Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni wnaeth yr un Aelod ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu a oedd yn rhagfarnu mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 176 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2014 (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd 18 Gorffennaf, 2014.

 

Materion yn codi:-

 

5. Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol - Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd D.E. Jones ar y cynnydd gyda darparu hyfforddiant i Aelodau ar y Cod Ymddygiad, esboniodd yr MO nad oedd lefelau presenoldeb ar gyfer sesiynau hyfforddi mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn dilyn Etholiadau 2012 wedi diwallu disgwyliadau lefel presennol. Roedd yr MO a’r DMO wedi hynny wedi cael eu gwahodd i fynd i gyfarfodydd i siarad ynghylch materion penodol, ac roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol ynglŷn â’r ddarpariaeth o hyfforddiant wedi’i haddasu’n arbennig i Glercod y Cynghorau  priodol. Amlygodd y Cadeirydd yr adroddiad cadarnhaol gan yr MO ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, ar ddarpariaeth hyfforddiant i Glercod, a ystyriwyd gan Fforwm Safonau Gogledd Cymru. Teimlodd y gallai mabwysiadu model o’r fath fod yn fuddiol i hwyluso’r broses hyfforddi.

 

Cadarnhaodd yr MO y gellid ystyried datblygu modiwlau e-ddysgu, y gellid eu cylchredeg i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a’u cefnogi gan swyddogion ac Aelodau o’r Pwyllgor Safonau.

 

Rhoddodd y DMO wybod i’r Pwyllgor bod yr hyfforddwr a roddodd yr hyfforddiant gwreiddiol, er ei fod wedi ymddeol bellach, wedi cytuno i ystyried darparu rhagor o gyrsiau. Esboniodd yr MO bod pryderon wedi’u codi gan rai Cynghorau Cymuned llai ynglŷn  â chost y ddarpariaeth hyfforddi, a thynnodd sylw at yr angen i roi eglurhad am y taliadau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhelliad a wnaed i fynd at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am eu barn ynghylch y Pwyllgor Safonau yn mynd i'r afael â mwy o faterion a oedd yn cael sylw ar y pryd gan eu Pwyllgor. Darparodd yr MO a DMO grynodeb byr o ymateb y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a fyddai'n cael ei gynnwys yn yr adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W.L. Cowie ynghylch darparu rhestr wirio o'r holl Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i alluogi Aelodau'r Pwyllgor Safonau i nodi eu dewis o ran pa gyfarfod y byddent yn bresennol ynddo, cadarnhaodd y DMO y byddai hyn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Cytunodd yr MO i gysylltu â'r Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ynghylch y mater o ddarparu cyfarfodydd clwstwr.

 

6. Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2013/14 - Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion y tynnwyd sylw’r Aelodau atynt, a chyfeiriodd at baragraff 6. Teimlodd pe bai cwyn yn cael ei gwneud a’i diystyru heb wrandawiad, gallai’r cyhoedd ystyried hyn yn annheg. Eglurodd yr MO mai dim ond un achos oedd wedi codi o dan yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

  (G. Williams ac L. Jones i Weithredu ar hyn)

 

 

5.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL AC ADOLYGIAD pdf eicon PDF 174 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar gyfer aelodau o’r Pwyllgor i ddadlau ac ystyried mabwysiadu Rhaglen Waith i’r Dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DMO) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Adolygiad i’w hystyried a’u mabwysiadu.

 

Ystyriodd Aelodau Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y chwe mis sydd i ddod, a chytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

6 Mawrth, 2015:-

 

(a)            Darpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr a Chlercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

22 Mai, 2015:-

 

(a)            Darpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr a Chlercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

(b)            Ystyried Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD –bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyda’r cynnwys y cytunwyd arno.

  (G. Williams ac L. Jones i Weithredu)

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 263 KB

I ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ac i gyfrannu at Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd, cyn i'r eitem gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd, a chyfrannu ato, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. Roedd yr MO wedi bod yn arbennig o awyddus i gymryd barn y Cadeirydd a’r Pwyllgor i ystyriaeth ar y cynnwys, a nodir y manylion arfaethedig yn adran 4.

 

Cytunwyd y dylai Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor, a’i ganfyddiadau ac arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i gynyddu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Hwn oedd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cadeirydd i'r Cyngor Llawn, oedd yn cwmpasu’r cyfnod Ionawr-Rhagfyr 2014. Byddai’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am dueddiadau, materion o ran cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir, a gwaith y Pwyllgor wrth godi safonau ymddygiad ar lefelau Sir, Tref, Dinas a Chymuned. Roedd  manylion ynghylch y cyfansoddiad a phwerau'r Pwyllgor wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn arbennig at y broses benodi a rôl Aelodau Annibynnol.

 

Cyn 2014, roedd y Pwyllgor wedi bod yn gyfrwng i ddiwygio Cod Ymddygiad y Cyngor i wneud hyfforddiant ar y Cod yn rhwymedigaeth orfodol; cyflwyno Protocol Hunan-Rheoleiddio, gan sicrhau bod hyfforddiant ar draws y Sir i'r Sir a digwyddiadau sioe deithiol 'Cod' yn cael eu cyflwyno gan yr MO a'i ddirprwy ar lefel Cynghorau Tref, Dinas, a Chymuned a deunydd cyhoeddusrwydd i gynorthwyo Clercod yn y cymunedau.
 
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd y Pwyllgor wedi trefnu i gwrdd bum gwaith ac wedi cyfarfod ar 4 achlysur oherwydd bod cyfarfod mis Hydref wedi’i ganslo. Mae tabl yn yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r eitemau i’w trafod. Mae'r tair eitem fusnes sefydlog ar y rhaglen ar gyfer pob cyfarfod yn cynnwys:-

 

 

(i)              Adroddiadau gan Aelodau Safonau mewn perthynas â’u presenoldeb ac arsylwadau mewn cyfarfodydd Pwyllgor neu Gyngor, boed ar lefel Sir neu Gymuned.

(ii)             Trosolwg o Gwynion yn erbyn Aelodau gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(iii)            Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Mae hon yn fenter newydd i alluogi’r Pwyllgor i fabwysiadu’r un dull strategol â’r Pwyllgorau eraill, ac i dargedu ei adnoddau i feysydd eraill o flaenoriaeth.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd W.L. Cowie a fyddai’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi manylion adroddiadau Aelodau ar ymweliadau â chyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.  Eglurodd yr MO, yn amodol ar gymeradwyaeth, y gallai'r adroddiad nodi bod ymweliadau rheolaidd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael eu cynnal gan Aelodau'r Pwyllgor, a phe bai’r MO neu'r DMO yn cael cais i gymryd unrhyw gamau, fe allai hyn gael ei adrodd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater a godwyd. Awgrymodd y Cynghorydd D.E. Jones y gellid cynnwys yr ystadegau cyffredinol yn ymwneud â nifer yr ymweliadau a wnaed, a'u canlyniad dilynol, yn yr adroddiad yn amlinellu cyflwr a fframwaith cyffredinol y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Teimlai'r Cynghorydd Jones y gallai adroddiadau negyddol greu awyrgylch anodd a bod yn niweidiol i annog enwebiadau ar gyfer swyddi gwirfoddol ar Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd y cyfeiriad at Wasanaethau Erlyn y Goron ym Mharagraff 4.2. Rhoddodd yr MO fanylion am bwerau ei ymchwiliad, a chyfeiriodd at yr ystadegau ar gael mewn perthynas â nifer yr achosion na ddilynwyd.  Cytunodd y Pwyllgor fod argaeledd y pŵer wrth gefn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cytunwyd ar y newidiadau canlynol i'r Adroddiad Blynyddol Drafft:-

 

·                 Paragraff 4.1 - "Cadeirydd y Pwyllgor Safonau" yn cael ei ddiwygio i ddweud "adroddiad y Pwyllgor".  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – PRAWF LLES Y CYHOEDD pdf eicon PDF 83 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar gynnig gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gyflwyno Prawf Budd y Cyhoedd newydd wrth ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod Ymddygiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) ar y cynnig gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) i gyflwyno Prawf Lles y Cyhoedd newydd wrth ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod Ymddygiad.

 

Ceisiwyd safbwyntiau’r Pwyllgor ar y papur trafod a gynhyrchwyd gan y PSOW, Atodiad 1, ar gynnig ei fod yn cyflwyno prawf ychwanegol wrth ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn a wnaed iddo fod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad.  Mae swyddfa'r PSOW ers nifer o flynyddoedd wedi cymhwyso prawf dau gam wrth ystyried a ddylid ymchwilio i doriad honedig Cod Ymddygiad gan Aelod.

 

Y cam cyntaf fyddai sefydlu a oedd tystiolaeth bod torri'r Cod wedi digwydd mewn gwirionedd.  Yr ail gam yw ystyried a fyddai'r toriad honedig, os profir, yn debygol o arwain at osod sancsiwn gan Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru.  Wrth ystyried y tebygolrwydd o sancsiwn yn cael ei osod, byddai swyddfa'r PSOW yn ystyried yr achosion sydd wedi cael eu hystyried gan Bwyllgorau Safonau ledled Cymru a'r camau mae’r pwyllgorau hynny wedi eu cymryd.

 

Roedd y PSOW yn pryderu am nifer y cwynion lefel isel a dderbyniwyd gan ei swyddfa ac roedd yn ceisio cyflwyno prawf ychwanegol a fyddai'n ystyried a oes angen ymchwiliad neu atgyfeiriad at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu er budd y cyhoedd.  Mae'r Ombwdsmon yn ei gwneud yn glir yn y papur ynghlwm fel Atodiad 1 ei fod yn gweld ei rôl fel ymchwilio i achosion difrifol er mwyn cynnal hyder y cyhoedd mewn safonau mewn bywyd cyhoeddus.  Ni fyddai’n agor ymchwiliad oni bai ei fod o'r farn ei bod yn gymesur i wneud hynny, o ystyried amgylchiadau'r tor-rheol honedig.

 

          Wrth benderfynu a oedd ymchwiliad er lles y cyhoedd, byddai’r Ombwdsmon yn ystyried nifer o ffactorau sy'n cael eu nodi yn Atodiad 1. Ni fyddai pob un o'r ffactorau hyn yn berthnasol ym mhob achos a byddai’r pwysau a roddir i bob un yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.  Roedd y PSOW yn ei gwneud yn glir mewn cyfnod o lai o adnoddau y byddai’n rhaid iddo flaenoriaethu'r materion y byddai ei swyddfa yn ymchwilio iddynt, ac mae’n bosibl na fyddai’n briodol mwyach i ddefnyddio adnoddau ar gyfer ymchwilio i gwynion lefel isel. Yn ogystal, byddai'n ystyried a ddylid parhau â'r arfer o gyfeirio’r achosion hynny, er y gall fod tystiolaeth o dorri y penderfynodd ymchwilio iddo, i MO Lleol ei ymchwilio oherwydd yr ail gam o’i brawf cyfredol.  Gofynnwyd am farn yr aelodau ar y pwynt hwn hefyd.

 

Cadarnhaodd yr MO y perygl, os byddai Prawf Lles y Cyhoedd y PCSO yn cael ei gymhwyso ar lefel trothwy rhy uchel, y gallai fod posibilrwydd o dorri'r Cod Ymddygiad a ddylai fod yn destun sancsiwn heb gael ei ymchwilio.

 

Deallodd y Cadeirydd y rhesymeg y tu ôl i'r bwriad i gyflwyno prawf lles y cyhoedd.   Fodd bynnag, awgrymodd y gallai'r broses wanhau’r Cod Ymddygiad ac y gallai canfyddiad y cyhoedd o ymagwedd o'r fath at ymchwiliadau leihau hyder yn y broses ddemocrataidd, os cyflwynwyd yn unig ar sail yr adnoddau sydd ar gael.  Awgrymodd y Cadeirydd y gallai pwrpas y Pwyllgor Safonau, fel mecanwaith i ddelio â chwynion lefel isel, fodloni achwynwyr bod eu cwynion wedi cael eu hystyried.

 

 Amlinellodd yr MO y broses tri cham cyfredol ac eglurodd y gallai’r cyfle i ddelio â chwynion yn lleol gael ei symud hefyd, a oedd yn codi pryderon nad oedd sefyllfaoedd yn cael symud i’r cam nesaf.  Roedd y Cynghorydd D.E. Jones wedi cyfeirio at bwysigrwydd yr ystyriaeth a roddwyd i ddifrifoldeb torri'r Cod Ymddygiad wrth benderfynu ar yr angen am weithredu pellach.

