Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Cododd y
Cadeirydd y mater canlynol ond nododd nad oedd yn fater brys. Yn dilyn cyfarfod
gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, mynegodd y
Cadeirydd bryder ynglŷn â nifer y cwynion a wrthodwyd gan y teimlai y
gallai rhai cwynion gael eu hatgyfeirio at y Pwyllgorau Safonau. Y rheswm dros hynny yw pe bai aelod o’r
cyhoedd yn cyflwyno cwyn i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a bod yr
ymateb yn negyddol yna gallai’r achwynydd brofi ymdeimlad o anghydfod. Roedd yr
Ombwdsmon yn mynychu cyfarfod yn Llangefni ddydd Llun 17 Hydref am 10.30am
gyda’r Fforwm Safonau i ddilyn. Eglurodd
yr Is-gadeirydd, yn anffodus, ni allai fynychu’r digwyddiad gan y byddai ar ei
gwyliau. Mynegodd yr Aelod Annibynnol,
Julia Hughes, ddiddordeb mewn mynychu’r cyfarfod ond byddai’n cadarnhau gyda’r
Swyddog Monitro ar ôl gwirio ei hamserlen. Mae’r Ombwdsmon
wedi gofyn i’r holl Awdurdodau Lleol anfon unrhyw gwestiynau ato ymlaen llaw. Gofynnodd y Cadeirydd
bod y canlynol yn cael ei gynnwys fel un o’r cwestiynau a anfonir at yr
Ombwdsmon “a fyddai’r Ombwdsmon yn ystyried caniatáu i’r Pwyllgor Safonau
ddelio â mwy o honiadau o fynd yn groes i’r Cod Ymddygiad"? Cododd y
Cadeirydd y mater o gyflwyno isafswm safonau ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned, a gofynnodd i’r Swyddog Monitro a fyddai hyn yn eitem briodol i’w
chyflwyno yn y Fforwm ar 17 Hydref. Eglurodd y
Swyddog Monitro efallai bod hyn y tu hwnt i friff y Fforwm. Eglurodd hefyd fod hyfforddiant ar gael ar
gyfer Cynghorwyr a Chlercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Cydnabu’r
Cadeirydd yr hyfforddiant rhagorol a ddarparwyd gan y Swyddog Monitro a’r
Dirprwy Swyddog Monitro. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y byddai’n anfon y cwestiynau gan Sir Ddinbych a’r Awdurdodau
Lleol eraill i Aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth. GW
I WEITHREDU |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 125 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2016. Canmolodd y
Cadeirydd safon uchel y cofnodion. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2016 fel cofnod
cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 79 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr
aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:- 2 Rhagfyr 2016 ·
Adroddiad
dilynol yn dilyn cyfarfod 17 Hydref 2016 gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru a'r Fforwm Safonau. ·
Adroddiad
Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru – (heb ei gadarnhau) 10 Mawrth 2017 ·
Paratoi
Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd ar gyfer y Cyngor Llawn. ·
Hyfforddiant Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro i Aelodau'r Pwyllgor fod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn
ddogfen fyw ac y gellir ei addasu ac ychwanegu eitemau ar unrhyw adeg. PENDERFYNWYD - yn
amodol ar ychwanegu’r uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2015/16 PDF 94 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i Aelodau'r Pwyllgor ystyried
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon a darparu sylwadau ac arsylwadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi cyfle i
Aelodau’r Pwyllgor Safonau i ystyried cynnwys Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Bob blwyddyn,
mae’r Ombwdsmon yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar weithgareddau ei swyddfa
wrth ymdrin â chwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae gan swyddfa’r
Ombwdsmon ddwy brif rôl:- Ø
Ymchwilio
i gwynion am gamweinyddu gan gyrff cyhoeddus. Ø
Ymchwilio
i gwynion yn ymwneud â honiadau o fynd yn groes i God Ymddygiad gan aelodau
etholedig y Cynghorau Unedol, Dinas, Tref a Chymuned. Byddai hyn yn fwy perthnasol i’r Pwyllgor
Safonau. Yn yr adroddiad,
croesawodd yr Ombwdsmon argymhellion Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad presennol i wella pwerau
presennol swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dengys yr adroddiad fod cyfanswm nifer y cwynion a dderbyniwyd gan yr
Ombwdsmon yn erbyn cyrff gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â darpariaeth
gwasanaeth wedi gostwng ar y cyfan. O fewn y gostyngiad hwnnw, bu cynnydd yn nifer y cwynion ynglŷn â’r
Gwasanaeth Iechyd. Roedd
dadansoddiad yr ystadegau cwynion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad yn dangos 274 o
gwynion yn 2015/16 o gymharu â 231 yn 2014/15, cynnydd o 19%. Roedd dadansoddiad pellach yn dangos mai
prif ffactor y cynnydd oedd cynnydd o 49% yn nifer y cwynion sy’n deillio o Gynghorau
Dinas, Tref a Chymuned o 106 yn 2014/15 i 158 yn 2015/16. Yn ystod
trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Nodwyd
pe bai Cynghorydd sir yn cyflwyno cwyn yn erbyn Cynghorydd sir arall yn eu
Hawdurdod Lleol eu hunain, yna byddai’r Ombwdsmon yn disgwyl y cyflwynir y cwyn
i’r Swyddog Monitro fel cam cyntaf er mwyn datrys y mater yn lleol heb gynnwys
yr Ombwdsmon. ·
Roedd
Gweithdrefn Ddatrys Lleol ar waith ar gyfer troseddwyr ailadroddus. Os mai
canfyddiad y Swyddog o ymddygiad yr Aelod oedd eu bod yn teimlo eu bod yn cael
eu bwlio, yna holwyd a fyddai’r Weithdrefn Ddatrys Lleol yn cael ei hymestyn i
ddelio â’r mater. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro ei fod ef a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn asesu cyfreithlondeb y
Weithdrefn. Roedd y Swyddog Monitro a’r
Dirprwy Swyddog Monitro yn gwirio pa weithdrefnau sydd gan Awdurdodau Lleol
eraill ar waith. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro y byddai’n adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr, gyda’r
wybodaeth berthnasol. GW I
WEITHREDU ·
Holodd
y Cadeirydd sut y gall pobl gysylltu â’r Ombwdsmon ac ymhle y gellir canfod
gwybodaeth am ei swyddfa. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y byddai’n ymchwilio hyn ac yn adrodd yn ôl. GW I WEITHREDU Yn dilyn
trafodaeth bellach: PENDERFYNWYD – bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2015/16. |
|
LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 166 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i hysbysu’r Pwyllgor o
gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu aelodau’r
Pwyllgor Safonau o rifynnau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr
Ombwdsmon. Eglurwyd bod
Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys y Llyfr Achos ar gyfer cyfnod mis Ionawr 2016
hyd at fis Mawrth 2016. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys y cyfnod o fis Ebrill 2016
hyd at fis Mehefin 2016. Roedd manylion y
cwynion a archwiliwyd yn ystod y cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad
a’u crynhoi gan y Swyddog Monitro. Cafwyd trafodaeth
a chytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn ysgrifennu at holl Gynghorau Dinas,
Tref a Chymuned yn egluro pwysigrwydd datgan cysylltiad personol neu gysylltiad
sy’n rhagfarnu. Ar gyfer cyfarfodydd y
Cyngor a Chynllunio roedd “sgript” oedd yn cael ei ddarllen ar ddechrau’r
cyfarfod i sicrhau bod Aelodau yn deall ystyr datgan cysylltiad. Byddai’r “sgript” yn cael ei anfon at yr holl
Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned er gwybodaeth.
GW I WEITHREDU PENDERFYNWYD – bod
y Pwyllgor Safonau yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos y Cod Ymddygiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Cadarnhaodd yr
Aelod Annibynnol, Julia Hughes, ei bod wedi mynychu Cyngor Cymuned Llantysilio
ar 7 Mawrth 2016 ac wedi mynychu'r Pwyllgor Cynllunio fel siaradwr cyhoeddus yn
erbyn cais ar 27 Gorffennaf 2016. Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Annibynnol am ei
hadborth a oedd wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n casglu
rhestr o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yr ymwelwyd â nhw dros y 3 blynedd
diwethaf ac yn dosbarthu’r rhestr i’r aelodau cyn cyfarfod y Pwyllgor Safonau
ym mis Rhagfyr 2016. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n ymgynghori â’r
Dirprwy Swyddog Monitro ac y byddai rhestr wedi’i ddiweddaru’n cael ei
ddosbarthu. GW I WEITHREDU PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad llafar oddi
wrth yr Aelod Annibynnol a fu’n mynychu cyfarfodydd. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau am 10am ar 2 Rhagfyr 2016 yn Ystafell Gynadledda 1a,
Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr Aelodau
bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd
Gwener 2 Rhagfyr 2016 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r
adroddiad cyfrinachol ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg i'r Aelodau
o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi gofyn am
gael gwybod yn rheolaidd am lefel y
cwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn rhoi trosolwg
o gwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2014. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m. |