Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd i'r Pwyllgor Safonau. Cofnodion: PENDERFYNWYD - penodi Mrs Paula White yn Is-gadeirydd y Pwyllgor
Safonau. |
|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni
wnaeth unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu
ag unrhyw eitem a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen
rhoi sylw brys iddo: 1.
Ymgynghoriad ar Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru: Cynllun
Strategol Tair Blynedd Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Swyddog Monitro ei fod wedi
cael dogfen ymgynghori mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru: Cynllun Strategol Tair Blynedd, ar 3 Rhagfyr, 2015, a bod
ymateb wedi'i geisio erbyn 2 Chwefror, 2016. Cytunodd y Pwyllgor â'r awgrym bod
y Swyddog Monitro’n cylchredeg y ddogfen ymgynghori ac yn gofyn am ymatebion
gan Aelodau'r Pwyllgor, a fyddai'n cael eu casglu a’u hail-ddosbarthu i'r
Aelodau i'w hystyried ymhellach. Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y geiriad
"Cod Ymddygiad" neu "Cod Ymddygiad Aelodau" yn ymddangos yn
y ddogfen, a’i fod yn bwriadu cyfeirio at hyn yn yr ymateb. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys eitem ynglŷn ag
Ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Cynllun
Strategol Tair Blynedd, yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer ei
gyfarfod ar 4 Mawrth, 2016. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 190 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Medi 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Mai,
2015. Cywirdeb:- Yn bresennol:- Enw’r Cynghorydd
D.E. Jones i’w dynnu oddi ar y rhestr o
Aelodau a oedd yn bresennol gan ei fod wedi cyflwyno ymddiheuriad am
absenoldeb. Ymddiheuriadau:- Cynnwys enwau’r
Cynghorwyr B. Mellor a D.E. Jones fel rhai a oedd wedi
cyflwyno ymddiheuriadau am absenoldeb. Materion yn codi:-
7. Ymweliadau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned - Mewn
ateb i gais gan yr Aelod Annibynnol J. Hughes (JH), cytunwyd darparu rhestr
wedi'i diweddaru o ymweliadau gan Aelodau'r Pwyllgor rhwng y cyfarfodydd
blaenorol a'r cyfarfodydd presennol, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw ddyblygiad
o ymweliadau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Mewn
ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Annibynnol A. Mellor (AM), cytunwyd y gallai fod
yn fuddiol os byddai JH, fel Aelod o'r Pwyllgor sy'n siarad Cymraeg, yn gallu
mynd i gyfarfodydd penodol yn yr ardal a ddynodir fel Clwstwr 3. Cytunodd y
Swyddog Monitro y dylid cylchredeg rhestr wedi'i diweddaru o Gynghorau Dinas,
Tref a Chymuned, gan gynnwys manylion cyswllt, a lle bo modd, amseroedd a
dyddiadau cyfarfodydd, i Aelodau'r Pwyllgor Safonau. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd W.L. Cowie ynglŷn â rôl Aelodau'r Pwyllgor Safonau wrth adrodd
yn ôl i'r Pwyllgor Safonau yn dilyn eu presenoldeb mewn cyfarfodydd, yn enwedig
mewn achosion lle’r oedd swyddog cyfreithiol y Cyngor hefyd wedi bod yn
bresennol. Gofynnodd y Cynghorydd Cowie am eglurhad ynghylch rolau
priodol Aelodau'r Pwyllgor Safonau a’r swyddogion cyfreithiol mewn amgylchiadau
o'r fath. Amlinellodd
y Swyddog Monitro rôl y Pwyllgor Safonau a'i Aelodau wrth osod ac arsylwi ar
safonau i adlewyrchu canfyddiad y cyhoedd o'r modd y mae'r Cyngor a'i Aelodau
yn cynnal ei hun. Eglurodd mai cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd darparu
cefnogaeth i'r Swyddog Monitro ac Aelodau Etholedig y Cynghorau Sir, Dinas, Tref
a Chymuned. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y manteision
posibl o drafod materion a allai godi yn y cyfarfodydd a fynychir gan
swyddogion cyfreithiol, a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor na fyddai swyddogion
cyfreithiol yn teimlo eu bod yn cael eu tanseilio gan bresenoldeb Aelodau'r
Pwyllgor Safonau mewn cyfarfodydd roeddent yn bresennol ynddynt. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r
Cofnodion fel cofnod cywir. (GW i Weithredu) |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 41 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i'w hystyried a’i mabwysiadu. Ystyriodd yr Aelodau
Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau a chytunwyd ar y diwygiadau
canlynol:- 4 Mawrth, 2016:- (a)
Ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau. (b)
Diweddariad Ymgynghoriad Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Cynllun
Strategol Tair Blynedd. (c)
Diweddariad Llyfr Achos Cod Ymddygiad. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai dyddiadau ar gyfer
cyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor, mewn perthynas â chyfarfodydd Fforwm Safonau
Gogledd Cymru, yn cael eu cynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol yn dilyn
cytundeb ar ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol. PENDERFYNWYD - yn amodol ar ychwanegu’r uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n
cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. (GW, CW i Weithredu) |
|
BIL DRAFFT OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) – YMGYNGHORI PDF 109 KB Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi
ynghlwm) sy’n darparu copi o Fil Drafft Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a cheisio sylwadau gan y Pwyllgor er mwyn llunio
ymateb.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Dirprwy Swyddog
Monitro (DMO), a oedd yn darparu copi o Fil drafft Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru, ac yn gofyn am sylwadau gan y Pwyllgor er mwyn llunio ymateb,
wedi’i gylchredeg ynghynt. Eglurwyd y byddai'r adroddiad yn galluogi'r Aelodau i ystyried y cynigion a
chyfrannu at y broses ymgynghori ffurfiol. Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Safonau, cyflwynwyd eitem fusnes ar
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2014/15, pan
gyfeiriwyd at y posibilrwydd o ymestyn pwerau i'r Ombwdsmon yng Nghymru. Roedd y nodyn atgoffa a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru newydd wedi cael ei ymgorffori yn yr adroddiad, gyda'r Bil wedi’i gynnwys
fel Atodiad 1 a llythyr ymgynghori fel Atodiad 2. Roedd cyfraniad cynharach
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y broses yn amgaeedig fel Atodiad 3. 21 Hydref 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymgynghoriad yn ceisio barn unigolion a sefydliadau ar y
cynigion ym Mil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft, a fwriedir i
gryfhau pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yn dilyn argymhellion a ddarparwyd
mewn adroddiad ym mis Mai, 2015, roedd cynigion y Pwyllgor Cyllid yn y Bil
drafft yn cynnwys rhoi pwerau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: ·
Gychwyn ei ymchwiliadau ei hun a derbyn
cwynion llafar. ·
Delio â chwynion ar draws gwasanaethau
cyhoeddus. ·
Ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys
darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau). Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r
ymgynghoriad yn cau 18 Ionawr, 2016. Gallai effaith y
cynigion ar Bwyllgorau Safonau arwain at hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar
Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau i orfodi'r Cod Ymddygiad, a llai o
ddibyniaeth ar Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ystyried diffyg
cyfeiriad penodol, neu gyfeiriad penodol annigonol at God Ymddygiad Aelodau a
Rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn y Bil. Gwahoddwyd yr aelodau i
roi sylwadau ar Atodiad 3, a’r sylwadau ynddo ar God Ymddygiad Aelodau. Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor arsylwadau ac fe
wnaethant fynegi’r safbwyntiau a ganlyn mewn perthynas â Bil drafft Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:- -
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Dudalen 28, Adran 12 (1) o’r
Rhaglen "Efallai na fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i fater o dan y Rhan
hon os yw'r person a dramgwyddwyd, os o gwbl, gyda neu wedi cael:- (c)
datrysiad ar ffurf achos mewn llys barn". Amlygodd yr angen am
eglurder ac eglurodd, mewn achosion lle bu honiadau o athrod, gellid delio â
materion o'r fath drwy weithredu wedyn am ddifenwi. Fodd bynnag,
cyfeiriodd at faterion eraill y gellid eu codi na fyddai'n cael eu cwmpasu'n
uniongyrchol gan gamau gweithredu dilynol. Eglurodd y Swyddog Monitro mai Bil drafft oedd hwn ac amlinellodd y pwerau
sydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran awdurdodaeth y Pwyllgor
Safonau mewn perthynas â'r Cod Ymddygiad, fel y crybwyllir yn Neddf Llywodraeth
Leol 2000. Hysbysodd yr Aelodau fod Deddf gyfredol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2005, a ddisodlir gan Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru, yn delio â'r awdurdodaeth mewn perthynas â chwynion am wasanaeth neu
gamweinyddu, ac yn darparu gwahaniaeth rhwng dwy rôl Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adroddiad yn amlinellu
gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac yn amlygu canlyniadau dilynol
posibl y Bil. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ganfyddiadau'r
ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ar waith
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Amlinellwyd y pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Atodiad 3 i'r adroddiad gan y Swyddog Monitro, a chyfeiriwyd yn arbennig at y canlyniadau posibl sy'n deillio o ddiffyg cyllid ac adnoddau ychwanegol, yr effaith ar faterion Cod Ymddygiad ac o bosibl, encilio o'r agenda moesegol. Mynegodd y Swyddog Monitro bryder hefyd mewn perthynas ag ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD AR GYNHADLEDD SAFONAU CYMRU GYFAN Derbyn adroddiad
gan y Swyddog Monitro ar Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan. Cofnodion: Esboniodd y Cadeirydd ei
fod wedi mynychu Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan, a rhoddodd grynodeb manwl o'r
cyfarfod a oedd yn cynnwys y pwyntiau amlwg a ganlyn:- -
Roedd y Gynhadledd wedi cael nifer dda yn mynychu gyda
chynrychiolwyr o bob Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gynnwys llawer o
gynrychiolwyr o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned. -
Rhoddwyd areithiau allweddol gan:- ·
Nick Bennett (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) ·
Lyn Cadwallader (Prif Weithredwr Un Llais Cymru) ·
Peter Davies (Llywydd rhan-amser Panel Dyfarnu Cymru) ·
Jan Williams (Comisiynydd Cwynion Annibynnol yr Heddlu
Cymru) Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr araith gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru o'r enw "A yw Egwyddorion Nolan yn Addas i'r Diben". Cyfeiriwyd at y
posibilrwydd efallai nad ydynt yn addas i’r diben oherwydd nad oedd digon o
sylw wedi cael ei roi i arweinyddiaeth, a oedd wedi awgrymu y dylid cael
hyfforddiant mwy effeithiol i arweinwyr. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gwaith
rhagorol sy'n cael ei wneud yn hyn o beth gan Swyddog Monitro a Dirprwy Swyddog
Monitro Sir Ddinbych. -
O'r 231 o gwynion a ddaeth i lawr gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros gyfnod o ddeuddeg mis, a oedd yn ymwneud â
materion Cod Ymddygiad, dim ond 17 oedd wedi cael eu nodi fel toriad posibl,
gyda dim ond 8 yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgorau Safonau. -
Roedd mater a nifer y cwynion blinderus wedi cael eu
hamlygu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyfeiriwyd at
ganfyddiad y cyhoedd ynglŷn â dosbarthiad y cwynion yn flinderus, a’r
cyhoedd yn mabwysiadu agwedd negyddol o bosibl ynghylch cyflwyno cwynion. -
Y farn a fynegwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru yw y gallai cwynion blinderus godi o ganlyniad i arweinyddiaeth wael. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y dewis o weithdai sydd ar gael ac eglurodd ei
fod wedi mynychu gweithdai "Codi Pryderon" a "Llywodraethu a
Safonau". Cyfeiriodd at nifer o Awdurdodau yng Nghymru, gan
gynnwys Caerdydd a Wrecsam, sydd wedi enwi eu Pwyllgorau Safonau yn
"Bwyllgor Safonau a Moeseg". Esboniodd y Cadeirydd
fod Pwyllgor Safonau a Moeseg Caerdydd wedi cael cyfrifoldeb i oruchwylio a
monitro gweithdrefn codi pryderon y Cyngor, ac yn ystyried unrhyw faterion
moesegol sy'n codi o hynny. Teimlai'r Cadeirydd y gallai’r dull hwn gael ei
ystyried gan y Cyngor Llawn i'w fabwysiadu yn Sir Ddinbych. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Swyddog Monitro fanylion
y gyfraith sy'n rheoli diogelu gweithwyr sydd wedi codi pryderon neu gyflwyno
cwyn. Cyfeiriodd at arwyddocâd cwynion neu honiadau o’r
fath sydd wedi’u codi’n ddidwyll, a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gyfyngiadau
amser ynghylch y cyfnod diogelu. Cylchredwyd deunydd darllen a ddarparwyd gan y Cadeirydd, a oedd wedi’u
dosbarthu yn y gweithdy ar Safonau Llywodraethu Cynghorau Tref a Chymuned, i
Aelodau'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi cynnwys
adroddiad y Cadeirydd ynglŷn â Chyfarfod Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan. |
|
HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED. Derbyn adroddiad
llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol) Cofnodion: Cyfeiriodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes (JH) at drafodaethau blaenorol ar gyhoeddi gwybodaeth
yn electronig gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a oedd bellach yn orfodol,
a thynnodd sylw at yr angen am fynediad rhwydd at wybodaeth. Fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol, rhoddodd
grynodeb manwl o'r archwiliad gwirfoddol i asesu hygyrchedd gwybodaeth oddi ar
wefannau’r pedwar ar bymtheg Cyngor Dinas, Tref a Chymuned canlynol:- Dinbych, Derwen,
Dyserth, Efenechtyd, Gwyddelwern, Henllan, Llanarmon-yn-Iâl, Llanbedr Dyffryn
Clwyd, Llandegla, Llandrillo, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd,
Llanferres, Llangollen, Llangynhafal, Llanrhaeadr, Llantysilio, Llanynys. Roedd y meysydd a archwiliwyd a’r wybodaeth a
geisiwyd o'r archwiliad yn cynnwys:- -
Darparu gwefan a'i hygyrchedd -
Argaeledd cofnodion y cyfarfod blaenorol -
Manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod nesaf,
a mynediad i raglenni -
Darparu diweddariadau rheolaidd Esboniodd JH, o ran meysydd i'w
harchwilio, ei bod wedi cynnwys colofnau yn ymwneud â darpariaeth ddwyieithog
ac unrhyw nodiadau cyffredinol. Amlygwyd y pwyntiau amlycaf canlynol o'r arfer a
gynhaliwyd:- ·
Roedd nifer o Gynghorau yn
methu â chwrdd â'r gofynion gorfodol. Fodd bynnag, nodwyd bod yna hefyd lawer o arferion da. ·
Dylid
ei wneud yn ofynnol i bob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned gael dolen i wefan Sir
Ddinbych. ·
Roedd rhai gwefannau wedi
dyddio. ·
Yr angen i sicrhau bod dolenni
cyswllt gwefan yn gywir ac yn gyfredol. ·
Nid oedd pob gwefan yn ddwyieithog, a thynnwyd
sylw at bwysigrwydd darparu gwybodaeth ddwyieithog. ·
Mewn rhai achosion, roedd
gwefannau ar hyn o bryd yn cael eu datblygu. ·
Roedd gan nifer o wefannau
raglenni safonol nad oedd byth yn newid. ·
Mewn rhai achosion, darparwyd
ffurflenni electronig at ddibenion cyswllt. ·
Roedd buddion drwy ddarparu
sawl dull o gael gafael ar wybodaeth. ·
Mae angen nodi fod llawer o'r
gwaith yn cael ei wneud ar sail wirfoddol. ·
Yr angen am eglurhad mewn perthynas
â'r ddarpariaeth orfodol a dymunol. ·
Ystyriaeth yn cael ei rhoi i
ddarparu hyfforddiant i Glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Hysbyswyd
y Pwyllgor gan y Swyddog Monitro bod pryderon wedi cael eu codi ynghylch
argaeledd adnoddau o ran darparu a chynnal a chadw gwefannau, yn enwedig ar
gyfer Cynghorau gwledig llai. Eglurodd
hefyd fod Clercod i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ond yn cael eu talu am
nifer penodol o oriau. Gyda
chymeradwyaeth Aelodau, cytunodd y Swyddog Monitro y dylai canlyniad y
trafodaethau mewn perthynas â'r archwiliad a gynhaliwyd gan JH gael ei anfon
ymlaen at y Rheolwr Cynhwysiant Cymunedol, a gysylltodd yn rheolaidd gyda
Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac a allai gyfleu'r farn a fynegwyd i'r
Cynghorau perthnasol, ac fe allai'r materion gael sylw ar sail lled
uchelgeisiol. Amlinellodd gylch gwaith y
Pwyllgor Safonau hefyd ac esboniodd nad oedd y materion a drafodwyd o
angenrheidrwydd yn faterion Cod Ymddygiad. Cyfeiriodd
y Cynghorydd W.L. Cowie at y dull a fabwysiadwyd gan Gyngor Dinas Llanelwy o
ran y polisi dwyieithog a darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar gais y Cynghorydd Cowie,
cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â'r Swyddogion Arweiniol ar Safonau’r
Gymraeg yn Sir Ddinbych, gyda'r bwriad o gysylltu a darparu cyngor a chymorth i
Glerc Cyngor Dinas Llanelwy mewn perthynas â Pholisi’r Gymraeg. Tynnwyd
sylw at bwysigrwydd pennu'r amserlenni, gan y byddai'r wybodaeth a ddarperir yn
yr adroddiad yn gallu newid ar ôl ei gynhyrchu. Diolchodd
y Cadeirydd i JH am y gwaith caled a wnaed i gynhyrchu'r wybodaeth, a fyddai'n
galluogi'r Pwyllgor i fonitro tueddiadau a gwneud awgrymiadau ar gyfer
gwelliannau yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Pwyllgor y byddai'n
derbyn adroddiad diweddaru ysgrifenedig yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2016, fel
y nodir yn rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau:- (a) yn derbyn ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Gwahoddwyd
Aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
y gwnaethant eu mynychu’n ddiweddar, ac fe gymerodd Aelodau’r cyfle i gynnig
crynodeb o sut roedd y Cynghorau perthnasol wedi gweithredu. Roedd y
Cynghorydd W.L. Cowie wedi mynychu cyfarfod Cyngor Dinas Llanelwy. Cadarnhaodd nad oedd wedi dod
ar draws unrhyw broblemau ac yn fodlon ar y modd y cynhaliwyd y cyfarfod. Mynychodd
yr Aelodau Annibynnol Anne Mellor (AM) a Julia Hughes (JH) gyfarfod Cyngor
Cymuned Aberchwiler 7 Hydref, 2015 ac fe dynnwyd sylw at y materion canlynol:- -
Nid oedd unrhyw feysydd o
bryder wedi cael eu nodi, a chadarnhaodd y ddau Aelod Annibynnol eu bod yn
fodlon ar y modd y cynhaliwyd y cyfarfod. -
Roedd cynrychiolydd y Cyngor Sir
lleol wedi mynychu'r cyfarfod ac wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac yn llawn
gwybodaeth. Mynychodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) gyfarfod y Cyngor Sir Arbennig ar 7
Hydref, 2015, a oedd a nifer dda yn bresennol, ac ni chodwyd unrhyw faterion o
bryder. Mynychodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) y cyfarfodydd canlynol ac amlygwyd y
pwyntiau a'r materion canlynol:- Cyngor
Tref Bodelwyddan:- -
Ni fu unrhyw wybodaeth ar gael
ar y wefan, a oedd angen ei diweddaru. Fodd bynnag, roedd y Clerc wedi bod yn ymatebol iawn, yn gadarnhaol ac yn
ddefnyddiol. -
Rhoddwyd cefnogaeth gan y Clerc
i’r Cadeirydd a'r Aelodau yn ystod y cyfarfod. Cafwyd
trosolwg gan JH a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol o bryder:- ·
Nid oedd y cyfarfod wedi’i reoli
yn y modd mwyaf effeithiol ·
Nid oedd yr aelodau’n parchu
Cadeirydd y cyd Gynghorwyr yn ystod achosion. Cafodd hyn effaith andwyol ar reolaeth y cyfarfod, ac nid oedd Aelodau wedi
cymhwyso protocol a oedd yn briodol i gyfrifoldeb eu swyddi fel Cynghorwyr Tref
a chynrychiolwyr preswylwyr lleol. ·
Cydnabuwyd yr anhawster wrth
recriwtio pobl i'r swyddi gwirfoddol, gyda dim ond un cais wedi dod i law ar
gyfer dwy swydd wag yn y Cyngor Tref. Yn
dilyn trafodaeth fer, gofynnodd y Pwyllgor bod y Swyddog Monitro’n ysgrifennu
at Glerc Cyngor Cymuned Bodelwyddan yn tynnu sylw at y materion a godwyd gan yr
Aelod Annibynnol J. Hughes, a'r pryderon dilynol a fynegwyd gan y Pwyllgor
Safonau ar ôl ystyried ei hadroddiad. Cyngor
Cymuned Nantglyn - 6 Hydref, 2015:- -
Rhoddwyd enghraifft dda o sut y
dylai cyfarfod redeg. -
Roedd gan y Cyngor wefan dda,
yn llawn gwybodaeth ac wedi’i dylunio’n dda. -
Anfonwyd e-bost at y Clerc er
mwyn cael manylion y lleoliad, y rhaglen a chofnodion y cyfarfod nesaf. -
Roedd Clerc y Cyngor wedi bod
yn ddefnyddiol iawn. -
Ni wiriodd y Clerc Aelod o'r
Cyngor a gyrhaeddodd yn hwyr, mewn perthynas â Datganiadau o Gysylltiad. -
Cymerodd Aelodau'r Cyngor ran yn holl eitemau'r rhaglen
mewn modd cefnogol ac adeiladol. -
Rheolodd y Cadeirydd y cyfarfod yn dda ac fe
gafodd ei gefnogi gan y Clerc, a chynhaliwyd busnes mewn modd trefnus a chywir. -
Roedd Ceisiadau Cynllunio wedi
cael sylw yn ofalus ac wedi’u trin yn briodol. -
Cyflwynodd y Cadeirydd JH i Aelodau’r
Cyngor a dywedodd ei fod yn synnu nad oedd wedi cael gwybod am fwriad y
Pwyllgor Safonau. Amlinellodd JH ddiben yr
ymweliadau i ddarparu cefnogaeth i'r Cynghorau perthnasol, a chodi proffil y
Pwyllgor Safonau i osgoi bod yn gorff o bell. -
Rhoddwyd adborth am drafodion y
cyfarfod gan JH. Hysbyswyd y Pwyllgor bod Aelod o'r Cyngor Cymuned wedi mynegi'r farn nad oedd wedi cael gwybod am fwriadau’r Pwyllgor Safonau, ac yn dilyn trafodaethau gyda'r Swyddog Monitro, ei ddealltwriaeth ef oedd bod rôl y Pwyllgor Safonau’n gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â'r Cod ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Trefnwyd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 4 Mawrth 2016 yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr aelodau amser, dyddiad
a lleoliad y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau, a:- PHENDERFYNWYD - bod y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Safonau yn
cael ei gynnal ddydd Gwener 4 Mawrth, 2015 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y
Sir, Rhuthun. GWAHARDD Y WASG A'R
CYHOEDD PENDERFYNWYD - o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,
bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem(au) busnes
canlynol ar y sail eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel
y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth
Leol 1972. RHAN II |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Cofnodion: Roedd copi o adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog
Monitro, a oedd yn rhoi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi ei gylchredeg gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi gofyn am
gael gwybod yn rheolaidd am lefel y
cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn rhoi trosolwg o
gwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2015. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd yr
un o'r naw achos y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad wedi cael eu dilyn gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.50 p.m. |