Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfamu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Cynghorydd Gordon Hughes gysylltiad personol yn eitem rhif 13 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000 gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Corwen.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym mam y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 264 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022.

 

Cywirdeb - ni chodwyd unrhyw bwyntiau o ran cywirdeb.

 

Materion yn Codi

 

Tudalen 9 - Eitem 6: Presenoldeb mewn Cyfarfodydd – nododd y Pwyllgor nad oedd hyfforddiant Cod Ymddygiad yn orfodol i Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned.  Roedd sesiwn hyfforddi ar-lein wedi’i chyflwyno i Gyngor Tref Dinbych ym mis Rhagfyr 2022 ac roedd sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb wedi’i threfnu ar gyfer Ebrill 2023 yng Nghaledfryn, Dinbych a fyddai, gobeithio, gyda’r aelodau sy’n weddill, er y byddai modd cynnig sesiwn hyfforddi bellach. os oes angen.  Pe bai materion yn codi o ran y ffordd yr oedd aelodau'n cyfarch ei gilydd, gallai'r unigolion hynny fynd ar drywydd y materion hynny naill ai drwy ddatrysiad lleol neu drwy gwynion i'r Ombwdsmon.  Roedd y Swyddog Monitro/Dirprwy Swyddog Monitro ar gael i roi cymorth i Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned o ran cyngor, arweiniad a hyfforddiant mewn perthynas â rhwymedigaethau aelodau o dan y Cod Ymddygiad.

 

Tudalen 11 - Eitem 8: Diweddariad ar Hyfforddiant Aelodau – roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod pob cynghorydd sir wedi mynychu hyfforddiant y Cod Ymddygiad.

 

Tudalen 12 - Eitem 9: Cyswllt Moesegol a Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau - adroddodd y Cadeirydd ar gyfarfod cychwynnol gydag Arweinwyr Grwpiau ym mis Ionawr gyda chyfarfodydd pellach wedi'u cynllunio.  Roedd eitem ar Adroddiadau Arweinwyr Grwpiau i'r Pwyllgor Safonau wedi'i drefnu ar gyfer cyfarfod mis Mehefin a fyddai'n rhoi digon o amser i roi gwybod i Arweinwyr Grwpiau am hynny.  Roedd y Swyddog Monitro a'r Prif Weithredwr wedi cyfarfod â Grwpiau Gwleidyddol ac wedi achub ar y cyfle i egluro graddau dyletswydd yr Arweinwyr Grwpiau i sicrhau bod pob aelod yn deall y sefyllfa.  Roedd y mater hefyd wedi’i grybwyll yn Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2021 a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

OMBWDSMON Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS - 'EIN CANFYDDIADAU' pdf eicon PDF 121 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi'i amgáu) ar y dudalen 'Ein Canfyddiadau' sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y crynodebau achos diweddaraf yn yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi disodli’r Coflyfr Cod Ymddygiad blaenorol.  Roedd dolen we i'r adran berthnasol wedi'i darparu.

 

Mae’r adran ‘Ein Canfyddiadau’ yn cynnwys bob mater a gaiff eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon, nid materion yn ymwneud ag ymddygiad yn unig.  Roedd crynodeb o bob achos yn ymwneud â chwynion Cod Ymddygiad yr ymchwiliwyd iddynt ar gyfer y cyfnod 1 Tachwedd 2022 i 28 Chwefror 2023 wedi'i ddarparu, a oedd wedi'i ddadansoddi yn ôl pwnc fel a ganlyn -

 

·         Datgelu a chofrestru buddiannau                  2

·         Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch                  2

·         Gwrthrychedd a phriodoldeb                           1

 

Mae’r canlyniadau wedi’u categoreiddio fel a ganlyn -

 

·         Heb ei ymchwilio ymhellach                            0

·         Dim tystiolaeth o dorri cod ymddygiad           1

·         Dim angen camau pellach                               1

·         Atgyfeiriad at y Pwyllgor Safonau                   1

·         Atgyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru              2

 

Nid oedd unrhyw un o’r pynciau’n ymwneud â chyngor yn Sir Ddinbych.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd adroddiad llawn eto ar y mater a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau.  Yn yr un modd, nid oes adroddiad llawn wedi cael ei gyflwyno am un o’r ddau achos a gafodd eu hatgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru.  Roedd yr achos a gafodd ei atgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru y mae adroddiad llawn wedi cael ei gyflwyno ar ei gyfer yn ymwneud ag aelod o Gyngor Cymuned Llanarmon ym Mhowys a fethodd â datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu mewn dau gyfarfod..   Daeth Panel Dyfarnu Cymru i’r casgliad bod yr aelod wedi mynd yn groes i’r Cod Ymddygiad drwy fethu datgan ei chysylltiadau a thrwy gymryd rhan yn y cyfarfodydd.   Yn ogystal â hynny, roedd y Panel yn ystyried ei bod wedi dwyn anfri ar ei hawdurdod drwy ei gweithredoedd ac wedi defnyddio, neu geisio defnyddio, ei swydd yn amhriodol er mwyn osgoi anfantais ar gyfer unigolyn arall.   O ganlyniad, penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru wahardd yr aelod rhag bod na dod yn aelod o unrhyw awdurdod perthnasol am ddeuddeg mis.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw anghenion hyfforddi neu gefnogaeth ar gyfer Sir Ddinbych wedi'u nodi mewn unrhyw un o'r achosion.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr hyfforddiant a ddarparwyd eisoes yn ymdrin â'r materion a nodwyd yn yr achosion hynny.  Amlygodd hefyd fod cwynion gwahaniaethu yn cael eu cymryd o ddifrif gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'u hymchwilio.  Fodd bynnag, ar ôl cymhwyso'r profion cywir, nid oedd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau yn yr achos hwn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Cyngor Sir, Tref a Chymuned, a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ar ei phresenoldeb mewn cyfarfod hybrid o Gyngor Sir Ddinbych a gynhaliwyd am 10am ddydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2022 yn Siambr y Cyngor, Rhuthun ac o bell trwy gynhadledd fideo, ac a oedd wedi’i ffrydio’n fyw.

 

Roedd y Cadeirydd wedi bod yn bresennol i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021 ac roedd hefyd wedi manteisio ar y cyfle i arsylwi ar y trafodion.  Roedd presenoldeb da o aelodau yn y cyfarfod, gyda 3 ymddiheuriad, ac nid oedd neb o’r cyhoedd yn bresennol heblaw hi fel arsyllwr.  Ymddangosodd datganiadau o gysylltiad ar y rhaglen a darllenwyd datganiad heb unrhyw ddatganiadau pellach yn cael eu gwneud y tro hwn.  Roedd y cyfarfod wedi'i gadeirio'n dda trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, a chefnogwyd y swyddogion fel y bo'n briodol gyda'r Cadeirydd yn atgoffa cynghorwyr o brotocolau yn ôl yr angen.  Roedd pawb a oedd yn bresennol wedi'u cyflwyno, roedd yr holl eitemau wedi'u cynnig a'u heilio, ac esboniwyd y systemau pleidleisio.  Soniwyd hefyd am hyfforddiant Cod Ymddygiad.  Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm gydag egwyl o 15 munud yn ystod y cyfarfod.  I gloi, roedd wedi bod yn gyfarfod ardderchog yn gyffredinol, yn barchus, gyda digon o fusnes wedi'i gynnwys, ac wedi'i redeg yn dda a'i gefnogi'n dda.

 

Yn dilyn cyflwyniad y Cadeirydd o’r Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor, cafwyd trafodaeth gadarnhaol a chwestiynau priodol.  Darparodd y Cadeirydd adborth ar y materion a godwyd ac ymatebion a roddwyd gan y Swyddog Monitro, yn gryno –

 

·         Cwynion blinderus – roedd yr ymateb yn cyfeirio at y gofyniad o dan y Cod Ymddygiad na ddylai aelodau wneud cwynion blinderus a phrawf dau gam yr Ombwdsmon i hidlo cwynion sy’n anaddas i ymchwilio iddynt.

·         Cynrychiolaeth a Chymhwyster Cyfreithiol - gallai aelodau a ymddangosodd gerbron y Pwyllgor gael cynrychiolaeth gyfreithiol, ond nid oedd angen iddynt wneud hynny, ac nid oedd unrhyw ofyniad i aelodau'r Pwyllgor fod â chymwysterau cyfreithiol, er eu bod yn derbyn hyfforddiant mewn gweithdrefnau gwrandawiadau a sancsiynau.  Cyfeiriwyd at y ffaith bod gan Banel Apeliadau Cymru Lywydd â chymwysterau cyfreithiol

·         Goddefebau – eglurwyd bodolaeth goddefebau, y rheoliadau a’r meini prawf priodol ynghyd â rhai enghreifftiau o’r math o faterion y gellir ceisio goddefebau ar eu cyfer.

·         Hyfforddiant i Aelodau – ymdriniodd â’r ddarpariaeth yng Nghod Ymddygiad y Cyngor ar gyfer hyfforddiant gorfodol a’r argymhelliad yn Adroddiad Penn y dylai hyfforddiant fod yn orfodol.

 

Nid oedd unrhyw bresenoldeb pellach gan aelodau eraill mewn cyfarfodydd.  Eglurwyd mai aelodau lleyg annibynnol oedd yn mynychu cyfarfodydd yn draddodiadol, o ystyried y gallai fod yna awgrym o duedd i gynghorwyr sir y cydnabuwyd hefyd fod ganddynt lawer o gyfarfodydd eraill i'w mynychu.  Roedd cynrychiolydd y cynghorydd cymuned wedi mynychu i arsylwi cyfarfodydd eraill yn y gorffennol.  O ran presenoldeb yn y dyfodol, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod yr aelodau eisoes wedi cytuno ar ddull mwy strategol o gynllunio ymweliadau.  Nid oedd yr un cyngor wedi'i nodi a fyddai'n elwa'n benodol o ymweliad ac roedd y cam nesaf yn cynnwys croeswirio'r cofnod presenoldeb a ddarparwyd gan y Cadeirydd â chofnodion y Pwyllgor Safonau dros y tymor diwethaf er mwyn osgoi unrhyw bresenoldeb eildro.  Yn y cyfamser, roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi cysylltu â'r holl aelodau lleyg gyda rhestr o gynghorau tref/cymuned a bu peth ymrwymiad i fynychu nifer o gyfarfodydd wrth symud ymlaen.  Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i rannu rhestr fwy strategol gyda'r aelodau fel mater o frys.  Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i gynghorau oedd â chlercod newydd ac a fyddent yn elwa o ymweliad.  Roedd hefyd yn falch o nodi cynlluniau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CEISIADAU AM OLLYNGIAD

I ystyried unrhyw geisiadau dosbarthu a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel y sir.

 

Cofnodion:

Roedd ystyried ceisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen.

 

Nododd yr aelodau na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am oddefeb.

 

Roedd y diffyg ceisiadau am oddefeb wedi bod yn destun pryder ers peth amser a chadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y mater wedi'i amlygu yn ystod sesiynau hyfforddi.  Byddai'r neges honno'n parhau i gael ei hailadrodd ar bob cyfle o ystyried y byddai unigolion yn debygol o elwa o'r gallu i gymryd goddefeb.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm), gan geisio barn y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Pwyllgor yn ystod 2022.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno cyn hyn y dylai Adroddiad Blynyddol gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor i holl aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y diwygiadau a ganlyn -

 

·         cynnwys cyfeiriad at etholiadau cyngor Mai 2022 i adlewyrchu’r newid yn aelodaeth pwyllgor aelodau etholedig a chyfansoddiad y Pwyllgor

·         yng ngoleuni Adolygiad Penn ac ymateb Llywodraeth Cymru (LlC) i ystyried gweithrediad y protocol datrysiad lleol ac asesiad o’i effaith, i gynnwys cyfeiriad at broses datrysiad lleol y Cyngor a’i adolygiad tebygol yn dilyn canllawiau statudol LlC i Bwyllgorau Safonau

·         paragraff 4.3 – ailedrych ar fformatio’r pwyntiau bwled o fewn y tablau er cysondeb, gyda rhai yn cael atalnodau llawn ac eraill ddim

·         paragraff 4.4 (b) – ychwanegu ‘cynghorau sir’ at y cyfeiriad at ‘gynghorau tref, dinas a chymuned’ mewn perthynas â chwynion a gyflwynwyd yn erbyn aelodau

·         paragraff 4.5 – tynnu'r lliw melyn oddi ar 4.5

·         paragraff 4.6 – newid y cyfeiriad at ‘Fforwm Safonau Gogledd Cymru’ i ‘Fforwm Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru’

·         paragraff 4.10 – bu peth trafodaeth ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a rhwymedigaethau ar y Pwyllgor Safonau i adrodd yn hynny o beth.  Roedd angen i’r adroddiad adlewyrchu gwaith yn 2022 ond dylid cynnwys cyfeiriad at y dull gweithredu gan ddisgrifio’r natur gadarnhaol a chydweithredol yr oedd Arweinwyr Grŵp yn mynd i’r afael â’r dasg honno, a nodi’r broses ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad o adrodd yn ôl arno’n llawn yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf.

·         cyfeiriad i'w gynnwys yn yr adroddiad at gyfraniad y Cyngor mewn trafodaethau gyda chydweithwyr ledled Cymru gyda'r bwriad o gyflawni lefel o gysondeb mewn perthynas â'r trothwy rhoddion a lletygarwch.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am ei gwaith caled wrth baratoi’r adroddiad drafft a’r gwaith i baratoi drafft diwygiedig i gynnwys diwygiadau’r Pwyllgor.  Cytunwyd bod y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn cymeradwyo'r drafft terfynol a chadarnhau dyddiad addas gyda'r Cadeirydd i gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau -

 

(a)       yn nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       wedi i’r sylwadau/ diwygiadau uchod gael eu cynnwys yn yr adroddiad, ac wedi i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd gymeradwyo’r drafft terfynol, argymell bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn.

 

 

9.

DIWEDDARIAD FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 149 KB

Derbyn diweddariad ar lafar gan y Cadeirydd wedi iddo fynychu’r Fforwm Safonau Cenedlaethol ar 27 Ionawr 2023 (nodiadau ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar eu presenoldeb ym Mhwyllgor y Fforwm Safonau Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023.  Roedd nodiadau'r cyfarfod, gan gynnwys y cyflwyniad a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi'u dosbarthu eisoes gyda'r rhaglen.  [O ystyried nifer yr acronymau yn y nodiadau, cytunodd y Swyddog Monitro i roi adborth ar yr angen am naill ai geirfa o’r termau neu i’r talfyriad gael ei nodi’n llawn yn y lle cyntaf.]

 

Ymhelaethodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar yr eitemau a drafodwyd, ac ymatebwyd i gwestiynau a godwyd arnynt, a oedd yn ymwneud ag ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, Rôl a Chylch Gorchwyl, gweithredu’r ddyletswydd newydd ar Arweinwyr Grwpiau a sut y byddai’n cael ei hadrodd. fel rhan o Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, cyflwyniad gan y Siaradwr Gwadd Michelle Morris, OGCC a diweddariad ar Adroddiad Penn gan Lisa James, Llywodraeth Cymru. O dan Unrhyw Fater Arall roedd cam gweithredu i sefydlu'r arfer i Bwyllgor Safonau Cymru gynhyrchu Adroddiadau Blynyddol Aelodau a datblygu hyfforddiant ar gyfer Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Safonau.  Roedd wedi'i ystyried yn fforwm ardderchog, yn fuddiol iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer rhannu gwybodaeth.  Nodwyd y byddai Swyddogion Monitro Gogledd Cymru yn cytuno ar gynrychiolydd i fynychu pob cyfarfod yn y dyfodol ac yn rhoi adborth i'w Grŵp.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd nifer o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod yn ymwneud ag Adroddiad Penn a fyddai’n cael ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor o dan yr eitem nesaf ar y rhaglen wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru arno

·         roedd mwy o gwynion wedi dod i law OGCC yn ystod mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 nag yn y degawd diwethaf; ychydig o dan 300 o gwynion, 240 o gwynion heb eu dwyn ymlaen i'w hymchwilio, 20 o gwynion wedi'u trosglwyddo i Bwyllgorau Safonau.  Amlygwyd hefyd y gydberthynas rhwng achosion o dorri'r Cod Ymddygiad a chynghorwyr nad ydynt yn dilyn hyfforddiant rheolaidd, gan bwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant.  Roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cytuno i adolygu’r newidiadau i’r system adrodd a oedd wedi’i gwneud yn anodd i Swyddogion Monitro ddarparu gwybodaeth i Bwyllgorau Safonau ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r fforwm yn y dyfodol.

·         trafodwyd y rhesymeg y tu ôl i’r rhan fwyaf o’r cwynion a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad oeddent yn cael eu hymchwilio gan ystyried capasiti a chyflwyniad prawf budd y cyhoedd.  Cydnabuwyd bod camymddwyn lefel isel yn dal i gael effaith andwyol ar sefydliadau a hyder y cyhoedd a thynnwyd sylw at rôl y broses datrysiad lleol yn hynny o beth.  Yr oedd y mater wedi ei gydnabod yn Adroddiad Penn.

·         Gallai Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion fynychu’r fforwm ond pe na bai’r naill na’r llall yn gallu bod yn bresennol roedd yn debygol y byddai unrhyw gais am gynrychiolydd pellach yn cael ei ystyried yn ffafriol.

·         dylai rhaglenni ar gyfer y fforwm gael eu gosod gan Bwyllgorau Safonau ac anogwyd aelodau i godi eitemau gyda'r Swyddog Monitro.  Awgrymwyd y dylai eitemau’r dyfodol gynnwys: monitro’r ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Adolygiad Penn a safbwynt awdurdodau lleol eraill; rhannu gwybodaeth yn barhaus ac arfer da ar weithrediad dyletswydd Arweinyddion Grwpiau, a darparu Pwyllgorau Safonau i'r Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol o ystyried yr amrywiol opsiynau sydd ar gael.  Ar y llaw arall, nodwyd na fu unrhyw drafodaethau diweddar ar y posibilrwydd o gael Cyd-bwyllgorau Safonau a chadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r mater yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Safonau os a phan fyddai unrhyw argymhellion yn cael eu gwneud.

·         byddai'r fforwm yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, a'r cyfarfod nesaf i'w drefnu ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ADOLYGIAD PENN pdf eicon PDF 111 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) a chyflwyniad gan y Swyddog Monitro yn unol â’r papur ymgynghori ar adolygu’r Fframwaith Moesegol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno’r ymgynghoriad ar argymhellion Adolygiad Penn a gofynnodd am farn y Pwyllgor ar ymateb Llywodraeth Cymru a 21 o gwestiynau a godwyd yn yr ymgynghoriad, cyn coladu barn aelodaeth ehangach y Cyngor a swyddogion allweddol sy'n ymwneud â Fframwaith Safonau Moesegol Llywodraeth Leol.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro gyflwyniad PowerPoint ar y ddogfen i hwyluso’r drafodaeth a hysbysu a chyfrannu at ymateb y Cyngor.   Roedd y cyflwyniad yn cynnwys peth cefndir i'r adolygiad a'i gasgliadau; ymhelaethu ar y 12 argymhelliad a materion cysylltiedig eraill; tywys yr aelodau drwy gwestiynau’r ymgynghoriad, ac adrodd ar y camau nesaf yn y broses ymgynghori gydag ymateb terfynol yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a chyflwyno sylwadau erbyn 23 Mehefin 2023.

 

O ran Argymhelliad 2 a'r gofrestr buddiannau, roedd y newidiadau wedi'u gwneud o ran aelodau'n darparu enw stryd neu god post yn unig er mwyn darparu lefel uwch o amddiffyniad.  Amlygwyd, mewn rhai achosion, mai dim ond un eiddo fyddai'r cod post/enw stryd.  Cytunodd y Swyddog Monitro i ymchwilio i'r mater ymhellach a chanfod, o ystyried y newidiadau i'r rheoliadau, a oedd y ddarpariaeth i beidio â datgelu cyfeiriad mewn amgylchiadau penodol yn dal i fodoli.

 

Yn ystod trafodaeth hir, ymatebodd y Pwyllgor i’r cwestiynau fel a ganlyn -

 

C1 – cytunwyd i newid y Cod i adlewyrchu diffiniadau Deddf Cydraddoldeb 2010 o nodweddion gwarchodedig

 

C2 – cytunwyd y gallai Panel Dyfarnu Cymru gyhoeddi Gorchmynion Adrodd Cyfyngedig i’w defnyddio’n gymesur er mwyn tegwch ac amddiffyn tystion

 

C3 – cytunwyd y dylid cael darpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi Panel Dyfarnu Cymru i sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw

 

C4 - cytunwyd  cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir yn yr argymhelliad i symleiddio'r broses ond cynigiwyd y dylid cynnwys amserlen i sicrhau bod y broses yn cael ei chwblhau o fewn cyfnod rhesymol o amser

 

C5 - cytunwyd y dylai’r Panel gael pŵer penodol i alw tystion i dribiwnlysoedd apêl ond soniwyd am yr anawsterau o orfodi y fath ddarpariaeth

 

C6 – nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n cydnabod y fantais pe bai’r Panel yn cyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, yn enwedig o ystyried y byddai’r un Pwyllgor yn adolygu’r un achos ac yn debygol o ymestyn y broses gyffredinol i’r apelydd, er bod un aelod yn teimlo y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd o ystyried bod pob achos yn wahanol.  Roedd un aelod yn ystyried bod gwerth i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor Safonau er mwyn adlewyrchu ar rinweddau’r rhesymau a roddwyd i ailystyried eu penderfyniad a chadw rheolaeth a chyfrifoldeb lleol.

 

C7 - cytunwyd y dylid cael darpariaeth benodol i alluogi cynnal rhan neu’r cyfan o wrandawiadau tribiwnlys yn breifat; a'r ddarpariaeth honno i'w defnyddio'n gymesur er budd cyfiawnder

 

C8 - cytunwyd y dylid cadw’r gofyniad i roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd  Fodd bynnag, dylid rhoi rhybudd rhesymol

 

C9 - cytunwyd y dylai ystod ehangach o sancsiynau fod ar gael i’r Panel, gan fod y pwerau presennol sydd ar gael yn rhy gyfyngol

 

C10 - cytunwyd cefnogi diwygiadau arfaethedig i’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim mewn amgylchiadau eithafol

 

C11 – mewn perthynas â gweithrediad y Panel a datgelu, roedd y Pwyllgor yn cefnogi gofyniad i sicrhau bod deunydd nas defnyddiwyd a gedwir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) a’r Swyddog Monitro ar gael er budd cyfiawnder naturiol.

 

C12 – cytunwyd bod angen codi ymwybyddiaeth o’r Fframwaith Safonau Moesegol a gweithio gydag eraill fel  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 196 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried, a thrafododd yr aelodau’r materion canlynol –

 

·         byddai’r ymateb ffurfiol terfynol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Adolygiad Penn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mehefin.

·         yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad ar Adolygiad Penn, byddai ymateb Llywodraeth Cymru yn cael ei rannu gyda’r aelodau pan fyddai ar gael; awgrymwyd y byddai fersiwn gryno a throsolwg o'r newidiadau allweddol yn ddefnyddiol

·         o ran yr eitem yn y dyfodol ar ‘Gyfarfod ar y Cyd â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned’, byddai’r Dirprwy Swyddog Monitro yn codi’r mater mewn cyfarfod cyswllt sydd wedi’i drefnu gyda chlercod ac yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf

·         mewn perthynas â'r eitem yn y dyfodol ar 'Adolygiad o faint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau', awgrymwyd y gallai fod i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried yn y lle cyntaf a byddai'r Swyddog Monitro yn codi'r mater gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ynghylch amserlenni, gyda'r bwriad o ddod ag adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor ym mis Medi neu fis Rhagfyr

·         mewn perthynas â’r eitem ‘Monitro’r Trefniadau Gweithio Rhanbarthol’ yn y dyfodol, awgrymwyd y dylai mwy o eglurder ar y sefyllfa o ran Cyd-bwyllgorau Corfforaethol fod ar gael erbyn mis Medi.

·         gofynnodd y Cadeirydd, yn y dyfodol, i'r eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod presennol gael eu cadw ar y rhaglen waith i'r dyfodol a gyflwynwyd gyda'r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.

 

 

12.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 16 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00 am ddydd Gwener 16 Mehefin 2023. 

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A. Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

13.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd eisoes) yn darparu trosolwg o’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn yr aelodau ers 1 Ebrill 2022.

 

Darparodd y Swyddog Monitro grynodeb o bob un o'r saith cwyn a gyflwynwyd, nad oeddent wedi cael eu hymchwilio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny.  O ystyried y newid yn y trefniadau adrodd, nodwyd y gallai cwynion gael eu cyflwyno i OGCC na fyddent yn hysbys hyd nes y byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r gŵyn ai peidio.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm.