Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Katie Mason, Sarah Griffiths,
Dominic Oakes a’r Cynghorydd Cheryl Williams. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 293 KB Derbyn a chymeradwyo
- (a) cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 (copi ynghlwm), a (b) cofnodion Cynhadledd Maes Llafur Cytûn CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 ynghyd â
chofnodion y Gynhadledd Maes Llafur a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 (wedi’u
cylchredeg yn flaenorol). PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 ynghyd â
chofnodion y Gynhadledd Maes Llafur a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 fel cofnod
cywir. |
|
MABWYSIADU’R ARGYMHELLION Y CYTUNWYD ARNYNT O’R GYNHADLEDD MAES LLAFUR PDF 8 KB I drafod y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni argymhellion Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr eitem ar
Fabwysiadu’r Argymhellion y Cytunwyd arnynt o’r Gynhadledd Maes Llafur.
Eglurwyd ei bod yn debygol y byddai’r eitem yn dod gerbron y cyfarfod yn yr
hydref i’w drafod ac i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r cwricwlwm. Amlygodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y rhagair
i’r ddogfen yn anghywir ac y byddai angen ei newid. Cytunwyd ymdrin â’r mater
gyda’r cadeirydd y tu allan i’r cyfarfod. Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg
Grefyddol fod y maes llafur gyda’r gwasanaeth cyfieithu, a soniwyd y byddai
angen cyhoeddi’r ddogfen ar y wefan pan fydd wedi ei chyfieithu. Gofynnodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am farn y pwyllgor am wneud y ddogfen yn fwy
apelgar cyn ei chyhoeddi, ac roedd y pwyllgor yn hapus i’r ddogfen gael ei
newid i dynnu sylw’r darllenydd; ond byddent yn hoffi ei gweld cyn iddi gael ei
chyhoeddi. Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –
PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar Fabwysiadu’r Argymhellion y
Cytunwyd arnynt o’r Gynhadledd Maes Llafur. |
|
YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AR DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL PDF 162 KB I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am restrau chwarae HwB LlC/ CCYSAGC ar CGM. Hyfforddiant cysylltiedig â chynhadledd y Maes Llafur Cytunedig Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y wybodaeth
ddiweddaraf ar ddatblygiad proffesiynol, ochr yn ochr â’r Prif Reolwr Addysg. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth y pwyllgor
nad oedd rhestrau chwarae Hwb Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg
Grefyddol Cymru (cyrsiau dysg ar-lein) ar gael i’w dangos i’r pwyllgor ar hyn o
bryd; fodd bynnag, dywedodd fod safon y rhestrau chwarae yn dda. Roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr
Addysg hefyd wedi trefnu hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg/Addysg
Grefyddol i dros 70 o athrawon a phenaethiaid, ac roedd wedi cael croeso positif.
Roedd gan yr athrawon hefyd fynediad at ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg/Addysg Grefyddol, a diolchodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i Sir
Ddinbych am eu cymorth gyda’r sesiynau
hyfforddi i athrawon. Wrth gloi, dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol bod
bwriad i ddosbarthu holiadur i’r athrawon oedd wedi cael hyfforddiant i weld a
oeddent yn credu ei fod yn fuddiol. Rhoddodd Leah Crimes (cynrychiolydd athrawon)
ddiweddariad i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol o gyfarfod penaethiaid diweddar,
gan fod rhai athrawon ar ei hôl hi gyda hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg/Addysg Grefyddol. Fodd bynnag, y gobaith oedd y byddai’r rhestrau
chwarae Hwb yn helpu gyda’r hyfforddiant a chyflwyno’r deunydd. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chofnodi’r adroddiad ar lafar gan yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2022. Cofnodion: Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol nad oedd
cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2022 ar gael i’w
dosbarthu, ond bod rhan helaeth ohono wedi canolbwyntio ar restrau chwarae’r
HWB. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod
etholiad ar gyfer aelodau ar CCYSAGC, roedd tair swydd wag a phump o bobl yn
ceisio lle ar y pwyllgor. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol
gyflwyniadau byr gan bob ymgeisydd cyn i’r pwyllgor ddewis. Cynigiodd y pwyllgor
Vicky Barlow, Edward Evans a Dr Louise Brown yn aelodau gweithredol. Cytunodd
pob aelod â’r cynigion. Dywedodd yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth y pwyllgor fod enwebiadau ar gyfer is-gadeirydd
hefyd; fodd bynnag, dim ond dau oedd wedi rhoi eu henwau ymlaen, sef Vicky
Barlow ac Edward John Evans. Cynigiodd y pwyllgor
Edward John Evans ar gyfer y swydd is-gadeirydd, a chytunodd yr holl
aelodau. PENDERFYNWYD cynnig Vicky
Barlow, Edward John Evans a Dr Louise Brown fel aelodau gweithredol a chynnig
Edward John Evans fel is-gadeirydd CCYSAGC. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF · 19 Hydref 2022 Cofnodion: Roedd cyfarfod nesaf CYSAG wedi’i drefnu ar gyfer 19
Hydref 2022. Daeth y cyfarfod i ben am 11.00am. |