Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Aelod Cyngor Tref a Chymuned, y Cynghorydd Gordon Hughes gysylltiad personol gydag eitem 12 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000, mewn perthynas ag un o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim. 

 

Fe soniodd y Cadeirydd am y mater yn ymwneud â phostio rhaglen a phecyn adroddiadau’r Pwyllgor Safonau, gan olygu bod nifer o Aelodau’r Pwyllgor yn eu derbyn yn hwyr, a rhoddodd sicrwydd bod Tîm Gweinyddu’r Pwyllgor yn ymwybodol o hyn.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 414 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Medi 2023 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Medi. 

 

Cywirdeb -

 

Tudalen 10 – Eitem 6: Presenoldeb mewn Cyfarfodydd – newid ‘directly’ i ‘directed’ yn y Saesneg.

 

Tudalen 10 - eitem 6:  Presenoldeb mewn Cyfarfodydd yn PENDERFYNWYD -diwygio ‘cyflwyno adborth di-enw gan y Pwyllgor Safonau i’r holl Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned fesul chwarter mewn e-bost/llythyr’ i ‘cyflwyno adborth arsylwadol gan y Swyddog Monitro i’r holl Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned fesul chwarter mewn e-bost /llythyr’.

 

Materion yn codi –

 

Tudalen 8 – Eitem 4: Cofnodion (Materion yn Codi) - Cyfarfod ar-lein blynyddol gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned.  Nid oes dyddiad wedi cael ei nodi ar gyfer y cyfarfod eto.  Roedd angen y Cyngor i ymgysylltu gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned ynghylch ystod eang o faterion yn cael ei ystyried ac roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud er mwyn penderfynu a fyddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cyfarfod blynyddol.  Roedd y Swyddog Monitro’n gobeithio cael eglurder am hyn o fewn yr wythnosau nesaf a byddai dyddiad posibl yn cael ei rannu gydag Aelodau.

 

Tudalen 11 – Eitem 8: Fforwm Safonau Cenedlaethol - Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a oeddynt wedi derbyn cofnodion diweddaraf o’r cyfarfod ar 30 Mehefin 2023.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor y byddai’n rhannu’r cofnodion ar ôl y cyfarfod.

 

Tudalen 12 – Eitem 8: Fforwm Safonau Cenedlaethol - Roedd ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyrraedd a’i rannu gydag Aelodau.

 

Tudalen 13 – Eitem 9: Dyletswydd Arweinwyr Grŵp - Canllawiau Statudol ac Anstatudol i Brif Gynghorau yng Nghymru - Bydd y Dirprwy Swyddog Monitro yn rhoi adroddiad/adborth yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth 2024 a byddai’n cael ei nodi yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Tudalen 14 – Eitem 9: Dyletswydd Arweinwyr Grŵp - Canllawiau Statudol ac Anstatudol i Brif Gynghorau yng Nghymru - Bydd y Swyddog Monitro’n ceisio eglurder ynghylch rhannu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned. 

 

Tudalen 14 – Eitem 10: Cyd-bwyllgor Corfforedig - Mynychodd y Swyddog Monitro cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd y Cyd-bwyllgor Corfforedig angen eu Pwyllgor Safonau eu hunain a’r gobaith yw y cânt enwebiadau gan Aelodau presennol o’r Pwyllgor Safonau i fod yn aelodau o Bwyllgor Safonau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Nid oedd y rheoliadau yn caniatáu'r uchod ac felly byddai’r broses bresennol o recriwtio Aelodau i Bwyllgorau yn berthnasol.  Cyflwynodd y Swyddog Monitro yng Nghyngor Gwynedd adroddiad i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn egluro’r broses recriwtio a chafodd ei gymeradwyo.  Gofynnodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda phob aelod.

 

Tudalen 15 – Eitem 12: Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau - Cyfarfod Grŵp Cyswllt Moesegol - Roedd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer 18 Rhagfyr 2023, byddai’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod yn cael ei ddosbarthu i bob aelod ar ôl cyfarfod gydag Arweinwyr Grŵp ar 18 Rhagfyr 2023.

 

Tudalen 15 – Eitem 12: Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Safonol - Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n ymgynghori gyda’r Swyddog Monitro i gael dyddiad priodol ar gyfer eitem i Adolygu maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau.  Dywedodd y Swyddog Monitro y gellir dod â’r eitem yma i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth, a byddai’n cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2023 fel cofnod cywir.

 

 

5.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Elinor Cartwright: Cyflwynodd y Gyfreithwraig dan Hyfforddiant adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ein Casgliadau i’r Aelodau.

 

Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 3 Awst a 24 Tachwedd 2023. Roedd yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan yr Ombwdsmon yn cynnwys crynodeb o’r achosion sy’n cynnwys cwynion Cod Ymddygiad yr oedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt.

 

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod o Gyngor Sir Conwy wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy gymryd rhan a phleidleisio yng nghyfarfod y Cyngor dros y we, tra’n ymddangos ei fod yn gyrru, a fyddai o bosib yn dwyn anfri ar y Cyngor. O ystyried mai dim ond tystiolaeth o un digwyddiad a gyflwynwyd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn ymddangos ei fod wedi ailadrodd yr ymddygiad, ac er bod yr Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai er lles y cyhoedd i gymryd camau pellach dan adran a69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a ddylai’r gŵyn oedd yn cyfeirio at Aelod o Gyngor Sir Conwy yn ymuno â chyfarfod hybrid tra’n gyrru, gael ei adrodd yn ôl i bob Aelod, i’w hatgoffa o’r protocol sydd ar waith yng Nghyngor Sir Ddinbych, a gofynnodd a oedd angen unrhyw newidiadau i’r Polisi yn Sir Ddinbych o ystyried y gŵyn.

 

Fe eglurodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor bod polisi ar waith ynglŷn ag ymuno â chyfarfodydd hybrid.  Fe allai’r wybodaeth oedd yn ymwneud â’r gŵyn yn yr adroddiad gael ei hanfon at yr arweinwyr grŵp i roi gwybod i’w grwpiau  ac annog ymddygiad da.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at erthygl ar y radio oedd yn sôn y gallai Aelodau sydd yn ymuno â chyfarfodydd hybrid fod yn gwneud pethau eraill ar yr un pryd gan nad yw eu camerâu yn aros ymlaen drwy gydol y cyfarfod i gyd. 

 

Fe eglurodd y Swyddog Monitro bod y Protocol Cyfarfod Hybrid yn ymdrin â’r pryder yma. Pan mae Aelodau yn ymuno â chyfarfodydd, gofynnir iddynt adael eu camera ymlaen drwy gydol y cyfarfod. Dim ond os yna broblem â’r cysylltiad y dylai’r camera fod i ffwrdd. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y Polisi Hybrid yn cyfeirio’n benodol ar hyn o bryd at ymuno â chyfarfodydd mewn cerbyd, a byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y Polisi.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd angen i Aelodau fynychu yn bersonol er mwyn gallu cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais.   Fe eglurodd y Swyddog Monitro y gall Aelodau bleidleisio os ydynt yn ymuno â chyfarfod o bell neu’n mynychu’n bersonol.  Roedd yna sawl ffordd roedd pleidleisio mewn cyfarfodydd yn cael ei gynnal, yn cynnwys y system electronig yn y Siambr,  a galw cofrestr. Roedd yna brofion yn mynd rhagddynt ar bleidleisiau ar Zoom. 

 

Diolchodd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro i’r Gyfreithwraig dan Hyfforddiant am yr adroddiad ac am fynychu’r cyfarfod. 

 

Ar ôl trafodaeth - 

 

PENDERFYNWYD:

(i)             rhoi gwybod i Arweinwyr y Grwpiau am gynnwys yr adroddiad ac atgoffa aelodau o’u cyfrifoldebau

(ii)            diwygio’r Polisi Cyfarfod Hybrid i gynnwys ymuno â chyfarfod mewn cerbydau

(iii)          nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Aelodau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Samuel Jones am gyfarfod o Gyngor Cymuned Llanfair DC a gynhaliwyd am 7.30pm nos Lun 30 Hydref 2023.   Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Fe ddatganodd y Cadeirydd gysylltiad personol er na wnaeth hi ddweud yn benodol at ba eitem ar y rhaglen yr oedd yn berthnasol, mae’n ymddangos ei fod yn ymwneud ag eitem i adolygu gohebiaeth.  Gan mai dim ond adolygu gohebiaeth oedd o, ac am nad oedd penderfyniad yn cael ei wneud, mae’n ymddangos bod yr aelod wedi ymddwyn yn unol â’i datganiad.  Roedd y Cadeirydd a’r Clerc yn effeithlon iawn yn symud ymlaen â’r eitemau, tra’n rhoi amser priodol i drafod pob un.  Ar y cyfan, cafodd y cyfarfod ei gynnal yn broffesiynol ac roedd y drafodaeth yn adeiladol.  Roedd yn hawdd cysylltu â’r Clerc ac roeddent yn ymateb i negeseuon. 

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Dyserth a gynhaliwyd am 7pm ar 9 Hydref 2023.  Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd Clerc y cyfarfod yn drefnus iawn, ac roedd gwybodaeth yn cael ei gyflwyno’n glir ar sgrin fideo.  Roedd y Pwyllgor yn gyfeillgar a chwrtais gyda’i gilydd ac roeddynt yn parchu’r Cadeirydd.  Roedd y Clerc wedi drysu braidd ynglŷn â rôl y Pwyllgor y Safonau, gan feddwl bod ganddo sgôp ehangach dros Gyngor Sir Ddinbych (CSDd).  Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, ac roedd hi’n hawdd cysylltu â’r Clerc a oedd yn darparu’r rhaglen a chofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

·       Fe soniodd yr Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Rhuthun a gynhaliwyd am 7pm ar 20 Tachwedd 2023.   Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd y cyfarfod yn un hybrid ac roedd yn gweithio’n dda, ac roedd pob cyfranogwr yn dilyn y drafodaeth.  Roedd y seddi i’r cyhoedd y tu ôl i’r Pwyllgor, ac roedd hyn ei gwneud hi’n anodd clywed ar adegau.  Dylid atgoffa Pwyllgorau y dylai’r cyhoedd allu clywed y trafodaethau’n glir.  Ar y cyfan, roedd y pwyllgor wedi’i drefnu’n dda ac roedd cysylltu â’r Clerc yn syml ac roeddynt yn ymatebol. 

 

·       Fe soniodd y Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cynwyd a gynhaliwyd am 7.30pm ar 8 Tachwedd 2023.  Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.  Roedd Clerc y cyfarfod yn gymharol newydd i’r Cyngor ac roedd yn dysgu’r rôl gan nad oeddynt wedi bod yn Glerc o’r blaen. Fe fu yna gyfnodau hir pan nad oedd gan y Cyngor Glerc, ac ar adegau bu’r Clerc blaenorol yn absennol oherwydd salwch.  Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ddwyieithog ac roedd y rhaglen yn ddwyieithog.  Cymerodd dri aelod o’r cyhoedd ran drwy gydol y cyfarfod ar eitemau amrywiol ar y rhaglen.  Serch hynny fe drafodwyd offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn sgil y costau, fe gytunwyd nad oedd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor ar hyn o bryd.  Roedd y Cyngor yn cael trafferth llenwi swyddi gwag Cynghorydd a Chlerc gan ei fod yn ymddangos nad oedd papurau a dogfennau wedi cael eu dosbarthu i bob Aelod.

 

·       Fe soniodd y Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cyffylliog a gynhaliwyd am 7pm ar 9 Tachwedd 2023.  Cyn i’r cyfarfod ddechrau, fe’i gwnaed hi’n glir y byddai angen annog Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau gan nad oedd gan Gynghorwyr ddealltwriaeth am ddatgan cysylltiadau.  Roedd y rhaglen yn cynnwys 18 eitem a chafodd pob un eu trafod yn y cyfarfod. Cafwyd trafodaeth am gyrsiau hyfforddiant Un Llais Cymru, gyda pheth dryswch dros gyrsiau gorfodol a gwirfoddol, a faint y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CEISIADAU AM ODDEFEBAU

Ystyried unrhyw geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel sirol.

 

Cofnodion:

Roedd ystyried ceisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen.

 

Dywedodd yr aelodau na chafwyd unrhyw geisiadau am oddefeb.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 201 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn calendr 2023.

 

Mae’n ofyniad bod Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Safonau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar waith y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a’i arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor bob blwyddyn yn rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y diwygiadau canlynol -

 

·       Gofynnodd Aelodau bod paragraff yn cael ei gynnwys ar ddechrau’r adroddiad yn adlewyrchu ar ymdrechion y Pwyllgor Safonau i fynd i’r afael â safonau mewn bywyd cyhoeddus ac i annog ymddygiad da yn y Cyngor.  Byddai’r Swyddog Monitro yn ychwanegu hyn gan nodi Cod a Chydymffurfiaeth ac Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Democratiaeth.

·       Gofynnodd Aelodau ei bod hi’n cael ei gwneud yn amlwg a chryno beth yw rôl y Pwyllgor Safonau, gan egluro eu bod ar wahân i’r Cyngor.  Fe eglurodd y Swyddog Monitro y byddai paragraff yn egluro hyn yn cael ei gynnwys yn yr adborth cyffredinol a roddir i Gynghorau Tref, Dinas a Chymuned.

·       Gofynnodd yr Aelodau am ddiwygiad i argymhelliad yr adroddiad i’r Cyngor fel a ganlyn - ‘Bod Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cymeradwyo gwaith y Pwyllgor Safonau wrth hyrwyddo ac annog safonau uchel o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus’.

·       Paragraff 4.5 - Gofynnodd Aelodau am gyfeiriad ynglŷn ag ymddygiad mewn cyfarfodydd lle’r oedd Aelodau o’r Pwyllgor Safonau yn arsylwi, er mwyn sicrhau mai arsylwi yng nghyfarfodydd Cyngor Tref, Dinas a Chymuned yr oeddynt, ac nid yn cymryd rhan.

·       Paragraff 4.2 - gofynnwyd am ddiwygiad gan nodi y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn Aelod Annibynnol.

·       Paragraff 4.3 - Ystadegau cwynion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gael eu cynnwys yn yr adroddiad cyn y Cyngor Llawn.

·       Paragraff 4.4 - Ymateb i lythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - adborth i gynnwys pryderon y Pwyllgor Safonau ynglŷn â diffyg cwynion yn cael eu hymchwilio gydag ystadegau, yn cynnwys nifer y cwynion a dderbynnir o’i gymharu â nifer y cwynion oedd yn cael eu hymchwilio ymhellach a’r angen i staff fod yn ymwybodol bod angen mwy o fanylder er mwyn i’r gŵyn gael ei hystyried/cario ymlaen.

·       Paragraff 4.5 - i gael ei aralleirio a’i ail rifo (Arsylwi cyfarfodydd)

·       Paragraff 4.6 - Pryderon y Pwyllgor Safonau am ddiffyg ceisiadau am oddefebau a gofyn am waith paratoi i annog mwy o geisiadau.

·       Paragraff 4.6 - i ychwanegu adborth i Gynghorwyr os yw’n briodol a chynnwys dolen Cyngor Sir Ddinbych i bolisïau yn yr adroddiad.

·       Fforwm Safonau Cenedlaethol - rhestru pwyntiau gweithredu i ddod allan o gofnodion diweddaraf Fforwm Safonau Cenedlaethol i gael eu trafod a’u cymeradwyo gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth Aelodau bod drafft diwygiedig o Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod i roi sylw ar ôl cyfarfod Arweinwyr Grwpiau ar 18 Rhagfyr 2023.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd yr adroddiad ac felly, yn sgil nifer o eitemau ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor Llawn ar hyn o bryd, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn mynd gerbron cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2024. 

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar yr uchod.

 

Ar y pwynt hwn o’r cyfarfod, cymerodd y pwyllgor egwyl.

Fe ailddechreuodd y Pwyllgor am 12.45pm.

 

 

9.

DIGWYDDIAD HYFFORDDIANT Y CADEIRYDD

Cael diweddariad ar lafar ar Ddigwyddiad Hyfforddiant y Cadeirydd a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro diweddariad ar lafar i’r Aelodau am ddigwyddiad Hyfforddiant y Cadeirydd.

 

Derbyniwyd adborth cadarnhaol drwy ffurflenni adborth gan y rhai oedd yn mynychu’r hyfforddiant.  Rhoddwyd adroddiad ar lafar am y ffurflenni adborth i’r Pwyllgor, oedd yn ymdrin â phynciau megis pa mor ddefnyddiol oedd yr hyfforddiant ac a fyddai ganddynt ddiddordeb mynychu sesiwn hyfforddiant arall oedd yn ymdrin â phynciau gwahanol yn y dyfodol. 

 

Fe soniodd yr Aelodau am safon uchel yr hyfforddiant, serch hynny, fe nodwyd bod y presenoldeb yn siomedig.  Roedd yna nifer o gyfleoedd i’r rhai oedd yn bresennol i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a chroesawodd yr Aelodau ragor o hyfforddiant yn y dyfodol. 

 

Cyfeiriwyd at yr awgrymiadau defnyddiol a roddwyd gan yr hyfforddwr ar y cwrs hyfforddi ynglŷn â rôl Cadeirydd mewn cyfarfodydd, ac fe soniodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor amdanynt yn fyr.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod y daflen wybodaeth am ‘Gadeirio Cyfarfodydd’ o’r sesiwn hyfforddi’n cael ei dosbarthu’n fewnol gyda Chadeiryddion Pwyllgorau yn y Cyngor.  Cytunodd y Swyddog Monitro i geisio cael cymeradwyaeth gan yr hyfforddwr allanol i gael caniatâd cyn rhannu’r wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

(i)             Bod y daflen Cadeirio Cyfarfodydd yn cael ei dosbarthu ar ôl cael caniatâd gan yr hyfforddwr a –

(ii)            Derbyn a nodi Digwyddiad Hyfforddiant y Cadeirydd.

 

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a nododd yr Aelodau’r canlynol –

 

Roedd yna 3 Eitem ar y Rhaglen wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth -

 

·       Diweddariad Fforwm Safonau Cenedlaethol

·       Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau

·       Adborth o’r cyfarfod Grŵp Cyswllt Moesegol

Eitemau a gytunwyd i gael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn ystod y cyfarfod oedd - 

·       Y Diweddaraf am Gymharu Casgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau

·       Elfennau o Egluro’r Canllaw Statudol sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Safonau, Rhan 2: Adrannau 5, 6 a 7 ynghyd â Rhan 4 (Yr Atodlen, Adran 6 a Rhaglen ac adroddiadau, Adran 15.80 (Papurau Cefndir:), Cadeirio Cyfarfodydd, Adran 15.138 ymlaen).

·       Adolygiad o faint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer dydd Gwener 1 Mawrth 2024 am 10am yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 1 Mawrth 2024.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

12.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau y cafodd eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill 2022.

 

Nid oedd unrhyw gwynion byw wedi’u hadrodd fel rhai sy’n cael eu hymchwilio ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o bob un o'r ddwy gŵyn a gyflwynwyd, nad oedden nhw wedi’u hymchwilio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny. O ystyried y newid yn y trefniadau cofnodi, nodwyd y gallai cwynion gael eu cyflwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fydden nhw’n yn hysbys hyd nes y byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r gŵyn ai peidio.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chofnodi'r adroddiad.

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a diolchodd i’r staff cefnogi hefyd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am  13.05pm