig y
mae’n rhaid iddynt roi sylw iddo, gan gynnwys y Gynhadledd Maes Llafur
Cytunedig a’r awdurdod lleol, oedd â swyddogaeth i fabwysiadu’r Maes Llafur
Cytunedig. ·
Roedd y Maes Llafur
Cytunedig yn ofyniad cyfreithiol i adolygu’r maes llafur ac argymell maes
llafur priodol i’r awdurdod ei fabwysiadu. ·
Yn dilyn mabwysiadu Maes
Llafur Cytunedig, roedd yn rhaid i bob ysgol a lleoliad a gynhelir roi sylw
iddo, gan gynnwys ysgolion o gymeriad crefyddol, wrth fynd ati i gynllunio’r
elfen maes llafur cytunedig eu darpariaeth RVE ·
Gallai awdurdod lleol
fabwysiadu neu addasu’r Canllawiau fel eu Maes Llafur Cytunedig ·
Mae’r rhaid i’r
Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig sicrhau bod y maes llafur yn adlewyrchu’r
ffaith mai (a) traddodiadau Cristnogol yw’r prif draddodiadau crefyddol yng
Nghymru, gan hefyd roi ystyriaeth i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau
eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a (b) bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol
anghrefyddol gan bobl yng Nghymru. ·
Manylu ar gyfansoddiad y
Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd â hawliau pleidleisio a gofynnwyd am gytundeb
unfrydol ar y maes llafur RVE a argymhellir. ·
Cael gwared â’r hawl i
dynnu’n ôl o’r RVE yn y Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022 ar gyfer pob dysgwr
hyd at a chan gynnwys blwyddyn 6; o fis Medi 2023 ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8,
ac wrth barhau â’r dull graddol o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul Cam,
ar gyfer blwyddyn 9 o fis Medi 2024, ar gyfer blwyddyn 10 o fis Medi 2025 ac ar
gyfer blwyddyn 11 o fis Medi 2026. Gan nad oedd unrhyw gwestiynau
yn codi gan yr aelodau o’r cyflwyniad – PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r
cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ynghylch pwrpas Cynhadledd Maes
Llafur Cytunedig. |
|
Y MAES LLAFUR CYTUNEDIG NEWYDD PDF 219 KB Trafod y cyngor
fydd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei ddarparu’n ffurfiol i’r awdurdod
lleol ar fabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg, ac i roi cyngor ffurfiol i’r awdurdod lleol ar
fabwysiadu’r Maes Llafur cytunedig newydd ar gyfer Crefydd, gwerthoedd a
Moeseg. Cofnodion: Fe hwylusodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol drafodaeth ar y cyngor y
byddai’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei roi’n ffurfiol i’r awdurdod
lleol ynghylch mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan roi ystyriaeth benodol i fabwysiadu’r
Canllawiau RVE fel Maes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych o fis Medi 2022 i fis
Medi 2027. Nododd yr aelodau fanteision mabwysiadu’r Canllawiau RVE yn eu cyfanrwydd,
fel y Maes Llafur Cytunedig, gan gynnwys: byddai’r hyfforddiant a ddarperir gan
Lywodraeth Cymru yn berthnasol i’r Canllawiau RVE; byddai cysondeb ar draws
llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wrth weithio ar yr un cwricwlwm;
cynlluniwyd y Canllawiau RVE i gyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd fel rhan o
Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac mae’r Canllawiau RVE eisoes wedi bod
drwy’r ymgynghoriadau perthnasol â rhanddeiliaid a phrosesau sicrhau ansawdd,
sy’n golygu mae’n debyg na fyddai rhaid cynnal ymgyfreitha posib. Fe soniodd
yr athrawon a oedd yn bresennol am
ddatblygiad Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau o fewn eu hysgolion ac
roeddent yn credu bod y Canllawiau RVE yn cysylltu’n dda o fewn y cwricwlwm ac
yn cefnogi’r awgrym y dylid ei fabwysiadu fel y Maes Llafur Cytunedig, a bod
cefnogaeth hefyd yn cael ei hadleisio gan aelodau eraill. Cynigiodd y Cynghorydd Tony Flynn y dylid cynghori’r awdurdod lleol i
fabwysiadu’r Canllawiau RVE yn ei gyfanrwydd, fel ei Faes Llafur Cytunedig ac
fe’i heiliwyd gan Collette Owen. Roedd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn cynnwys tri phwyllgor ar wahân,
yn cynrychioli (1) Enwadau Crefyddol ac Argyhoeddiadau Athronyddol
Anghrefyddol, (2) Cymdeithasau Athrawon, ac (3) yr Awdurdod Lleol, a
chyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at y gofyniad i bob pwyllgor
bleidleisio ar wahân ar y cynnig. Yn
seiliedig ar bleidlais bob pwyllgor, yn unfrydol – PENDERFYNWYD cynghori awdurdod
lleol Sir Ddinbych i fabwysiadu’r Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel
Maes Llafur Cytunedig o fis Medi 2022 i fis Medi 2027. Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i’r aelodau hefyd ystyried y
canlynol – ·
Roedd CYSAG Conwy wedi nodi’r
diffyg cyfeiriad at ôl-16 yn y canllawiau RVE, ond bod cyfeiriad at ôl-16
wedi’i gynnwys fel rhan o’r crynodeb o’r ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i
Gymru, yn benodol ar gyfer RVE gan nad oedd bellach yn berthnasol i bob disgybl
ôl-16 ddilyn cwricwlwm RVE. Fodd
bynnag, pe bai plentyn yn dymuno, byddai hawl ganddynt o hyd i dderbyn
darpariaeth ar gyfer RVE ac awgrymwyd y dylai hawl fod yn amlwg yn y cyngor a
roddir i’r awdurdod lleol. Nodwyd bod
CYSAG Conwy wedi cynnig atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig, yn ymgorffori’r
cyfeiriad at ôl-16 yn y crynodeb o’r ddeddfwriaeth fel canllaw o ran
hynny. Cynigodd y Cadeirydd bod yr un
agwedd yn cael ei mabwysiadu yn Sir Ddinbych, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd
Cheryl Williams ·
O ystyried y dull graddol o
roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam, awgrymwyd bod yr awdurdod lleol yn
parhau â’r Maes Llafur Cytunedig presennol yn unol â’r dull graddol a hysbysu’r
awdurdod lleol fel bo’n briodol.
Cynigodd y Cynghorydd Cheryl Williams y dull hwnnw, ac fe’i heiliwyd gan
y Cynghorydd Rachel Flynn. Oherwydd yr
angen i’r Maes Llafur Cytunedig presennol a’r un newydd fod yn hygyrch, y
bwriad oedd sicrhau fod modd cael mynediad ato ar wefan Sir Ddinbych ar y
dudalen sy’n cynnwys agendâu CYSAG ac ati. Pleidleisiodd pob un o’r tri phwyllgor ar wahân ar y ddau gynnig uchod ac
yn unfrydol - PENDERFYNWYD cynghori awdurdod lleol Sir Ddinbych ymhellach i – (a) gynnwys atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig yn ymgorffori’r cyfeiriad at ddarpariaeth RVE ôl-16 fel y manylir yn y crynodeb o’r ... view the full Cofnodion text for item 4. |