Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 187 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2016. Materion yn codi - Tudalen 9 – Eitem
5 – Fforwm Safonau Gogledd Cymru – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd
ynglŷn â'r dyddiad y cynhelir y fforwm nesaf yn Sir Ddinbych, eglurodd y
Swyddog Monitro i'r Pwyllgor bod angen eglurder o ran dyddiadau o ran argaeledd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Holodd y
Cadeirydd ynglŷn ag argaeledd hyfforddiant cyfryngu ar gyfer Aelodau'r
Pwyllgor Safonau, ac fe gytunodd y Swyddog Monitro y byddai'n olrhain y mater
ac yn diweddaru'r aelodau. (GW i weithredu) Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro bod canllawiau ynglŷn â'r cosbau a gynhyrchwyd gan Banel
Dyfarnu Cymru wedi'u dosbarthu i'r Aelodau. Tudalen 8 - Eitem 4 - Cofnodion -
Holodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes am bresenoldeb mewn cyfarfodydd ac am y
daenlen o fynychwyr a gynhyrchwyd. Dosbarthodd y Swyddog Monitro'r
rhestr i'r Aelodau ei ystyried. Tudalen 9 – Eitem
5 – Fforwm Safonau Gogledd Cymru – Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes ynglŷn â chyhoeddi datganiadau cysylltiad a
fynegwyd mewn cyfarfodydd Cyngor Dinas/ Tref / Cymuned, eglurodd y Swyddog Monitro
y byddai'n arfer da pe bai Datgan Cysylltiad yn eitem ar raglen cyfarfodydd o'r
fath. Dylid storio unrhyw ddatganiadau a
wneir fel cofnod ond nid oedd yn ofynnol eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2016
fel cofnod cywir. |
|
HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED – ADOLYGIAD BLYNYDDOL Derbyn adroddiad
llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol). Cofnodion: Cyfeiriodd yr
Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at yr adroddiad archwilio a gyflawnodd i
asesu hygyrchedd gwybodaeth o wefannau 37 o Gynghorau Dinas / Tref /Cymuned yn
Sir Ddinbych o gymharu ag astudiaeth a gynhaliwyd ar ddiwedd 2015- dechrau
2016. Roedd y meysydd a archwiliwyd a'r wybodaeth a geisiwyd yn cynnwys- ·
argaeledd
cofnodion blaenorol gan gynnwys y dyddiad ·
manylion
dyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod nesaf ·
darpariaethau
dwyieithog ·
nodiadau
a manylion ychwanegol Atgoffwyd yr
Aelodau bod y canfyddiadau yn darparu ciplun o'r adeg hynny, ac y gallai
newid. Cyflwynodd JH adroddiad trosolwg
o'r gwaith a wnaed ar draws y 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych
a dyma'r prif ganfyddiadau - ·
roedd
sawl gwefan yn bodoli ond wedi hen ddyddio ·
nid
oedd llawer o'r gwefannau’n ddwyieithog ·
roedd
rhai gwefannau wrthi’n cael eu datblygu ·
dim
ond rhaglenni safonol nad oedd yn newid o gwbl oedd gan sawl cyngor ·
roedd
gwefannau'r Cynghorau Tref yn fwy datblygedig ar y cyfan ·
roedd
rhai safleoedd yn enghreifftiau ardderchog i ardaloedd eraill eu defnyddio pe
baent yn dymuno ·
Nid
yw llawer o safleoedd yn gysylltiedig neu nid oedd ganddynt y manylion
diweddaraf ar wefan Sir Ddinbych - www.moderngov.denbighshire.gov.uk ·
roedd
rhai safleoedd wedi’u cysylltu â www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm (safle Llywodraeth Cymru), ond roedd
llawer heb eu cysylltu iddo ·
nid
oedd gan bedwar cyngor bresenoldeb electronig ·
nid
oedd gan lawer unrhyw fanylion am eu cynghorwyr na sut i gysylltu â nhw ·
roedd
gan rai cynghorau hen wefannau a oedd yn ymddangos wrth chwilio amdanynt, felly
roeddech chi'n credu nad oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar ·
roedd
rhai safleoedd yn dda gyda thempledi da ond roedd rhai wedi dyddio O ganlyniad,
argymhellodd JH y canlynol fel gofynion sylfaenol, yn ei safbwynt hi- ·
cael
gwefan ·
enw
parth hawdd sy’n ymddangos yn gymharol hawdd mewn chwiliadau ·
dolen
i wefan ‘modern government’ Sir Ddinbych www.moderngov.denbighshire.gov.uk ·
dylid
cywiro’r ddolen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i wefan y Cynghorau Dinas, Tref
neu Gymuned ac ni ddylai fod yn ddolen i hen safle ·
dolen
i wefan Llywodraeth Cymru www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm ·
roedd
angen i unrhyw ddolenni ar www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-dl.htm fod yn rhai cywir ·
mae
gwefan ddwyieithog yn hanfodol ·
enw'r
clerc gyda llun a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ·
enwau'r
holl gynghorwyr gyda’u lluniau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau
e-bost a rhifau ffôn ·
dyddiadau,
lleoliadau ac amseroedd cyfarfodydd ·
rhaglenni ·
cofnodion
blaenorol ·
manylion
am yr ardaloedd y mae'r cyngor yn eu gwasanaethu gyda map os oes modd ·
sut y
gallai pobl gael eu cynnwys - bod yn gynghorydd, mynd i gyfarfodydd Argymhellion
ychwanegol dewisol - ·
ffurflen
ymholiadau electronig ·
hanes
yr ardal ·
digwyddiadau
yn yr ardal ·
dolenni
i wefannau grwpiau lleol eraill ·
defnydd
o gyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach ·
manylion
ar God Ymddygiad ·
cofnod
o ddatganiadau cysylltiad. Manteisiodd y
Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i JH am ei gwaith caled a’i hadroddiad
ardderchog ac adleisiodd aelodau eraill y teimladau hynny. Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
fel
aelod o Gyngor Tref y Rhyl, adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor bod cyllid
grant wedi galluogi adnewyddu gwefan y Rhyl ac oherwydd ei fod yn ei ddyddiau
cynnar roedd disgwyl iddo fod o safon uchel ·
roedd y Cadeirydd o blaid anfon yr
adroddiad ymlaen i Reolwr Ymgysylltu â'r Gymuned i'w ddosbarthu i Gynghorau
Dinas / Tref / Cymuned mewn cyfarfodydd clwstwr. (GW i
weithredu) ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Barry Mellor at y ffaith fod nifer o Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn gorfod
cyllido creu gwefan gan fod toriadau cyllid wedi arwain at gymhwyso cyllid i
ddarpariaethau eraill. · pryderon nad oedd gan 4 Gyngor Cymuned wefan, dwywaith y nifer a nodwyd yn yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PARATOI ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD AR GYFER Y CYNGOR LLAWN PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad
Blynyddol y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro ymddiheuriad gan y Dirprwy Swyddog Monitro a chyflwyno'r
adroddiad a gyflwynwyd i'r Aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno
Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2016 i'w ystyried cyn ei gyflwyno i'r Cyngor
Llawn. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am gyflwyno'r adroddiad ac i'r Dirprwy Swyddog
Monitro am ei gwaith caled i baratoi'r adroddiad. Yn ystod y drafodaeth cytunwyd ar y diwygiad
canlynol-
Agorodd y
Cadeirydd y drafodaeth gan ofyn i'r aelodau a oeddent yn teimlo y dylid trafod
unrhyw faterion neu bwyntiau pellach pan gaiff ei drafod gyda'r Cyngor
llawn. Roedd y Pwyllgor Safonau eisiau
i Gynghorwyr fod yn ymwybodol o waith y Pwyllgor Safonau ynghyd â'r gwaith a'r
pwysau yr oedd Cynghorau Dinas / Tref a Chymuned yn eu hwynebu. Cytunodd y
Swyddog Monitro y byddai'n rhannu'r diwygiadau a'r sylwadau gyda'r Dirprwy
Swyddog Monitro i baratoi drafft diwygiedig i'w gymeradwyo gan y Cadeirydd cyn
ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. (GE a LJ i
Weithredu) PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylai’r aelodau nodi'r adroddiad ac argymell bod y
Cadeirydd yn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. |
|
LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o
gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o'r
rhifyn diweddaraf o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon sy'n cwmpasu'r
cyfnod rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2016. Roedd manylion y
cwynion a archwiliwyd yn ystod y cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad
a’u crynhoi gan y Swyddog Monitro. Holodd y
Cadeirydd ynglŷn â chadw cofnodion o gwynion nad oeddent angen unrhyw
gamau pellach. Eglurodd y Swyddog
Monitro i'r Pwyllgor Safonau pe bai cwyn yn cael ei harchwilio, byddai
swyddfa'r ombwdsmon yn archwilio pob agwedd o'r gŵyn. Mewn achosion o beidio â chymryd camau
pellach ni fyddai cofnod cyhoeddus ohono ond byddai swyddfa'r Ombwdsmon yn cadw
ffeil yr achos am gyfnod. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos y Cod
Ymddygiad. |
|
HYFFORDDIANT – DEUNYDD CYFLWYNO CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU PDF 156 KB Ystyried adroddiad gan
y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o’r deunyddiau sefydlu a
gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gyfer hyfforddi
aelodau newydd ac aelodau sy’n dychwelyd ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol ym
mis Mai 2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu'r pwyllgor
bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi creu deunyddiau
cyflwyno. Eglurodd y Swyddog Monitro bod
y cyngor wedi mabwysiadu pecyn hyfforddiant ei hun yn y blynyddoedd
diwethaf. Roedd CLlLC wedi llunio pecyn
hyfforddiant i ddarparu cyfres gyffredin
o adnoddau y gellir eu defnyddio ledled Cymru, ac annog dealltwriaeth gyffredin
o ofynion y Cod Ymddygiad rhwng aelodau etholedig. Eglurodd y
Swyddog Monitro ei fod ef a'r Dirprwy Swyddog Monitro yn fodlon â'r pecyn
hyfforddiant a ddarparwyd gan CLlLC.
Roedd y pecyn hyfforddiant a'r nodiadau hyfforddi wedi'u cynhyrchu'n
ddwyieithog i gynorthwyo i ddarparu hyfforddiant effeithiol. Eglurodd y Swyddog Monitro bod pecyn
hyfforddiant wedi'i ddylunio i gynorthwyo i hyfforddi Cynghorwyr Sir a
Chynghorwyr Cymuned. Hysbysodd y Swyddog Monitro'r aelodau bod
elfen e-ddysgu wedi'i chynhyrchu i gyd-fynd â'r pecyn hyfforddiant. Eglurodd y
Swyddog Monitro fod y pecyn hyfforddiant a gynhyrchwyd gan CLlLC yn cyflwyno
darpariaeth ystyrlon o hyfforddiant ac yn rhoi amrywiaeth o opsiynau i'r
aelodau dderbyn mynediad at ddeunyddiau hyfforddiant. Canmolodd y
Cynghorydd Barry Mellor yr hyfforddiant a ddarparwyd yn flaenorol gan y Sir fel
hyfforddiant o'r safon uchaf. Canmolodd y Cynghorydd David Jones a'r aelod
annibynnol Anne Mellor y pecyn hyfforddiant newydd fel pecyn cryno a thryloyw.
Gofynnodd yr aelod annibynnol Julia Hughes a ellir hysbysu aelodau'r Pwyllgor
Safonau o unrhyw ddyddiadau hyfforddiant er mwyn iddynt allu eu mynychu ac elwa
o'r model hyfforddiant newydd (GW i
weithredu). Canmolodd y
Cadeirydd y Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith ar y
sesiynau hyfforddiant blaenorol a ddarparwyd i'r aelodau. Roedd yn credu y byddai'r Clercod yn elwa o
sesiynau hyfforddiant neu dderbyn adnoddau ychwanegol ar gyfer
hyfforddiant. Pwysleisiodd y Swyddog
Monitro y byddai'r amrywiaeth o ddulliau darparu hyfforddiant o fudd i fwy o
unigolion. Gofynnodd y Swyddog Monitro
i'r pwyllgor os oeddent yn teimlo y byddai'n fuddiol trefnu sesiynau
'hyfforddi'r hyfforddwr' gyda Chlercod i gynorthwyo gyda hyfforddiant yng
nghyfarfodydd Cyngor Dinas / Tref / Cymuned.
Cytunodd y Pwyllgor Safonau y byddai hyn yn ddull adeiladol o hyfforddi
aelodau. (GW i weithredu) PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn nodi'r adroddiad ac yn argymell eu bod yn darparu'r
hyfforddiant i aelodau newydd ac aelodau sy'n dychwelyd i'r Cyngor Sir a'r
Cynghorau Dinas / Tref a Chymuned. |
|
PROSES DATRYSIAD LLEOL AR GYFER CYNGHORAU DINAS/TREF/CYMUNED Derbyn adroddiad
llafar gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Monitro adroddiad llafar ar broses Datrysiad Lleol ar gyfer Cynghorau
Dinas / Tref / Cymuned. Eglurodd y
Swyddog Monitro mai'r broses ar hyn o bryd yw pan fo Cynghorau Dinas / Tref /
Cymuned yn derbyn cwyn, mae'r Clerc yn gyfrifol am gynorthwyo Cadeirydd y
Cyngor i gyflawni datrysiad boddhaol. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro'r cyfrifoldebau
a'r pwysau a roddir ar Glercod i ddatrys cwynion ar ben y dyletswyddau
rheolaidd a wneir. Byddai'r broses a
fabwysiadwyd yn y Sir ar gyfer cwynion yn golygu bod aelod annibynnol o'r
Pwyllgor Safonau yn cael eu gwahodd i gynorthwyo i ddatrys y gŵyn. Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor
Safonau a oeddent yn cytuno bod aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cael
eu gwahodd i gyfarfodydd y Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned er mwyn
cynorthwyo'r clerc i ddatrys cwynion.
Cytunodd yr Aelodau Annibynnol y byddai hyn o fudd i'r Clercod. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar broses Datrysiadau
Lleol. |
|
ADOLYGU PROTOCOL HUNAN REOLEIDDIO'R CYNGOR Derbyn adroddiad
llafar gan y Swyddog Monitro.
Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Monitro adroddiad llafar ar Brotocol Hunan Reoleiddio'r Cyngor. Eglurodd y Swyddog Monitro i aelodau'r
Pwyllgor Safonau bod Protocol Hunan Reoleiddio'r Cyngor wedi'i adolygu a'i
gymharu â Phrotocolau eraill ac mae'r gweithdrefnau'n debyg iawn. Nododd y Swyddog Monitro bod y gweithdrefnau
a fabwysiadwyd gan y Sir ar hyn o bryd yn gweithio'n dda. Nodwyd bod unrhyw gwynion gan aelodau'r
cyhoedd yn gorfod cael eu pasio ymlaen i'r Ombwdsmon. Cynigodd y Swyddog
Monitro, yn y lle cyntaf, ei fod ef neu'r Dirprwy Swyddog Monitro yn ceisio
datrys materion yn anffurfiol a bod cyfranogiad aelodau'r Pwyllgor Safonau yn
cael ei gadw ar gyfer achosion na ellir eu datrys ar y cam hwnnw. Trafododd y Pwyllgor Safonau bod Clercod
Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo ei
gilydd wrth archwilio cwynion yn eu hawdurdodau eu hunain. Cytunodd y Swyddog Monitro y byddai'n
drafftio dogfen i'w dosbarthu i'r grwpiau clwstwr i archwilio opsiynau ar gyfer
cynorthwyo ei gilydd, gan ddarparu cyfryngwr mewn sefyllfaoedd anodd. Canmolodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
yr argymhelliad hwn gan nodi bod unigolion yn adnabyddus iawn o fewn Cynghorau
Cymuned bach a byddai archwilio cwynion yn heriol (GW i weithredu). PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar Brotocol Hunan
Reoleiddio. |
|
PAPUR GWYN – DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL CADERNID AC ADNEWYDDIAD Derbyn adroddiad
llafar gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad llafar yn
hysbysu'r aelodau o ddarpariaethau Papur Gwyn –"Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad". Darparodd y Swyddog Monitro drosolwg
cyffredinol o'r prif ddarpariaethau yn y papur. Ymhelaethodd ar y darpariaethau a
gynhwysir yn y Bil Drafft a oedd yn cynnwys y canlynol - ·
Gwaith
rhanbarthol – diddymu uno gorfodol gyda gwaith rhanbarthol gorfodol yn cael ei
gyflwyno. Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai'r dystiolaeth ar gyfer gwaith
rhanbarthol yn dibynnu ar weld effaith gadarnhaol yn rhanbarthol ac nid o
reidrwydd effaith gadarnhaol yn ardal pob awdurdod. ·
Rhannu
gwasanaethau swyddfa gefn - cynigion ar gyfer rhannu gwasanaethau swyddfa gefn
gan gynnwys y Gymraeg, Archwilio Mewnol a chasglu Trethi'r Cyngor. Profion ar gyfer datganoli cyfrifoldeb i'r
rhanbarthau – eglurodd y Swyddog Monitro'r rhestr helaeth o gwestiynau sydd i'w
gofyn mewn perthynas â datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau. ·
Llywodraethu
ac atebolrwydd – cynnig llyfr rheolau cyffredin i bawb ei ddilyn. Eglurodd y Swyddog Monitro y
byddai manylion i ddilyn ynglŷn â llywodraethu ac atebolrwydd gan gynnwys
manylion trefniadau cyllido ar gyfer Cydbwyllgorau Llywodraethu. ·
Etholiadau
a phleidleisio – eglurodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Safonau bod yr elfen
hon yn y Bil yn eithaf amwys gyda manylion pellach i ddod yn ddiweddarach. ·
Rôl
Cynghorwyr a chynigion a fyddai'n effeithio ar y Pwyllgor Safonau –
ymhelaethodd y Swyddog Monitro ar rôl y Cynghorwyr a'u cyfrifoldebau. Eglurodd y Swyddog Monitro rai o'r
gofynion y byddai'r Pwyllgor Safonau yn eu hwynebu megis darparu cyngor a
hyfforddiant i aelodau ynglŷn â dyletswyddau newydd a chynhyrchu adroddiad
blynyddol ar weithgareddau'r Pwyllgor Safonau, y mae'r pwyllgor eisoes yn ei
gynhyrchu. Roedd y cyflwyniad llafar yn darparu trosolwg i'r
Pwyllgor Safonau o rai o'r newidiadau arfaethedig a sut y byddent yn effeithio
ar y Pwyllgor Safonau a'r Awdurdod. Eglurodd y Swyddog Monitro y disgwylir adborth gan
Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r Bil ym mis Ebrill, gydag addasiadau ac
adborth yn cael ei gyflwyno i Gynulliad Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddai adroddiad diweddaru yn cael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor Safonau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am ei
waith caled a'i ganmol am symleiddio pwnc cymhleth. Nododd y Cadeirydd y newidiadau posibl i'r
Pwyllgor Safonau a dywedodd y byddai'n ddiddorol gweld y canlyniad. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Safonau
yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar Bapur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol –
Cadernid ac Adnewyddiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Cadarnhaodd yr
Aelod Annibynnol Anne Mellor ei bod wedi mynychu cyfarfod Cyngor Cymuned
Llanelwy a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2017. Nododd y Swyddog Monitro ei
phresenoldeb ac fe gadarnhaodd y byddai'n diweddaru'r adroddiad presenoldeb i
adlewyrchu hyn (GW i weithredu). Cadarnhaodd a
dosbarthodd y Swyddog Monitro restr o Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned yr
ymwelwyd â nhw yn y tair blynedd diwethaf.
Adolygodd yr aelodau annibynnol Julia Hughes ac Anne Mellor y rhestr
gyda'r Cadeirydd Ian Trigger a phenderfynu pa gyfarfodydd yr oedd angen ymweld
â nhw. Gofynnodd
aelodau'r Pwyllgor am e-bost, fel y dosbarthwyd yn flaenorol, i'r Cynghorau
Dinas / Tref / Cymuned yn hysbysu'r aelodau y gallai aelodau'r Pwyllgor Safonau
fynychu eu cyfarfodydd (GW i weithredu).
|
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 73 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr
ychwanegiadau canlynol:-
PENDERFYNWYD yn
amodol ar y diwygiadau uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ar ddydd Gwener 30 Mehefin 2017 yn Ystafell
Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr Aelodau
bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd
Gwener 30 Mehefin 2017 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu
fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r
adroddiad cyfrinachol ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg i'r Aelodau
o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill
2014. Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes
wedi gofyn am gael gwybod yn rheolaidd
am lefel y cwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn
darparu trosolwg o'r cwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2014. Roedd 13 achos heb
eu holrhain, 2 achos wedi dod i ben, 5
achos heb eu harchwilio ac 1 achos lle na chymerwyd unrhyw gamau pellach. Darparodd y Swyddog
Monitro ddiweddariad ar un cwyn sy'n parhau, gan egluro i'r pwyllgor y
trafodwyd yr achos penodol hwn mewn cyfarfodydd blaenorol. Darparodd y Swyddog Monitro rywfaint o
gyd-destun ac eglurhad o gefndir y gŵyn a pham na gymerwyd unrhyw gamau
pellach. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau am eu presenoldeb
a'u cyfraniadau, yn enwedig Julia Hughes am ei gwaith caled. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am
ei arweiniad. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd David Jones, a
hysbysodd y pwyllgor mai dyma ei gyfarfod olaf.
Dymunodd y cadeirydd y gorau i'r Cynghorydd Jones ar gyfer y dyfodol a
diolch iddo am ei waith a'i gefnogaeth i'r Pwyllgor Safonau. Diolchwyd iddo am ei agwedd ddymunol, ffyddlondeb
a chyfraniadau i holl gyfarfodydd y Pwyllgor.
Adleisiodd y Swyddog Monitro'r diolchiadau i'r Cynghorydd
Jones am ei waith a'i gyfraniadau i'r Pwyllgor Safonau, a diolchodd i'r
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a Barry Mellor am eu cyfraniadau a'u
cefnogaeth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 13.00pm. |