 

Cytunodd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 83 KB

I ystyried adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro ar gyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) (copi’n amgaeedig) a oedd yn rhoi gwybod am y drafodaeth yn Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru (NWSCF) ar 26 Tachwedd, 2014, a oedd wedi'i fynychu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW).

 

Prif fusnes y cyfarfod oedd cwrdd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru (PSOW), Mr Nick Bennett, a gofyn am ei farn ynglŷn â materion sy'n wynebu Pwyllgorau Safonau yng Nghymru ar hyn o bryd.  Roedd y NWSCF wedi ysgrifennu 13 o gwestiynau er mwyn strwythuro'r drafodaeth gyda'r PSOW.   Ceir copi o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r PSOW, ynghyd â chofnod o'i atebion, yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

 

Crynhodd yr MO yr adroddiad ac eglurodd fod y PSOW yn awyddus i gwrdd â chynrychiolwyr y Pwyllgor Safonau, a gwrando ar eu barn a'u pryderon am faterion cyfredol.  Roedd yn gefnogol iawn i waith Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ac i’r cymorth y mae Pwyllgorau Safonau yng Ngogledd Cymru yn ei gynnig i’w gilydd drwy gyfrwng y Fforwm.  Darparodd yr MO grynodeb manwl o drafodion y cyfarfod.

 

Gosododd y PSOW waith ei swyddfa yng nghyd-destun llai o adnoddau cyhoeddus a'r angen i waith ei swyddfa gynnal hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd tra blaenoriaethir adnoddau prin sydd ganddo.  Pwysleisiodd y PSOW nad oedd ganddo fawr o feddwl o gwynion blinderus a dywedodd bod angen i’r ymchwiliadau y bydd ei swyddfa yn eu cynnal fod yn gymesur â'r lles i’r cyhoedd yn y mater yr ymchwilir iddo.  Roedd y PSOW wedi bod yn awyddus i gefnogi datrys cwynion yn lleol mewn perthyn â’r Cod Ymddygiad a fyddai'n cynyddu pa mor gyflym y gellir ymdrin â chwynion.

 

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon ei fwriad i gyhoeddi canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol yng ngoleuni dyfarniad diweddar ac i symleiddio'r canllawiau a ddarperir i Aelodau, yn enwedig mewn perthynas â datgan cysylltiad.  Byddai prawf lles y cyhoedd hefyd yn cael ei gyflwyno ac roedd hyn yn destun adroddiad ar wahân i'r Pwyllgor Safonau.

 

 Ystyriodd y Fforwm eitem ar ddarparu hyfforddiant Cod Ymddygiad i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ac maent wedi cael gwybod am ddull Cyngor Sir Ynys Môn i ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra i glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned er mwyn eu galluogi i fod yn y pwynt cyntaf o gyngor mewn perthynas â materion Cod Ymddygiad.  Roedd y dull hwn wedi arwain at ddatblygu'r berthynas sydd rhwng clercod a'r MO, ac yn dilyn yr hyfforddiant roedd nifer o glercod wedi manteisio ar y cyfle i gysylltu â'r MO i drafod materion yn ymwneud â'u Cynghorau.  Roedd trafodaeth ar rinweddau Awdurdodau eraill yn cymryd agwedd debyg at ddarparu hyfforddiant i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Cafwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau gan y Cynghorydd W.L. Cowie:-

 

-                  Cytunodd y Cadeirydd i ofyn am farn yr NWSCF ynglŷn â phresenoldeb Cynghorwyr Sir mewn cyfarfodydd NWSCF.

-                  Cytunodd yr MO i ddarparu eglurhad ynghylch presenoldeb Aelodau o'r Pwyllgor Safonau mewn cyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, wrth ystyried eitemau busnes Rhan II.   Rhoddwyd cadarnhad i Aelodau y byddai'r Pwyllgor Safonau â hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned y Sir, wrth ystyried eitemau busnes Rhan II.

 

Ymatebodd yr MO i gwestiynau gan y Cyng. D.E.  Jones ac esboniodd fod cyfarfodydd y Cyngor Cymuned, cyfarfodydd lleol y Cyngor, yn gyfarfodydd cyhoeddus a gall unrhyw aelod o’r cyhoedd eu mynychu.  Amlygodd y Cynghorydd Jones sylwadau hefyd yn ymwneud ag argaeledd adnoddau digonol ar gyfer clercod Cynghorau Tref a Chymuned i weithredu protocol datrysiad lleol. 

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

         

PENDERFYNWYD -bod y Pwyllgor Safonau:-

 

(a)            yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad,

(b)            y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Gwahoddwyd aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cyngor Sir, Dinas, Tref a Chymuned yr oeddent  wedi’u mynychu yn ddiweddar a chymerodd yr Aelodau'r cyfle i gynnig crynodeb o sut roedd y Cynghorau perthnasol wedi gweithredu.

 

Roedd Mrs P. White wedi mynychu'r cyfarfod yn Ionawr, 2015 o Gyngor Tref Rhuddlan.  Eglurodd fod y cyfarfod wedi bod yn fywiog gyda'r Cynghorwyr Tref yn ymdrechu i wneud eu gorau ar gyfer Cymuned Rhuddlan.  Roedd y rhaglen wedi bod yn sylweddol ac roedd Mrs White wedi gadael y cyfarfod cyn ystyried yr eitemau busnes Rhan II.

 

Roedd y Cynghorydd W.E. Cowie wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Dinbych ar 12 Ionawr, 2015. Esboniodd y Cynghorydd Cowie fod y cyfarfod wedi symud ymlaen yn dda gydag Aelodau yn cydymffurfio â moesau.  Roedd wedi cael argraff dda gyda'r modd y cafodd busnes y cyfarfod ei gynnal, ac fe roddodd sylwadau ar broffesiynoldeb y Cadeirydd.

 

Roedd y Cynghorydd Cowie hefyd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod o Gyngor Tref y Rhyl 21 Ionawr, 2015. Roedd y Cynghorydd Cowie yn edmygu sefydliad y cyfarfod, ac roedd yn teimlo y gellid defnyddio’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd fel enghraifft o sut y dylid cynnal cyfarfodydd.

 

Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Rhuthun ar 20 Hydref, 2014. Mynegodd ei bryder am y diffyg rhybudd ynghylch hysbysebu'r cyfarfod, a'r anhawster dilynol wrth leoli ei leoliad.  Roedd Cadeirio’r cyfarfod wedi bod yn ddi-lol ac nid oedd lefel y ddadl bob amser yn ymwneud â lefel pwysigrwydd y mater dan ystyriaeth.  Wrth grynhoi, cadarnhaodd y Cadeirydd fod awyrgylch y cyfarfod yn gyffredinol wedi bod yn dda.

 

Mynychodd y Cadeirydd gyfarfod Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2014, a theimlwyd y bu diffyg Cadeirio pendant yn ystod yr achos.  Gwnaeth sylwadau ar yr achos a oedd yn ymwneud yn bennaf â mater Diwygio Llywodraeth Leol, ac eglurodd yr MO fod y Prif Weithredwr wedi arwain yn ystod y cyfarfod gan mai ef oedd awdur y prif adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd D.E.  Jones ynghylch pwysigrwydd ymddygiad Aelod yn ystod gwe-ddarlledu cyfarfodydd, eglurodd yr MO bod canllawiau ar we-ddarlledu wedi’u rhoi i Aelodau Etholedig.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi'r adborth a gyflwynir o gyfarfodydd diweddar a fynychwyd gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

10.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Mae cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mawrth 2015.

 

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau yn cael ei gynnal am 10.00 a.m. ddydd Gwener 6 Mawrth 2015 yn Ystafell Gynadledda 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

PENDERFYNWYD – nodi y bydd y Pwyllgor Safonau nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, 6 Mawrth, 2015.

 

 

11.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn aelodau.

 

Cofnodion:

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13, Rhan 4, Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

11.   COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

 

Roedd copi o adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (MO), a oedd yn rhoi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi gofyn am gael  gwybod yn rheolaidd am lefel y cwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW).  Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn rhoi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2012.

 

Cafodd ei gadarnhau gan y MO bod Cyfeirnod Achos 251,253 a 254 bellach wedi’u cwblhau.  Esboniodd fod yr PSOW bellach wedi rhoi cadarnhad bod y Cyfeirnod Achos 252 wedi’i gau ym mis Ebrill, 2014. Ni fu unrhyw gofnod o’r hysbysiad o'r penderfyniad yn cael ei anfon ymlaen i Sir Ddinbych, ac fe gafwyd ymddiheuriad am yr amryfusedd gan Swyddfa PSOW.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 12.40pm.