Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
MATERION O HYSBYSIAD (i)
Yn
sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter
cymdeithasol yn sgil y pandemig
Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod hwn o bell drwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. (ii) Yn absenoldeb cynrychiolydd athrawon ni
chafodd gofynion cworwm y Cyngor eu diwallu.
Cytunodd yr Aelodau i barhau â'r cyfarfod ar y sail fod unrhyw
benderfyniadau’n cael eu cadarnhau’n ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor
lle mae cworwm. Derbyniwyd argymhellion
yr adroddiad fel yr oeddent a chytunwyd arnynt drwy gonsensws heb unrhyw
bleidlais ffurfiol. (iii) Roedd Collette
Owen yn bresennol yn lle Mary Ludenbach fel cynrychiolydd yr Esgobaeth Babyddol
ar y CYSAG . |
|
MYFYRDOD TAWEL Dechreuodd y
cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Dominic Oakes
(Is-gadeirydd) a'r Cynghorydd Rachel Flynn Cofnodion: Dominic Oakes
(Is-Gadeirydd) a’r Cynghorydd Rachel Flynn |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol fel Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol gan ei bod yn un o Lywodraethwr
Ysgol Tir Morfa. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 283 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd 5 Chwefror 2020
(copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd 5 Chwefror
2020 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a
gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 (wedi’u cylchredeg eisoes). Materion yn Codi – Tudalen 7 – Eitem 9 Cylchlythyr CYSAG - eglurodd yr ymgynghorydd Addysg Grefyddol y
bu oedi mewn dosbarthu’r cylchlythyr i
ysgolion oherwydd Covid-19 ond cadarnhaodd fod y wybodaeth ynddo yn dal yn
berthnasol ac y byddai fersiwn dwyieithog yn cael ei e-anfon i’r ysgolion yn
fuan. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020
fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2019/20 PDF 112 KB Ystyried adroddiad a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG 2019/20 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. PENDERFYNWYD – (a) cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych 2019 – 2020 fel cofnod cywir o waith
CYSAG, a (b)
gwneud cais i’r Awdurdod
Addysg Lleol drefnu cyfieithiad, argraffiad a dosbarthiad o’r adroddiad i bob
ysgol a choleg yn Sir Ddinbych a derbynyddion eraill, fel sy’n ofynnol gan y
gyfraith ac fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AD yr Adroddiad Blynyddol
drafft ar gyfer CYSAG Sir Ddinbych (wedi'i ddosbarthu eisoes) er cymeradwyaeth
a oedd yn rhoi manylion am weithgareddau
CYSAG yn ystod y flwyddyn flaenorol yn cynnwys y cyngor a roddwyd i’r awdurdod
addysg lleol a materion lleol a chenedlaethol eraill. Atgoffodd yr Ymgynghorydd AD yr aelodau fod yr adroddiad
blynyddol yn ddogfen hanesyddol a gofynnodd i’r aelodau ei chymeradwyo, yn
amodol ar gywiro unrhyw gamgymeriadau os oedd rhai. Rhoddodd grynodeb o’r adroddiad a thynnodd sylw
penodol at y canlynol: ·
Dim ond dwywaith yr oedd CYSAG wedi cyfarfod yn ystod
cyfnod yr adroddiad blynyddol gyda’r cyfarfod tymor yr haf wedi’i ohirio
oherwydd y pandemig. ·
Ychydig a fu yn flaenorol i’w adrodd o dan y pennawd
‘Darpariaeth Hyfforddiant Athrawon Cychwynnol' ac roedd y cyflwyniad CYSAG gan
Graham French o Brifysgol Bangor yn ychwanegiad i’w groesawu sy’n rhoi
gwybodaeth am hyfforddiant athrawon a’r ffocws ar Addysg Grefyddol. Roedd disgwyliad y byddai perthnasoedd cadarnhaol
yn parhau gyda chyfeiriadau at hyn yn adroddiadau blynyddol y dyfodol. ·
roedd y cylchlythyr blynyddol cyntaf a oedd yn rhoi
gwybodaeth bwysig i ysgolion ynglŷn ag AG a’r cwricwlwm newydd wedi’i
gynnwys yn yr argymhellion. ·
yn ychwanegol roedd cynnwys busnes CYSAG mewn rhai
adroddiadau blynyddol eraill yng Nghymru yn fodd o hyrwyddo elfennau ehangach
AD. Awgrymwyd yn y dyfodol
bod CYSAG Sir Ddinbych yn derbyn cyflwyniadau perthnasol y gellid wedyn eu
cynnwys yn yr adroddiad blynyddol a hefyd yn y cylchlythyr blynyddol i
ysgolion. ·
Roedd yn dda nodi yn dilyn ceisiadau blaenorol gan
aelodau bod yr adroddiad drafft ar gael yn ddwyieithog eleni fel rhan o becyn y
rhaglen. Roedd yr aelodau yn hapus i dderbyn yr adroddiad fel
cofnod cywir o waith CYSAG. PENDERFYNWYD – (a) Bod
Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych 2019 -2020 yn cael ei gymeradwyo fel
cofnod cywir o waith y Cyngor. (b)
Y dylid gofyn i’r Awdurdod
Lleol drefnu bod yr adroddiad yn cael ei gyfieithu a’i ddosbarthu i holl
ysgolion a cholegau Sir Ddinbych ac i dderbynyddion eraill fel sy’n ofynnol yn
ôl y gyfraith ac fel y'u dynodir yn yr adroddiad. |
|
DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU PDF 161 KB Derbyn
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. PENDERFYNWYD – (a) bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi; (b) bod llythyr yn cael ei anfon i bob ysgol i roi gwybod iddyn nhw bod
Adroddiad o’u Harolwg wedi ei ystyried,
gan eu llongyfarch am yr elfennau da a nodwyd, ac i’w hatgoffa bod yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion ar gael i
gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater allweddol
sydd angen mynd i’r afael ag ef, a (c) bod yr Awdurdod Lleol yn cael cais i ddosbarthu’r llythyrau uchod. Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AD adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) yn dadansoddi canlyniadau arolygon Estyn o ddarpariaeth AD
a chyd-addoli mewn tair ysgol rhwng Hydref 2019 – Chwefror 2020. Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy; Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Bryn
Hedydd. Ystyriodd yr aelodau’r casgliadau cysylltiedig â phob ysgol ac roeddent
yn falch o nodi’r sylwadau a’r canlyniadau cadarnhaol. Wrth dderbyn fod angen i Estyn ddilyn
fformat rhagnodedig wrth cynnal eu harolygon teimlwyd yn gyffredinol y byddai
adroddiad ychydig mwy ‘unigol’ ar gyfer pob ysgol yn ychwanegu gwerth a
diddordeb. Bu peth trafodaeth ynglŷn sut y mae ysgolion
yn gorfod newid ac addasu dan amgylchiadau anodd i ddelio â chyfyngiadau a
heriau Covid-19. Rhoddodd yr Ymgynghorydd AD wybodaeth am drafodaethau gyda
rhai ysgolion ac amlygodd fanteision gwasanaethau dosbarth llai gyda chyfle i
ddisgyblion fynegi eu meddyliau a'u hofnau a siarad am unrhyw broblemau gyda
gwir bwrpas, rhywbeth sydd wedi profi i fod yn werthfawr iawn o ran lles
disgyblion a staff. Cefnogodd Jennie Downes y safbwyntiau hyn a soniodd am ei phrofiad gydag
ysgolion yr Eglwys yng Nghymru. Dywedodd er bod llawer o adnoddau yn mynd allan i’r ysgolion, bod yr
ysgolion eu hunain hefyd yn cynhyrchu eu hadnoddau eu hunain a rhoddodd
enghraifft i amlygu creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gwaith anhygoel
sy’n cael ei wneud dan amgylchiadau anodd. Roedd yn teimlo mai’r her yw dod o hyd i ffyrdd o
gofnodi’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud mewn ysgolion a'i rannu er budd
eraill. Holodd y Cadeirydd a fyddai modd gofyn am y wybodaeth honno wrth
ddosbarthu’r cylchlythyrau a chytunodd
yr Ymgynghorydd AD y byddai’n gwahodd ymatebion anffurfiol o fewn yr e-bost at
ysgolion. Awgrymodd Jennie Downes hefyd y gellid defnyddio Twitter ac amlygu a
rhannu’r arfer da sy’n digwydd mewn ysgolion. PENDERFYNWYD – (a) Derbyn a nodi’r adroddiad; (b) Anfon llythyr i bob ysgol a arolygwyd i roi gwybod iddynt fod yr Adroddiad
Arolygu wedi’i ystyried, a'u llongyfarch ar y nodweddion da a amlygwyd a'u
hatgoffa bod yr Uwch Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella
Ysgolion ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu
unrhyw fater sydd angen mynd i’r afael ag ef. (c) y dylid gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod |
|
CWRICWLWM CYMRU 2022 PDF 175 KB Diweddaru CYSAG
ar gynnydd Llywodraeth Cymru ac ysgolion yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Penderfyniad: Cofnodion: Rhoddodd yr Ymgynghorydd
AD ddiweddariad ar gynnydd fel a ganlyn - ·
Ymgynghoriad ar Fil y Cwricwlwm ac Asesu
(Cymru) - tynnwyd sylw’r aelodau at ddwy agwedd benodol
yn deillio o'r ymgynghoriad. Roedd y cyntaf
yn berthnasol i’r cynnig i ddileu hawl rhiant i dynnu eu plant o wersi Addysg
Grefyddol, rhywbeth sy'n peri pryder penodol. Roedd yr
ail elfen yn ymwneud â’r cyfle i ddisgyblion gael addysg AD ysgolion gwladol
mewn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgolion Catholig. Y teimlad cyffredinol oedd y dylai’r sylabws
yn yr ysgolion hynny fod yn ddigon amrywiol i ganiatáu i ddisgyblion dderbyn
Addysg Grefyddol amryfath heb yr angen am ail sylabws. Byddai CCTSAGauC yn cyfarfod â’r Pwyllgor
Plant, Addysg a Phobl Ifanc i gyflwyno eu dadl a thrafod y Bil yn fwy
manwl. Anogwyd yr Aelodau i ddarllen yr
ymatebion i’r ymgynghoriad a rhoi adborth ar wefan Llywodraeth Cymru. ·
Cwricwlwm Cymru/Fframwaith AD – nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r
fframwaith drafft ar y cwricwlwm newydd eto. Roedd CYSAGauC wedi gofyn bod CYSAGau yn cael golwg
ar y fframwaith ategol cyn iddo fynd drwy’r Senedd fel y gellid cytuno arno ac
mae CCTSAGauC yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru i’w hatgoffa bod CYSAGau yn
rhan annatod o ddatblygiad y fframwaith drafft. Pe bai
CYSAG yn anghytuno â’r fframwaith gallai’r canlyniadau fod yn arwyddocaol -
gallai CYSAG gytuno ar ei fframwaith ei hun ac ail-fabwysiadu'r sylabws
cytunedig am gyfnod amhenodol. ·
Cymhwyster AG TGAU - mae
trafodaethau wedi bod ar y gweill dros y blynyddoedd diweddar ynglŷn â’r
anawsterau y mae rhai disgyblion yn eu cael i gael mynediad i'r cymhwyster TGAU
sydd wedi peri i rai aelodau o'r Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg
Grefyddol ddatblygu eu cymhwyster arholi eu hunain a fydd o safon TGAU er
mwyn diwallu'r gofynion statudol ar
gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4.
Y bwriad oedd creu TGAU Adnoddau Dynol ffurfiol drwy Agored Cymru i’w
gymeradwyo gan Gymwysterau Cymru gyda’r posibilrwydd y gallai’r cymhwyster
newydd ddechrau ym mis Medi 2021. Diolchodd Jennie
Downes i’r Ymgynghorydd AD am ei eglurhad clir a syml ar faterion cymhleth dros
ben yn deillio o’r ymgynghoriadau ac am ei holl waith yn hyn o beth, Tynnodd
sylw hefyd at ei phryderon ei hun o safbwynt y goblygiadau i ysgolion Yr Eglwys
yng Nghymru a Christnogaeth yn deillio o’r cynigion. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd AD bod CYSAGauC wedi cyfarfod yr wythnos
ddiwethaf drwy gynhadledd fideo a rhoddodd ganlyniadau'r etholiadau - roedd y
ddwy swydd Swyddog Gweithredol wedi'u llenwi ganddo ef a John Meredith (CYSAG
Powys) a phenodwyd Tania ap Sion (CYSAG Wrecsam) yn Is Gadeirydd. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar
lafar gan yr Ymgynghorydd AD. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I’w gadarnhau. Penderfyniad: Roedd dyddiadau’r
cyfarfodydd CYSAG yn 2021 wedi’u cadarnhau fel a ganlyn - 2 Chwefror (dydd
Mawrth), 24 Mehefin (dydd Iau) a 20 Hydref (dydd Mercher). Cofnodion: Cadarnhawyd
cyfarfodydd dyddiadau CYSAG 2021 fel a ganlyn: 2 Chwefror (dydd
Mawrth), 24 Mehefin (dydd Iau) a 20 Hydref (dydd Mercher). I gloi diolchodd
y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd AD am ei waith caled yn cefnogi’r CYSAG a
diolchodd hefyd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniad. Daeth y cyfarfod
i ben am 10.45 a.m. |