Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Swyddog Monitro, a fydd
ychydig yn hwyr ac angen gadael cyn diwedd y cyfarfod. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr
2024. Cywirdeb – ni chodwyd unrhyw bwyntiau
o ran cywirdeb. Materion yn Codi – Tudalen 10, Eitem 6: Cofnodion o’r cyfarfod diwethaf - Ailosod Dyraniad (Cynghorau i Aelodau Annibynnol
ymweld â nhw) / Rhestr Clercod newydd a dibrofiad Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned - Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod dadansoddiad o ymweliadau
Aelodau Annibynnol ers 2020 wedi cael ei gwblhau ac y byddai rhestr o’r
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned hynny a nodwyd ar gyfer ymweliadau i’r dyfodol
yn cael ei rhannu yn dilyn y cyfarfod er mwyn i aelodau ystyried pa gyfarfodydd
i’w mynychu yn y dyfodol. Lle’r oedd y
wybodaeth hon yn hysbys, byddai’r rhestr hefyd yn nodi prif iaith y cyfarfodydd
gan flaenoriaethu’r rhai gyda chlercod newydd/dibrofiad ac unrhyw broblemau a
nodwyd. Roedd adnoddau ariannol bellach
ar gael i gefnogi’r ymweliadau hynny. Tudalen 10, Eitem 6: Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Rhannu Cylch Gorchwyl
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitor
y byddai hi’n rhannu’r cylch gorchwyl ar ôl y cyfarfod. Tudalen 13, Eitem 11: Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau -
nododd y Cadeirydd nad oedd fersiwn derfynol yr adroddiad yn cynnwys nifer yr
ymweliadau Cyngor a fynychwyd gan Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Cynllunio fel
y gofynnwyd a chytunwyd i gynnwys y wybodaeth hon yn adroddiadau blynyddol y
dyfodol; nid oedd penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru wedi cael ei gynnwys yn y
rhestr o eitemau rhaglen ar gyfer 13 Rhagfyr 2024 (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn
unol â chais yr aelodau. Tudalen 14, Eitem 12: Recriwtio Aelodau Annibynnol Newydd i’r Pwyllgor
Safonau - cafwyd trafodaeth am y broses i’w dilyn gan gynnwys yr amserlenni
mewn sesiwn ar wahân cyn y cyfarfod, ac roedd y broses yn mynd rhagddi ar hyn o
bryd. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2024 fel cofnod
cywir. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ Ystyried
adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi yn amgaeedig) ar dudalen
‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y crynodebau achos diweddaraf yn yr adran ‘Ein
Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon)
a’r penderfyniadau diweddaraf a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru (y Panel). Mae’r adran ‘Ein Canfyddiadau’ yn cynnwys bob mater a
gaiff eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon, nid materion yn ymwneud ag ymddygiad yn
unig. Darparwyd crynodeb o bob achos a
oedd yn cynnwys cwynion Cod Ymddygiad a ymchwiliwyd yn y cyfnod rhwng 21
Tachwedd 2024 a 28 Chwefror 2025, ac fe’u rhannwyd yn ôl y pynciau canlynol
- ·
Hyrwyddo cydraddoldeb a
pharch 3 ·
Datgelu a chofrestru
buddiannau 1 Mae’r canlyniadau wedi’u categoreiddio fel a ganlyn - ·
Dim angen camau pellach 1 ·
Atgyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau 2 ·
Atgyfeiriwyd at Banel
Dyfarnu Cymru 1 Nid oedd unrhyw un o’r achosion yn ymwneud â chyngor yn
