Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd Bill Cowie a’r Aelod Annibynnol Paula
White |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 167 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2015. Cywirdeb:- Tudalen 15 - Eitem 10:
Presenoldeb mewn Cyfarfodydd – yr Aelod Annibynnol Anne Mellor oedd yn
bresennol yng nghyfarfod Arbennig y Cyngor Sir ar 7 Hydref 2015, nid Julia
Hughes. Tudalen 8 - Eitem 5: Cofnodion - dywedodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes y byddai'n fwy priodol cyfeirio ati yn y cofnodion fel
"Dysgwr Cymraeg cryf" yn hytrach na "Siaradwr Cymraeg". Tudalen 13 - Eitem 9:
Hygyrchedd Gwybodaeth gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned – newid y cyfeiriad
at "Efenected" i "Efenechtyd". Materion yn codi - Ymddiheurodd y Swyddog
Monitro nad oedd wedi symud ymlaen â nifer o gamau gweithredu yn y cofnodion
mor brydlon ag y byddai wedi hoffi. Sicrhaodd yr aelodau fod materion mewn llaw ac y byddai’n bwydo yn ôl yn
uniongyrchol i'r aelodau ar hynny o fewn y pythefnos nesaf. [GW i weithredu] Rhoddodd y Cadeirydd wybod am
ymddeoliad Cadeirydd Fforwm Safonau Gogledd Cymru dros ddeuddeg mis yn ôl ac
roedd wedi bod yn siomedig i nodi nad oes unrhyw gyfarfodydd newydd wedi eu
cynllunio ers hynny. O ganlyniad, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â'r gweinyddwyr gyda’r
nod o atgyfodi'r Fforwm ac awgrymodd y Cadeirydd y dylid cael cyfarfod
cychwynnol yn Neuadd y Sir, Rhuthun. [GW i weithredu] Tudalen 14 - Eitem 9:
Hygyrchedd Gwybodaeth gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned – dywedodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes eu bod wedi cytuno gyda swyddogion yn dilyn hynny y
byddai'n darparu diweddariad llafar yn y cyfarfod. Roedd hi wedi paratoi adroddiad a fyddai'n
cael ei gylchredeg ar ôl y cyfarfod ond nid oedd ar ffurf adroddiadau ffurfiol
y Cyngor. [JH / GW i weithredu] PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2015 fel
cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 38 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr
ychwanegiadau canlynol:- ·
Gorchymyn
Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif
2016/84) - Mehefin ·
Gorchymyn
Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio)
(Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif 2016/85) - Mehefin ·
Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Llyfr Achos y Cod
Ymddygiad - Mehefin ·
Mesur
Drafft Llywodraeth Leol (Cymru) - Mehefin/Medi ·
Adroddiad
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Medi ·
Adroddiad
Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru - Medi PENDERFYNWYD - yn amodol ar ychwanegu’r uchod, bod y
Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD 2015/16 PDF 74 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad
Blynyddol y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro
(copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2015/16 i’w ystyried
cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.
