Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r
Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn
unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B
(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 371 KB Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 (copi wedi’i
amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Medi
2018: Tudalen 7 (Presennol) – Dylai ddarllen fel ‘Cynghorydd’ yn y ffurf
unigol. Tudalen 7 (Eitem 4 – trydydd paragraff) – dylai fod yn 'where' nid 'were'
yn y Saesneg Tudalen 9 (Eitem 8 - pwynt bwled cyntaf) – Dylai trefn y geiriau ddarllen
yn wahanol Tudalen 10 (Eitem 8 – trydydd paragraff) – paragraff ddim yn darllen yn
dda. Prif lythyren ar goll ar
ddechrau’r frawddeg. Tudalen 10 (eitem 8 – pedwerydd paragraff) – roedd y gair ‘Committee’s’
wedi’i gamsillafu yn y Saesneg Tudalen 11 (eitem 9 – trydydd pwynt bwled) – bwlch yn anghywir rhwng
geiriau. Materion yn Codi: Tudalen 11 – Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol –
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi cysylltu â Chlerc Cyngor Cymuned
Llanbedr ynglŷn â chais pellach ar gyfer gollyngiad i’r Pwyllgor Safonau.
Daethpwyd i’r casgliad ar y pryd nad oedd y Cyngor Cymuned angen unrhyw
ollyngiadau pellach. Dywedodd y Swyddog
Monitro mai cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned oedd gofyn am ollyngiadau
pellach. Cytunwyd bod y Swyddog Monitro
yn ysgrifennu at Glerc y Cyngor Cymuned i gadarnhau’r gofynion a chyfrifoldebau
o ran ceisiadau gollyngiad. Gofynnodd yr Aelodau i lythyr ychwanegol gael ei
ddosbarthu i holl Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned gyda’r weithdrefn
gollyngiadau yn cynnwys copi o’r ffurflen gais PENDERFYNWYD ·
yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 fel cofnod cywir. ·
bod llythyr yn cael ei anfon i Lanbedr i amlygu
gofynion y weithdrefn ar gyfer gollyngiadau [Y Swyddog Monitro i weithredu] a dosbarthu llythyr i holl
Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i roi arweiniad ar gyfer gollyngiadau, gan
gynnwys copi o ffurflen gais. [Y Swyddog
Monitro i weithredu]. |
|
ADOLYGIAD O BRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD CYNGHORAU TREF, DINAS A CHYMUNED Cael adroddiad ar
lafar gan Lisa Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol am bresenoldeb mewn
cyfarfodydd Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned. Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol ddiweddariad ar lafar ar
bresenoldeb mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned gan gynrychiolwyr y Pwyllgor
Safonau. Rhoddodd yr LSM gefndir byr i’r rheswm dros bresenoldeb aelodau’r Pwyllgor
Safonau mewn cyfarfodydd cyngor cymuned.
Cynhaliwyd ymweliadau â chynghorau cymuned ers 2013. Rhoddodd yr LSM restr o gynghorau cymuned na
ymwelwyd â nhw ers 2013. Daeth yr
Aelodau i’r casgliad y dylid rhoi blaenoriaeth i fynychu’r rhai na ymwelwyd â
nhw. Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd
yna gyfyngiad cyfreithiol i atal cynghorwyr sir neu gymuned i fynychu cyfarfod
cyngor cymuned gwahanol. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro os oedd y cynghorwyr sir
yn gwybod ymlaen llaw pa gyfarfodydd cyngor cymuned yr oeddent yn bwriadu
ymweld â nhw, gellir cyfathrebu cyn y cyfarfod i sicrhau y cytunwyd ar yr
ymweliad. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gellir dosbarthu sgript i
aelodau’r Pwyllgor Safonau ddarparu i gyfarfodydd cymunedol i aelodau cyn
iddynt fynychu cyfarfod [Rheolwr
Gwasanaethau Cyfreithiol i weithredu]. Cytunodd yr aelodau o’r rhestr o
gynghorau na ymwelwyd â nhw i fynychu cyfarfod erbyn Mehefin 2019. Cadarnhaodd y Cadeirydd eitem ar gyfer y
rhaglen yng nghyfarfod Mehefin 2019 i adolygu presenoldeb mewn
cyfarfodydd. PENDERFYNWYD ·
y Pwyllgor
Safonau i nodi’r diweddariad ar lafar a roddwyd gan y Rheolwr Gwasanaeth
Cyfreithiol; ·
cytunodd aelodau
i fynychu cyfarfodydd y cynghorau cymuned na ymwelwyd â nhw erbyn Mehefin 2019
a ·
y wybodaeth
ddiweddaraf am bresenoldeb mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gael ei
ychwanegu at y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer Mehefin 2019. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYFRIFON 2017/18 PDF 275 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) am Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i roi
manylion Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2017/18. Rhoddodd yr Ombwdsmon wybodaeth gefndir o rôl
yr Ombwdsmon i’r aelodau. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y nifer o gwynion cod ymddygiad yn ystod
cyfnod yr adroddiad wedi codi 14%. Roedd yr adroddiad wedi dangos gostyngiad
mewn cwynion o ran Awdurdodau Unedol a chynnydd mewn cwynion o ran Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant cod
ymddygiad wedi’i ddarparu i Gynghorwyr Sir a Chymuned. Rhoddwyd cadarnhad nad oedd yr un o’r ymchwiliadau a gwblhawyd yn llawn a
fanylwyd yn yr adroddiad wedi eu cyfeirio i'r Pwyllgorau Safonau. Roedd 3 ymchwiliad wedi eu cyfeirio i Banel
Dyfarnu Cymru. Dywedodd y Swyddog Monitro, yn ystod y cyfnod bod 2 gwyn wedi eu derbyn yn
erbyn Cynghorwyr Sir a 2 gwyn yn erbyn Cynghorwyr Cymuned. Pwysleiswyd nad oedd yr un o’r pedair cwyn
wedi eu hymchwilio. Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder
- ·
Y lefel uchel o gwynion yn erbyn datgan a chofrestru
diddordebau, yn amlygu pwysigrwydd datgan cysylltiad os oes angen. ·
Gall yr Ombwdsmon edrych ar ystod o ddigwyddiadau a
datblygu cwrs ymddygiad i’w gyflwyno fel tystiolaeth os bydd angen. ·
Roedd cynnydd mewn cwynion a dderbyniwyd yn dangos yn
gadarnhaol bod y cyhoedd wedi mynegi pryder a diddordeb. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro yr ystyrir hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr
Dinas, Tref a Chymuned yn 2019. PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Safonau yn nodi’r wybodaeth o fewn Adroddiad Blynyddol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017/18.
|
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau
yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Roedd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) wedi mynychu Cyngor Cymuned
Trefnant ddydd Mercher 21 Tachwedd 2018.
Roedd JH yn teimlo bod y cyfarfod yn un pleserus iawn. Roedd nifer dda wedi mynychu'r cyfarfod,
roedd y Cadeirydd yn arwain y cyfarfod yn dda gyda chefnogaeth gan y
Clerc. Roedd yr holl aelodau’n cyfrannu
at y cyfarfod pan oedd hynny’n briodol.
Roedd holl feysydd trafodaeth wedi derbyn sylw. Roedd aelodau wedi datgan cysylltiad a
gadael yr adeilad ar bwyntiau priodol pan oedd eitemau'n cael eu trafod. Daethpwyd i’r casgliad bod y cyfarfod wedi’i
gynnal yn dda. O’r drafodaeth, gofynnodd JH a oedd unrhyw hyfforddiant wedi’i ddarparu i
Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ar ddiogelu data a’r ddeddfwriaeth Rheoliad
Diogelu Data Cyffredinol newydd. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol
bod sesiwn hyfforddiant ar y gweithdrefnau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
newydd wedi’i ddarparu i Glercod Cyngor Dinas, Tref a Chymuned. Roedd nodyn briffio wedi'i ddosbarthu i holl
reolwyr data er gwybodaeth. Roedd y
nodyn briffio wedi cynnwys manylion cyswllt os oedd angen cefnogaeth
ychwanegol. PENDERFYNWYD nodi’r presenoldeb a diweddaru’r adroddiad presenoldeb i adlewyrchu’r
ymweliad gan Julia Hughes. |
|
GWEITHDREFNAU GWRANDAWIADAU PDF 268 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) yn ymwneud â’r weithdrefn a fabwysiadwyd gan y
Cyngor ar gyfer cynnal gwrandawiadau gan y Pwyllgor Safonau yn ymwneud â
honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â’r newidiadau a awgrymwyd i’r weithdrefn
a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer cynnal gwrandawiadau gan y Pwyllgor
Safonau yn ymwneud â honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad. Arweiniodd y Swyddog Monitro yr aelodau drwy’r
adroddiad a chyfeiriodd at y newidiadau i’r weithdrefn a amlygwyd. Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn llawn
gwybodaeth ac yn ddefnyddiol iawn.
Roedd y weithdrefn a’r newidiadau yn amlwg ac yn deg. Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd y Cadeirydd
a effeithir ar y ddeddfwriaeth Hawliau Dynol yn dilyn Brexit. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y
ddeddfwriaeth yn wahanol i Ddeddfwriaeth Yr Undeb Ewropeaidd a byddai’n parhau
yn dilyn Brexit. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro yn dilyn
cymeradwyaeth y Pwyllgor Safonau, y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Cyngor ei ystyried. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am yr
adroddiad tryloyw ac eglurhad mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau. PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor Safonau yn nodi’r newidiadau i’r weithdrefn fel y nodwyd
yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn ac yn argymell y newidiadau i’r Cyngor ar gyfer
eu hymgorffori yn y Cyfansoddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 186 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi
wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a
chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiad canlynol:- ·
Adolygu presenoldeb mewn Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned
– 7 Mehefin 2019. ·
Adolygu’r Pwyllgor Safonau (adroddiad 2 flynedd) – 15
Mawrth 2019. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n dosbarthu unrhyw wybodaeth a
dyddiadau hyfforddiant i aelodau fynychu.
PENDERFYNWYD
yn amodol ar y
newidiadau uchod, y cytunir ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Mae cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00 a.m. ar 15 Mawrth 2019 yn
Ystafell Gynadledda 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Hysbysodd y Swyddog Monitro’r aelodau bod dyddiad cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 15 Mawrth 2019.
Cadarnhaodd y byddai’n rhaid newid y dyddiad arfaethedig a chadarnheir
ar ddyddiad newydd gyda’r aelodau ar ôl cytuno arno.
|
|
PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y
Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi
trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) i roi trosolwg i'r Aelodau o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill 2014. Darparodd y Swyddog Monitro rywfaint o gyd-destun ac eglurhad ynglŷn â
chefndir y cwynion ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu hadrodd i'r
Pwyllgor. Gofynnodd yr Aelodau i linell i nodi cwynion a drafodwyd yn flaenorol a
chwynion newydd gael ei hychwanegu i’r tabl ar gyfer eglurhad. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Safonau
yn amodol ar yr uchod, yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:10 p.m. |