Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Cynghorydd Tref Corwen, Gordon Hughes gysylltiad personol yn eitem rhif 14 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa mai dim ond aelodau annibynnol y pwyllgor a allai benodi cadeirydd, er fod gan yr holl aelodau eraill hawl i bleidleisio.

 

Enwebodd Anne Mellor Julia Hughes ar gyfer y rôl. Eiliwyd yr enwebiad gan Peter Lamb. Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill ac felly penodwyd Julia Hughes.

 

Penderfynwyd penodi Julia Hughes fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Cofnodion:

Enwebodd y Cadeirydd Anne Mellor ar gyfer Rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau. Eiliwyd yr enwebiad gan Peter Lamb. Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill felly penodwyd Anne Mellor.

 

Penderfynwyd penodi Anne Mellor fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys yn codi.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 290 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Hugh Irving i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cywirdeb cofnodion:

 

Ymddiheuriadau, ar dudalen 7 - cyfeirio ar gam at ‘gyfarfod olaf y cadeirydd dros dro’ yn hytrach na ‘chyfarfod olaf y Cadeirydd’.

 

Materion yn codi:

 

Cynhadledd Safonau 2022, tudalen 9 - ymunodd dros 100 o gynrychiolwyr gyfarfod ar-lein y gynhadledd. Roedd yn falch gallu nodi na wnaeth presenoldeb ostwng drwy gydol y dydd.

 

Proses ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau, tudalen 10 - Nodwyd fod Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001 yn caniatáu hyd ar naw aelod. Roedd cyfansoddiad Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn pennu saith aelod. Efallai bydd angen adolygu hyn yn y dyfodol yn dibynnu ar y newidiadau a ragwelir i ymchwilio i gwynion a’r gofyniad am benderfyniad lleol.

 

Tudalen 11, eitem 8 - yn y cyfarfod diwethaf roedd trafodaeth o ran cynnwys aelodau annibynnol ar baneli recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol o’r pwyllgorau safonau nad oedd wedi’i gofnodi. Gofynnwyd i adroddiad i adolygu Recriwtio Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys cymariaethau â phaneli Awdurdodau Lleol eraill gael ei ychwanegu ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr addasiadau uchod, fod cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ddydd Gwener 4 Mawrth 2022 yn cael eu nodi fel cofnod cywir.

 

 

7.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - 'EIN CANFYDDIADAU' pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad (a rannwyd yn flaenorol). Atgoffodd y Pwyllgor fod yr Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus yn flaenorol wedi cynhyrchu Llyfr Achos Cod Ymddygiad bob chwarter a oedd yn crynhoi’r achosion a gyfeiriwyd atynt o awdurdodau lleol amrywiol ar draws Cymru. Roedd yn rhoi amlinelliad cryno o’r gŵyn a’r penderfyniad o ran os oedd yn torri cod ymddygiad ai peidio. Wedi hynny, os oeddent wedi dod i gasgliad fod achos o dorri cod ymddygiad, beth oedd y cam nesaf: dim camau pellach; atgyfeirio ar y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru.

 

Mae Llyfr Achos Cod Ymddygiad wedi ei ddisodli gydag adran ar wefan Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus  o’r enw ‘Ein Canfyddiadau’. Roedd y crynodeb yn fwy cynhwysfawr ac wedi’u categoreiddio i bynciau gwahanol. Roedd y cwynion a adroddwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2022 fel a ganlyn:

 

·         Uniondeb 12

·         Cydraddoldeb a pharch 12

·         Datgelu a chofrestru buddiannau 3

·         Dyletswydd i gynnal y gyfraith 3

·         Anhunanoldeb a Stiwardiaeth 1

 

Fe wnaeth eu canlyniadau arwain at:

 

·         Dim tystiolaeth o dorri cod ymddygiad 10

·         Heb ei ymchwilio ymhellach 5

·         Dim angen camau pellach 6

·         Atgyfeiriad at y Pwyllgor Safonau 7

·         Atgyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru 3

 

Roedd un achos yn ymwneud â chyngor Sir Ddinbych ar y mater o rannu delwedd CCTW ar dudalen Facebook lle byddai posibl adnabod unigolyn ifanc. Penderfynodd yr Ombwdsmon bod achos o dorri Cod Ymddygiad ond yn sgil absenoldeb hyfforddiant (ar CCTV a chyfryngau cymdeithasol) a gan fod ymddiheuriad wedi ei roi ar unwaith gan dynnu’r cynnwys hefyd, nid oedd angen camau gweithredu pellach.

