Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 187 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2016 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2016.

 

Materion yn codi -

 

Tudalen 9 – Eitem 5 – Fforwm Safonau Gogledd Cymru – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â'r dyddiad y cynhelir y fforwm nesaf yn Sir Ddinbych, eglurodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor bod angen eglurder o ran dyddiadau o ran argaeledd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Holodd y Cadeirydd ynglŷn ag argaeledd hyfforddiant cyfryngu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Safonau, ac fe gytunodd y Swyddog Monitro y byddai'n olrhain y mater ac yn diweddaru'r aelodau.  (GW i weithredu)

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod canllawiau ynglŷn â'r cosbau a gynhyrchwyd gan Banel Dyfarnu Cymru wedi'u dosbarthu i'r Aelodau.

 

 Tudalen 8 - Eitem 4 - Cofnodion - Holodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes am bresenoldeb mewn cyfarfodydd ac am y daenlen o fynychwyr a gynhyrchwyd.  Dosbarthodd y Swyddog Monitro'r rhestr i'r Aelodau ei ystyried. 

 

Tudalen 9 – Eitem 5 – Fforwm Safonau Gogledd Cymru – Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Annibynnol Julia Hughes ynglŷn â chyhoeddi datganiadau cysylltiad a fynegwyd mewn cyfarfodydd Cyngor Dinas/ Tref / Cymuned, eglurodd y Swyddog Monitro y byddai'n arfer da pe bai Datgan Cysylltiad yn eitem ar raglen cyfarfodydd o'r fath.  Dylid storio unrhyw ddatganiadau a wneir fel cofnod ond nid oedd yn ofynnol eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd. 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

5.

HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED – ADOLYGIAD BLYNYDDOL

Derbyn adroddiad llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol).

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at yr adroddiad archwilio a gyflawnodd i asesu hygyrchedd gwybodaeth o wefannau 37 o Gynghorau Dinas / Tref /Cymuned yn Sir Ddinbych o gymharu ag astudiaeth a gynhaliwyd ar ddiwedd 2015- dechrau 2016. Roedd y meysydd a archwiliwyd a'r wybodaeth a geisiwyd yn cynnwys- 

 

·         argaeledd cofnodion blaenorol gan gynnwys y dyddiad

·         manylion dyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod nesaf

·         darpariaethau dwyieithog

·         nodiadau a manylion ychwanegol

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y canfyddiadau yn darparu ciplun o'r adeg hynny, ac y gallai newid.  Cyflwynodd JH adroddiad trosolwg o'r gwaith a wnaed ar draws y 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych a dyma'r prif ganfyddiadau -

 

·         roedd sawl gwefan yn bodoli ond wedi hen ddyddio

·         nid oedd llawer o'r gwefannau’n ddwyieithog

·         roedd rhai gwefannau wrthi’n cael eu datblygu

·         dim ond rhaglenni safonol nad oedd yn newid o gwbl oedd gan sawl cyngor

·         roedd gwefannau'r Cynghorau Tref yn fwy datblygedig ar y cyfan

·         roedd rhai safleoedd yn enghreifftiau ardderchog i ardaloedd eraill eu defnyddio pe baent yn dymuno

·         Nid yw llawer o safleoedd yn gysylltiedig neu nid oedd ganddynt y manylion diweddaraf ar wefan Sir Ddinbych - www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         roedd rhai safleoedd wedi’u cysylltu â www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm (safle Llywodraeth Cymru), ond roedd llawer heb eu cysylltu iddo

·         nid oedd gan bedwar cyngor bresenoldeb electronig

·         nid oedd gan lawer unrhyw fanylion am eu cynghorwyr na sut i gysylltu â nhw

·         roedd gan rai cynghorau hen wefannau a oedd yn ymddangos wrth chwilio amdanynt, felly roeddech chi'n credu nad oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar

·         roedd rhai safleoedd yn dda gyda thempledi da ond roedd rhai wedi dyddio

 

O ganlyniad, argymhellodd JH y canlynol fel gofynion sylfaenol, yn ei safbwynt hi-

 

·         cael gwefan

·         enw parth hawdd sy’n ymddangos yn gymharol hawdd mewn chwiliadau

·         dolen i wefan ‘modern government’ Sir Ddinbych www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         dylid cywiro’r ddolen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i wefan y Cynghorau Dinas, Tref neu Gymuned ac ni ddylai fod yn ddolen i hen safle

·         dolen i wefan Llywodraeth Cymru www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm

·         roedd angen i unrhyw ddolenni ar www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-dl.htm fod yn rhai cywir

·         mae gwefan ddwyieithog yn hanfodol

·         enw'r clerc gyda llun a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

·         enwau'r holl gynghorwyr gyda’u lluniau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn

·         dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd cyfarfodydd

·         rhaglenni

·         cofnodion blaenorol

·         manylion am yr ardaloedd y mae'r cyngor yn eu gwasanaethu gyda map os oes modd

·         sut y gallai pobl gael eu cynnwys - bod yn gynghorydd, mynd i gyfarfodydd

 

Argymhellion ychwanegol dewisol -

 

·         ffurflen ymholiadau electronig

·         hanes yr ardal

·         digwyddiadau yn yr ardal

·         dolenni i wefannau grwpiau lleol eraill

·         defnydd o gyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach

·         manylion ar God Ymddygiad

·         cofnod o ddatganiadau cysylltiad.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i JH am ei gwaith caled a’i hadroddiad ardderchog ac adleisiodd aelodau eraill y teimladau hynny.

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         fel aelod o Gyngor Tref y Rhyl, adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor bod cyllid grant wedi galluogi adnewyddu gwefan y Rhyl ac oherwydd ei fod yn ei ddyddiau cynnar roedd disgwyl iddo fod o safon uchel

·          roedd y Cadeirydd o blaid anfon yr adroddiad ymlaen i Reolwr Ymgysylltu â'r Gymuned i'w ddosbarthu i Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned mewn cyfarfodydd clwstwr.  (GW i weithredu) 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Barry Mellor at y ffaith fod nifer o  Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn gorfod cyllido creu gwefan gan fod toriadau cyllid wedi arwain at gymhwyso cyllid i ddarpariaethau eraill. 

·         pryderon nad oedd gan 4 Gyngor Cymuned wefan, dwywaith y nifer a nodwyd yn yr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

PARATOI ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD AR GYFER Y CYNGOR LLAWN pdf eicon PDF 76 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro ymddiheuriad gan y Dirprwy Swyddog Monitro a chyflwyno'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2016 i'w ystyried cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am gyflwyno'r adroddiad ac i'r Dirprwy Swyddog Monitro am ei gwaith caled i baratoi'r adroddiad.  Yn ystod y drafodaeth cytunwyd ar y diwygiad canlynol- 

 

  • Diwygio'r cyfeiriad at 'Wybodaeth' yn y tabl ym mharagraff 4.3 i 'wybodaeth electronig'.

 

Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth gan ofyn i'r aelodau a oeddent yn teimlo y dylid trafod unrhyw faterion neu bwyntiau pellach pan gaiff ei drafod gyda'r Cyngor llawn.   Roedd y Pwyllgor Safonau eisiau i Gynghorwyr fod yn ymwybodol o waith y Pwyllgor Safonau ynghyd â'r gwaith a'r pwysau yr oedd Cynghorau Dinas / Tref a Chymuned yn eu hwynebu.

 

Cytunodd y Swyddog Monitro y byddai'n rhannu'r diwygiadau a'r sylwadau gyda'r Dirprwy Swyddog Monitro i baratoi drafft diwygiedig i'w gymeradwyo gan y Cadeirydd cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. (GE a LJ i Weithredu)

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylai’r aelodau nodi'r adroddiad ac argymell bod y Cadeirydd yn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

 

7.

LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o'r rhifyn diweddaraf o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2016.

 

Roedd manylion y cwynion a archwiliwyd yn ystod y cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad a’u crynhoi gan y Swyddog Monitro. 

Holodd y Cadeirydd ynglŷn â chadw cofnodion o gwynion nad oeddent angen unrhyw gamau pellach.  Eglurodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Safonau pe bai cwyn yn cael ei harchwilio, byddai swyddfa'r ombwdsmon yn archwilio pob agwedd o'r gŵyn.  Mewn achosion o beidio â chymryd camau pellach ni fyddai cofnod cyhoeddus ohono ond byddai swyddfa'r Ombwdsmon yn cadw ffeil yr achos am gyfnod. 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos y Cod Ymddygiad. 

 

 

8.

HYFFORDDIANT – DEUNYDD CYFLWYNO CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 156 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o’r deunyddiau sefydlu a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gyfer hyfforddi aelodau newydd ac aelodau sy’n dychwelyd ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu'r pwyllgor bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi creu deunyddiau cyflwyno.  Eglurodd y Swyddog Monitro bod y cyngor wedi mabwysiadu pecyn hyfforddiant ei hun yn y blynyddoedd diwethaf.  Roedd CLlLC wedi llunio pecyn hyfforddiant i ddarparu  cyfres gyffredin o adnoddau y gellir eu defnyddio ledled Cymru, ac annog dealltwriaeth gyffredin o ofynion y Cod Ymddygiad rhwng aelodau etholedig.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro ei fod ef a'r Dirprwy Swyddog Monitro yn fodlon â'r pecyn hyfforddiant a ddarparwyd gan CLlLC.  Roedd y pecyn hyfforddiant a'r nodiadau hyfforddi wedi'u cynhyrchu'n ddwyieithog i gynorthwyo i ddarparu hyfforddiant effeithiol.  Eglurodd y Swyddog Monitro bod pecyn hyfforddiant wedi'i ddylunio i gynorthwyo i hyfforddi Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned.   Hysbysodd y Swyddog Monitro'r aelodau bod elfen e-ddysgu wedi'i chynhyrchu i gyd-fynd â'r pecyn hyfforddiant.

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y pecyn hyfforddiant a gynhyrchwyd gan CLlLC yn cyflwyno darpariaeth ystyrlon o hyfforddiant ac yn rhoi amrywiaeth o opsiynau i'r aelodau dderbyn mynediad at ddeunyddiau hyfforddiant.

 

Canmolodd y Cynghorydd Barry Mellor yr hyfforddiant a ddarparwyd yn flaenorol gan y Sir fel hyfforddiant o'r safon uchaf. Canmolodd y Cynghorydd David Jones a'r aelod annibynnol Anne Mellor y pecyn hyfforddiant newydd fel pecyn cryno a thryloyw. Gofynnodd yr aelod annibynnol Julia Hughes a ellir hysbysu aelodau'r Pwyllgor Safonau o unrhyw ddyddiadau hyfforddiant er mwyn iddynt allu eu mynychu ac elwa o'r model hyfforddiant newydd (GW i weithredu).  

 

Canmolodd y Cadeirydd y Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith ar y sesiynau hyfforddiant blaenorol a ddarparwyd i'r aelodau.  Roedd yn credu y byddai'r Clercod yn elwa o sesiynau hyfforddiant neu dderbyn adnoddau ychwanegol ar gyfer hyfforddiant.  Pwysleisiodd y Swyddog Monitro y byddai'r amrywiaeth o ddulliau darparu hyfforddiant o fudd i fwy o unigolion.  Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r pwyllgor os oeddent yn teimlo y byddai'n fuddiol trefnu sesiynau 'hyfforddi'r hyfforddwr' gyda Chlercod i gynorthwyo gyda hyfforddiant yng nghyfarfodydd Cyngor Dinas / Tref / Cymuned.  Cytunodd y Pwyllgor Safonau y byddai hyn yn ddull adeiladol o hyfforddi aelodau.  (GW i weithredu)

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi'r adroddiad ac yn argymell eu bod yn darparu'r hyfforddiant i aelodau newydd ac aelodau sy'n dychwelyd i'r Cyngor Sir a'r Cynghorau Dinas / Tref a Chymuned.

 

9.

PROSES DATRYSIAD LLEOL AR GYFER CYNGHORAU DINAS/TREF/CYMUNED

Derbyn adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro.

 

 

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad llafar ar broses Datrysiad Lleol ar gyfer Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned.  Eglurodd y Swyddog Monitro mai'r broses ar hyn o bryd yw pan fo Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn derbyn cwyn, mae'r Clerc yn gyfrifol am gynorthwyo Cadeirydd y Cyngor i gyflawni datrysiad boddhaol.   Pwysleisiodd y Swyddog Monitro'r cyfrifoldebau a'r pwysau a roddir ar Glercod i ddatrys cwynion ar ben y dyletswyddau rheolaidd a wneir.

Byddai'r broses a fabwysiadwyd yn y Sir ar gyfer cwynion yn golygu bod aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau yn cael eu gwahodd i gynorthwyo i ddatrys y gŵyn.  Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Safonau a oeddent yn cytuno bod aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned er mwyn cynorthwyo'r clerc i ddatrys cwynion.  Cytunodd yr Aelodau Annibynnol y byddai hyn o fudd i'r Clercod.  

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar broses Datrysiadau Lleol.

 

 

10.

ADOLYGU PROTOCOL HUNAN REOLEIDDIO'R CYNGOR

Derbyn adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro.

 

 

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad llafar ar Brotocol Hunan Reoleiddio'r Cyngor.  Eglurodd y Swyddog Monitro i aelodau'r Pwyllgor Safonau bod Protocol Hunan Reoleiddio'r Cyngor wedi'i adolygu a'i gymharu â Phrotocolau eraill ac mae'r gweithdrefnau'n debyg iawn.  Nododd y Swyddog Monitro bod y gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Sir ar hyn o bryd yn gweithio'n dda.  Nodwyd bod unrhyw gwynion gan aelodau'r cyhoedd yn gorfod cael eu pasio ymlaen i'r Ombwdsmon. 

Cynigodd y Swyddog Monitro, yn y lle cyntaf, ei fod ef neu'r Dirprwy Swyddog Monitro yn ceisio datrys materion yn anffurfiol a bod cyfranogiad aelodau'r Pwyllgor Safonau yn cael ei gadw ar gyfer achosion na ellir eu datrys ar y cam hwnnw.  Trafododd y Pwyllgor Safonau bod Clercod Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo ei gilydd wrth archwilio cwynion yn eu hawdurdodau eu hunain.  Cytunodd y Swyddog Monitro y byddai'n drafftio dogfen i'w dosbarthu i'r grwpiau clwstwr i archwilio opsiynau ar gyfer cynorthwyo ei gilydd, gan ddarparu cyfryngwr mewn sefyllfaoedd anodd.  Canmolodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yr argymhelliad hwn gan nodi bod unigolion yn adnabyddus iawn o fewn Cynghorau Cymuned bach a byddai archwilio cwynion yn heriol (GW i weithredu).

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar Brotocol Hunan Reoleiddio.         

 

 

11.

PAPUR GWYN – DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL CADERNID AC ADNEWYDDIAD

Derbyn adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad llafar yn hysbysu'r aelodau o ddarpariaethau Papur Gwyn –"Diwygio Llywodraeth Leol:  Cadernid ac Adnewyddiad".  Darparodd y Swyddog Monitro drosolwg cyffredinol o'r prif ddarpariaethau yn y papur.  Ymhelaethodd ar y darpariaethau a gynhwysir yn y Bil Drafft a oedd yn cynnwys y canlynol -

 

·         Gwaith rhanbarthol – diddymu uno gorfodol gyda gwaith rhanbarthol gorfodol yn cael ei gyflwyno.

 Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai'r dystiolaeth ar gyfer gwaith rhanbarthol yn dibynnu ar weld effaith gadarnhaol yn rhanbarthol ac nid o reidrwydd effaith gadarnhaol yn ardal pob awdurdod.

·         Rhannu gwasanaethau swyddfa gefn - cynigion ar gyfer rhannu gwasanaethau swyddfa gefn gan gynnwys y Gymraeg, Archwilio Mewnol a chasglu Trethi'r Cyngor.  Profion ar gyfer datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau – eglurodd y Swyddog Monitro'r rhestr helaeth o gwestiynau sydd i'w gofyn mewn perthynas â datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau.

·         Llywodraethu ac atebolrwydd – cynnig llyfr rheolau cyffredin i bawb ei ddilyn.   Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai manylion i ddilyn ynglŷn â llywodraethu ac atebolrwydd gan gynnwys manylion trefniadau cyllido ar gyfer Cydbwyllgorau Llywodraethu.

·         Etholiadau a phleidleisio – eglurodd y Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Safonau bod yr elfen hon yn y Bil yn eithaf amwys gyda manylion pellach i ddod yn ddiweddarach.  

·         Rôl Cynghorwyr a chynigion a fyddai'n effeithio ar y Pwyllgor Safonau – ymhelaethodd y Swyddog Monitro ar rôl y Cynghorwyr a'u cyfrifoldebau.  Eglurodd y Swyddog Monitro rai o'r gofynion y byddai'r Pwyllgor Safonau yn eu hwynebu megis darparu cyngor a hyfforddiant i aelodau ynglŷn â dyletswyddau newydd a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar weithgareddau'r Pwyllgor Safonau, y mae'r pwyllgor eisoes yn ei gynhyrchu.  

 

Roedd y cyflwyniad llafar yn darparu trosolwg i'r Pwyllgor Safonau o rai o'r newidiadau arfaethedig a sut y byddent yn effeithio ar y Pwyllgor Safonau a'r Awdurdod.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro y disgwylir adborth gan Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r Bil ym mis Ebrill, gydag addasiadau ac adborth yn cael ei gyflwyno i Gynulliad Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  Byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Safonau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.    

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am ei waith caled a'i ganmol am symleiddio pwnc cymhleth.  Nododd y Cadeirydd y newidiadau posibl i'r Pwyllgor Safonau a dywedodd y byddai'n ddiddorol gweld y canlyniad.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi'r adroddiad llafar ar Bapur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol – Cadernid ac Adnewyddiad.

 

 

 

12.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Aelod Annibynnol Anne Mellor ei bod wedi mynychu cyfarfod Cyngor Cymuned Llanelwy a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2017. Nododd y Swyddog Monitro ei phresenoldeb ac fe gadarnhaodd y byddai'n diweddaru'r adroddiad presenoldeb i adlewyrchu hyn (GW i weithredu).  

 

Cadarnhaodd a dosbarthodd y Swyddog Monitro restr o Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned yr ymwelwyd â nhw yn y tair blynedd diwethaf.  Adolygodd yr aelodau annibynnol Julia Hughes ac Anne Mellor y rhestr gyda'r Cadeirydd Ian Trigger a phenderfynu pa gyfarfodydd yr oedd angen ymweld â nhw. 

Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am e-bost, fel y dosbarthwyd yn flaenorol, i'r Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn hysbysu'r aelodau y gallai aelodau'r Pwyllgor Safonau fynychu eu cyfarfodydd (GW i weithredu).   

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 73 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

  • Diweddariad ar y Papur Gwyn – Medi
  • Diweddariad ar Weithrediad Hyfforddiant – Medi

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y diwygiadau uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

14.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ar ddydd Gwener 30 Mehefin 2017 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 30 Mehefin 2017 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

 

15.

COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad cyfrinachol ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg i'r Aelodau o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill 2014. 

 

Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi gofyn am gael  gwybod yn rheolaidd am lefel y cwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn darparu trosolwg o'r cwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2014. Roedd 13 achos heb eu  holrhain, 2 achos wedi dod i ben, 5 achos heb eu harchwilio ac 1 achos lle na chymerwyd unrhyw gamau pellach.

 

Darparodd y Swyddog Monitro ddiweddariad ar un cwyn sy'n parhau, gan egluro i'r pwyllgor y trafodwyd yr achos penodol hwn mewn cyfarfodydd blaenorol.  Darparodd y Swyddog Monitro rywfaint o gyd-destun ac eglurhad o gefndir y gŵyn a pham na gymerwyd unrhyw gamau pellach.  

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau am eu presenoldeb a'u cyfraniadau, yn enwedig Julia Hughes am ei gwaith caled.  Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am ei arweiniad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd David Jones, a hysbysodd y pwyllgor mai dyma ei gyfarfod olaf.  Dymunodd y cadeirydd y gorau i'r Cynghorydd Jones ar gyfer y dyfodol a diolch iddo am ei waith a'i gefnogaeth i'r Pwyllgor Safonau.  Diolchwyd iddo am ei agwedd ddymunol, ffyddlondeb a chyfraniadau i holl gyfarfodydd y Pwyllgor. 

 

Adleisiodd y Swyddog Monitro'r diolchiadau i'r Cynghorydd Jones am ei waith a'i gyfraniadau i'r Pwyllgor Safonau, a diolchodd i'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a Barry Mellor am eu cyfraniadau a'u cefnogaeth.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.00pm.