Agenda and draft minutes
Lleoliad: CONFERENCE ROOM 1b, COUNTY HALL, RUTHIN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y cysylltiadau canlynol wedi eu nodi yn eitemau
busnes i gael eu hystyried yn y cyfarfod. Eitem 3 ar yr Agenda: - "Cais i ymestyn yr oddefeb i
Aelodau Cyngor Tref y Rhyl" – Cafodd diddordeb personol a rhagfarnol ei
ddatgan gan y Cynghorydd B. Mellor. Y
rheswm am y datganiad oedd bod yr Aelod perthnasol o'r Pwyllgor yn Aelod o
Gyngor Tref y Rhyl. |
|
CAIS I YMESTYN YR ODDEFEB I AELODAU CYNGOR TREF Y RHYL PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) i ymestyn yr oddefeb
a roddwyd ar 6 Mawrth 2015, am 12 mis pellach. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd y Cynghorydd B. Mellor y cyfarfod ar y pwynt hwn. Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DSM) adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar y cais a wnaed i ymestyn yr oddefeb, o 12 mis arall, a neilltuwyd
ar 6 Mawrth 2015. Mae Cyngor Tref y Rhyl wedi gofyn i'r Pwyllgor ailystyried yr
oddefeb ac wedi gofyn am estyniad. Mae'r adroddiad
gwreiddiol dyddiedig 6 Mawrth 2015 wedi'i atodi fel Atodiad 1. Eglurodd y DSM bod cais wedi’i wneud yn gofyn i'r
Pwyllgor i roi yr oddefeb yn unol â Rheoliad 2(a) a (d) o Reoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001, i’r Cyngor Llawn, gan gynnwys yr
Aelodau newydd o’r Cyngor Tref, yn unol â’r telerau a roddwyd yn wreiddiol.
Caniatawyd rhoi’r oddefeb a roddwyd ar 6 Mawrth 2015 yn unol â'r amodau a nodir
isod:- (i) mae’r Oddefeb yn berthnasol
yn unig i faterion a ystyrir gan Gyngor Tref y Rhyl o ran Pwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau (neu beth bynnag fydd yr enw newydd); (ii) mae’n rhaid i'r Aelodau
barhau i ddatgan cysylltiad personol yn y cyfarfod(ydd) y caiff eitemau o'r
fath eu trafod. Yna gallant
siarad a phleidleisio i'r graddau y caniateir iddynt wneud hynny gan yr Oddefeb
hon; (iii) bydd yr Oddefeb yn gymwys am 12 mis o
ddyddiad y cyfarfod Pwyllgor Safonau hwn (6 Mawrth, 2015). Wedi hynny,
disgwylir i Glerc Cyngor Tref y Rhyl i wneud cais ysgrifenedig i'r Swyddog
Monitro am estyniad i'r Oddefeb ac i osod gweithgareddau Pwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau (neu unrhyw enw arall y bydd yn cael ei newid iddo); (iv) ar ethol Aelod newydd,
mae’n rhaid i Glerc Cyngor Tref y Rhyl roi gwybod i'r Swyddog Monitro yn
ysgrifenedig er mwyn cymhwyso’r Oddefeb i'r Aelod newydd. Ers caniatáu’r oddefeb wreiddiol cafodd y Cynghorwyr Stanley Frederick
Walker, Jacquie McAlpine ac Anthony Thomas eu hethol i'r Cyngor a byddai angen
eu cynnwys yn yr oddefeb. Yn mynychu oedd Mr Gareth Nickels, Clerc Cyngor Tref y Rhyl, a rhoddodd
grynodeb o'r cais, a manylion am gyfranogiad Aelodau Cyngor Tref y Rhyl a
gweithgareddau mewn perthynas â Phwyllgor y Rhyl yn ei Blodau. Ar y pwynt hwn
gadawodd Clerc Cyngor Tref y Rhyl y cyfarfod. Cododd Aelodau’r Pwyllgor y pryderon a’r materion
canlynol:- -
Aelod Annibynnol, J Hughes (JH) a gyfeirir at 4.(iv) o’r
adroddiad “wrth ethol Aelod newydd, mae’n
rhaid i Glerc Cyngor Tref y Rhyl roi gwybod i'r Swyddog Monitro yn ysgrifenedig
er mwyn cymhwyso’r Oddefeb i'r Aelod newydd”.
Mynegodd bryder y gallai Aelod
newydd ei benodi dderbyn goddefeb heb orfod eu cyfeirio at y Swyddog Monitro
neu'r Pwyllgor Safonau, a allai gael ei ystyried yn fath o ragfarn neu wendid
yn y broses. -
Teimlai'r Aelodau y dylid caniatáu goddefeb i bob Aelod presennol o Gyngor Tref
y Rhyl, a bod y Swyddog Monitro yn cael gwybod yn ysgrifenedig ynglŷn ag
ethol unrhyw Aelod neu Aelodau newydd, a dylai unrhyw benodiadau newydd
fod yn destun Cais am Oddefeb. -
Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrym
bod y cyfnod o oddefeb yn dechrau ar 8 Ebrill 2016 tan 4 Mai, 2017 sef dyddiad
Etholiadau’r Llywodraeth Leol. -
Nodwyd na fu unrhyw gyhoeddusrwydd anffafriol o ran
Aelodau Cyngor Tref y Rhyl ac unrhyw gysylltiadau â Phwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau. -
Cymeradwyodd y Cadeirydd Cyngor Tref y Rhyl am eu
gweithredoedd wrth gydymffurfio â'r gweithdrefnau priodol a chyflwyno Cais am
Oddefeb. Teimlai'r Aelodau y byddai'n bwysig peidio ag
anghefnogi Aelodau Cyngor Tref y Rhyl o gymryd rhan mewn gwella y gymuned leol. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunwyd bod yr Oddefeb yn cael ei ganiatáu, yn unol â ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
GORCHYMYN AWDURDODAU LLEOLl (COD YMDDYGIAD ENGHREIFFIOL) (CYMRU) (DIWYGIO) 2016 PDF 87 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) ar y newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar Gyfer Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar y
newidiadau arfaethedig a wnaed i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer Cymru o
ganlyniad i offeryn statudol diweddar a lofnodwyd gan y Gweinidog dros
Wasanaethau Cyhoeddus o’r enw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad
Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DSM) wrth yr
Aelodau o'r newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymddygiad a ddaeth yn sgil y
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio)
2016, (y Gorchymyn). Roedd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus wedi
llofnodi’r Gorchymyn a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae’r Gorchymyn wedi gwneud newidiadau i'r Cod
Ymddygiad Enghreifftiol sy'n berthnasol i Aelodau Awdurdodau Lleol (ALl) yng
Nghymru. Byddai'n rhaid i bob ALl i fabwysiadu Cod Ymddygiad
ar gyfer ei Aelodau, a oedd yn cynnwys pob un o ddarpariaethau'r Cod Ymddygiad
Enghreifftiol. Gall Awdurdodau Lleol fabwysiadu Cod Ymddygiad sy'n
cynnwys darpariaethau ychwanegol i rai'r Model ar yr amod nad yw'r
ychwanegiadau hynny’n amharu ar effaith darpariaethau’r Model. Mae Cod Ymddygiad Sir Ddinbych yn wahanol i'r Model
presennol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, roedd yn cynnwys gofyniad bod pob Aelod
yn mynychu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad o leiaf unwaith bob tymor. Yn ail mae'n
gosod gwerth o £25 lle mae’n rhaid datgan unrhyw roddion neu letygarwch. Mabwysiadwyd y
ddarpariaeth hon er mwyn osgoi torri anfwriadol o'r Cod gan yr Aelodau. Awgrymwyd y
dylid cadw’r amrywiadau hyn o'r Cod Enghreifftiol newydd. Cytunodd yr
Aelodau bod datgan manylion yn ymwneud â gwerth y rhoddion neu letygarwch yn
cael eu cyfleu i'r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Mae'r Gorchymyn wedi
newid y Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn y ffyrdd canlynol:- ·
Paragraff 10(2)(b) wedi’i hepgor o'r Cod
Ymddygiad Enghreifftiol. Mae'r
paragraff hwn wedi achosi anawsterau yn y gorffennol o ystyried y gwahaniaeth
rhwng bwriad y polisi o gynnwys, a bod â
dehongliad llym o’r iaith a ddefnyddir yn y paragraff.
Dehongliad llym o’r paragraff,
fel y'i geiriwyd, yn gallu atal Aelodau rhag cymryd rhan mewn unrhyw
benderfyniad sy'n effeithio ar eu ward tra mai bwriad y polisi sylfaenol oedd
cyfyngu ar gwmpas y ddarpariaeth hon i benderfyniadau a wneir gan Gynghorwyr unigol
wrth arfer swyddogaethau gweithredol.
Mae cael gwared ar y paragraff
wedi osgoi’r amwysedd hwn. ·
Mae'r
rhwymedigaeth ar Aelod i roi gwybod am achos posibl o dorri'r Cod i'r Ombwdsmon
wedi’i ddileu. Mae'r gofyniad i roi gwybod am doriad o'r fath i'r
Swyddog Monitro wedi’i gadw. ·
Mae paragraff 15 o'r Cod Ymddygiad
Enghreifftiol yn ymdrin â chofrestru diddordebau Aelodau ac fe'i diwygiwyd i
egluro bod yn rhaid i unrhyw ddiddordeb a ddatgelir am y tro cyntaf gan Aelod
gael ei gofnodi yn y gofrestr. Yr eithriad
ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned o'r gofyniad i gofrestru, o flaen llaw, yw
cynnal rhai buddiannau ariannol ac eraill, a restrir ym mharagraff 10 (2)(a)
o'r Cod. ·
Trosglwyddodd Deddf Llywodraeth Leol
(Democratiaeth) (Cymru) 2013 y cyfrifoldeb am gynnal y gofrestr o ddatgan
cysylltiad Aelodau'r Cynghorau Tref a Chymuned gan Swyddog Monitro y Cyngor Sir
ar gyfer yr ardal at "Swyddog Priodol" pob Cyngor Tref a Chymuned o 1
Mai, 2015. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cod Enghreifftiol
newydd ym mharagraffau 15(3) a 15(6). Mae’r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi gweithredu’r Rheoliadau Llywodraeth Leol (Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio Pwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2016. Mae'r Rheoliadau hyn wedi gwneud nifer o ddiwygiadau technegol i reoliadau eraill sy'n ymwneud â'r agenda foesegol. Byddai Awdurdodau Lleol yn gallu sefydlu Pwyllgorau Safonau ar y Cyd petaent yn dymuno gwneud hynny. Byddai Pwyllgorau Safonau (PS) yn gallu gohirio cyhoeddi agendâu yn gysylltiedig â'u hystyriaeth o ymchwiliad camymddwyn. Roedd hyn eisoes yr arfer ar ... view the full Cofnodion text for item 4. |