 

Cafodd dwy gŵyn sylweddol eu hatgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru (Y Panel). Daethpwyd i’r casgliad fod y ddau achos yn torri Codi Ymddygiad. Arweiniodd yr achos cyntaf at ymddiswyddiad yr aelod. Er gwaethaf hynny, penderfynodd y Panel y dylai gael ei anghymhwyso rhag dal swydd neu sefyll ar gyfer etholiad am gyfnod o 24 mis. Cafodd yr ail ei wahardd dros dro am eu rhan mewn ffrwgwd ar y stryd a ddaeth yn ddigwyddiad heddlu, ond nid chafodd ei gosbi ymhellach am neges ar y cyfryngau cymdeithasol a fyddai wedi gallu cyfyngu ar hawl Erthygl 10 yr aelod i Ryddid i Lefaru.

 

Myfyriodd Aelodau’r Pwyllgor fod yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ yn eithaf anodd ei lywio ac roedd nifer o’r chwiliadau wedi’u cwtogi. Roedd aelodau’n ystyried y byddai’r cyfleuster chwilio yn haws pe byddai un categori ar gyfer ‘Cod Ymddygiad’ ac yna cwymplen ar gyfer uniondeb, parch ac ati. Rhagwelwyd, gan ei fod yn adran newydd ar wefan, y byddai o dan adolygiad a byddai’r newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD nodi adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

 

8.

HYFFORDDIANT MOESEG A SAFONAU pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ynglŷn â’r deunyddiau a ddefnyddir i hyfforddi aelodau etholedig awdurdodau perthnasol yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd yr eitem drwy bwysleisio pa mor bwysig oedd hi, wrth ddechrau tymor newydd y Cyngor, fod holl Gynghorwyr Cymuned, Tref, Dinas a Sir yn cael cyfle i gael mynediad at hyfforddiant a gwybodaeth i’w cynorthwyo nhw i gyflawni eu dyletswyddau a glynu at y Cod a chyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau i sicrhau fod cyfarfod sefydlu a hyfforddiant yn digwydd.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod awdurdodau lleol yn flaenorol wedi cynhyrchu eu hyfforddiant Cod Ymddygiad eu hunain ar gyfer aelodau, ond cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), er mwyn cysondeb, i gynhyrchu cyfres gyffredin o ddeunyddiau hyfforddi (wedi’i atodi i’r adroddiad).

 

Diwygiodd Sir Ddinbych ei God Ymddygiad er mwyn ei gwneud yn ofyniad fod pob aelod o staff yn mynychu sesiwn Hyfforddiant Cod Ymddygiad o leiaf unwaith bob tymor Cyngor - hyd yn oed os ydynt yn aelodau sy’n dychwelyd.

 

Roedd tri sesiwn hyfforddiant ar wahân yn yr wythnos gyntaf yn dilyn yr etholiadau ym Mai, lle'r oedd y rhaglen yn cynnwys Cod Ymddygiad a Phrotocol Perthnasau Aelodau / Swyddog gyda sesiynau eraill wedi’u trefnu ar gyfer Medi. Hefyd roedd ymrwymiad i’r Swyddog Monitro fynychu cyfarfodydd Grŵp yn yr hydref ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

 

Er bod mwy o sesiynau wedi cael eu cynnig ar gyfer hyfforddiant nac yn flaenorol, roedd llai o bobl yn mynychu. Yn 2017 mewn un sesiwn yn Neuadd y Dref Dinbych, roedd 45 (allan o 47) o aelodau’n bresennol. Yn y tri sesiwn a gynhaliwyd ym Mai roedd 27 o fynychwyr. Roedd negeseuon atgoffa yn cael eu rhannu ar gyfer aelodau i fynychu’r sesiwn hyfforddiant ym Medi.

 

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant tebyg ar gyfer Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas. Fodd bynnag, roedd problem gweinyddol yn golygu fod presenoldeb yn gyfyngedig ac roedd sesiynau pellach yn cael eu trefnu ar gyfer mis Medi. Byddai’r dyddiadau hynny’n cael eu rhannu gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau, fel aelodau cyfetholedig yr Awdurdod, roedd hefyd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r Cod.

 

Roedd hyfforddiant Cod Ymddygiad Aelodau wedi ei gyflwyno’n flaenorol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Roedd gweithwyr hefyd yn derbyn eu hyfforddiant Cod Ymddygiad eu hunain wrth gael eu sefydlu yn yr Awdurdod. Mae peth amser wedi mynd heibio ers i’r Cod gael ei adolygu, a byddai’n cael ei ddiweddaru a’i ail-lansio yn y dyfodol agos. Disgwyliwyd pe byddai problem rhwng aelod etholedig ac aelod o staff yna’r Pennaeth Gwasanaeth fyddai’r person i gyfryngu datrysiad yn y lle cyntaf.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod yr hyfforddiant Cod Ymddygiad yr un fath ar gyfer Cynghorau Cymuned, Tref, Dinas a Sir. Roedd Clerciaid Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas yn derbyn llythyrau yn eu hatgoffa o’r rheolau ar oddefebau a roddwyd, mai nhw fel arfer oedd yr unigolion oedd yn gyfrifol am eu cyflwyno nhw i’r Pwyllgor. Roedd y Cadeirydd yn awyddus i hyfforddiant gael ei ddarparu i holl aelodau ar oddefebau.

 

Teimlai’r Cadeirydd ei bod yn bwysig fod y Pwyllgor yn parhau i dderbyn ystadegau ar bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd tan i bresenoldeb 100% gael ei gyflawni. Cytunodd y Swyddog Monitro i rannu dyddiad hyfforddiant mis Medi gydag aelodau’r Pwyllgor.

 

Ceisiwyd eglurhad ar y datganiad (tudalen 49) yn y deunydd hyfforddi ‘Sylwch: Gellir parhau i drafod penderfyniadau lleol y Pwyllgor Safonau mewn fforwm cyhoeddus’. Ymddangosai ei fod yn gwrth-ddweud y cynnig bod materion yn cael eu penderfynu’n lleol. Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd un ffordd o gwblhau penderfyniadau lleol. Efallai bod gan rai awdurdodau lleol benderfyniadau lleol sydd wedi arwain at wrandawiad Pwyllgor Safonau. Nid dyma’r achos yn Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD nodi’r deunyddiau a ddefnyddir i hyfforddi aelodau etholedig ar foeseg a safonau.

 

 

 

 

 

 

 

 

9.

CANLLAW LLYWODRAETH CYMRU - DYLETSWYDD ARWEINWYR GRŴP I HYRWYDDO YMDDYGIAD MOESEGOL pdf eicon PDF 212 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar ganllawiau drafft Llywodraeth Cymru a cheisio eu barn ar gynigion i gefnogi arweinwyr grŵp i gyflawni’r ddyletswydd hon.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad (wedi’i rannu’n flaenorol) yn hysbysu fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu dyletswydd newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg eu haelodau. Roedd y Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd ar y Pwyllgor Safonau i fonitro, cynghori a darparu hyfforddiant i arweinwyr grŵp er mwyn galluogi cydymffurfiad â’r ddyletswydd.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau statudol ar gyfer arweinwyr grŵp wedi cyd-fynd â chyfarfodydd oedd wedi’u trefnu ar gyfer y Pwyllgor. Dylai’r canllawiau fod wedi’u rhannu i aelodau trwy e-bost. Roedd y canllaw olaf dal heb gael ei rannu, nid oedd disgwyl i’r drafft newydd, roedd yn cynnwys esiamplau o sut allai arweinwyr grŵp berfformio eu dyletswydd.

 

Un o’r esiamplau yn y canllawiau oedd cydweithio gydag Arweinwyr Grŵp eraill er mwyn cefnogi safonau uchel o God y Cyngor gyda’i gilydd. Felly, byddai arweinwyr grŵp yn cael eu cysylltu gyda chynnig i greu Grŵp Cyswllt Moesegol yn cynnwys pob Arweinydd Grŵp yn ogystal ag aelod grŵp o’r rhyw arall. Byddai’r grŵp yn cael eu cefnogi gan y Swyddog Monitro ac aelod o’r Pwyllgor Safonau (e.e. Cadeirydd neu Is-gadeirydd).

 

Byddai’r grŵp yn archwilio unrhyw faterion cyfredol neu fentrau newydd o amgylch safonau e.e.:

·         gweithredu argymhellion yr Adolygiad Penn, gan eu galluogi i gefnogi ei gilydd a

·         phenderfyniadau lleol.

Syniad y Grŵp oedd cael cydgyfrifoldeb o gynnal safonau o fewn y Cyngor. Nid oedd cylch gorchwyl penodol wedi’u trafod eto.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor , dywedodd Swyddog Monitro:

 

·         Os oedd y broblem ynglŷn ag Arweinydd Grŵp yna bydda Cadeirydd y Cyngor yn cael ei recriwtio i gymryd eu lle.

·         Roedd yn bwysig i’r arweinwyr grŵp roi unrhyw dueddiadau gwleidyddol i’r neilltu a chyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i gynnal safonau’r Cyngor.

·         Pe na fyddai arweinwyr grŵp yn ymddangos i fod yn cydymffurfio â’u dyletswydd i hyrwyddo neu gynnal safonau da o ymddygiad yna byddai hynny’n cael ei ystyried fel torri Cod Ymddygiad yn ei hun.

·         Rhagwelwyd yn hytrach na thrafodaethau trwm byddai disgwyl i ymddygiad o safon uchel hyrwyddo cyfranogiad.

·         Byddai llunio templed i gynorthwyo arweinwyr grŵp i adrodd i’r Pwyllgor Safonau e.e. rhestru gweithgareddau i’w cyflawni i hyrwyddo cydymffurfiaeth, yn ddefnyddiol.

 

Byddai angen trafodaeth pellach o ran os fydd y Pwyllgor Safonau yn aelodau i’r Grŵp Cysylltu Moesegol neu pe byddent yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd fel arsylwyr.

 

Byddai’r Swyddog Monitro yn briffio ac yn ymgynghori ag Arweinwyr Grŵp mewn cyfarfod ar 29 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD nodi canllawiau llywodraeth cymru - dyletswydd arweinwyr grŵp i hyrwyddo ymddygiad moesegol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10.

FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar greu Fforwm Safonau Cenedlaethol a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma.

 

Cofnodion:

Atgoffodd y Swyddog Monitro’r Pwyllgor bod Fforwm Safonau Gogledd Cymru wedi’i sefydlu yn flaenorol yn cynnwys Cadeiryddion bob Pwyllgor Safonau o 6 Awdurdod Lleol Gogledd Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Roedd yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i gyfnewid arferion gorau a delio ag unrhyw fentrau newydd.

 

Ar rai achlysuron, mynychodd yr Ombwdsmon y fforwm ar gyfer sesiynau holi ac ateb. Nodwyd y fforwm fel arfer da o dan Adolygiad Penn o’r Drefn Foesegol yng Nghymru ac argymhellwyd ei fod yn fforwm cenedlaethol.

 

Yn dilyn yr argymhelliad, gofynnwyd i Swyddogion Monitro pe byddai eu hawdurdodau yn cefnogi’r cynnig o Fforwm Cymru Gyfan, ac roedd yr ymateb yn gadarnhaol. Cynhaliwyd trafodaethau gyda CLlLC i geisio cymorth ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm, a byddai baich y rhain yn cael ei leddfu drwy gyfarfodydd o bell.

 

Gall gyfarfodydd o bell y fforwm brofi’n adnodd defnyddiol i hyrwyddo ymgysylltiad gyda Swyddfa’r Ombwdsmon yn ogystal â mynd i’r afael â rhai o’r materion oedd yn codi o’r Adolygiad Fframwaith Moesegol.

 

Rhagwelwyd y byddai un cynrychiolydd o bob awdurdod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad ar gread Fforwm Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

             

 

 

11.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd wrth yr aelodau newydd fod aelodau annibynnol y Pwyllgor yn mynychu Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas ar sail ad hoc fel arsylwyr gan adrodd ar eu canfyddiadau - arferion da/drwg - yn ôl i’r Pwyllgor Safonau.

 

Awgrymodd y Cadeirydd i Bresenoldeb mewn Cyfarfodydd gael ei roi ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod mis Medi er mwyn ystyried dull mwy strwythuredig o ran pa gyfarfodydd dylai gael eu harsylwi, pa wybodaeth i’w nodi a sut i adrodd am yr adborth i’r Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas.

 

Byddai’r Swyddog Monitro yn darparu manylion cyswllt ar gyfer holl glerciaid Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas ar gyfer 2022/23 er mwyn trafod blaenoriaethu cyfarfodydd i’w harsylwi. Roedd cyflwyniad o weddarlledu cyfarfodydd yn golygu nad oedd rhaid i aelodau arsylwi yn fyw, ond gwylio’r gweddarllediad yn eu hamser eu hunain.

 

Os oedd aelodau’n bwriadu mynychu cyfarfod Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas yn bersonol, dylai swyddog hysbysu’r clerciaid ymlaen llaw gan egluro ei fod yn arferiad yn hytrach na her.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am restr o gynghorau a oedd wedi derbyn ymweliad yn ddiweddar er mwyn osgoi dyblygu. Awgrymwyd hefyd fod templed o adroddiad ymweliad yn cael ei lunio er mwyn hwyluso adborth i’r clerciaid yn dilyn y cyfarfod a bod yr adborth yn cael ei ddarparu yn ffurfiol i glerciaid mewn llythyr.

 

PENDERFYNWYD bod eitem penodol ar gyfer Presenoldeb mewn Cyfarfodydd yn cael ei ychwanegu at y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 16 Medi 2023.

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd yr eitem ar gyfer trafodaeth drwy ymholi os oedd 1 cyfarfod fesul chwarter yn ddigon i gyflawni dyletswyddau’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd y Swyddog Monitro mai’r gofyniad cyfreithiol oedd 1 cyfarfod y flwyddyn ac roedd amrywiaeth eang o drefniadau ar draws awdurdodau lleol.

 

Awgrymwyd i’r cyfarfodydd barhau i fod bob chwarter, fodd bynnag pe byddai’r rhaglenni yn dod yn ormod, pe derbynnir goddefeb neu pe atgyfeirir achosion ar gyfer penderfyniadau lleol, yna byddai cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu hystyried. Amlygwyd y byddai cyfarfodydd ychwanegol yn broblem adnoddau ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd a byddai rhaid adolygu effaith y cynnydd mewn amlder cyfarfodydd.

 

Cytunwyd y byddai eitemau sefydlog ar gyfer bob cyfarfod, gan gynnwys:

 

1.    ‘Ein canfyddiadau’

2.    Ceisiadau Goddefebau

3.    Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol

4.    Presenoldeb mewn Cyfarfodydd

5.    Rhan 2 - Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000

 

Eitemau i’w hystyried yn y dyfodol:

·         Adroddiad ar Sesiynau Hyfforddi Rheolaidd ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor

·         Cynnydd Dyletswydd Arweinwyr Grŵp.

·         Diweddariad ar Gyfarfod Sefydlu / Hyfforddiant i Aelodau

·         Adolygiad Polisi Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr

·         Adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol.

·         Adrodd yn ôl o’r Fforwm Safonau.

·         Cydgyfarfod gyda Chynghorau Cymuned, Dinas a Thref.

·         Adroddiad Drafft Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

·         Cymharu Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.

 

 

 

 

13.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 16 Medi 2022.

 

 

Cofnodion:

Yr amserlen ar gyfer cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor Safonau oedd am 10:00am Ddydd Gwener:

 

·         16 Medi 2022

·         2 Rhagfyr 2022

·         3 Mawrth 2023

·         16 Mehefin 2023

·         15 Medi 2023

·         1 Rhagfyr 2023

 

14.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (SM) yr adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i roi trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ionawr 2018.  Roedd saith o gwynion yn Sir Ddinbych wedi’u cwblhau ers y cyfarfod diwethaf - penderfynwyd nad oedd angen ymchwilio iddynt.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y pwyllgor fod yr Ombwdsmon wedi newid y ffordd maent yn delio â hysbysu am gwynion. Yn flaenorol, roeddent yn anfon:

·         copi o lythyr y gŵyn i’r aelod gyda chwyn yn eu herbyn a

·         copi o lythyr yr achwynydd, ynghyd â llythyr a anfonwyd i’r aelod i’r Swyddog Monitro.

Roedd y broses wedi galluogi i’r Swyddog Monitro i gadw ar ben y sefyllfa drwy edrych allan am benderfyniad yr Ombwdsmon pe byddai’r gŵyn yn cael ei harchwilio ai peidio. Ar ddiwedd ystyriaethau’r Ombwdsmon, byddai’r Swyddog Monitro yn derbyn copi o’r llythyr a anfonwyd i’r achwynydd a’r aelod ar gyfer ei gofnodi.

 

Roedd y newid yn y broses yn golygu nad oedd Swyddogion Monitro bellach yn cael eu hysbysu o’r cwynion, dim ond y canlyniadau. Dywedodd y Swyddog Monitro hyd yn oed petai’r Ombwdsmon yn penderfynu nad oedd achos i ymchwilio, pe byddent yn teimlo bod angen hyfforddiant ar gyfer yr aelod, byddent yn rhoi gwybod i’r Swyddog Monitro.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i’r Swyddog Monitro ddarparu adborth i’r Ombwdsmon fod derbyn copi o’r gŵyn ddechreuol yn werthfawr.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.