Roedd yr adroddiad yn manylu
ar waith y pwyllgor yn ystod 2015/16. Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Swyddog Monitro
am ei gwaith caled wrth baratoi'r adroddiad ac yn ystod trafodaeth cytunwyd ar
y newidiadau canlynol - ·
newid
y cyfeiriad at y "Parchedig Wayne Trigger" ym mharagraff 4.5 i’r
"Parchedig Wayne Roberts ·
cynnwys
crynodeb o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2015 ·
symud
yr eitem adrodd yn manylu ar adborth o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan o 18 Medi
i 4 Rhagfyr 2015 ym mharagraff 4.4 ·
ychwanegu’r
eitem yn adrodd ar Hygyrchedd Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned i’r cyfarfod ar
18 Medi 2015 ym mharagraff 4.4 Cyfeiriodd y Cadeirydd at y farn Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai Egwyddorion Nolan fod wedi dyddio gyda
sylw annigonol yn cael ei rhoi i arweinyddiaeth a'r angen am hyfforddi
arweinwyr yn fwy effeithiol. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor
wrthi’n datblygu strategaeth arweinyddiaeth i’w thargedu at gynghorwyr yn dilyn
yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 y gellid eu dwyn gerbron y
pwyllgor i’w hystyried. Roedd yr Ombwdsmon hefyd wedi cyfeirio at
yr angen i flaenoriaethu’r adnoddau prin oedd ar gael iddo a allai gael effaith
ar waith y Pwyllgor Safonau. Nododd yr Aelodau y byddai gwaith y
Pwyllgor Safonau yn cynyddu ymhellach pe bai moeseg a chwythu'r chwiban hefyd
yn dod o fewn ei gylch gorchwyl fel oedd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill
gan gynnwys Caerdydd a Wrecsam. Cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori barn yr
Ombwdsmon ynghylch arweinyddiaeth a blaenoriaethu adnoddau yn Adroddiad
Blynyddol y Cadeirydd er mwyn rhoi syniad ynghylch yr hyn y gellid ei ddisgwyl
yn y dyfodol. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i baratoi
drafft diwygiedig i'w gymeradwyo gan y Cadeirydd cyn ei gyflwyno i'r Cyngor
llawn. [LJ i weithredu] PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylai’r aelodau nodi'r adroddiad ac argymell bod y
Cadeirydd yn ei chyflwyno i’r Cyngor llawn. |
|
HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED. Derbyn adroddiad
llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol) (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyfeiriodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at yr archwiliad
gwirfoddol yr oedd hi wedi ymgymryd ag o i asesu hygyrchedd gwybodaeth o
wefannau pob un o’r 37, Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych o safbwynt
y cyhoedd. Dyma rai o’r meysydd a archwiliwyd a’r wybodaeth a geisiwyd:- ·
darpariaeth gwefan a’i
hygyrchedd ·
argaeledd cofnodion y cyfarfod
blaenorol ·
manylion am ddyddiad, amser a
lleoliad y cyfarfod nesaf a mynediad i raglenni ·
darpariaeth dwyieithog ·
nodiadau cyffredinol gan
gynnwys dolenni i wefannau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru Atgoffwyd yr aelodau fod y canfyddiadau’n darparu clip-olwg ar y pryd a
allai fod wedi newid a dywedodd yr edrychwyd ar y gwefannau mewn tri chyfnod –
15 – 17 Medi, 2015 (10 gwefan); 3 Rhagfyr, 2015 (19 gwefan) a 3 Mawrth, (8
gwefan). Rhoddodd JH adroddiad llafar ar ganfyddiadau’r 8 gwefan terfynol yr
ymwelwyd â hwy a oedd yn cynnwys – Cyngor Cymuned Nantglyn, Cyngor Tref
Prestatyn, Cyngor Tref Rhuddlan, Cyngor Tref y Rhyl, Cyngor Tref Rhuthun,
Cyngor Dinas Llanelwy, Cyngor Cymuned Trefnant, a Chyngor Cymuned Tremeirchion,
Cwm a’r Waen. Byddai copi o
ganfyddiadau’r adroddiad yn cael ei ddosbarthu i aelodau yn dilyn y cyfarfod. [JH / GW i weithredu] Yna cyflwynodd JH adroddiad trosolwg o‘r gwaith a wnaed ar draws y 37
Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych a dyma’r prif ganfyddiadau – ·
roedd sawl gwefan yn bodoli
ond wedi hen ddyddio ·
ni oedd llawer o’r gwefannau’n
ddwyieithog ·
roedd rhai gwefannau wrthi’n
cael eu datblygu ·
dim ond rhaglenni safonol nad
oedd yn newid o gwbl oedd gan sawl cyngor ·
roedd gwefannau’r Cynghorau
Tref yn fwy datblygedig ar y cyfan ·
roedd rhai safleoedd yn
enghreifftiau ardderchog i ardaloedd eraill eu defnyddio pe baent yn dymuno ·
Nid yw llawer o safleoedd yn
gysylltiedig neu nid oedd ganddynt y manylion diweddaraf ar wefan Sir Ddinbych
– www.moderngov.denbighshire.gov.uk ·
roedd rhai safleoedd wedi’u
cysylltu â www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm
(safle Llywodraeth Cymru), ond roedd llawer heb eu cysylltu iddo. ·
roedd rhai cynghorau’n
defnyddio Facebook yn hytrach na gwefan ·
nid oedd gan ddau gyngor
bresenoldeb electronig ·
nid oedd gan lawer unrhyw
fanylion am eu cynghorwyr na sut i gysylltu â nhw ·
roedd gan rai cynghorau hen
wefannau a oedd yn ymddangos wrth chwilio amdanynt, felly roeddech chi’n credu
nad oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar O ganlyniad, argymhellodd JH, yn ei barn hi, y canlynol fel gofynion
sylfaenol – ·
cael gwefan ·
enw parth hawdd sy’n ymddangos
yn gymharol hawdd mewn chwiliadau ·
dolen i wefan ‘modern
government’ Sir Dinbych www.moderngov.denbighshire.gov.uk ·
dylid cywiro’r ddolen ar wefan
Cyngor Sir Ddinbych i wefan y Cynghorau Dinas, Tref neu Gymuned ac ni ddylai
fod yn ddolen i hen safle ·
dolen i wefan Llywodraeth
Cymru www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm ·
roedd angen i unrhyw ddolenni
ar www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-dl.htm
fod yn rhai cywir ·
mae gwefan ddwyieithog yn
hanfodol ·
enw’r clerc gyda llun a
manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ·
enwau’r holl gynghorwyr gyda’u
lluniau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ·
dyddiadau, lleoliadau ac
amseroedd cyfarfodydd ·
rhaglenni ·
cofnodion blaenorol ·
manylion am yr ardaloedd y
mae’r cyngor yn ei gwasanaethu gyda map os oes modd ·
sut y gallai pobl gael eu
cynnwys – bod yn gynghorydd, mynd i gyfarfodydd Argymhellion ychwanegol dewisol – ·
ffurflen ymholiadau electronig
·
hanes yr ardal ·
digwyddiadau yn yr ardal ·
dolenni i wefannau grwpiau
lleol eraill’ Yn olaf, yn dilyn y trafodaethau roedd y Rheolwr Cynnwys y Gymuned yn eu
cael ar hyn o bryd gyda chlercod cynghorau, awgrymodd JH efallai bod gwerth
ailadrodd yr ymchwil ymhen tua deuddeg mis i ganfod a fu unrhyw welliant o ran
hygyrchedd gwybodaeth am Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned drwy dulliau
electronig i’r cyhoedd. Manteisiodd y Cadeirydd ar y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o
gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o'r rhifynnau diweddaraf o Lyfr
Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf
2015 a Medi 2015 (Atodiad 1 i'r adroddiad) a mis Hydref 2015 i fis Rhagfyr 2015
(Atodiad 2 i'r adroddiad). Cynhyrchwyd y Llyfr Achosion bob chwarter
blwyddyn ac roedd yn rhoi crynodeb o'r cwynion cod ymddygiad yr oedd yr
Ombwdsmon wedi gorffen ymchwilio iddynt yn ystod y cyfnod perthnasol. Roedd manylion y cwynion a archwiliwyd yn ystod y
cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad a’u crynhoi gan y Dirprwy
Swyddog Monitro – Mis Gorffennaf i fis Medi
2015 – ymchwiliwyd i 6 o
gwynion a daethpwyd i'r casgliad yn ystod y cyfnod hwn gyda 4 yn ymwneud â
datgan cysylltiad. O’r 6 ymchwiliad a gynhaliwyd, daethpwyd i’r canlyniad nad
oedd digon o dystiolaeth o dorri cod mewn 5 achos, a chafodd un ei gyfeirio at
Banel Dyfarnu Cymru, a arweiniodd at wahardd yr aelod dan sylw am dri mis. Roedd
yn amlwg yn yr achos hwnnw bod yr aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad drwy fethu â
datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ac wedi aros yn yr ystafell tra
bod materion yn ymwneud â’r cysylltiad hwnnw wedi eu trafod a’u pleidleisio
arnynt. Nid oedd unrhyw achosion wedi eu cyfeirio at
Bwyllgor Safonau. Mis Hydref i fis Rhagfyr
2015 – cynhaliwyd a
chwblhawyd 3 ymchwiliad yn ystod y cyfnod hwn. Daeth 2 i’r casgliad nad oedd
angen gweithredu ymhellach a daeth 1 i’r casgliad nad oedd tystiolaeth o
dorri’r rheolau. Roedd yr achos hwn yn cyfeirio at aelod a oedd
wedi datgan cysylltiad personol ac amlygodd yr angen i aelodau ddatgan yn
gywir, yn enwedig ar gyfer materion parhaus, a allai adael aelodau’n agored i
honiadau o dorri rheolau fel yn yr achos hwn. Nid
oedd unrhyw achosion wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau na Phanel
Dyfarnu Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Nododd yr Aelodau bod
rhai o'r crynodebau achos mor gryno ei bod yn anodd canfod amgylchiadau'r
gŵyn ac felly'n anodd cymryd unrhyw arweiniad ohonynt. Teimlai'r
Pwyllgor hefyd y byddai'n ddefnyddiol gwybod a oedd y gŵyn wedi ei gwneud
gan gyd-gynghorydd neu'r cyhoedd. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn
Llyfr Achos y Cod Ymddygiad. |
|
DIGWYDDIAD HYFFORDDIANT CLERCOD – IONAWR 2016 Derbyn adroddiad
blynyddol gan y Dirprwy Swyddog Monitro ar y digwyddiad hyfforddiant diweddaraf
a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016. Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad
llafar ar y digwyddiad hyfforddi diweddaraf a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016 yn
Nhŷ Russell, Y Rhyl lle’r oedd 3 clerc yn bresennol o Fodelwyddan, Rhuthun
a Llanferres. Roedd yr hyfforddiant wedi ei gynnal ar gais yr
aelodau i gynnig cyfle pellach i glercod yng ngogledd y sir fod yn bresennol. Er
bod 5 clerc wedi archebu lleoedd ar y digwyddiad, roedd 2 wedi tynnu'n ôl yn
ddiweddarach oherwydd profedigaeth deuluol a salwch. Fodd
bynnag, roedd adborth y rhai a oedd yn bresennol wedi bod yn gadarnhaol ac
roedd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad gwerth chweil. Roedd
yr hyfforddiant yn adlewyrchu'r hyn a wnaed ar 19 Mai 2015 yn ne'r sir lle’r
oedd 7 clerc yn bresennol ynghyd â rhai aelodau o'r Pwyllgor Safonau. O
gofio bod 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned, a bod 1 clerc yn gweinyddu saith
o'r cynghorau hynny, nodwyd bod 10 o'r 30 clerc posibl yn bresennol ar gyfer yr
hyfforddiant. Roedd digwyddiadau wedi eu
gwasgaru rhwng gogledd a de'r sir a digwyddiadau’r bore a’r prynhawn. Rhoddwyd
ystyriaeth i gael sesiwn hyfforddi gyda'r nos yn i geisio cynyddu presenoldeb. Roedd yr aelodau'n falch i nodi bod y ddau glerc
newydd ar gyfer Bodelwyddan a Rhuthun yn bresennol. Nid
oedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi bod yn ymwybodol o unrhyw ddirprwy glercod
ond cytunodd i ymestyn y gwahoddiad i ddirprwy glercod ar gyfer digwyddiadau
hyfforddi yn y dyfodol. Roedd dyddiadau hyfforddi yn y dyfodol eto
i'w drefnu, ond roedd yn debygol o fod yn yr hydref. Ychwanegodd
y Swyddog Monitro y gellid hefyd anfon gwahoddiadau at gadeiryddion y cyngor yn
ogystal â'r clercod i hyrwyddo'r digwyddiad a phresenoldeb ymhellach. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr hyfforddiant a
ddarperir gan y Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro a’r ymdrechion sy'n
cael eu gwneud i annog presenoldeb. PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad llafar ar Ddigwyddiad
Hyfforddi’r Clercod. Ar y pwynt hwn
(11.15 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) DRAFFT PDF 90 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o
ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r
pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod i’r aelodau am
ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r
pwyllgor. Cyfeiriwyd at ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ddarpariaethau’r Mesur Drafft ynghyd ag ymateb y Cyngor. Roedd 8 rhan i'r Mesur Drafft a fyddai,
o’u gweithredu, yn arwain at y diwygiadau llywodraeth leol mwyaf sylweddol yng
Nghymru ers Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhoddodd y Swyddog Monitro drosolwg
cyffredinol o brif ddarpariaethau'r Mesur Drafft, gan gynnwys cynigion uno, ond
dywedodd mai’r rhan fwyaf perthnasol i'r pwyllgor oedd Rhan 4: Swyddogaethau
Cynghorau Sir a'u Haelodau, a oedd yn ceisio cyflwyno dyletswyddau statudol
