Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Wynnstay Road, Ruthin LL15 1YN and via Zoom
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Estynnwyd croeso arbennig i’r Aelod
Annibynnol Samuel Jones oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Swyddog Monitro
/ Llywodraethu a Busnes Oherwydd newidiadau diweddar i strwythur uwch reolwyr y
Cyngor ac adolygiad parhaus o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, roedd Lisa Jones,
Dirprwy Swyddog Monitro wedi’i phenodi’n Bennaeth Gwasanaeth Dros Dro -
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a byddai’n gweithio’n fwy agos gyda’r
Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfamu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad
oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym mam y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Cododd y Cadeirydd y materion canlynol dan y materion
brys - ·
y newyddion trist bod y
Cynghorydd Brian Blakeley (Tynewydd y Rhyl) wedi marw yn oriau mân y bore a
chynhaliwyd munud o dawelwch. ·
hepgor ‘Ceisiadau am
Oddefebau’ fel eitem sefydlog ar y rhaglen. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog
Monitro na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned
nac ar lefel sirol. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 309 KB Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf, 2022 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22
Gorffennaf 2022. Cywirdeb – Tudalen 7 - Presennol - rhoi ‘and’ yn lle ‘a’ yn y fersiwn Saesneg i
ddarllen ““Peter Lamb and Councillor Gordon Hughes” Tudalen 10, ail baragraff - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau - rhoi
‘Denbighshire’ yn lle ‘Denbighshire’s’ yn y fersiwn Saesneg. Tudalen 10, ail baragraff i’r olaf - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau - rhoi ‘sesiwn hyfforddi’ yn lle
‘cyfarfodydd’. Tudalen 11, Eitem 9: Arweiniad Llywodraeth Cymru - Dyletswydd Arweinwyr i
Hyrwyddo Ymddygiad Moesol, brawddeg gyntaf - rhoi ‘circulated’ yn lle
‘circulate’ yn y fersiwn Saesneg. Tudalen 14, Eitem 13: Dyddiad y cyfarfod nesaf - rhoi ‘March’ yn lle
‘march’. Nodwyd mai’r amserlen ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol oedd 10am ar ddydd Gwener, a bod aildrefnu’r cyfarfod
presennol i 11.30am yn mynd yn groes i’r amserlen honno. Fodd bynnag, gwnaed hyn oherwydd nad oedd
llawer o ddyddiadau na swyddogion allweddol ar gael. Materion yn Codi – Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) – proses ar gyfer
recriwtio aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau – roedd Rheoliadau Pwyllgor
Safonau (Cymru) 2001 yn caniatáu hyd at naw aelod ac roedd cyfansoddiad Sir
Ddinbych eisoes yn nodi saith aelod, a thynnwyd sylw at y posibilrwydd o
adolygu’r sefyllfa honno. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau pellach ar y mater ers
hynny a phenderfynwyd ychwanegu’r eitem at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w
hystyried yn y dyfodol. Derbyniwyd y byddai goblygiadau cyllidebol yn
gysylltiedig ag unrhyw gynnydd mewn aelodau, a fyddai’n benderfyniad i’r Cyngor
llawn ei wneud. Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) (Tudalen 11, Eitem 8) –
roedd rhai trafodaethau wedi bod am gynnwys aelodau annibynnol ar y Panel
Recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol, oedd yn digwydd mewn awdurdodau lleol
eraill ond nid yn Sir Ddinbych. Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cadeirydd wedi
cymryd rhan fel arsylwr yn y broses gyfweld ddiweddaraf. Roedd rheoliadau’n
llywodraethu recriwtio aelodau’r Pwyllgor Safonau ond roedd arferion amrywiol
mewn awdurdodau lleol gwahanol ar hyd a lled Cymru ac adroddiad ar y pwnc hwnnw
wedi cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving ei fod wedi bod ar y Panel Recriwtio
diweddaraf ond nad oedd wedi gallu mynychu’r ddwy sesiwn. Cytunwyd y byddai’r
protocol i gael ei ddefnyddio yn yr amgylchiadau hynny hefyd yn cael ei gynnwys
fel rhan o’r adroddiad ar gynnwys y panel recriwtio. Tudalen 10 – Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau, pumed paragraff – roedd hyfforddiant Cod Ymddygiad wedi cael ei ddarparu i aelodau etholedig yn dilyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai ac roedd sesiwn arall wedi’i threfnu ar gyfer 10am ar 20 Rhagfyr i’r aelodau hynny nad oedd wedi mynychu hyd yma, ac roedd yn gyfle i aelodau’r Pwyllgor Safonau fynychu. Roedd tair sesiwn wedi’u cynnal ar gyfer Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned ond nid oedd presenoldeb yn dda iawn oherwydd problem weinyddol. Felly, byddai sesiwn ar-lein yn cael ei chynnig cyn y Nadolig ac roedd sesiynau wyneb yn wyneb wedi cael eu trefnu ar gyfer y flwyddyn newydd yng Ngogledd a De’r sir. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i ddosbarthu’r dyddiadau i aelodau’r Pwyllgor dros e-bost. Roedd y Cadeirydd yn siomedig i nodi’r problemau cyfathrebu a phresenoldeb gwael, a phwysleisiodd bwysigrwydd y sesiynau ychwanegol i sicrhau bod pob aelod yn cael cyfle i fynychu’r hyfforddiant cyn gynted â phosibl yn nhymor y Cyngor newydd i ddatblygu dealltwriaeth o’r gofynion a disgwyliadau o’r dechrau. Roedd yn ofynnol bod pob aelod yn mynychu sesiwn hyfforddi Cod Ymddygiad o leiaf unwaith ym mhob tymor y Cyngor, ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDDION PDF 201 KB Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) cyn i'r
adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Cadeirydd
i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion
am waith y Pwyllgor yn ystod 2021. Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno cyn hyn y dylai
Adroddiad Blynyddol gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor i holl aelodau'r
Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i
gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Oherwydd etholiadau llywodraeth leol
mis Mai, bu oedi cyn derbyn yr adroddiad, fyddai wedi cael ei gynhyrchu’n
llawer cynharach yn y flwyddyn fel arfer. Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy
gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y
diwygiadau a ganlyn - ·
paragraff 4.2 – bod
cyfeiriad at benodiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru newydd,
Michelle Morris, oedd wedi cymryd drosodd gan Nick Bennett, yn cael ei gynnwys
yn yr adroddiad. Nodwyd bod y term
‘Ombwdsmon’ yn dal i gael ei ddefnyddio er y penodiad newydd. Cytunwyd y
byddai’r protocol datrysiad lleol yn cael ei gynnwys ac y dylid cyfeirio ato
mewn ffordd gefnogol ac fel ffordd o atal materion rhag dwysau a’r ddolen i
ymgysylltu Arweinwyr Grwpiau mewn gweithgareddau o’r fath yn y dyfodol. Er bod yr adroddiad yn trafod 2021, ystyriwyd
ei bod yn briodol sôn y byddai cyfansoddiad presennol y Pwyllgor Safonau yn
cael ei adolygu yn y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gael hyd at ddau aelod
ychwanegol. ·
paragraff 4.3 – diwygio
nifer yr adegau y mae’r Pwyllgor wedi cyfarfod i 4 gwaith (yn hytrach na 3
gwaith). Cytunwyd bod rhestru’r eitemau yn rhoi crynodeb priodol ac efallai y
byddai’r Cadeirydd yn dymuno manylu ar unrhyw rai o’r eitemau hynny yn y Cyngor
llawn. Nododd yr aelodau’r newid ym
mhroses adroddiadau blynyddol i’r Cyngor llawn o flwyddyn y cyngor yn ôl i
flwyddyn galendr. Cafwyd trafodaeth ar y ffordd orau o adrodd i’r Cyngor am y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2021 i benderfynu ar honiad o dorri’r cod
ymddygiad. Roedd cyfeiriad pellach wedi’i gynnwys ym mharagraff 4.6. Er ei bod
yn bwysig bod yn sensitif i’r sefyllfa, roedd hefyd yn bwysig bod gan y Cyngor
newydd ddealltwriaeth o rôl a phrosesau’r Pwyllgor Safonau. Cytunwyd i roi mwy
o eglurhad yn yr adroddiad o ran hyn ac efallai y byddai’r Cadeirydd yn dymuno
manylu ar y mater yn y Cyngor llawn.
Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn trafod ac
yn cytuno ar y ffordd orau y tu allan i’r cyfarfod. ·
paragraff 4.4 – cynnwys ‘Ceisiadau am Oddefebau’ fel
eitem sefydlog ar gyfer y pwyllgor yn y dyfodol. 4.4(a) – aralleirio’r frawddeg
i “o safbwynt cefnogol a chydweithredol” o “o safbwynt gefnogi ac addysgol” i
adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd yn well. Fel rhan o’r gwaith o fynychu ac
arsylwi mewn cyfarfodydd, cynnwys cyfeiriad at sicrhau hefyd bod cyfarfodydd yn
hygyrch i’r cyhoedd mewn modd priodol. 4.4(b) cytunwyd i gyfeirio yn yr
adroddiad blynyddol nesaf at y dull newydd a ddefnyddiwyd gan yr Ombwdsmon o
hysbysu am gwynion, ac nid yn adroddiad 2021, ond bod y geiriad yn cael ei
gryfhau i egluro ymhellach ddull y Pwyllgor o ddynodi unrhyw dueddiadau a
phatrymau i dargedu’r materion hynny’n rhagweithiol fel mesur ataliol. Cytunwyd
i gynnwys Llyfr Achosion Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
fel eitem sefydlog. ·
paragraff 4.5 – cyfeirio’n
fyr at y prif faterion sy’n codi o adolygiad Penn er mwyn codi ymwybyddiaeth
ohonynt a’r goblygiadau posibl i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir, ynghyd â’r
cyfrifoldeb newydd ar Arweinwyr Grwpiau, ac · egluro ymhellach bod yr adroddiad yn trafod 2021 ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD PDF 204 KB I nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Sir, Cyngor y Dref a'r Gymuned
a derbyn eu hadroddiadau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
i aelodau i ystyried a chytuno ar agwedd gydlynus a strwythuredig at eu
presenoldeb a’u harsylwadau mewn cyfarfodydd ac adborth. Roedd manylion
Pwyllgorau'r Cyngor Sir, Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned a sgript awgrymedig,
a ffurflen adborth drafft ynghlwm â’r adroddiad. Wrth gyflwyno, dywedodd y Cadeirydd nad oedd aelodau wedi mynychu cyfarfodydd
ers tro byd ac mai diben yr adroddiad oedd cytuno ar ffordd ymlaen. Tynnodd
sylw hefyd at drafodaethau â’r Swyddog Monitro ar y potensial o gael tâl am y
gweithgaredd, o gofio bod aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau eraill (mewn
dau awdurdod arall yng Ngogledd Cymru o leiaf) yn cael tâl am wneud yr
ymweliadau hyn. Eglurwyd y gallai aelodau annibynnol yn Sir Ddinbych hawlio
costau teithio am ymweliadau ond nad oedd taliad yn cael ei wneud ar hyn o bryd
am yr elfen fynychu. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y gweithgaredd wedi cael ei weld fel
tasg wirfoddol yn Sir Ddinbych erioed ac nad oedd cyllideb ar ei gyfer ar hyn o
bryd. Yn ôl cyngor anffurfiol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol, roedd tâl am y gweithgaredd yn ôl disgresiwn. Roedd yr eitem wedi cael ei rhestru i’w
thrafod yn y Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd, fyddai’n darparu
sefyllfa Cymru-gyfan ar y mater. Byddai angen ystyried y mater hefyd yng
nghyd-destun yr argyfwng costau byw ehangach a chyllidebau llai gan
gynghorau. Roedd yn briodol bod y mater
yn cael ystyriaeth ddyledus ac awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ei ystyried mewn
cyfarfod yn y dyfodol, un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, i lunio barn gan
ystyried sefyllfa awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac ystyriaethau
ariannol. Yn ystod trafodaeth, roedd cefnogaeth gyffredinol at gael dull cyson ar hyd
a lled Cymru a chytunodd y Pwyllgor y byddai’n synhwyrol aros am fwy o
wybodaeth ar y pwnc i hwyluso trafodaeth wybodus. Cytunwyd y dylid cynnal trafodaeth
mewn cyfarfod ffurfiol mewn ffordd agored a thryloyw. Nodwyd y gellid teilwra
rhaglen bresenoldeb a’i chostio’n briodol, gyda’r posibilrwydd o dargedu
meysydd sy’n peri pryder/cwynion, wrth ystyried natur gefnogol yr ymweliadau i
bawb a sicrhau hygyrchedd y cyhoedd. Cafwyd trafodaeth a ddylid aros cyn ystyried yr adroddiad presennol a’r
agwedd at bresenoldeb i’r dyfodol ac adborth er mwyn gwybod canlyniad y
drafodaeth ar y potensial o gael tâl am y gwaith hwnnw. Eglurodd y Cadeirydd y
rhesymeg y tu ôl i’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dull a ddefnyddiwyd yn
flaenorol at fynychu cyfarfodydd a chonsensws cyffredinol y dylid cynnal dull
mwy ffurfiol. Rhoddodd fanylion y broses
a ddefnyddir mewn sir wahanol ble’r oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Safonau
fel man cychwyn ar gyfer ystyriaeth, gan dynnu sylw at y broses ddethol ar
gyfer nodi cynghorau tref/cymuned i ymweld â nhw a nifer o ystyriaethau
gweithredol, oedd wedi arwain at raglen strwythuredig dros flwyddyn. Roedd
canlyniadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau a negeseuon generig i
bob cyngor tref/cymuned o ran nodiadau atgoffa ac arfer gorau i gefnogi a
hwyluso gwelliant. Roedd y Swyddog Monitro yn darparu adborth penodol i
gynghorau unigol, os oedd angen. Fel ffordd ymlaen, cytunodd y Pwyllgor i ystyried tâl posibl ar gyfer mynychu yn eu cyfarfod nesaf, ac i ohirio ystyried yr agwedd tuag at eu presenoldeb ac adborth i aros am ganlyniad y drafodaeth ar dâl. Yn y cyfamser, byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn llunio methodoleg bosibl yn unol â’r broses a amlinellwyd yn y cyfarfod ac yn ystyried y ffurflen adborth. Y Cyngor fyddai’n penderfynu ar dâl yn y pen draw ond pwysleisiodd aelodau mor bwysig oedd hi i’r Cyngor gydnabod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 115 KB Ystyried Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried, a
thrafododd yr aelodau’r materion canlynol –
·
nodwyd eitemau ychwanegol
i’w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a gytunwyd yn ystod y cyfarfod o
ran ‘Adolygu maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau’ (eitem i’r dyfodol) a
‘Thâl posibl am ymweliadau ac arsylwadau ac adborth aelodau annibynnol mewn
cyfarfodydd’ (mis Rhagfyr) ·
ailddatganwyd yr eitemau
sefydlog a restrwyd ar gyfer y rhaglen ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gydag
eglurhad am bwrpas pob eitem ·
nodwyd y diffyg ceisiadau
am oddefebau dros beth amser, a allai fod yn arwydd o dorri’r Cod Ymddygiad o
bosibl ac mae’n bosibl bod angen gwneud gwaith ar hyn yn y dyfodol. Cadarnhaodd
y Dirprwy Swyddog Monitro fod y broses ymgeisio ar gyfer goddefebau wedi cael
ei rhannu â chlercod Chynghorau Tref/Dinas/Cymuned fisoedd yn ôl, ond ni
chafwyd unrhyw geisiadau am oddefebau yn sgil hynny, a’r bwriad oedd cynnal
sesiwn hyfforddi gyda’r clercod yn y gwanwyn i gynnwys ceisiadau am oddefebau ·
tynnwyd sylw at y bwriad i
ddarparu sesiwn hyfforddi fer 30 munud cyn cyfarfodydd yn y dyfodol a byddai
pynciau ar eu cyfer yn cael eu hystyried - anogwyd aelodau i gysylltu â’r
Cadeirydd neu’r Dirprwy Swyddog Monitro y tu allan i’r cyfarfod gydag unrhyw
bynciau hyfforddi i wella gwybodaeth a sgiliau’r Pwyllgor ·
cyfuno’r tair eitem ar
wahân yn ymwneud â Chyswllt Moesegol a Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau i un eitem
ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr ·
ailenwi cyfeiriadau at yr
adroddiad gan y Fforwm Safonau yn Fforwm Safonau Cenedlaethol ar Raglen Gwaith
i'r Dyfodol mis Rhagfyr ac wedi hynny ·
cynnwys Adroddiad
Blynyddol y Cadeirydd ar gyfer 2022 yn y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Mawrth 2023. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod, i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2 Rhagfyr 2022. Cofnodion: Nododd yr aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau
wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2022. Os bydd sesiwn hyfforddi’n cael ei chynnal cyn
y cyfarfod, bydd y cyfarfod ei hun yn dechrau am 10.30am.
|
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i roi trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion
yn erbyn yr aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1
Ionawr 2018. O ran adrodd yn y dyfodol, cytunwyd i dderbyn manylion y
cwynion oedd wedi cau dros y 12 mis diwethaf ynghyd â chwynion byw a bod
dyddiadau’n cael eu cynnwys i sicrhau adroddiad mwy penodol. Roedd mwyafrif y
cwynion dros y 12 mis diwethaf wedi dod gan aelodau’r cyhoedd yn hytrach na
chwynion gan aelodau am aelodau, ac ar bob achlysur, roedd Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu peidio ag ymchwilio am y rhesymau
gwahanol a nodwyd yn yr adroddiad. Nid oedd unrhyw faterion byw ar hyn o
bryd. Cyfeiriwyd at y trothwy uchel ar
gyfer targedu adnoddau a’r prawf dau gam a ddefnyddir gan Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn ai
peidio. Cafwyd trafodaeth am y broses newydd a roddwyd ar waith gan Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran rhoi gwybod am gwynion, oedd yn golygu na
fyddai’r Swyddog Monitro yn cael gwybod am y gŵyn wreiddiol, dim ond y
canlyniad. Ategodd y pwyllgor mor werthfawr oedd i’r Swyddog Monitro gael
gwybod am bob cwyn, os oedd hynny’n arwain at ymchwiliad neu beidio, er mwyn
nodi a monitro tueddiadau, gyda’r bwriad o dargedu adnoddau. Ategodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y byddai’n adrodd yn ôl ar hyn yn uniongyrchol i Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chadarnhaodd y gallai’r pwnc gael ei godi i’w
drafod gan y Fforwm Safonau Cenedlaethol. PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi’r adroddiad. Ar ddiwedd y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu presenoldeb
a’u cyfraniadau a diolchodd i’r staff cefnogi hefyd. Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm. |