Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

None.

 

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, a Rheoliad 26 Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, fel y diwygiwyd, bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem busnes canlynol, sef trafod ystyriaethau’r Pwyllgor Safonau a sefydlwyd dan darpariaethau Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000, mewn cyrraedd canfyddiad ar unrhyw fater y cyfeirir ato ac ystyrir na ddylid datgelu’r wybodaeth fel nad yw materion y pwnc yn destun rhagfarn gan unrhyw gyhoeddusrwydd posib o’r achos.

 

 

3.

COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ystyried adroddiad cyfrinachol gan yr Ombwdsmon Y Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) am gŵyn bod Cynghorydd Tref o bosib wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor Tref. 

 

Cyflwynwyd cwyn i'r PSOW ar 18 Mai 2017 gan Gynghorydd Tref yn dilyn casgliad honedig o ddigwyddiadau.  Felly, mae Adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000 (y Ddeddf) yn nodi y gallai PSOW, ar ôl cael cwyn, benderfynu cynnal ymchwiliad.  Bu i’r PSOW benderfynu ymchwilio i’r cwyn hwn.  Pwrpas yr ymchwiliad oedd penderfynu pa ganfyddiadau sydd ar gael dan A69(4) o’r Ddeddf oedd fwyaf priodol.  

 

Yn yr achos hwn, daeth y PSOW i gasgliad, ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, bod y dystiolaeth yn awgrymu nad oedd y Cynghorydd Tref wedi dangos parch ac ystyriaeth tuag at yr achwynydd a Rhingyll yr Heddlu mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016 a 11 Mai 2017. Felly, penderfynodd y PSOW y dylai’r materion a oedd yn destun ymchwiliad gael eu cyfeirio at y Swyddog Monitro er mwyn i'r Pwyllgor Safonau eu hystyried.  

 

Amlinellodd y Cadeirydd yr achos a nododd o fewn y cod ymddygiad, bod rhaid i Gadeiryddion:-

·         ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill;

·         i beidio ag ymddwyn mewn modd a fyddai’n rhesymol i ystyried  yn dwyn anfri ar eich swydd neu’r awdurdod

 

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad a’r honiadau a gyflwynwyd.  Penderfynwyd yn unfryd bod digon o dystiolaeth i’r mater barhau i Wrandawiad fel bod y Cynghorydd Tref yn cael cyfle i wneud sylwadau.  

 

Cadarnhawyd y byddai’r Swyddog Monitro yn hysbysu'r Cynghorydd Tref am benderfyniad y Pwyllgor a'r weithdrefn y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei fabwysiadu i dderbyn ac ystyried unrhyw sylwadau y hoffai ei  wneud.

 

Aeth y Swyddog Monitro a’r Cadeirydd drwy’r broses o baratoi ar gyfer y Gwrandawiad i ystyried sylwadau.  Eglurwyd pwerau’r Pwyllgor Safonau a gweithdrefn y Gwrandawiad.

 

 Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro gysylltu â'r PSOW ynghylch un agwedd o’r adroddiad ac a fyddai unrhyw dystion yn cael eu galw, cyn ysgrifennu at y Cynghorydd Tref.

 

Cadarnhawyd y byddai gan yr achwynydd hawl i fynychu’r gwrandawiad, a gallai fynychu gyda sylwadau p’un ai’n gymwys yn gyfreithiol neu beidio.

 

Hefyd cadarnhawyd y byddai’r cynrychiolydd PSOW (Swyddog Ymchwilio) yn bresennol yn y Gwrandawiad.

 

Yn y cyswllt hwn, mynegodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Andrew Thomas eu diolch i’r Swyddog Monitro am arwain y Pwyllgor drwy'r adroddiad a’r prosesau sydd ynghlwm.

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi cyfle i’r Cynghorydd Tref wneud sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig mewn perthynas â chanfyddiadau’r ymchwiliad, ac unrhyw honiad y mae wedi methu neu efallai wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.