Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN, LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau i Aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Safonau. Enwebodd y Cynghorydd Andrew Thomas
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Paul
Penlington. Ni dderbyniwyd enwebiadau
eraill ac felly; PENDERFYNWYD bod yr Aelod Annibynnol Julia Hughes yn cael ei phenodi yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Safonau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad personol gydag eitem 12 fel aelod o
Gyngor Tref Prestatyn. Datganodd yr
Aelod Lleyg Annibynnol Peter Lamb gysylltiad personol gydag eitem 7 gan fod
aelod o’r teulu wedi cynnal trafodaethau busnes ynglŷn â’r safle
arfaethedig. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 296 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Medi 2017 (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Medi
2017. Materion yn codi - Tudalen 8- eitem
4- materion yn codi yn y cofnodion - dosbarthodd y Swyddog Monitro gopïau papur
yn rhestru manylion cyswllt Clercod Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas. Tudalen 9 – eitem
6 – Hyfforddiant y Cod Ymddygiad – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y cynhaliwyd
hyfforddiant ac fe gafwyd presenoldeb da.
Roedd yr holl Gynghorwyr wedi mynychu’r hyfforddiant. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi
2017 fel cofnod cywir. |
|
LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 281 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu)
yn hysbysu’r aelodau o gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
hysbysu aelodau o'r rhifyn diweddaraf o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr
Ombwdsmon sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2017-Medi 2017 a mis
Hydref 2017-Rhagfyr 2017. Roedd manylion y
cwynion a archwiliwyd yn ystod y cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad
a’u crynhoi gan y Swyddog Monitro. Ar gyfer
chwarter mis Gorffennaf 2017 i fis Medi 2017 roedd 4 crynodeb achos, 3 achos
lle y penderfynwyd nad oedd angen camau pellach gan nad oedd tystiolaeth o
dorri’r cod ymddygiad ac 1 a gyflwynwyd i Banel Dyfarnu Cymru. Roedd yr achos
a ddygwyd i sylw Panel Dyfarnu Cymru yn ymwneud â chyn-aelod o Gyngor Dinas Sir
y Fflint. Roedd y cyhuddiad yn ymwneud
â dau e-bost yr oedd y cyn-gynghorydd wedi’u hanfon at reolwr tîm yn adran
gynllunio’r Cyngor. Daeth y Panel i’r
penderfyniad nad oedd y cyn-Gynghorydd wedi dangos parch nac ystyriaeth ar
gyfer swyddog y Cyngor ac roedd ymddygiad o’r fath yn cael ei ystyried fel
bwlio ac aflonyddu swyddog y Cyngor.
Penderfynodd y Panel drwy benderfyniad unfrydol y dylid gwahardd y
cyn-Gynghorydd rhag cymryd rhan yn yr ail-etholiad ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
ac unrhyw awdurdod perthnasol arall am gyfnod o 14 mis. Ar gyfer chwarter mis Hydref 2017 i fis Rhagfyr 2017 roedd 5 crynodeb
achos, 4 achos lle y penderfynwyd nad oedd angen camau pellach gan nad oedd
tystiolaeth o dorri'r cod ymddygiad ac un achos lle nad oedd angen camau
pellach. Eglurodd y Cadeirydd ei fod ef a’r Swyddog Monitro wedi mynychu cyfarfod
gydag Ombwdsmon Cymru ac wedi derbyn eglurhad o'r gweithdrefnau a ddilynir wrth
flaenoriaethu cwynion. Mae'r
penderfyniad i archwilio cwynion o fewn pŵer yr Ombwdsmon. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am y diweddariad ac am yr
eglurhad ar gyfer rhai o’r cwynion a dderbyniwyd. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Safonau
yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos y Cod Ymddygiad. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN GYNGOR CYMUNED LLANBEDR DYFFRYN CLWYD PDF 192 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu)
ynglŷn â chais am ollyngiad a wnaed gan aelodau Cyngor
Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro Gais am Ollyngiad gan aelodau Cyngor Cymuned Llanbedr DC (copi
ynghlwm) i ganiatáu i'r Pwyllgor ystyried y cais, penderfynu a ddylid caniatáu
gollyngiad ac unrhyw amodau y dylid eu cynnwys.
Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Llanbedr DC a chyflwyno’r Cynghorydd
Lyn Evans a’r Cynghorydd Bob Barton. Darparodd y
Cynghorydd Bob Barton wybodaeth yn egluro'r rheswm dros y cais am
ollyngiad. Yng nghyfarfod y Cyngor
Cymuned ym mis Mawrth 2017 cafwyd trafodaeth i fynd i’r afael â busnesau lleol
a oedd wedi cau yn ddiweddar. Sefydlwyd
grŵp i ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio'r dafarn fel Canolbwynt
Cymunedol. Mynegodd y Cynghorydd Barton
mai bwriad y Canolbwynt Cymunedol fyddai caniatáu i'r gymuned weithio'n
rhagweithiol gyda'r gymuned a grwpiau. Roedd nifer o opsiynau wedi'u hystyried a'u
harchwilio. Eglurodd y
Cynghorydd Lyn Evans bod cymdeithas wedi’i sefydlu. Roedd y gymdeithas newydd yn cynnwys 2 aelod
o’r Cyngor Cymuned. Am y rheswm hwn
roeddent yn ceisio cais am ollyngiad. Cododd y Cadeirydd
gwestiwn ynglŷn â pherchnogaeth y dafarn a’i brydlesu i’r gymdeithas
newydd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Barton
y cafwyd trafodaeth ynglŷn â phrydlesu’r sefydliad yn ôl, ond roedd y
trafodaethau yn y camau cynnar ar hyn o bryd.
Roedd cyfarfodydd y Cyngor Cymuned wedi’u trefnu i drafod y datblygiad
ymhellach wrth i’r prosiect ddatblygu. Holodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes, a fyddai'r cais am ollyngiad ar gyfer dau Gynghorydd
Cymuned yn aros yr un fath yn y dyfodol neu a fyddai'n debygol o newid. Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd eglurodd y
Cynghorydd Evans mai ei fwriad oedd sefydlu’r Canolbwynt Cymunedol a sicrhau ei
fod yn cael ei sefydlu a’i gynnal yn effeithlon, ac yna ei drosglwyddo i
bartïon eraill sydd â diddordeb. Eglurodd y
Swyddog Monitro i'r Pwyllgor y gellir caniatau eithriad neu ollyngiad gan y
Pwyllgor Safonau drwy rinwedd Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cyfeiriodd at y
rheoliad yn Atodiad 2 a'r rhai a oedd yn berthnasol i'r achos hwn - Rheoliad 2
(d) a (h). Er mai dim ond un
sail sydd ei angen ar y Pwyllgor Safonau i ganiatáu gollyngiad nid oedd yn
rhaid iddynt ei ganiatáu. Gallai’r
Pwyllgor gyflwyno terfynau amser ac amodau ariannol i’r gollyngiad. Ar y pwynt hwn
torrodd y pwyllgor i ystyried y gollyngiad ac fe - BENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo
gollyngiad i ddau Aelod o Gyngor Cymuned Llanbedr DC sef y Cynghorydd Lyn Evans
a'r Cynghorydd Tim Baker, mewn perthynas â busnes yn ymwneud â chymdeithas
gymunedol a sefydlwyd mewn perthynas â thafarn The Griffin, yn unol â rheoliad
2(h) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymeradwyo Gollyngiadau) (Cymru) 2001: i.
mae’r Gollyngiad yn berthnasol i’r ddau aelod a enwyd yn unig; ii.
mae’r Gollyngiad yn berthnasol am 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor
Safonau (3 Ebrill 2018); iii.
mae’n rhaid darparu enw a chyfansoddiad y gymdeithas gymunedol i'r Swyddog
Monitro o fewn 7 diwrnod ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Safonau (3 Ebrill 2018); iv.
mae’r Gollyngiad yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig ag aelodaeth y gymdeithas
gymunedol yn unig a byddai angen gollyngiad ychwanegol ar gyfer cysylltiad
ariannol gyda'r gymdeithas; v.
mae’r Gollyngiad yn caniatáu i’r ddau aelod a enwyd drafod unrhyw fusnes
sy'n ymwneud â'r gymdeithas gymunedol ond nid yw'n rhoi caniatâd iddynt
bleidleisio ar y materion hyn. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Cynghorwyr o Gyngor Cymuned Llanbedr DC am fynychu’r cyfarfod.
|
|
Ar y pwynt hwn
(15:45pm) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 16.00 pm |
|
TÂL A CHYFRIFOLDEBAU AELODAU LLEYG PDF 295 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr
y Gwasanaethau Democrataidd
(copi wedi'i amgáu) ar dâl a chyfrifoldebau aelodau lleyg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau drwy'r adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol). Atgoffodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau bod aelodau'r Pwyllgor Safonau
wedi gofyn am adroddiad ar Dâl a Chyfrifoldebau Aelodau Lleyg yn y cyfarfod ar
22 Medi. Hysbyswyd yr Aelodau bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
yn gosod y ffigyrau tâl. Roedd gan
aelodau lleyg sydd â hawliau pleidleisio hawl i hawlio ffioedd dyddiol neu am hanner
diwrnod am fynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau awdurdodedig, byddai amser
paratoi a theithio yn cael ei gynnwys hefyd.
Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y gallai aelodau Pwyllgorau
Safonau hawlio costau teithio pe baent yn mynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref,
Cymuned a Dinas ar ran y Pwyllgor Safonau.
Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i fynychu cyfarfodydd i ddangos
cefnogaeth ac arweiniad i Gynghorau Tref, Cymuned a Dinas. Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd am yr adroddiad
ac am ateb y cwestiynau a ofynnwyd gan yr Aelodau. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Safonau
yn nodi’r wybodaeth yn Adroddiad Tâl a Chyfrifoldebau Aelod Lleyg. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru yn Wrecsam ym
mis Tachwedd 2017. Roedd y cyfarfod yn llawn gwybodaeth ac wedi’i drefnu’n
dda. Tynnodd y Cadeirydd sylw at
Gadeirydd y cyfarfod a chanmol ei ddull o gynnal y cyfarfod. Roedd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) wedi mynychu cyfarfod Cyngor
Cymuned Betws Gwerful Goch. Dywedodd JH bod
y cyfarfod yn ddymunol iawn a’i bod wedi cael croeso cynnes. Roedd presenoldeb da yn y cyfarfod ac roedd yn
dilyn y rhaglen. Gwnaed
cyflwyniadau i’r aelodau ac atebwyd y cwestiynau’n llawn. Tynnwyd lluniau ac fe gymerwyd manylion gan aelodau
newydd y Cyngor Cymuned er mwyn eu rhoi ar y wefan. Teimla JH bod y cyfarfod yn gynhyrchiol ac roedd
strwythur da iddo. Cafwyd
trafodaethau ynglŷn â Hyfforddiant Cod Ymddygiad ac roedd aelodau
presennol ac aelodau newydd yn mynd i fynychu'r hyfforddiant. Hysbysodd JH y pwyllgor ei bod yn teimlo bod y
cyfarfod wedi’i drefnu’n dda ac yn ddefnyddiol. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau ynglŷn â pha mor bwysig ydyw bod
aelodau'r Pwyllgor yn mynychu cynghorau Cymuned / Tref a Dinas i gynnig
cefnogaeth a gwybodaeth. Nododd y
Swyddog Monitro bresenoldeb JH a chadarnhaodd y byddai’n diweddaru’r adroddiad
presenoldeb i adlewyrchu hyn. Eglurodd y
Swyddog Monitro y byddai rhestr newydd o ymweliadau Cynghorau Cymuned / Tref a
Dinas yn cael ei dosbarthu i'r aelodau i'w hadolygu a chyda ymweliadau
arfaethedig er mwyn i’r aelodau fynychu'r cyfarfodydd. PENDERFYNWYD,
I.
nodi’r
presenoldeb a diweddaru’r adroddiad presenoldeb i adlewyrchu hyn.
II.
rhestr newydd o
gynghorau Cymuned, Tref a Dinas yn cael ei dosbarthu i’r aelodau. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 176 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
Safonau (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr
aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:-
PENDERFYNWYD yn amodol ar y diwygiadau uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 26 Mehefin 2018. Cofnodion: Nododd yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar
gyfer 10.00am ddydd Gwener 29 Mehefin 2018 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y
Sir, Rhuthun. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn
aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i roi
trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill 2014. Roedd y Pwyllgor
Safonau eisoes wedi gofyn am gael gwybod
yn rheolaidd am lefel y cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn darparu trosolwg o'r cwynion a gyflwynwyd
ers 1 Ebrill 2014. Roedd 13 achos heb eu
holrhain, 2 achos wedi dod i ben, 9 achos heb eu harchwilio ac 2 achos lle
na chymerwyd unrhyw gamau pellach. Darparodd y
Swyddog Monitro rywfaint o gyd-destun ac eglurhad ynglŷn â chefndir y ddau
gŵyn sy'n parhau ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu hadrodd i'r
Pwyllgor wrth i'r archwiliadau fynd rhagddynt.
PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 16:40 p.m. |