Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Wynnstay Road, Ruthin LL15 1YN and via Zoom

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.  Estynnwyd croeso arbennig i’r Aelod Annibynnol Samuel Jones oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Swyddog Monitro / Llywodraethu a Busnes

 

Oherwydd newidiadau diweddar i strwythur uwch reolwyr y Cyngor ac adolygiad parhaus o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, roedd Lisa Jones, Dirprwy Swyddog Monitro wedi’i phenodi’n Bennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a byddai’n gweithio’n fwy agos gyda’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfamu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym mam y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Cododd y Cadeirydd y materion canlynol dan y materion brys -

 

·         y newyddion trist bod y Cynghorydd Brian Blakeley (Tynewydd y Rhyl) wedi marw yn oriau mân y bore a chynhaliwyd munud o dawelwch.

·         hepgor ‘Ceisiadau am Oddefebau’ fel eitem sefydlog ar y rhaglen. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned nac ar lefel sirol. 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 309 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf,

 2022 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022.

 

Cywirdeb –

 

Tudalen 7 - Presennol - rhoi ‘and’ yn lle ‘a’ yn y fersiwn Saesneg i ddarllen ““Peter Lamb and Councillor Gordon Hughes”

 

Tudalen 10, ail baragraff - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau - rhoi ‘Denbighshire’ yn lle ‘Denbighshire’s’ yn y fersiwn Saesneg.

 

Tudalen 10, ail baragraff i’r olaf - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg  a Safonau - rhoi ‘sesiwn hyfforddi’ yn lle ‘cyfarfodydd’.

 

Tudalen 11, Eitem 9: Arweiniad Llywodraeth Cymru - Dyletswydd Arweinwyr i Hyrwyddo Ymddygiad Moesol, brawddeg gyntaf - rhoi ‘circulated’ yn lle ‘circulate’ yn y fersiwn Saesneg.

 

Tudalen 14, Eitem 13: Dyddiad y cyfarfod nesaf - rhoi ‘March’ yn lle ‘march’.  Nodwyd mai’r amserlen ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol oedd 10am ar ddydd Gwener, a bod aildrefnu’r cyfarfod presennol i 11.30am yn mynd yn groes i’r amserlen honno.   Fodd bynnag, gwnaed hyn oherwydd nad oedd llawer o ddyddiadau na swyddogion allweddol ar gael.

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) – proses ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau – roedd Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001 yn caniatáu hyd at naw aelod ac roedd cyfansoddiad Sir Ddinbych eisoes yn nodi saith aelod, a thynnwyd sylw at y posibilrwydd o adolygu’r sefyllfa honno. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau pellach ar y mater ers hynny a phenderfynwyd ychwanegu’r eitem at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried yn y dyfodol. Derbyniwyd y byddai goblygiadau cyllidebol yn gysylltiedig ag unrhyw gynnydd mewn aelodau, a fyddai’n benderfyniad i’r Cyngor llawn ei wneud.

 

Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) (Tudalen 11, Eitem 8) – roedd rhai trafodaethau wedi bod am gynnwys aelodau annibynnol ar y Panel Recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol, oedd yn digwydd mewn awdurdodau lleol eraill ond nid yn Sir Ddinbych. Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cadeirydd wedi cymryd rhan fel arsylwr yn y broses gyfweld ddiweddaraf. Roedd rheoliadau’n llywodraethu recriwtio aelodau’r Pwyllgor Safonau ond roedd arferion amrywiol mewn awdurdodau lleol gwahanol ar hyd a lled Cymru ac adroddiad ar y pwnc hwnnw wedi cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr. Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving ei fod wedi bod ar y Panel Recriwtio diweddaraf ond nad oedd wedi gallu mynychu’r ddwy sesiwn. Cytunwyd y byddai’r protocol i gael ei ddefnyddio yn yr amgylchiadau hynny hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o’r adroddiad ar gynnwys y panel recriwtio.

 

Tudalen 10 – Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau, pumed paragraff – roedd hyfforddiant Cod Ymddygiad wedi cael ei ddarparu i aelodau etholedig yn dilyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai ac roedd sesiwn arall wedi’i threfnu ar gyfer 10am ar 20 Rhagfyr i’r aelodau hynny nad oedd wedi mynychu hyd yma, ac roedd yn gyfle i aelodau’r Pwyllgor Safonau fynychu. Roedd tair sesiwn wedi’u cynnal ar gyfer Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned ond nid oedd presenoldeb yn dda iawn oherwydd problem weinyddol. Felly, byddai sesiwn ar-lein yn cael ei chynnig cyn y Nadolig ac roedd sesiynau wyneb yn wyneb wedi cael eu trefnu ar gyfer y flwyddyn newydd yng Ngogledd a De’r sir. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i ddosbarthu’r dyddiadau i aelodau’r Pwyllgor  dros e-bost.  Roedd y Cadeirydd yn siomedig i nodi’r problemau cyfathrebu a phresenoldeb gwael, a phwysleisiodd bwysigrwydd y sesiynau ychwanegol i sicrhau bod pob aelod yn cael cyfle i fynychu’r hyfforddiant cyn gynted â phosibl yn nhymor y Cyngor newydd i ddatblygu dealltwriaeth o’r gofynion a disgwyliadau o’r dechrau.   Roedd yn ofynnol bod pob aelod yn mynychu sesiwn hyfforddi Cod Ymddygiad o leiaf unwaith ym mhob tymor y Cyngor,  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDDION pdf eicon PDF 201 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Pwyllgor yn ystod 2021.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno cyn hyn y dylai Adroddiad Blynyddol gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor i holl aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Oherwydd etholiadau llywodraeth leol mis Mai, bu oedi cyn derbyn yr adroddiad, fyddai wedi cael ei gynhyrchu’n llawer cynharach yn y flwyddyn fel arfer.

 

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y diwygiadau a ganlyn -

 

·         paragraff 4.2 – bod cyfeiriad at benodiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru newydd, Michelle Morris, oedd wedi cymryd drosodd gan Nick Bennett, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.  Nodwyd bod y term ‘Ombwdsmon’ yn dal i gael ei ddefnyddio er y penodiad newydd. Cytunwyd y byddai’r protocol datrysiad lleol yn cael ei gynnwys ac y dylid cyfeirio ato mewn ffordd gefnogol ac fel ffordd o atal materion rhag dwysau a’r ddolen i ymgysylltu Arweinwyr Grwpiau mewn gweithgareddau o’r fath yn y dyfodol.  Er bod yr adroddiad yn trafod 2021, ystyriwyd ei bod yn briodol sôn y byddai cyfansoddiad presennol y Pwyllgor Safonau yn cael ei adolygu yn y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gael hyd at ddau aelod ychwanegol.

·         paragraff 4.3 – diwygio nifer yr adegau y mae’r Pwyllgor wedi cyfarfod i 4 gwaith (yn hytrach na 3 gwaith). Cytunwyd bod rhestru’r eitemau yn rhoi crynodeb priodol ac efallai y byddai’r Cadeirydd yn dymuno manylu ar unrhyw rai o’r eitemau hynny yn y Cyngor llawn.  Nododd yr aelodau’r newid ym mhroses adroddiadau blynyddol i’r Cyngor llawn o flwyddyn y cyngor yn ôl i flwyddyn galendr. Cafwyd trafodaeth ar y ffordd orau o adrodd i’r Cyngor am y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2021 i benderfynu ar honiad o dorri’r cod ymddygiad. Roedd cyfeiriad pellach wedi’i gynnwys ym mharagraff 4.6. Er ei bod yn bwysig bod yn sensitif i’r sefyllfa, roedd hefyd yn bwysig bod gan y Cyngor newydd ddealltwriaeth o rôl a phrosesau’r Pwyllgor Safonau. Cytunwyd i roi mwy o eglurhad yn yr adroddiad o ran hyn ac efallai y byddai’r Cadeirydd yn dymuno manylu ar y mater yn y Cyngor llawn.  Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn trafod ac yn cytuno ar y ffordd orau y tu allan i’r cyfarfod.

·         paragraff 4.4 – cynnwys ‘Ceisiadau am Oddefebau’ fel eitem sefydlog ar gyfer y pwyllgor yn y dyfodol. 4.4(a) – aralleirio’r frawddeg i “o safbwynt cefnogol a chydweithredol” o “o safbwynt gefnogi ac addysgol” i adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd yn well. Fel rhan o’r gwaith o fynychu ac arsylwi mewn cyfarfodydd, cynnwys cyfeiriad at sicrhau hefyd bod cyfarfodydd yn hygyrch i’r cyhoedd mewn modd priodol. 4.4(b) cytunwyd i gyfeirio yn yr adroddiad blynyddol nesaf at y dull newydd a ddefnyddiwyd gan yr Ombwdsmon o hysbysu am gwynion, ac nid yn adroddiad 2021, ond bod y geiriad yn cael ei gryfhau i egluro ymhellach ddull y Pwyllgor o ddynodi unrhyw dueddiadau a phatrymau i dargedu’r materion hynny’n rhagweithiol fel mesur ataliol. Cytunwyd i gynnwys Llyfr Achosion Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel eitem sefydlog.

·         paragraff 4.5 – cyfeirio’n fyr at y prif faterion sy’n codi o adolygiad Penn er mwyn codi ymwybyddiaeth ohonynt a’r goblygiadau posibl i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir, ynghyd â’r cyfrifoldeb newydd ar Arweinwyr Grwpiau, ac

·         egluro ymhellach bod yr adroddiad yn trafod 2021  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD pdf eicon PDF 204 KB

I nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Sir, Cyngor y Dref a'r Gymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i aelodau i ystyried a chytuno ar agwedd gydlynus a strwythuredig at eu presenoldeb a’u harsylwadau mewn cyfarfodydd ac adborth. Roedd manylion Pwyllgorau'r Cyngor Sir, Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned a sgript awgrymedig, a ffurflen adborth drafft ynghlwm â’r adroddiad.

 

Wrth gyflwyno, dywedodd y Cadeirydd nad oedd aelodau wedi mynychu cyfarfodydd ers tro byd ac mai diben yr adroddiad oedd cytuno ar ffordd ymlaen. Tynnodd sylw hefyd at drafodaethau â’r Swyddog Monitro ar y potensial o gael tâl am y gweithgaredd, o gofio bod aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau eraill (mewn dau awdurdod arall yng Ngogledd Cymru o leiaf) yn cael tâl am wneud yr ymweliadau hyn. Eglurwyd y gallai aelodau annibynnol yn Sir Ddinbych hawlio costau teithio am ymweliadau ond nad oedd taliad yn cael ei wneud ar hyn o bryd am yr elfen fynychu.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y gweithgaredd wedi cael ei weld fel tasg wirfoddol yn Sir Ddinbych erioed ac nad oedd cyllideb ar ei gyfer ar hyn o bryd. Yn ôl cyngor anffurfiol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, roedd tâl am y gweithgaredd yn ôl disgresiwn.    Roedd yr eitem wedi cael ei rhestru i’w thrafod yn y Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd, fyddai’n darparu sefyllfa Cymru-gyfan ar y mater. Byddai angen ystyried y mater hefyd yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw ehangach a chyllidebau llai gan gynghorau.   Roedd yn briodol bod y mater yn cael ystyriaeth ddyledus ac awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, i lunio barn gan ystyried sefyllfa awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac ystyriaethau ariannol.  

 

Yn ystod trafodaeth, roedd cefnogaeth gyffredinol at gael dull cyson ar hyd a lled Cymru a chytunodd y Pwyllgor y byddai’n synhwyrol aros am fwy o wybodaeth ar y pwnc i hwyluso trafodaeth wybodus. Cytunwyd y dylid cynnal trafodaeth mewn cyfarfod ffurfiol mewn ffordd agored a thryloyw. Nodwyd y gellid teilwra rhaglen bresenoldeb a’i chostio’n briodol, gyda’r posibilrwydd o dargedu meysydd sy’n peri pryder/cwynion, wrth ystyried natur gefnogol yr ymweliadau i bawb a sicrhau hygyrchedd y cyhoedd.

 

Cafwyd trafodaeth a ddylid aros cyn ystyried yr adroddiad presennol a’r agwedd at bresenoldeb i’r dyfodol ac adborth er mwyn gwybod canlyniad y drafodaeth ar y potensial o gael tâl am y gwaith hwnnw. Eglurodd y Cadeirydd y rhesymeg y tu ôl i’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dull a ddefnyddiwyd yn flaenorol at fynychu cyfarfodydd a chonsensws cyffredinol y dylid cynnal dull mwy ffurfiol.  Rhoddodd fanylion y broses a ddefnyddir mewn sir wahanol ble’r oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Safonau fel man cychwyn ar gyfer ystyriaeth, gan dynnu sylw at y broses ddethol ar gyfer nodi cynghorau tref/cymuned i ymweld â nhw a nifer o ystyriaethau gweithredol, oedd wedi arwain at raglen strwythuredig dros flwyddyn. Roedd canlyniadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau a negeseuon generig i bob cyngor tref/cymuned o ran nodiadau atgoffa ac arfer gorau i gefnogi a hwyluso gwelliant. Roedd y Swyddog Monitro yn darparu adborth penodol i gynghorau unigol, os oedd angen.

 

Fel ffordd ymlaen, cytunodd y Pwyllgor  i ystyried tâl posibl ar gyfer mynychu yn eu cyfarfod nesaf, ac i ohirio ystyried yr agwedd tuag at eu presenoldeb ac adborth i aros am ganlyniad y drafodaeth ar dâl. Yn y cyfamser, byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn llunio methodoleg bosibl yn unol â’r broses a amlinellwyd yn y cyfarfod ac yn ystyried y ffurflen adborth. Y Cyngor fyddai’n penderfynu ar dâl yn y pen draw ond pwysleisiodd aelodau mor bwysig oedd hi i’r Cyngor gydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 115 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried, a thrafododd yr aelodau’r materion canlynol – 

 

·         nodwyd eitemau ychwanegol i’w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a gytunwyd yn ystod y cyfarfod o ran ‘Adolygu maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau’ (eitem i’r dyfodol) a ‘Thâl posibl am ymweliadau ac arsylwadau ac adborth aelodau annibynnol mewn cyfarfodydd’ (mis Rhagfyr)

·         ailddatganwyd yr eitemau sefydlog a restrwyd ar gyfer y rhaglen ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gydag eglurhad am bwrpas pob eitem

·         nodwyd y diffyg ceisiadau am oddefebau dros beth amser, a allai fod yn arwydd o dorri’r Cod Ymddygiad o bosibl ac mae’n bosibl bod angen gwneud gwaith ar hyn yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y broses ymgeisio ar gyfer goddefebau wedi cael ei rhannu â chlercod Chynghorau Tref/Dinas/Cymuned fisoedd yn ôl, ond ni chafwyd unrhyw geisiadau am oddefebau yn sgil hynny, a’r bwriad oedd cynnal sesiwn hyfforddi gyda’r clercod yn y gwanwyn i gynnwys ceisiadau am oddefebau

·         tynnwyd sylw at y bwriad i ddarparu sesiwn hyfforddi fer 30 munud cyn cyfarfodydd yn y dyfodol a byddai pynciau ar eu cyfer yn cael eu hystyried - anogwyd aelodau i gysylltu â’r Cadeirydd neu’r Dirprwy Swyddog Monitro y tu allan i’r cyfarfod gydag unrhyw bynciau hyfforddi i wella gwybodaeth a sgiliau’r Pwyllgor

·         cyfuno’r tair eitem ar wahân yn ymwneud â Chyswllt Moesegol a Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau i un eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr

·         ailenwi cyfeiriadau at yr adroddiad gan y Fforwm Safonau yn Fforwm Safonau Cenedlaethol ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol mis Rhagfyr ac wedi hynny

·         cynnwys Adroddiad Blynyddol  y Cadeirydd ar gyfer 2022 yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Mawrth 2023. 

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.

 

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2 Rhagfyr 2022.

 

Cofnodion:

Nododd yr aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2022.  Os bydd sesiwn hyfforddi’n cael ei chynnal cyn y cyfarfod, bydd y cyfarfod ei hun yn dechrau am 10.30am.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

9.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i roi trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion yn erbyn yr aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ionawr 2018.

 

O ran adrodd yn y dyfodol, cytunwyd i dderbyn manylion y cwynion oedd wedi cau dros y 12 mis diwethaf ynghyd â chwynion byw a bod dyddiadau’n cael eu cynnwys i sicrhau adroddiad mwy penodol. Roedd mwyafrif y cwynion dros y 12 mis diwethaf wedi dod gan aelodau’r cyhoedd yn hytrach na chwynion gan aelodau am aelodau, ac ar bob achlysur, roedd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu peidio ag ymchwilio am y rhesymau gwahanol a nodwyd yn yr adroddiad. Nid oedd unrhyw faterion byw ar hyn o bryd.  Cyfeiriwyd at y trothwy uchel ar gyfer targedu adnoddau a’r prawf dau gam a ddefnyddir gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio.

 

Cafwyd trafodaeth am y broses newydd a roddwyd ar waith gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran rhoi gwybod am gwynion, oedd yn golygu na fyddai’r Swyddog Monitro yn cael gwybod am y gŵyn wreiddiol, dim ond y canlyniad. Ategodd y pwyllgor mor werthfawr oedd i’r Swyddog Monitro gael gwybod am bob cwyn, os oedd hynny’n arwain at ymchwiliad neu beidio, er mwyn nodi a monitro tueddiadau, gyda’r bwriad o dargedu adnoddau. Ategodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n adrodd yn ôl ar hyn yn uniongyrchol i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chadarnhaodd y gallai’r pwnc gael ei godi i’w drafod gan y Fforwm Safonau Cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a diolchodd i’r staff cefnogi hefyd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm.