Rhaglen
Lleoliad: tbc
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1: ESTYNNIR GWAHODDIAD I'R WASG A'R CYHOEDD FOD YN BRESENNOL Y RHAN HON Y CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm). |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. |
|
HYFFORDDIANT MOESEG A SAFONAU Derbyn adroddiad
gan y Swyddog Monitro ynglŷn a trefniadau a fydd yn cael eu gwneud i
hyfforddiant aelodau newydd ac sy’n dychwelyd ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol
ym mis Mai 2022 (yr Etholiadau) mewn perthynas â’r
Cod Ymddygiad (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
Y BROSES O RECRIWTIO AELODAU ANNIBYNNOL PWYLLGORAU SAFONAU Derbyn adroddiad gan Swyddog Monitro
ynglŷn â’r broses o recriwtio aelodau annibynnol Pwyllgorau Safonau (copi ynghlwm). |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
Safonau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 17 Mehefin. |
|
RHAN 2: EITEM CYFRINACHOL Argymhellir, yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod trafod y mater canlynol oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig (fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf), ei datgelu. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |