Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd
Gordon Hughes a Paul Penlington. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 358 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10
Gorffennaf 2018: Materion yn codi - Tudalen 2 – Mynegodd y swyddog monitro ymddiheuriad am
beidio â chyflwyno adroddiad blynyddol y cadeirydd i’r Cyngor, ond cadarnhaodd
y byddai’n cael ei ychwanegu i'r rhaglen ar gyfer y Cyngor naill am ym mis
Ionawr neu Chwefror i gynnwys y ddwy flynedd. Tudalen 3 – Roedd y polisi cyfryngau cymdeithasol yng
nghamau olaf ei ddyluniad, byddai digwyddiad lansio yn cael ei gynnal.
Hysbysodd y swyddog monitro’r pwyllgor byddai’r polisi yn cael ei ddosbarthu
unwaith bydd wedi’i orffen. Cafodd y pwyllgor hefyd wybod nad oedd unrhyw
gynlluniau ar gyfer hyfforddiant na gweithdai ar gyfer y polisi cyfryngau
cymdeithasol. Tudalen 4 – Cynghorodd y swyddog monitro'r pwyllgor i beidio
â rhannu unrhyw luniau lle gellid adnabod plentyn. Eglurwyd gallai Cynghorwyr
ail-bostio neu rannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol os oeddent yn tarddu
o gyfrif yr ysgol. Tudalen 5 – Ymddiheurodd y swyddog monitro am anghofio
ychwanegu’r golofn atodol i’r tabl, byddai’n cael ei ychwanegu erbyn y cyfarfod
nesaf. PENDERFYNWYD y dylid, yn
amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
10 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN AELODAU CYNGOR CYMUNED LLANBEDR DYFFRYN CLWYD PDF 194 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynglwm) ynglŷn â chais am ollyngiad a wnaed gan aelodau Cyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) mewn perthynas â'r cais
am ollyngiad a wnaed gan aelodau o Gyngor Llanbedr Dyffryn Clwyd. Rhoddodd y Swyddog
Monitro wybod i'r pwyllgor fod cais am estyniad i'r gollyngiad mewn perthynas
â'r ddau gynghorydd y rhoddwyd caniatâd iddo ym mis Ebrill, mewn perthynas â’r
Cynghorwyr Lyn Evans a Tim Baker wedi'i gyflwyno, ynghyd â chais am roi
gollyngiad i Gynghorydd ychwanegol, sef y Cynghorydd Dave Ritchie. Atgoffwyd y
pwyllgor mai'r dyddiad gwreiddiol y byddai'r gollyngiad yn dod i ben oedd y
3ydd o Hydref. Hysbysodd y
Cynghorwyr Lyn Evans o Gyngor Cymuned Llanbedr DC y pwyllgor fod aelodaeth y
Cyngor Cymuned wedi codi i hyd at 9 aelod, gydag aelodau cyfetholedig. Cododd y Cynghorydd
Evans y pwynt hefyd y byddai prosiect Hyb Cymunedol Griffin yn codi arian ar
gyfer datblygiad y safle a fyddai'n caniatáu i bobl brynu cyfranddaliadau yn y
Griffin Inn. Y dyddiadau pryd y gellid prynu'r cyfranddaliadau oedd rhwng 1
Hydref a 17 Tachwedd 2018. Cynhaliwyd trafodaeth
o ran y Cynghorwyr Cymuned a allai gael cysylltiad rhagfarnol yn y Griffin Inn,
pe baent yn prynu unrhyw gyfranddaliadau. Yn dilyn y dyddiad
cau o ran prynu cyfranddaliadau, byddai cais am ollyngiad yn dod gerbron y
pwyllgor nesaf a fyddai'n cyfarfod ar 30 Tachwedd. Cytunodd y bwrdd
i'r opsiwn a godwyd gael ei dderbyn gan y pwyllgor. PENDERFYNWYD - Bod y Pwyllgor yn caniatáu: ·
gollyngiad
am chwe mis ychwanegol, i'r Cynghorwyr Lyn Evans a Tim Baker a chaniatáu
gollyngiad am chwe mis i'r Cynghorydd Dave Ritchie. |
|
CANIATÁU GOLLYNGIADAU PDF 270 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sydd yn sôn am y Pwyllgor hwn yn
cytuno i roi gollyngiadau a’r Arweiniad y dylai ei roi i Gynghorau Tref, Dinas
a Chymuned yn ogystal ag aelodau etholedig o’r Cyngor Sir mewn perthynas â’r broses o allu gwneud cais am ollyngiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
swyddog monitro'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Pwyllgorau i ffurflen gais a dogfen gyfarwyddyd i aelodau
Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned yn ogystal â Chynghorwyr Sir mewn perthynas â
cheisiadau am ollyngiadau. Tynnodd y Swyddog
Monitro sylw at y ffaith mai bwriad y ffurflen a'r cyfarwyddyd oedd
symleiddio'r broses. Canmolwyd y syniad
o'r ffurflen gan y pwyllgor a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Gellid
newid y geiriad er mwyn osgoi nifer fawr o bobl yn mynychu cyfarfod gollyngiad
a nodi mai dim ond un person fyddai angen mynychu ond byddai croeso i unrhyw
aelodau eraill. ·
A ellid
newid y geiriad yn nhermau lleyg. Ymatebodd y swyddog monitro trwy ddweud bod y
geiriad wedi'i seilio'n fwriadol ar ofyniad rheoleiddio er mwyn eglurder. PENDERFYNWYD - Cymeradwyodd
y pwyllgor y canllaw a'r ffurflen gais ar gyfer Gollyngiadau ynghlwm fel
atodiad 1 a 2 i'r adroddiad. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS Cymru – LLYFR ACHOS COD YMDDYGIAD PDF 277 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau am gyhoeddiad diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o'r rhifynnau diweddaraf o Lyfr Achos Cod
Ymddygiad yr Ombwdsman yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2018. Amlinellwyd
manylion y tair cwyn a ymchwiliwyd yn ystod y cyfnod yn yr adroddiad a chawsant
eu crynhoi gan y Swyddog Monitro. Nid oedd yr un o'r achosion yn ymwneud â
Chynghorwyr yn Sir Ddinbych. Ystyriwyd nad oedd
angen gweithredu pellach ar yr un o'r tri achos. |
|
PANEL DYFARNU CYMRU – CANLLAW SANCSIYNAU PDF 290 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sydd yn ymwneud â'r canllawiau ar gosbau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru i'w defnyddio gan Dribiwnlys Achos neu Dribiwnlys Apêl pan ddarganfyddir bod Cynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad yr Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er
mwyn i’r Pwyllgor nodi cynnwys Canllawiau Sancsiynau - Panel Dyfarnu Cymru. Amlygodd y Swyddog Monitro bod y canllaw i gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ar
sut i roi’r sancsiynau priodol, ond hefyd i helpu'r rhai sydd wedi cael
sancsiynau i ddeall sut mae'r sancsiynau'n gweithio. ·
Tribiwnlysoedd
achos - Mae'r tribiwnlysoedd hyn yn gyfrifol am benderfynu a oedd aelod lleol
wedi torri Cod Ymddygiad eu hawdurdod ac, os felly, ar gyfer penderfynu ar
sancsiynau priodol (os o gwbl). ·
Tribiwnlysoedd
apêl - Mae tribiwnlysoedd apêl yn gyfrifol am adolygu penderfyniad bod aelod
lleol wedi torri'r Cod Ymddygiad ac unrhyw sancsiynau a roddwyd. Gallant
gadarnhau a chymeradwyo unrhyw sancsiwn a osodir neu gyfeirio'r mater yn ôl i'r
Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad ynghylch sancsiwn arall neu wrthdroi
penderfyniad y Pwyllgor bod y Cod wedi’i dorri. Ni all tribiwnlys apêl argymell
sancsiwn nad oedd ar gael i'r Pwyllgor Safonau. ·
Tribiwnlysoedd
achos dros dro – Roedd y tribiwnlys yn gyfrifol am benderfynu ar yr angen i
atal neu atal yn rhannol yr aelod neu’r aelod cyfetholedig o'r awdurdod neu o
rôl yn yr awdurdod. Hyd uchafswm y cyfnod atal neu atal rhannol oedd 6 mis. Yn
wahanol i dribiwnlysoedd achos ac apêl, roedd ataliad gan dribiwnlys achos dros
dro yn weithred niwtral, o gofio natur barhaus ymchwiliad yr Ombwdsmon. Hysbysodd y Swyddog
Monitro'r Pwyllgor, os oedd aelod am apelio unrhyw sancsiynau, byddai angen
dilyn proses ganiatâd, a byddai angen anfon cais at y panel dyfarnu. Trafododd y
Pwyllgor pa wybodaeth y byddai angen ei nodi ar gyfer unrhyw benderfyniad y
gall y Pwyllgor ei gymryd pe bai'n cynnal gwrandawiad. Eglurwyd y byddai'r holl
wybodaeth a fyddai'n berthnasol i'r rheswm dros y penderfyniad yn cael ei nodi.
Byddai’n cael ei wneud i hysbysu'r person a fyddai'n cael sancsiwn, byddai hyn
yn caniatáu iddynt gael yr holl wybodaeth berthnasol y byddent ei angen wrth
ystyried a ddylid apelio'r sancsiwn. Dywedodd y Swyddog
Monitro, ar ôl cyhoeddi'r canllawiau y byddai'r Cyngor yn edrych ar weithdrefn
gwrandawiadau'r pwyllgor Safonau a amlinellir yn y Cyfansoddiad a sicrhau bod y
Canllawiau a'r Cyfansoddiad yn gyson â’i gilydd. Ym mis Tachwedd,
byddai adroddiad yn cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor gyda gwybodaeth yn ymwneud
â'r weithdrefn yn y Cyfansoddiad, ac a yw’r wybodaeth yn cyfateb i'r canllawiau
sancsiynau. PENDERFYNWYD -
bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Canllawiau Sancsiynau Panel Dyfarnu Cymru. |
|
ADBORTH O’R GYNHADLEDD SAFONAU Ystyried adroddiad llafar gan y Cadeirydd. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd
y cynhaliwyd y Gynhadledd Safonau yn Aberystwyth ar y 14eg o Fedi. Soniodd y Cadeirydd
am y rhai a fynychodd gydag ef – ·
Mynychodd
y Swyddog Monitro ochr yn ochr â chyfreithiwr o Sir Ddinbych. ·
Mynychodd
Julia Hughes ond dywedodd ei bod wedi mynychu ar ran Sir y Fflint yn hytrach na
Sir Ddinbych. Hysbyswyd y
pwyllgor y cynhaliwyd 4 gweithdy yn ystod y gynhadledd – ·
Cyfryngau
Cymdeithasol a Bwlio gan swyddogion swyddfa'r Ombwdsmon. ·
Rhannu
arferion da gan gynnwys rôl y pwyllgorau moeseg a safonau - dan arweiniad
Cyngor Ceredigion a Gwynedd. ·
Safonau
yw'r unig ffordd yng Nghymru - dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth
a Gorllewin Cymru a Chyngor Ceredigion. ·
Gwrandawiadau
ac ymarferion safonau - dan arweiniad aelodau Pwyllgor Safonau Powys. Dywedodd y Swyddog
Monitro fod gan bawb a oedd yn bresennol wybodaeth i'w hanfon ymlaen i ganiatáu
i becyn gael ei greu a'i ddosbarthu i'r pwyllgor. Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth am y Gynhadledd Safonau – ·
Roedd
system ac ymarferion y system safonau yng Nghymru yn dda. ·
Roedd
lefel y cwynion wedi cynyddu dros y blynyddoedd, oherwydd colli ffydd y cyhoedd
mewn aelodau etholedig oherwydd sgandal treuliau'r AS. ·
Codwyd
cyfryngau cymdeithasol fel problem i aelodau, y consensws oedd na ddylai'r aelodau
roi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol na fyddent yn ei ddweud wrth rywun yn
uniongyrchol. Codwyd cyfryngau cymdeithasol fel pryder hefyd oherwydd pethau y
gellid eu cyhoeddi cyn bod yn aelod etholedig. ·
Codwyd
oedran aelodau etholedig a bod diffyg cynrychiolaeth pobl ifanc. Nododd yr
aelodau y dylid annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. PENDERFYNWYD –
Bod y pwyllgor yn nodi'r wybodaeth am y gynhadledd safonau. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Ni fu rhestr
ddiweddar o gyfarfodydd, byddai'r swyddog monitro yn cael rhestr ddiweddar. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 175 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w hystyried. Bod gollyngiadau ar
gyfer y Cyngor Cymuned yn Llanbedr DC i'w ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol. Ym mis Tachwedd,
byddai adroddiad yn cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor ar Ganllawiau Sancsiynau
Panel Dyfarnu Cymru a'r darpariaethau tebyg yng Nghyfansoddiad y Cyngor. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10am ar y 30 Tachwedd 2018 yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: 30 Tachwedd 2018 yn
Siambr y Cyngor, Rhuthun am 10.00 a.m. PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail
y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir
ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Monitro'r adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg
i'r Aelodau o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers
1 Ebrill 2014.. Roedd y Pwyllgor Safonau wedi gofyn yn
flaenorol i gael gwybod yn rheolaidd am lefel y cwynion a gyflwynwyd i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhoddodd Rhan 1 o'r tablau fanylion yr
eitemau a gwblhawyd. Rhoddodd Rhan 2 o'r tablau fanylion am
gwynion parhaus. Daeth
y cyfarfod i ben am 12.44 |