Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Anne Mellor.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfamu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gordon Hughes gysylltiad personol yn eitem rhif 13 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000 gan ei fod yn is-gadeirydd Cyngor Tref Corwen.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym mam y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 331 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023.

 

Cywirdeb -

 

Soniodd y Cynghorydd Gordon Hughes fod y cofnodion yn nodi ei fod yn aelod o Gyngor Tref Corwen; eglurodd ei fod yn dal i fod yn aelod o'r Cyngor Tref ac nad oedd wedi gadael.

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 10 – holodd yr aelodau a oedd diweddariad ynghylch yr hyfforddiant y byddai clercod cynghorau cymuned yn ei gael. Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r pwyllgor y byddai hyfforddiant i glercod yn cael ei gynnal yn yr hydref. Cafodd y pwyllgor hefyd wybod, fel aelodau’r pwyllgor safonau, y gallen nhw ymuno â'r hyfforddiant pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny.

 

Tudalen 11 – soniwyd am adroddiad blynyddol y pwyllgor safonau, a phryd mae’n debygol y byddai’r wybodaeth yn cael ei chwblhau i’w hadrodd i’r Cyngor llawn, dywedodd y Swyddog Monitro na fyddai’r amserlenni’n caniatáu i’r adroddiad gael ei drafod yn yng nghyfarfod y cyngor ym mis Gorffennaf ac mae'n debygol y byddai'n cael ei gynnwys ar raglen mis Medi.

 

Tudalen 15 – soniwyd am y mater o gynnal cyfarfod ar y cyd â chynghorau dinas, tref a chymuned, a gellid rhannu unrhyw ddatblygiad ar y mater â’r pwyllgor. Ymatebodd y Swyddog Monitro gan ddweud y byddai'n anodd cynnal cyfarfod; awgrymwyd y gellid cysylltu â chlercod cynghorau dinas, tref a chymuned i weld pa feysydd oedd yn achosi heriau iddyn nhw, ac yna gellid rhoi’r cymorth priodol; nodwyd y byddai angen trafod yn agored â'r clercod. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Strategaeth a Pherfformiad, Swyddfa Rhaglenni a Phrosiectau Corfforaethol, Newid Hinsawdd) yn gweithio gyda'r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned; byddai'r Dirprwy Swyddog Monitro yn rhoi gwybod i’r aelodau am unrhyw ddiweddariad ynghylch y gwaith, os oes diweddariad o gwbl, yn y cyfarfod nesaf.

 

Tudalen 15 – awgrymodd y pwyllgor y dylid cadw hen gyfarfodydd ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw eitemau na chafodd eu trafod yn cael eu colli mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.

 

 

5.

OMBWDSMON Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS - 'EIN CANFYDDIADAU' pdf eicon PDF 208 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi'i amgáu) ar y dudalen 'Ein Canfyddiadau' sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad ei gyflwyno gan y Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch y crynodebau o’r achosion diweddaraf yn yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi disodli Llyfr Achos y Cod Ymddygiad blaenorol. Mae dolen we i'r adran berthnasol wedi'i darparu.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y pwyllgor y bu achos yn yr adran ‘ein canfyddiadau’ ar wefan yr Ombwdsmon; yr oedd manylion yr achos yn atodiadau'r adroddiad. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y mater yn debygol o fod yn anghytundeb rhwng pobl, nad oedd digon o dystiolaeth ar y naill ochr na’r llall i gyfiawnhau ymchwiliad pellach, ac nad oedd parhau â’r ymchwiliad o ddiddordeb i’r cyhoedd.

 

Roedd yr aelodau'n synnu bod y mater wedi cael unrhyw sylw o gwbl, gan ei fod yn ymddangos fod popeth yn eithaf clir o ran y sefyllfa a’i fod yn wastraff adnoddau. Eglurodd y Swyddog Monitro mai’r unig reswm yr ymchwiliwyd ymhellach i’r achos yw oherwydd yr honiad bod Cyngor Cymuned Saundersfoot wedi defnyddio eu safle nhw i fwlio rhywun; fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth i ganiatáu ymchwiliad pellach.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Cyngor Sir, Tref a Chymuned, a derbyn eu hadroddiadau.

 

 

Cofnodion:

Gwnaeth y cadeirydd holi aelodau'r pwyllgor safonau a oedden nhw wedi mynd i unrhyw gyfarfodydd ers y cyfarfod diwethaf.

 

Dywedodd yr Aelod Annibynnol Samuel Jones (SJ) wrth y pwyllgor ei fod yn mynd i gyfarfod blynyddol Cyngor Cymuned Llanferres ar 11 Mai gyda chadeirydd y pwyllgor safonau. Dywedodd SJ wrth y pwyllgor fod y cyfarfod yn cael ei gynnal a’i drefnu gan y cadeirydd a'r clerc. Yn ystod y cyfarfod, cafodd aelod o'r cyhoedd ei gyfethol i'r cyngor cymuned. Cawsant wybod am yr hyfforddiant yr oedd ei angen arnyn nhw fel cynghorau cymuned.

 

Holodd yr aelodau faint oedd yn aelodau o’r cyngor cymuned a beth oedd y ganran o ran presenoldeb yn y cyfarfod; naw oedd yn aelodau o’r cyngor cymuned ynghyd â dwy swydd wag ar hyn o bryd, ac yr oedd dros 50% yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Cafodd aelodau'r pwyllgor a oedd yn bresennol yn y cyngor cymuned wybod wedyn fod y clerc a'r cadeirydd yn briod a gwnaethon nhw holi a ddylai unrhyw ddatganiadau cysylltiad fod wedi'u codi; eglurodd swyddogion mai dim ond pe bai rhywbeth yn ymwneud â strwythur y cyngor cymuned yn cael ei drafod, y dylai’r mater fod wedi’i godi.

 

Gofynnodd yr aelodau pa ddull o roi adborth oedd yn briodol mewn cyfarfodydd; dywedwyd pe byddai mater sylweddol yn codi, y byddai'n cael ei drosglwyddo i'r Swyddog Monitro neu'r Dirprwy Swyddog Monitro; fodd bynnag, yr oedd yr aelodau'n credu bod angen methodoleg briodol ar gyfer adrodd ar faterion, a rhoi adborth i gadeirydd a chlerc cynghorau dinas, tref a chymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai swyddogion yn arfer cysylltu â chlercod i roi unrhyw adborth; fodd bynnag, pryderon oedden nhw fel arfer yn hytrach na sylwadau cadarnhaol. Yr oedd y Swyddog Monitro yn credu y dylid rhannu unrhyw adborth, boed yn dda neu'n ddrwg.

 

Awgrymodd y cadeirydd y gellid drafftio llythyr cyffredinol, y gellid ei anfon at gynghorau cymuned pan fyddai pwyllgor safonau yn bresennol, yn tynnu sylw at arferion da neu ddrwg.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb mewn cyfarfodydd.

 

 

7.

CEISIADAU AM OLLYNGIAD

I ystyried unrhyw geisiadau dosbarthu a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel y sir.

 

 

Cofnodion:

Roedd ystyried ceisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen.

 

Nododd yr aelodau na gafwyd unrhyw geisiadau am oddefeb.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa.

 

 

8.

CYMHARU CASGLIAD PANEL RECRIWTIO'R PWYLLGOR SAFONAU

Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Dirprwy Swyddog Monitro ynghylch cymharu casgliad panel recriwtio pwyllgor safonau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar lafar ynghylch Cymharu Casgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

Codwyd y mater i weld a oedd consensws rhwng awdurdodau lleol ar y strwythur sydd ganddyn nhw ar gyfer paneli recriwtio pwyllgorau safonau.

 

Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi cael gohebiaeth gan rai o'r awdurdodau lleol cyfagos. Roedd strwythur Conwy yn cynnwys cadeirydd/is-gadeirydd y cyngor ar y panel. Roedd gan Ynys Môn yr un strwythur â Sir Ddinbych; roedd gan Wynedd gadeirydd y cyngor, pwyllgor gwasanaethau democrataidd a’r pwyllgor safonau ar eu panel nhw.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth y pwyllgor y gellid llunio adroddiad a’i gyflwyno i’r cyngor llawn i ddysgu a ydyn nhw’n agored i’r newid a chael aelod pwyllgor safonau annibynnol ar y panel recriwtio, gan y byddai’n rhaid gwneud y penderfyniad yn y Cyngor.

 

Soniodd aelodau’r pwyllgor am y manteision y gallai aelod annibynnol eu cynnig i banel recriwtio; bydden nhw’n rhoi safbwynt arall, a fyddai'n fuddiol wrth recriwtio.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cynnig cyflwyno adroddiad i'r cyngor llawn i geisio cymeradwyaeth i gael aelod lleyg annibynnol o'r pwyllgor safonau ar y panel recriwtio.

 

 

9.

HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD pdf eicon PDF 203 KB

Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Dirprwy Swyddog Monitro ynghylch hyfforddiant cod ymddygiad a darpariaeth ar gyfer Cynghorau Sir a Thref, Dinas a Chymuned.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad ei gyflwyno gan y Dirprwy Swyddog Monitro (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno'r Cod Ymddygiad i Aelodau - trosolwg o'r hyfforddiant a roddwyd; Y Pwyllgor Safonau sy'n goruchwylio'r drefn foesegol yn y Sir, ac mae hyfforddiant yn faes y mae'r Pwyllgor yn awyddus i’r aelodau etholedig a chyfetholedig ei gyflawni. Nod yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o'r hyfforddiant i Aelodau sydd wedi’i ddarparu gan y Swyddog Monitro ers mis Mai 2022.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth yr aelodau fod amserlen yr hyfforddiant wedi'i chynnwys yn yr atodiadau; o ran presenoldeb Cynghorwyr Sir, fel y nodwyd yn y Pwyllgor Safonau diwethaf, yr oedd gan y Cyngor bresenoldeb o 100 y cant. Fodd bynnag, mae un Cynghorydd newydd y mae angen i ni gynnig hyfforddiant iddo, y cafodd ei ethol o ganlyniad i is-etholiad.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'r Pwyllgor yn nodi, er gwaethaf cynnig nifer o gyfleoedd ar-lein a chymysgedd o gyfleoedd wyneb yn wyneb yng Ngogledd, Canol a De'r Sir, yn ystod y dydd a gyda'r nos, y gallai'r ymateb gan Gynghorau Tref a Chymuned fod yn llawer gwell.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth y pwyllgor ei bod yn anodd cynnal y gallu i gynnig hyfforddiant ar y raddfa hon yn gyson a thu hwnt i'r hyn sydd wedi’i gynnig eisoes.  Mae’r Swyddog Monitro a’r Dirprwy yn awyddus i drafod dewisiadau eraill â’r Pwyllgor, fel cynnal digwyddiad wedi’i recordio i bob Clerc i rannu rhai Cwestiynau Cyffredin. Er enghraifft, efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno cyfeirio'r awgrym at y Fforwm Safonau Cenedlaethol ac ystyried a allai hon fod yn fenter genedlaethol, er enghraifft.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol ymhellach -

 

·       Cyfeiriodd y pwyllgor at ddull yr hyfforddiant, ac a fyddai taflen i aelodau sydd newydd eu hethol yn ddull hyfforddi rhatach ac yn un sy’n cymryd llai o amser. Holwyd hefyd a ellid cynnal hyfforddiant sy’n cael ei gynnal gan Un Llais Cymru.

·       Cytunodd swyddogion ac aelodau y gellid o bosibl cynnal recordiad o sesiwn hyfforddi, ac yna cylchredeg y fideo i glercod i'w ddangos i gynghorau dinas, tref a chymuned i hyfforddi eu cynghorwyr. Cytunodd yr Aelodau â'r awgrym o recordio sesiwn hyfforddi; fodd bynnag, gwnaethon nhw awgrymu y byddai'n fuddiol pe bai aelodau sy’n bresennol yn gofyn cwestiynau perthnasol, a fyddai'n cyfoethogi'r deunydd hyfforddi i eraill.

·       Cafodd yr aelodau wybod beth oedd costau hyfforddiant gan Un Llais Cymru; y gost ar gyfer hyfforddiant cod ymddygiad fyddai tua £35 i bob cynghorydd.

·       Awgrymodd y pwyllgor y gallai clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned nodi pawb a oedd wedi cael yr hyfforddiant, ac yna gellid anelu unrhyw ddeunydd at y rhai nad oedd wedi’i gyflawni. Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod yr hyfforddiant yn orfodol, a'r pryder oedd pe byddai'r mater yn rhy fanwl na fyddai rhai aelodau am gyflawni’r hyfforddiant. Awgrymodd aelodau eraill o'r pwyllgor fod angen yr hyfforddiant; fodd bynnag, gwnaethon nhw nodi mai dull cynnill sydd orau ar gyfer yr aelodau a chaniatáu i'r mater ddigwydd yn naturiol o ran e-ddysgu, fideos neu daflenni, cyn belled â bod unigolion yn ymgymryd â hyfforddiant a bod dyletswydd y cyngor yn cael ei chyflawni.

·       Dywedodd y Swyddog Monitro mai'r ffordd orau o gynnal yr hyfforddiant fyddai wyneb yn wyneb; fodd bynnag, nid oedd yr adnoddau i gynnal y math hwn o hyfforddiant yn ymarferol; byddai recordio cyfarfod a chylchredeg y deunydd yn lliniaru’r pryder yn ymwneud ag adnoddau. Yna awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro recordio’r sesiwn hyfforddi nesaf, a gweld a ellid ei rannu ymhellach.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

10.

ADRODDIADAU ARWEINWYR GRWPIAU I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 220 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i roi trosolwg i’r Aelodau o’r hyfforddiant a ddarparwyd gan y Swyddog Monitro ers mis Mai 2022.

 

 

Cofnodion:

Cafodd adroddiad ei gyflwyno gan y Dirprwy Swyddog Monitro (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â'r ddyletswydd newydd a roddir ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo ymddygiad moesegol ac i roi cyfle i'r Pwyllgor Safonau ystyried y wybodaeth a gafwyd gan Arweinwyr Grwpiau sy'n adrodd yn flynyddol i'r Pwyllgor Safonau.

 

Bydd y Pwyllgor Safonau yn ymwybodol o ddarpariaethau adran 62 Deddf

Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n rhoi dyletswydd newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ar gyfer eu haelodau.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod eisoes fod Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau statudol drafft ar gyfer arweinwyr grwpiau a phwyllgorau safonau cyn yr etholiad a gofynnodd am safbwyntiau.

 

Trafododd yr Aelodau’r materion canlynol ymhellach -

 

·       Roedd y pwyllgor yn credu fod y mater yn ymarfer da ond credai fod y cwestiynau yn y canllawiau yn gogwyddo tuag at ymatebion cyffredinol, a bod angen trafodaeth arall i gael atebion a fyddai'n achosi dadl; cytunodd yr aelodau; fodd bynnag, yr oedden nhw’n credu fod y broses yn gam cyntaf ardderchog.

·       Awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro drefnu cyfarfod arall rhwng aelodau'r Pwyllgor Safonau ac arweinwyr y grwpiau i drafod y gwaith sydd ei angen gydag arweinwyr y grwpiau; yna, gellid casglu adborth o'r sesiwn, ei goladu a'i gynnwys gydag adroddiad blynyddol y pwyllgor safonau. Gallai hyn dynnu sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo rhwng arweinwyr y grwpiau a'r pwyllgor safonau.

·       Er bod yr aelodau'n cytuno â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ag arweinwyr y grwpiau, gwnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith y gallai ychwanegu at lwyth gwaith sylweddol arweinwyr y grwpiau y mae eu llwyth gwaith eisoes yn enfawr.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch na chafwyd adroddiad un Arweinydd Grŵp ac na allai'r Pwyllgor gadarnhau bod pob arweinydd wedi cymryd pob cam rhesymol. 

 

PENDERFYNWYD:

3.1 Byddai'r Pwyllgor yn aros i gael rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu cenedlaethol ar ôl i Fforwm Safonau Cymru Gyfan gyfarfod.

3.1 Bod y Pwyllgor yn cytuno y byddai cyfarfod anffurfiol gydag Arweinwyr Grwpiau ar y cyd yn fuddiol.

 

 

11.

YMATEB FFURFIOL I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ADOLYGIAD PENN pdf eicon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad i’r pwyllgor safonau.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru – ‘Adolygiad Penn’ – a ddechreuodd yn 2021; fframwaith sydd fwy neu lai wedi aros yr un peth ers ugain mlynedd. Byddai'r Aelodau'n cofio’r adroddiadau blaenorol yn sôn bod cam cychwynnol yr adolygiad wedi canfod bod y fframwaith yn addas at y diben, ond y gallai fod yn fuddiol diwygio rhai meysydd yn y dyfodol.

 

Cafodd y Pwyllgor Safonau gyflwyniad yn ei gyfarfod diwethaf er mwyn i’r aelodau allu lleisio’u barn nhw ynghylch cwestiynau'r ymgynghoriad. Ymgynghorir ag Arweinwyr y Grwpiau rhwng llunio'r adroddiad hwn a'i gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor, gan fod amser yn brin cyn bod yn rhaid ymateb. Byddai safbwyntiau Arweinwyr y Grwpiau yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor yn y cyfarfod.

 

Dyma’r argymhellion -

 

·       C1 – Cytunodd arweinwyr y grwpiau gynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig sydd yn y cod ymddygiad.

·       C3 – Cytunodd arweinwyr y grwpiau â’r ddarpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi Panel Dyfarnu Cymru i sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw.

·       C4 – Cytunodd yr Aelodau â'r newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn apelio, a fyddai'n symleiddio’r amserlenni.

·       C5 – cytunwyd y dylai Panel Dyfarnu Cymru gael grym penodol i wysio tystion; fodd bynnag, yr oedden nhw’n credu y byddai'r mater yn anodd ei orfodi.

·       C6 – roedd arweinwyr y grwpiau’n anghytuno ag unrhyw newidiadau i'r broses atgyfeirio apeliadau. Nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n cydnabod manteision cael Panel Dyfarnu Cymru yn cyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, yn enwedig o ystyried y byddai’r un Pwyllgor yn adolygu’r un achos ac y byddai’n debygol o ymestyn y broses gyffredinol i’r unigolyn sy’n apelio. Fodd bynnag, yr oedd un aelod yn credu y gellir rhoi rhywfaint o hyblygrwydd gan fod pob achos yn wahanol. Roedd un aelod yn credu y byddai’n werth cyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau i fyfyrio ar rinweddau'r rhesymau a roddwyd i ailystyried eu penderfyniad a chadw rheolaeth a chyfrifoldeb lleol.

·       C8 - cytunodd yr aelodau na ddylid cadw'r gofyniad i roi dim llai na saith diwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad er mwyn rhoi rhagor o hyblygrwydd. Fodd bynnag, dylid rhoi rhybudd rhesymol.

·       C9 – cytunodd arweinwyr y grwpiau y dylai fod amrywiaeth ehangach o bwerau ar gael i’r Panel, gan fod y rhai presennol yn rhy gyfyngol.

·       C10b ​​– nid oedd unrhyw sylwadau ar y broses.

·       C11 – y gred oedd, o ran gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru a datgelu, fod y Pwyllgor yn cefnogi gofyniad i sicrhau bod deunydd nad yw’n cael ei ddefnyddio a gedwir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Monitro, ar gael er budd cyfiawnder naturiol.

·       C12 – cytunodd arweinwyr y grwpiau bod angen codi ymwybyddiaeth o'r Fframwaith Safonau Moesegol a gweithio gydag eraill fel sy’n briodol yn hynny o beth.

·       C13 - wrth gydnabod bod manteision i hysbysebu am aelodau lleyg yn y papur newydd lleol, cytunwyd na ddylai fod yn ofyniad gorfodol cyn belled â bod amrywiaeth o ddulliau eraill yn cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol.

·       C14b – o ran y gwaharddiad gydol oes ar gael gwared ar gyn-weithwyr y cyngor, roedden nhw’n credu y dylid codi'r gwaharddiad; fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys cyfnod gras o 12 mis rhwng cyflogaeth a phenodiad ar gyfer y rhan fwyaf o weithwyr a chyfnod hirach ar gyfer yr unigolion a oedd â swyddi statudol neu swyddi â chyfyngiadau gwleidyddol yn flaenorol.

·       C15 - cytunwyd y dylid cael gwared ar y gwaharddiad gydol oes ar gyfer gwasanaethu  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 195 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a thrafododd yr aelodau’r canlynol –

 

·       Awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'r aelodau'n adrodd ar ymweliadau â chyfarfodydd eraill bob yn ail gyfarfod.

·       Codwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, ac a ellid trafod y camau cynnar yn y pwyllgor ym mis Rhagfyr 2023.

·       Cyfeiriwyd at Gyd-bwyllgorau Corfforedig, a'r posibilrwydd o gael cynrychiolwyr y pwyllgor safonol; ar y cyd-bwyllgor, dywedodd y Swyddog Monitro bod rhywfaint o ddeddfwriaeth i'w threfnu; fodd bynnag, gellid trafod y mater yng nghyfarfod mis Medi.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 

13.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10.00am 15 Medi 2023.

 

 

Cofnodion:

Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 15 Medi 2023.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

14.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau y cafodd eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill 2022.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o bob un o'r saith cwyn a gyflwynwyd, nad oedden nhw wedi’u hymchwilio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny. O ystyried y newid yn y trefniadau cofnodi, nodwyd y gallai cwynion gael eu cyflwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fydden nhw’n yn hysbys hyd nes y byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r gŵyn ai peidio.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi'r adroddiad.