newydd ar aelodau etholedig. Ymhelaethodd ar y darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 4 a oedd yn cynnwys y
canlynol - ·
rhaid
i Aelod fod yn bresennol ym mhob cyfarfod perthnasol oni bai bod ganddynt reswm
da dros beidio - nid oedd unrhyw newid i'r gofyniad cyfreithiol bod Aelod yn
cael ei ddiarddel os yw ef / hi yn methu â bod yn bresennol am 6 mis ·
rhaid i Aelod gynnal o leiaf pedwar
cymhorthfa ym mhob 12 mis ar ôl cymryd ei swydd oni bai bod ganddynt reswm da
dros beidio, gyda manylion y gymhorthfa’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor
ymlaen llaw ·
rhaid
i Aelod ymateb i'r holl ohebiaeth a anfonir i’w gyfeiriad/chyfeiriad swyddogol
o fewn 14 diwrnod o’i derbyn oni bai bod ganddo/ ganddi reswm da dros beidio â
gwneud ·
rhaid
i Aelod gwblhau'r holl gyrsiau hyfforddi gorfodol oni bai bod ganddynt reswm da
dros beidio â gwneud ·
rhaid i Aelod lunio adroddiad
blynyddol o'u gweithgareddau aelodau y mae'n rhaid ei gyflwyno i'r Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd a gyhoeddwyd - nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer
cael rheswm da dros beidio â gwneud hyn ·
gosodir
dyletswydd personol ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r
Pwyllgor Safonau a chymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o
ymddygiad gan aelodau eu grwpiau - rhaid i’r Pwyllgorau Safonau drefnu
hyfforddiant i Arweinwyr Grwpiau a monitro eu cydymffurfiad â'r ddyletswydd
hon. Roedd y Bil Drafft yn awgrymu
mecanwaith gorfodi ar gyfer torri rheolau fel a ganlyn - ·
gall
unrhyw un wneud cwyn i'r Swyddog Monitro am achos lle mae’n bosibl fod Aelod
wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r dyletswyddau a nodir uchod, ac eithrio i
lunio adroddiad blynyddol ·
rhaid
i'r Swyddog Monitro gyfeirio unrhyw gŵyn a dderbynnir i Gadeirydd y
Pwyllgor Safonau a gyda'i gilydd, rhaid iddynt benderfynu a ddylid ymchwilio
i'r mater ·
os
byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn credu fod Aelod wedi torri'r
ddyletswydd i lunio adroddiad blynyddol gallai ef / hi ei gyfeirio at y Swyddog
Monitro a fyddai’n gorfod ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau ynghylch
yr angen i ymchwilio ·
os
byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae'n rhaid darparu adroddiad i'r Pwyllgor
Safonau gydag unrhyw argymhellion roedd y Swyddog Monitro yn teimlo a oedd yn
briodol ·
os
byddai’r Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod Aelod wedi torri un o'r
dyletswyddau gallai gyflwyno cerydd, a gwaharddiad neu waharddiad rhannol am hyd
at chwe mis neu beidio â chymryd unrhyw gamau pellach. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor hefyd at ymateb y Cyngor i Ran 4 y Bil Drafft a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad. Yn fyr, roedd yr ymateb wedi'i fesur ac er bod aelodau wedi ymateb yn gadarnhaol i rai agweddau ar y Bil Drafft o ran llywodraethu, adolygiadau cyfoedion a rheoleiddio archwilio ac arolygu, roedd rhai elfennau yn rhy ragnodol, gan greu mwy o fiwrocratiaeth a chostau ar adeg o galedi ac roedd yna hefyd rai datganiadau anghyson. Un rhwystredigaeth fawr oedd y diffyg diffiniad ynghylch beth fyddai rheswm da wrth orfodi'r ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Adroddodd Aelodau'r Pwyllgor
Safonau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn – Ni adroddodd y Cynghorydd
Barry Mellor unrhyw broblemau gyda chyfarfodydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor
Cynllunio roedd wedi mynd iddynt yn ddiweddar. Fodd bynnag, roedd presenoldeb gwael yn bryder yn rhai o gyfarfodydd y
Pwyllgor Archwilio a oedd yn fater anodd i'w ddatrys. Roedd cofnodion presenoldeb Cynghorwyr wedi eu dosbarthu’n ddiweddar i
Arweinwyr y Grwpiau a’u rhannu gyda'u grwpiau ond wrth i ddiwedd tymor y Cyngor
nesáu ac i’r uno symud ymlaen teimlai y gallai presenoldeb barhau i fod yn
broblem. Cyfeiriodd y Cynghorydd David Jones at ei
bresenoldeb yng Nghyngor Cymuned Derwen yng Nghlawdd Newydd ar 16 Medi 2015.
Roedd wedi derbyn y gwaith papur perthnasol ar gyfer y cyfarfod ar ôl cyrraedd
ac roedd nifer dda yn bresennol yn y cyfarfod ac roedd cefnogaeth dda gan y
Cynghorydd Sir lleol, Eryl Williams. Cafwyd trafodaethau da trwy gydol y cyfarfod ar ystod o bynciau lleol ac
roedd y clerc yn fedrus ac yn brofiadol iawn ac roedd y cyfarfod wedi rhedeg yn
dda. Darparodd yr Aelod Annibynnol
Julia Hughes drosolwg manwl o saith cyfarfod unigol yr oedd wedi bod iddynt, a
dyma grynodeb ohonynt - Cyngor Cymuned Bryneglwys (1
Chwefror 2016) - roedd gan y Cadeirydd ffordd dda o gadeirio, gan sicrhau bod y
cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr. Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol
ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol. Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd
rhan yn y cyfarfod fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn
cael sylw. Cyngor Cymuned Llandrillo (5
Chwefror 2016) - roedd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, wedi sicrhau bod y
cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr. Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol
ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol. Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol
ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau
i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr
angen. Cyngor Tref Corwen (10
Chwefror 2016) - Cafwyd cyfraniad ardderchog gan y Cynghorydd Sir lleol Huw
Jones ar nifer o eitemau. Sicrhaodd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, bod y cyfarfod yn rhedeg yn
esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr ac roedd y Clerc yn effeithlon iawn. Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol
ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau
i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr
angen. Cyngor Cymuned Gwyddelwern (15 Chwefror 2016) – Roedd cyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Gymraeg a darllenwyd nodiadau'r cyfarfod blaenorol, fel y nodwyd yn y llyfr cofnodion, heb fod unrhyw gopïau caled ar gael. Yn dilyn y cyfarfod, eglurwyd bod eu gwefan yn cael ei datblygu. Cafwyd trafodaeth am yr hyn y gallai'r cyhoedd edrych amdano yn ymwneud â chynghorau cymuned a chael safle dwyieithog a oedd yn hygyrch i bobl yn Gymraeg neu Saesneg. Nid oedd yn glir a oedd hysbysfwrdd y pentref yn cael ei ddefnyddio i roi rhybudd o gyfarfodydd a’r rhaglen. Amlygwyd pwysigrwydd hygyrchedd a thryloywder. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y Gymraeg ac nid oeddent eisiau mynd drwy'r un materion â Chyngor Cymuned Cynwyd a byddent yn gwerthfawrogi rhywfaint o ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ddydd Gwener 24 Mehefin 2016 yn Ystafell
Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr Aelodau
bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd
Gwener 24 Mehefin 2016 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthu |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, tra bod yr eitemau canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol
y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym
Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro (MO) adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd eisoes) yn darparu trosolwg o’r cwynion a wnaed i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn yr aelodau ers 1 Ebrill 2015. Dywedodd
nad oedd naw achos wedi cael sylw gan yr Ombwdsmon ac roedd un cwyn heb ei
datrys. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chofnodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am
1.00 p.m. |