Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

DALIWCH SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n

rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Paul Penlington – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen

 

 

 

Cofnodion:

Datganodd Paul Penlington gysylltiad personol ag eitem 9 ar y Rhaglen gan fod cyfeiriadau at gwynion hanesyddol wedi’u cynnwys.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod

fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 326 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 06 Mawrth 2020 (copi ynghlwm).

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Cynigiwyd ac eiliwyd cywirdeb y cofnodion. Ni chymerwyd unrhyw bleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2020 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2020.

 

Materion yn Codi -  

 

Tudalen 8 – Eitem 4 – Cofnodion o’r cyfarfod diwethaf – Amlygwyd nad oedd yr adroddiad ar ‘Gwersi a Ddysgwyd - Gwrandawiad Safonau Arbennig’ wedi’i gynnwys yn y rhaglen. Sicrhaodd y Swyddog Monitro yr aelodau y byddai’n gynwysedig yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

Tudalen 10 – Eitem 7 – Mynychu cyfarfodydd – teimlai’r Aelodau y byddai’n fwy priodol hepgor ‘(os yn gyflym)' o'r cofnodion.

Tudalen 10 – Eitem 7 – Presenoldeb mewn cyfarfodydd – nodwyd mai gwariant ar gadw cyfrifon a oedd wedi achosi problem ac nid yr ymarfer safonol fel y cofnodwyd yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD, y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2020 fel cofnodion cywir.

 

5.

LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 287 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r

aelodau am gyhoeddiad diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr

Ombwdsmon.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd unrhyw bleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

      i.        Bod aelodau’r Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achosion y Cod Ymddygiad.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (SM) adroddiad am Lyfr Achosion Cod Ymddygiad - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hysbysodd y SM y Pwyllgor mai bwriad y Llyfr Achosion oedd cynorthwyo aelodau ac eraill i ystyried a oedd yr amgylchiadau yr oeddent yn eu hwynebu yn arwain at dorri’r Cod. Roedd hefyd yn darparu gwybodaeth am y ffordd yr oedd yr Ombwdsmon a phwyllgorau safonau eraill yng Nghymru yn ymdrin ag achosion.

 

Amlygodd y SM achosion yn y Llyfr Achosion yn ymwneud â:

  • Rhif yr Achos: 201805269 - Dyletswydd i gynnal y gyfraith - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Ni chymerwyd unrhyw gamau
  • Rhif yr Achos: 201807334 – Datgelu a chofrestru buddiannau - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Ni chymerwyd camau

 

Oherwydd pandemig Covid-19, esboniodd y SM bod posibilrwydd y gwelir cynnydd mewn achosion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nododd y Cadeirydd ei bryder na ymchwiliwyd i’r achos cyntaf.  Pwysleisiwyd nad oedd y cefndir na’r manylion wedi’u darparu. Gan hynny roedd yn anodd deall y rhesymeg y tu ôl i pam na chafodd ei ymchwilio.

Cynghorir Aelodau a Chynghorwyr Sir Ddinbych i sefydlu debyd uniongyrchol ar gyfer Treth Y Cyngor er mwyn cynnal taliadau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am ddarparu manylion y ddau achos.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos

y Cod Ymddygiad.

 

 

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm

Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a

derbyn eu hadroddiadau.

Penderfyniad:

Bu i’r aelodau drafod yr anhawster o ran mynychu cyfarfodydd cyhoeddus oherwydd cyfyngiadau yn ymwneud â phandemig Covid- 19.

 

Penderfynwyd:

      i.        Os yw aelodau yn dymuno mynychu cyfarfod Dinas/Tref/Cymuned, i hysbysu’r Swyddog Monitro i gynorthwyo i wneud y trefniadau angenrheidiol.

 

Cofnodion:

Nodwyd ers y cyfarfod diwethaf, oherwydd y cyfyngiadau, nad oedd aelodau wedi gallu mynychu unrhyw gyfarfodydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro (SM) bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r rheoliadau yn ymwneud â chyfarfodydd o bell. Byddai’r awdurdod yn annog Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gynnal cyfarfodydd o bell wrth fynd ymlaen. Dywedodd SM bod yr awdurdod wedi profi dulliau o gynnal trefniadau gweithio o bell ar lwyfannau amgen. Roedd nodyn briffio wedi cael ei ddosbarthu i glercod i gynnig arweiniad. Roedd canllawiau wedi’u darparu hefyd gan Un Llais Cymru.

 

Datganodd y SM y dylai aelodau sy’n dymuno mynychu unrhyw gyfarfodydd ei hysbysu ef. Byddai’n ymgynghori â’r clerc perthnasol wedyn i wneud trefniadau i fynychu yn bersonol neu o bell. Roedd aelodau’n falch o glywed y byddai’n bosibl mynychu cyfarfodydd o bell. Amlygwyd y byddai cynnal cyfarfodydd o bell o bosibl yn annog mwy o ddiddordeb gan y cyhoedd mewn cyfarfodydd cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r SM am ei gefnogaeth i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac anogodd aelodau i gysylltu â’r SM yn uniongyrchol am gefnogaeth wrth fynychu cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD - nodi’r pwyntiau y soniwyd amdanynt uchod.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 175 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd unrhyw bleidlais ffurfiol.  

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar yr argymhellion a wnaed yn ystod trafodaethau ynghylch eitemau yn gynharach ar y rhaglen, i gymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (SM), Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cadarnhawyd bod Gwersi a Ddysgwyd Gwradnawiad Safonau Arbennig wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yng nghyfarfod mis Rhagfyr 2020.

 

Nodwyd nad oedd amserlen cyfarfodydd 2021 wedi cael ei chymeradwyo gan y Cyngor Llawn eto felly nid oedd ar yr adroddiad Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cadarnhawyd y byddai’r dyddiadau cymeradwy yn cael eu cynnwys yn rhaglen y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.

 

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00 a.m. ar y 4 Rhagfyr 2020

Penderfyniad:

Nodwyd dyddiad nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

 

Cofnodion:

Trefnwyd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor Safonau ddydd Gwener 04 Rhagfyr 2020.  Cadarnhawyd y byddai’r cyfarfod hwn o bosibl yn cael ei gynnal o bell.

 

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

9.

COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n

rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon

Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd unrhyw bleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynwyd: y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (SM) yr adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i roi trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ionawr 2018.

 

Siaradodd y SM am gwynion a gyflwynwyd yn ymwneud â chynghorau yn Sir Ddinbych, gan roi manylion amlinellol natur y cwynion a wnaed a'r camau a gymerwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cadarnhawyd bod yr Ombwdsmon wedi parhau i ddefnyddio’r un weithdrefn i ganfod a oedd angen ymchwilio i gŵyn. Roedd datrysiad lleol yn cael ei annog o hyd.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi cynnwys yr adroddiad.  

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15 a.m.