Sir Ddinbych. Ers mis Tachwedd 2024, roedd un penderfyniad wedi’i wneud
gan y Panel mewn perthynas ag atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon dan y categorïau
“Torri amodau paragraffau 4(b), 4(c), 6(1)(a) a 6(1)(d) Cod Ymddygiad y
Cyngor. Diarddel am 21 mis”. Nid oedd yr achos yn ymwneud â Chynghorydd
yn Sir Ddinbych. Ni wnaed unrhyw
apeliadau yn erbyn penderfyniadau Pwyllgorau Safonau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfreithiwr dan Hyfforddiant am yr adroddiad a
oedd yn ddefnyddiol i’r Pwyllgor er mwyn ystyried p’un a ellid rhoi unrhyw
ymyraethau ar waith o ganlyniad. Nodwyd
bod y Panel wedi cyflwyno diarddeliad am 21 mis, a’r gosb fwyaf y gellid ei
chyflwyno gan y Pwyllgor Safonau oedd gwaharddiad 6 mis, a chafwyd trafodaeth
am atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon at naill ai’r Pwyllgor Safonau neu Banel
Dyfarnu Cymru yn ddibynnol ar eu barn nhw ynghylch difrifoldeb y drosedd. Gofynnwyd i’r Swyddog Monitro p’un a oedd
dull y gallai’r Pwyllgor Safonau ei ddefnyddio i atgyfeirio’r achos yn ôl at yr
Ombwdsmon os oeddent yn ystyried y dylid cyflwyno cosb fwy eithafol, ac er nad
oedd y Swyddog Monitro’n credu bod pŵer awtomatig yn bodoli mewn perthynas
â hynny, byddai’n cadarnhau hyn ac yn rhoi gwybod i’r aelodau. Dywedodd yr aelodau fod yr adroddiad yn ddiddorol ac yn
fanwl iawn, a’i fod yn archwilio’r sail resymegol dros gosbau a gyflwynir ar
gyfer achosion penodol o dorri’r Cod Ymddygiad a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer
unrhyw achosion lle mae gofyn iddyn nhw ystyried cosbau, fodd bynnag,
cydnabuwyd na fyddai manylion llawn yr achos yn cael eu datgelu. Amlygwyd y pwysigrwydd o ddarparu rhesymau
cadarn dros unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd
hefyd, yn arbennig o ystyried yr hawl i apelio, a chyfeiriwyd at wrandawiad
blaenorol gan y Pwyllgor Safonau i atgyfnerthu’r pwynt hwn. Yn olaf, cyfeiriwyd at gasgliad yr Ombwdsmon
yn yr achos yn ymwneud â datgan a chofrestru cysylltiad, a oedd yn amlygu
pwysigrwydd hyfforddiant ar geisiadau am oddefeb (a oedd wedi bod yn achos
pryder i’r Pwyllgor Safonau yn y gorffennol yn sgil y diffyg ceisiadau) a’r
angen i barhau i godi ymwybyddiaeth am y mater. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Roedd yn anodd
pennu’r presenoldeb gan nad oedd pawb a oedd yn bresennol yn Gynghorwyr, staff
neu’n aelodau o’r cyhoedd, ond cafwyd pleidlais yn nes ymlaen yn y cyfarfod,
lle cofnodwyd 44 pleidlais a 4 ymddiheuriad/absenoldeb. Roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau, y
Cynghorwyr Sir Bobby Feeley a Jon Harland, a’r Cynghorydd Cymuned Gordon Hughes
hefyd yn bresennol. Roedd datganiadau o
gysylltiad wedi’u cynnwys yn gynnar ar y rhaglen a darllenwyd datganiad, ond ni
wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau bryd hynny.
Yn nes ymlaen yn y cyfarfod, datganodd un Cynghorydd gysylltiad, ond ni
chadarnhawyd natur y cysylltiad (cysylltiad personol neu gysylltiad personol
sy’n rhagfarnu) ac ni chafwyd unrhyw ddatganiadau pellach gan Gynghorwyr eraill
a oedd â rolau tebyg ac ni chawsant eu hatgoffa am hyn chwaith. Datganwyd cysylltiad o natur bersonol yn nes
ymlaen yn y cyfarfod. Roedd
cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael.
Roedd y Swyddog Monitro wedi egluro’r rheolau mewn perthynas â
diwygiadau a phleidleisiau, a chafwyd trafodaethau da, cadarn a phroffesiynol
yn ystod y cyfarfod. Daeth y cyfarfod i
ben am 3.18pm. Er y cydnabyddir yr
heriau sydd ynghlwm â Chadeirio cyfarfod hybrid mawr gyda rhaglen hir ac
eitemau allweddol a fyddai’n arwain at ddadleuon dwys, teimlai’r Cadeirydd nad
oedd y cyfarfod yn gosod esiampl ac yn creu argraff dda o’r ymddygiadau a
phrosesau y gallai Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned eu mabwysiadu. Soniodd am ei rheswm dros hyn a darparodd
enghreifftiau. Y prif bwyntiau i’w
hystyried oedd, yn gryno - ·
yr angen i gryfhau’r broses
o gasglu datganiadau cysylltiad er mwyn sicrhau fod pob cysylltiad yn cael ei
ddatgan, ac amlinellu natur y cysylltiad yn glir ·
roedd angen mynd i’r afael
ag ymddygiad y rhai a oedd yn mynychu o bell i sicrhau eu bod yn cadw eu fideo
ymlaen yn ystod y cyfarfod, bod modd eu gweld yn glir, a’u bod yn canolbwyntio
ac yn ymddwyn mewn modd sy’n broffesiynol ac yn addas ar gyfer mynychu cyfarfod
cyhoeddus ffurfiol ·
nid oedd hyd y cyfarfod (5
awr ac 18 munud) gydag ond 10 munud o egwyl yn addas ar gyfer lefelau
cyfathrebu a lles ·
roedd llawer o sŵn
cefndirol gan y rhai a oedd yn mynychu o bell gan nad oedd pawb wedi tewi eu
meicroffonau (er bod y Cadeirydd wedi eu hatgoffa am hyn), ond cydnabuwyd ar ôl
y cyfarfod bod y trefnydd wedi cael rhai problemau technegol yn ystod y
cyfarfod a oedd yn golygu nad oedd modd tewi meicroffonau cyfranogwyr ·
roedd y meicroffonau’n
methu codi sŵn ar adegau pan nad oedd aelodau’n siarad i mewn i’r
meicroffon (os oeddent yn sefyll i siarad neu’n troi i wynebu eraill) ·
roedd diffyg ffurfioldeb ar
gyfer cyfarfod llawn o’r Cyngor, er enghraifft, defnyddiwyd enwau cyntaf ac
felly nid oedd yn amlwg pwy oedd yn aelodau a phwy oedd yn swyddogion ·
roedd rhywfaint o
orgyfarwydd-dra a manylion personol anaddas yn cael eu rhannu am eraill ·
nid oedd modd gweld y
platiau enw o’r oriel gyhoeddus ·
diffyg eglurder o ran gofyn
am bleidleisiau yn erbyn ac ymatal ·
ymddengys bod pobl yn y
Siambr yn derbyn blaenoriaeth ac yn cael siarad cyn y rhai a oedd yn mynychu o
bell ac nid oedd unrhyw gyfyngiad amser ar gyfer siaradwyr/nifer y cyfraniadau ·
dylid gwirio’r pensetiau
cyfieithu cyn dechrau’r cyfarfod · roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau’n agos at ddiwedd y rhaglen (er bod cais wedi cael ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CEISIADAU GODDEFEBAU Ystyried unrhyw
geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel
sirol. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw geisiadau am oddefeb. PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa. Cyn yr egwyl a chyn iddo adael, cymerodd y Swyddog
Monitro’r cyfle i ddiolch i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, a
oedd yn mynychu eu cyfarfod olaf, am eu gwasanaeth hir a’u hymrwymiad, ac am eu
cefnogaeth a’u her adeiladol a oedd wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Ar y pwynt hwn (11.50am), cymerwyd egwyl am luniaeth. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF O’R FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL Derbyn
diweddariad ar lafar ynglŷn â’r Fforwm Safonau Cenedlaethol. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro wedi mynychu’r ail Fforwm Safonau
Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2025.
Amlygodd y Cadeirydd y materion allweddol canlynol:- ·
Darparodd Pam Lucas, Adran
Polisi Llywodraeth Leol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gymraeg,
Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar sefyllfa’r Adolygiad Fframwaith Moesegol mewn
ymateb i’r Adolygiad Penn a’r newidiadau cyfreithiol gofynnol gyda rhai camau
i’w cymryd ar frys, ac eraill a oedd yn ymofyn rhagor o waith cyfreithiol. [Fel rhan o’r gwaith hwn, gofynnodd y
Cadeirydd p’un a oedd y newidiadau i’r Cod Ymddygiad mewn perthynas â
Chydraddoldeb ac Amrywiaeth a sicrhau fod yr holl nodweddion gwarchodedig yn
cael eu cynnwys wedi’u gwneud yn Sir Ddinbych, a chytunodd y Dirprwy Swyddog
Monitro i gadarnhau p’un a gwblhawyd y cam hwn.] Gellid cymryd camau i - -
Waredu’r gwaharddiad ar
gyn-weithwyr i fod yn aelodau’r Pwyllgor Safonau -
Gwaredu’r gwaharddiad ar gyn
Gynghorwyr i ymuno â Phwyllgorau Safonau Mae angen rhagor o waith ar:
Ddiwygiadau Panel Dyfarnu Cymru; mesurau diogelu mewn perthynas ag atal
yr achwynydd a’r Cynghorydd; caniatâd i apelio i’r Panel; pwerau cosbi; y
Panel/Pwyllgor Safonau i wysio tystion; mynegi pŵer i dystion aros yn
ddienw; p’un a ddylid newid yr ystod o gosbau. Byddai Is-bwyllgorau’n cael eu ffurfio i gynrychioli’r Fforwm a chysylltu â
Llywodraeth Cymru. Nid oedd yr eitem ar
drefniadau adroddiadau blynyddol y Pwyllgor Safonau wedi cael ei thrafod a
byddai’r Is-bwyllgorau’n trafod yr eitem hon. ·
Rhannodd Michelle Morris -
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: adroddiad ar yr Adolygiad Annibynnol a
gwblhawyd yn dilyn cwyn bod aelod o staff wedi bod yn rhannu negeseuon
gwleidyddol anaddas ac annerbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol, a daethpwyd i’r
casgliad, er bod y camau a gymerwyd gan yr aelod o staff yn anghywir, nid
oeddent wedi dylanwadu ar ganlyniadau achosion yr oedd hi ynghlwm â hwy. Cyfeiriodd yr
Ombwdsmon at y canlynol - -
roedd gwaith lefel uchel yn
parhau mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad; cafwyd 12 achos dros 12 mis y llynedd,
a disgwylir yr un nifer eleni -
roedd 100 o achosion ar hyn
o bryd, roedd 20 gan ddau Gyngor, ac roedd yr Ombwdsmon wedi ysgrifennu at
Gadeirydd perthnasol y Pwyllgor Safonau i’w cynghori a gweld pa gamau y gellid
eu cymryd -
roedd mwy o achosion wedi
cael eu hatgyfeirio at y Panel neu Bwyllgorau Safonau y llynedd nag unrhyw
gyfnod arall; disgwyliwyd i 20 o achosion gael eu hatgyfeirio eleni -
cafwyd rhai apeliadau eleni
a phwysleisiwyd y pwysigrwydd o sail resymegol glir wrth wneud penderfyniadau - roedd angen hyfforddiant ar gyfer pob Cynghorydd, yn
arbennig Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a’u Clercod, a dywedodd yr Ombwdsmon
y dylai’r Pwyllgor Safonau ofyn am eu cynlluniau hyfforddiant i sicrhau eu bod
yn weithredol - trafodwyd rhoi gwybod ymlaen llaw am gŵyn i aelod a
gyhuddir, sef yr arfer blaenorol, er mwyn atal sefyllfaoedd o aelod yn dod i
wybod am gŵyn yn eu herbyn gan ffynhonnell allanol. Roedd y Cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad
o blaid rhoi gwybod i aelodau ymlaen llaw am y rheswm hwn. ·
Materion Eraill - -
Addewid Cwrteisi a Pharch -
roedd y niferoedd cofrestru’n isel ar draws Cymru -
Tystiolaeth i Bwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai y Senedd ar rôl a gwerth Cynghorau Tref a Chymuned yng
Nghymru. -
Cynhadledd Safonau
Cenedlaethol -
Tâl aelodau’r Pwyllgor
Safonau. Rhoddodd y Cadeirydd wybod y gellid rhannu cofnodion y cyfarfod ag aelodau
unwaith y byddent ar gael. PENDERFYNWYD derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar gyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol
a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2025. |
|
TROSOLWG O’R GOFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH Cael adroddiad ar
lafar gan y Swyddog Monitro ar y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch. Cofnodion: Roedd y broses
bresennol yn cynnwys cadw cofnodion caled nad oeddent i bob rheidrwydd yn
hygyrch iawn ac felly awgrymwyd y dylid cwblhau gwaith i foderneiddio'r broses
hon er mwyn sicrhau ei bod yn addas i’r diben.
O ganlyniad, awgrymwyd y dylid rhoi proses awtomatig electronig ar waith
lle gellid cofrestru ar-lein, a fyddai’n arwain at broses fwy cadarn a syml a
chodi ymwybyddiaeth am y gofynion mewn perthynas â hyn. Os oedd aelodau’n
fodlon â’r dull hwnnw, cynigwyd dechrau’r gwaith gyda’r nod o’i gwblhau o fewn
3-6 mis yn ddibynnol ar gapasiti. Nododd y Cadeirydd
ei fod yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor i fonitro’r gofrestr yn rheolaidd. O ystyried y diffygion yn y fformat
presennol a’r diffyg cymhelliant o ran y gofynion hynny, cytunodd aelodau fod
angen cryfhau’r broses a sicrhau fod aelodau’n datgan rhoddion a lletygarwch yn
briodol a’u bod yn ymwybodol o’r trothwyon perthnasol er mwyn sicrhau hyder yn
y broses a’i fod yn cynrychioli darlun cywir.
Cytunodd aelodau i gynnwys yr eitem yn y rhaglen waith ar gyfer mis Medi
yn sgil yr amserlenni a ddarparwyd i gynhyrchu system awtomatig. Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro y gallai
aelodau benderfynu pa mor aml yr oeddent yn dymuno monitro gweithgarwch y
gofrestr. (a) derbyn a nodi’r adroddiad ar
lafar gan y Dirprwy Swyddog Monitro, ac (b) adrodd
ar y cynnydd mewn perthynas â moderneiddio’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch i
gyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2025. |
|
CYDGYFARFOD GYDA CHYNGHORAU CYMUNED, DINAS A THREF Ystyried
adroddiad ar lafar gan y Swyddog Monitro am gydgyfarfod gyda Chynghorau Tref,
Dinas a Chymuned. Cofnodion: Darparodd y Cadeirydd rywfaint o wybodaeth gefndirol am yr eitem, gan nodi
bod awdurdod lleol arall yn gwahodd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gyfarfod
â’r Pwyllgor Safonau, cyfrannu at y rhaglen a chymryd rhan yn y sesiwn
hyfforddiant ymlaen llaw. O ystyried
buddion y dull hwnnw, roedd y Cadeirydd wedi gofyn p’un a fyddai modd gwneud
hyn yn Sir Ddinbych. Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro i’r Pwyllgor nodi cyfarfod priodol o’r
Pwyllgor Safonau lle gellid gwahodd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i fynychu,
a byddai hi’n gwneud y trefniadau gofynnol mewn perthynas â hynny. Byddai’r sesiwn hyfforddiant (a gynhelir cyn
y cyfarfod ei hun) yn cynnwys pwnc sy’n addas ac yn berthnasol i’r Cynghorau
hynny. O ran ymweliadau â Chynghorau gan Aelodau Annibynnol, fel y trafodwyd yn
flaenorol dan eitem 4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf, roedd oddeutu 19 o
Gynghorau nad oeddent wedi cael ymweliad yn y 5 mlynedd diwethaf, a byddai’r
manylion hynny’n cael eu rhannu ag aelodau a manylion pellach yn cael eu
trafod, lle bo’n hysbys. Byddai
manylion y gyllideb ar gyfer yr ymweliadau hynny hefyd yn cael eu cynnwys. Rhoddwyd gwybod i aelodau hefyd bod cyfarfod ar y cyd wedi cael ei gynnal â
Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned dros y deuddeg mis diwethaf a nodwyd yn yr
adborth bod angen rhagor o gefnogaeth ar Glercod; ers hynny, roedd gwaith wedi
dechrau ar becyn cymorth ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ac roedd
trefniadau’n cael eu gwneud i recriwtio swyddog cyswllt arbennig i gydlynu’r
gefnogaeth honno a gwaith partneriaeth, yn ogystal â chymorthfeydd cyngor. Darparwyd mynediad hefyd at wasanaethau
eraill y Cyngor megis adnoddau hyfforddiant, cyfreithiol, caffael a chynllunio
ynghyd â chwblhau archwiliadau i ddarparu sicrwydd a chyngor. Yn ystod y drafodaeth, soniodd y Cadeirydd fwy am y cyd-gyfarfodydd yr oedd
hi wedi cymryd rhan ynddynt yn ei rôl gydag awdurdod lleol arall yn flynyddol,
ac roedd yr hyfforddiant a’r rhaglen wedi’u teilwra’n briodol ac wedi derbyn
ymateb cadarnhaol. Cytunodd aelodau y
byddai defnyddio’r dull hwn yn fuddiol ac yn werthfawr yn Sir Ddinbych, a
chytunwyd i ystyried amseriad y Cyd-gyfarfod dan yr eitem rhaglen waith ar y
rhaglen. DERBYN a nodi’r adroddiad ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Monitro. |
|
ADOLYGIAD O BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU Cael adroddiad ar
lafar gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl/Dirprwy Swyddog
Monitro ynglŷn â’r Adolygiad o Bolisïau a Gweithdrefnau. Cofnodion: Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro mai’r bwriad oedd darparu amserlen fwy
ffurfiol o adolygu polisïau a gweithdrefnau a oedd yn dylanwadu ar neu’n
cyfrannu at safonau’r Cyngor ac yn ceisio barn aelodau ar gyfranogiad y
Pwyllgor yn natblygiad y broses honno. Yn ystod y drafodaeth, tynnodd y Cadeirydd sylw at gylch gwaith y Pwyllgor
Safonau o ran adolygu polisïau arbennig a gofynnodd am eglurhad o ba bolisïau
fyddai’r Pwyllgor yn eu hadolygu a’r amserlen ar gyfer pob adolygiad
polisi. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog
Monitro y byddai hi’n llunio rhestr o’r polisïau perthnasol gyda’r bwriad o’u
cynnwys yn rhaglen waith y Pwyllgor fel sy’n briodol dros y 12 mis nesaf, gan
gymryd y dyddiad adolygu diwethaf i ystyriaeth, neu unrhyw newidiadau gofynnol
megis newidiadau deddfwriaethol.
Trafodwyd cylch gwaith a phwerau’r Pwyllgor Safonau hefyd, a chytunwyd y
byddai’n ddefnyddiol i gylch gorchwyl y Pwyllgor gael ei rannu â phob
aelod. Gan ei fod yn debygol y byddai
dau Aelod Annibynnol newydd yn cael eu penodi ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis
Mehefin, awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro y gellid cynnwys y cylch gorchwyl
fel eitem rhaglen i atgoffa aelodau o rôl a chylch gwaith y Pwyllgor. Roedd aelodau’n cytuno bod angen strwythur glir ar gyfer adolygu polisïau
ac y dylid cyflwyno rhestr o’r polisïau a’r amserlenni perthnasol i’w hystyried
mewn cyfarfod yn y dyfodol, y gellid eu cynnwys yn y rhaglen waith. DERBYN a nodi’r adroddiad ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Monitro. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU Ystyried Rhaglen
Waith y Pwyllgor Safonau (copi yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a thrafododd a
chytunodd yr aelodau’r canlynol – ·
gwneud trefniadau ar gyfer Cyd-gyfarfod â
Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau a oedd
wedi’i drefnu ar gyfer 12 Medi (i’w adolygu pe na bai’r ddau Aelod Annibynnol newydd
wedi cael eu penodi erbyn cyfarfod mis Mehefin) ·
trefnu Adolygiad o Bolisïau a Gweithdrefnau (rhestr
o bolisïau ac amserlenni) ar gyfer 6 Mehefin ·
trefnu Diweddariad Fforwm Safonau Cenedlaethol ar
gyfer 12 Medi ·
trefnu Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar gyfer 12
Medi PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Waith. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10am, 6 Mehefin 2025. Cofnodion: Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau
wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 6 Mehefin 2025. Gan fod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn mynychu eu
cyfarfod olaf fel aelodau’r Pwyllgor Safonau, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i
ddiolch i bob aelod a swyddog a oedd ynghlwm â’r Pwyllgor am eu gwaith caled,
eu cefnogaeth a’u cyfraniadau. Amlygodd
bwysigrwydd y Pwyllgor yn y Cyngor Sir a dymunodd yn dda iddynt i’r
dyfodol. Ar ran y Pwyllgor, talodd y
Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r gwaith diwyd a gwblhawyd gan y Cadeirydd
a’r Is-gadeirydd a diolchwyd iddynt am eu gwaith caled, a’u sgiliau cadeirio
rhagorol. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid
gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar
y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) sy’n rhoi
trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn
Aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill
2023. Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro grynodeb o’r chwe chŵyn newydd a
oedd wedi cael eu cyflwyno i’r Swyddog Monitro ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys pedwar cwyn yn erbyn un Cyngor
Tref a oedd yn destun ymchwil parhaus, a dau gŵyn ar wahân na ymchwiliwyd
iddynt, ynghyd â’r rhesymau dros hynny.
Nodwyd bod dau gŵyn blaenorol a oedd yn parhau ac roedd rhagor o
wybodaeth i ddod am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny. Pe bai unrhyw achos yn cael ei atgyfeirio at
y Pwyllgor Safonau, awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal proses hyfforddiant i
baratoi aelodau ar gyfer y gwrandawiad. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |