Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Bill Cowie a’r Aelod Annibynnol Paula White

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 167 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2015 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2015.

 

Cywirdeb:-

 

Tudalen 15 - Eitem 10: Presenoldeb mewn Cyfarfodydd – yr Aelod Annibynnol Anne Mellor oedd yn bresennol yng nghyfarfod Arbennig y Cyngor Sir ar 7 Hydref 2015, nid Julia Hughes.

 

Tudalen 8 - Eitem 5: Cofnodion - dywedodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes y byddai'n fwy priodol cyfeirio ati yn y cofnodion fel "Dysgwr Cymraeg cryf" yn hytrach na "Siaradwr Cymraeg".

 

Tudalen 13 - Eitem 9: Hygyrchedd Gwybodaeth gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned – newid y cyfeiriad at "Efenected" i "Efenechtyd".

 

Materion yn codi -

 

Ymddiheurodd y Swyddog Monitro nad oedd wedi symud ymlaen â nifer o gamau gweithredu yn y cofnodion mor brydlon ag y byddai wedi hoffi.  Sicrhaodd yr aelodau fod materion mewn llaw ac y byddai’n bwydo yn ôl yn uniongyrchol i'r aelodau ar hynny o fewn y pythefnos nesaf.  [GW i weithredu]

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod am ymddeoliad Cadeirydd Fforwm Safonau Gogledd Cymru dros ddeuddeg mis yn ôl ac roedd wedi bod yn siomedig i nodi nad oes unrhyw gyfarfodydd newydd wedi eu cynllunio ers hynny.  O ganlyniad, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â'r gweinyddwyr gyda’r nod o atgyfodi'r Fforwm ac awgrymodd y Cadeirydd y dylid cael cyfarfod cychwynnol yn Neuadd y Sir, Rhuthun.  [GW i weithredu]

 

Tudalen 14 - Eitem 9: Hygyrchedd Gwybodaeth gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned – dywedodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes eu bod wedi cytuno gyda swyddogion yn dilyn hynny y byddai'n darparu diweddariad llafar yn y cyfarfod.  Roedd hi wedi paratoi adroddiad a fyddai'n cael ei gylchredeg ar ôl y cyfarfod ond nid oedd ar ffurf adroddiadau ffurfiol y Cyngor.  [JH / GW i weithredu]

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2015 fel cofnod cywir.

 

 

5.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 38 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w ystyried a chytunodd yr aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

·         Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif 2016/84) - Mehefin

·         Gorchymyn Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif 2016/85) - Mehefin

·         Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Llyfr Achos y Cod Ymddygiad - Mehefin

·         Mesur Drafft Llywodraeth Leol (Cymru) - Mehefin/Medi

·         Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Medi

·         Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru - Medi

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar ychwanegu’r uchod, bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD 2015/16 pdf eicon PDF 74 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2015/16 i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar waith y pwyllgor yn ystod 2015/16.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Swyddog Monitro am ei gwaith caled wrth baratoi'r adroddiad ac yn ystod trafodaeth cytunwyd ar y newidiadau canlynol -

 

·         newid y cyfeiriad at y "Parchedig Wayne Trigger" ym mharagraff 4.5 i’r "Parchedig Wayne Roberts

·         cynnwys crynodeb o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2015

·         symud yr eitem adrodd yn manylu ar adborth o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan o 18 Medi i 4 Rhagfyr 2015 ym mharagraff 4.4

·         ychwanegu’r eitem yn adrodd ar Hygyrchedd Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned i’r cyfarfod ar 18 Medi 2015 ym mharagraff 4.4

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y farn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai Egwyddorion Nolan fod wedi dyddio gyda sylw annigonol yn cael ei rhoi i arweinyddiaeth a'r angen am hyfforddi arweinwyr yn fwy effeithiol.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor wrthi’n datblygu strategaeth arweinyddiaeth i’w thargedu at gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 y gellid eu dwyn gerbron y pwyllgor i’w hystyried.  Roedd yr Ombwdsmon hefyd wedi cyfeirio at yr angen i flaenoriaethu’r adnoddau prin oedd ar gael iddo a allai gael effaith ar waith y Pwyllgor Safonau.  Nododd yr Aelodau y byddai gwaith y Pwyllgor Safonau yn cynyddu ymhellach pe bai moeseg a chwythu'r chwiban hefyd yn dod o fewn ei gylch gorchwyl fel oedd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill gan gynnwys Caerdydd a Wrecsam.  Cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori barn yr Ombwdsmon ynghylch arweinyddiaeth a blaenoriaethu adnoddau yn Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd er mwyn rhoi syniad ynghylch yr hyn y gellid ei ddisgwyl yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i baratoi drafft diwygiedig i'w gymeradwyo gan y Cadeirydd cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. [LJ i weithredu]

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylai’r aelodau nodi'r adroddiad ac argymell bod y Cadeirydd yn ei chyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

7.

HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED.

Derbyn adroddiad llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol) (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at yr archwiliad gwirfoddol yr oedd hi wedi ymgymryd ag o i asesu hygyrchedd gwybodaeth o wefannau pob un o’r 37, Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych o safbwynt y cyhoedd. Dyma rai o’r meysydd a archwiliwyd a’r wybodaeth a geisiwyd:-

 

·         darpariaeth gwefan a’i hygyrchedd

·         argaeledd cofnodion y cyfarfod blaenorol

·         manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod nesaf a mynediad i raglenni

·         darpariaeth dwyieithog

·         nodiadau cyffredinol gan gynnwys dolenni i wefannau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru

Atgoffwyd yr aelodau fod y canfyddiadau’n darparu clip-olwg ar y pryd a allai fod wedi newid a dywedodd yr edrychwyd ar y gwefannau mewn tri chyfnod – 15 – 17 Medi, 2015 (10 gwefan); 3 Rhagfyr, 2015 (19 gwefan) a 3 Mawrth, (8 gwefan). Rhoddodd JH adroddiad llafar ar ganfyddiadau’r 8 gwefan terfynol yr ymwelwyd â hwy a oedd yn cynnwys – Cyngor Cymuned Nantglyn, Cyngor Tref Prestatyn, Cyngor Tref Rhuddlan, Cyngor Tref y Rhyl, Cyngor Tref Rhuthun, Cyngor Dinas Llanelwy, Cyngor Cymuned Trefnant, a Chyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen.   Byddai copi o ganfyddiadau’r adroddiad yn cael ei ddosbarthu i aelodau yn dilyn y cyfarfod. [JH / GW i weithredu]

 

Yna cyflwynodd JH adroddiad trosolwg o‘r gwaith a wnaed ar draws y 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych a dyma’r prif ganfyddiadau –

 

·         roedd sawl gwefan yn bodoli ond wedi hen ddyddio

·         ni oedd llawer o’r gwefannau’n ddwyieithog

·         roedd rhai gwefannau wrthi’n cael eu datblygu

·         dim ond rhaglenni safonol nad oedd yn newid o gwbl oedd gan sawl cyngor

·         roedd gwefannau’r Cynghorau Tref yn fwy datblygedig ar y cyfan

·         roedd rhai safleoedd yn enghreifftiau ardderchog i ardaloedd eraill eu defnyddio pe baent yn dymuno

·         Nid yw llawer o safleoedd yn gysylltiedig neu nid oedd ganddynt y manylion diweddaraf ar wefan Sir Ddinbych – www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         roedd rhai safleoedd wedi’u cysylltu â www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm (safle Llywodraeth Cymru), ond roedd llawer heb eu cysylltu iddo.

·         roedd rhai cynghorau’n defnyddio Facebook yn hytrach na gwefan

·         nid oedd gan ddau gyngor bresenoldeb electronig

·         nid oedd gan lawer unrhyw fanylion am eu cynghorwyr na sut i gysylltu â nhw

·         roedd gan rai cynghorau hen wefannau a oedd yn ymddangos wrth chwilio amdanynt, felly roeddech chi’n credu nad oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar

O ganlyniad, argymhellodd JH, yn ei barn hi, y canlynol fel gofynion sylfaenol –

 

·         cael gwefan

·         enw parth hawdd sy’n ymddangos yn gymharol hawdd mewn chwiliadau

·         dolen i wefan ‘modern government’ Sir Dinbych www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         dylid cywiro’r ddolen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i wefan y Cynghorau Dinas, Tref neu Gymuned ac ni ddylai fod yn ddolen i hen safle

·         dolen i wefan Llywodraeth Cymru www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm 

·         roedd angen i unrhyw ddolenni ar www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-dl.htm fod yn rhai cywir

·         mae gwefan ddwyieithog yn hanfodol

·         enw’r clerc gyda llun a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

·         enwau’r holl gynghorwyr gyda’u lluniau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn

·         dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd cyfarfodydd

·         rhaglenni

·         cofnodion blaenorol

·         manylion am yr ardaloedd y mae’r cyngor yn ei gwasanaethu gyda map os oes modd

·         sut y gallai pobl gael eu cynnwys – bod yn gynghorydd, mynd i gyfarfodydd

Argymhellion ychwanegol dewisol –

 

·         ffurflen ymholiadau electronig

·         hanes yr ardal

·         digwyddiadau yn yr ardal

·         dolenni i wefannau grwpiau lleol eraill’

Yn olaf, yn dilyn y trafodaethau roedd y Rheolwr Cynnwys y Gymuned yn eu cael ar hyn o bryd gyda chlercod cynghorau, awgrymodd JH efallai bod gwerth ailadrodd yr ymchwil ymhen tua deuddeg mis i ganfod a fu unrhyw welliant o ran hygyrchedd gwybodaeth am Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned drwy dulliau electronig i’r cyhoedd.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o'r rhifynnau diweddaraf o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2015 a Medi 2015 (Atodiad 1 i'r adroddiad) a mis Hydref 2015 i fis Rhagfyr 2015 (Atodiad 2 i'r adroddiad).  Cynhyrchwyd y Llyfr Achosion bob chwarter blwyddyn ac roedd yn rhoi crynodeb o'r cwynion cod ymddygiad yr oedd yr Ombwdsmon wedi gorffen ymchwilio iddynt yn ystod y cyfnod perthnasol.

 

Roedd manylion y cwynion a archwiliwyd yn ystod y cyfnodau hyn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad a’u crynhoi gan y Dirprwy Swyddog Monitro –

 

Mis Gorffennaf i fis Medi 2015 – ymchwiliwyd i 6 o gwynion a daethpwyd i'r casgliad yn ystod y cyfnod hwn gyda 4 yn ymwneud â datgan cysylltiad. O’r 6 ymchwiliad a gynhaliwyd, daethpwyd i’r canlyniad nad oedd digon o dystiolaeth o dorri cod mewn 5 achos, a chafodd un ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru, a arweiniodd at wahardd yr aelod dan sylw am dri mis.  Roedd yn amlwg yn yr achos hwnnw bod yr aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad drwy fethu â datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ac wedi aros yn yr ystafell tra bod materion yn ymwneud â’r cysylltiad hwnnw wedi eu trafod a’u pleidleisio arnynt.  Nid oedd unrhyw achosion wedi eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau.

 

Mis Hydref i fis Rhagfyr 2015 – cynhaliwyd a chwblhawyd 3 ymchwiliad yn ystod y cyfnod hwn. Daeth 2 i’r casgliad nad oedd angen gweithredu ymhellach a daeth 1 i’r casgliad nad oedd tystiolaeth o dorri’r rheolau.  Roedd yr achos hwn yn cyfeirio at aelod a oedd wedi datgan cysylltiad personol ac amlygodd yr angen i aelodau ddatgan yn gywir, yn enwedig ar gyfer materion parhaus, a allai adael aelodau’n agored i honiadau o dorri rheolau fel yn yr achos hwn.  Nid oedd unrhyw achosion wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau na Phanel Dyfarnu Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

 

Nododd yr Aelodau bod rhai o'r crynodebau achos mor gryno ei bod yn anodd canfod amgylchiadau'r gŵyn ac felly'n anodd cymryd unrhyw arweiniad ohonynt.  Teimlai'r Pwyllgor hefyd y byddai'n ddefnyddiol gwybod a oedd y gŵyn wedi ei gwneud gan gyd-gynghorydd neu'r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn Llyfr Achos y Cod Ymddygiad.

 

 

 

9.

DIGWYDDIAD HYFFORDDIANT CLERCOD – IONAWR 2016

Derbyn adroddiad blynyddol gan y Dirprwy Swyddog Monitro ar y digwyddiad hyfforddiant diweddaraf a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad llafar ar y digwyddiad hyfforddi diweddaraf a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016 yn Nhŷ Russell, Y Rhyl lle’r oedd 3 clerc yn bresennol o Fodelwyddan, Rhuthun a Llanferres.

 

Roedd yr hyfforddiant wedi ei gynnal ar gais yr aelodau i gynnig cyfle pellach i glercod yng ngogledd y sir fod yn bresennol.  Er bod 5 clerc wedi archebu lleoedd ar y digwyddiad, roedd 2 wedi tynnu'n ôl yn ddiweddarach oherwydd profedigaeth deuluol a salwch.  Fodd bynnag, roedd adborth y rhai a oedd yn bresennol wedi bod yn gadarnhaol ac roedd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad gwerth chweil.  Roedd yr hyfforddiant yn adlewyrchu'r hyn a wnaed ar 19 Mai 2015 yn ne'r sir lle’r oedd 7 clerc yn bresennol ynghyd â rhai aelodau o'r Pwyllgor Safonau.  O gofio bod 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned, a bod 1 clerc yn gweinyddu saith o'r cynghorau hynny, nodwyd bod 10 o'r 30 clerc posibl yn bresennol ar gyfer yr hyfforddiant.  Roedd digwyddiadau wedi eu gwasgaru rhwng gogledd a de'r sir a digwyddiadau’r bore a’r prynhawn.  Rhoddwyd ystyriaeth i gael sesiwn hyfforddi gyda'r nos yn i geisio cynyddu presenoldeb.

 

Roedd yr aelodau'n falch i nodi bod y ddau glerc newydd ar gyfer Bodelwyddan a Rhuthun yn bresennol.  Nid oedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi bod yn ymwybodol o unrhyw ddirprwy glercod ond cytunodd i ymestyn y gwahoddiad i ddirprwy glercod ar gyfer digwyddiadau hyfforddi yn y dyfodol.  Roedd dyddiadau hyfforddi yn y dyfodol eto i'w drefnu, ond roedd yn debygol o fod yn yr hydref.  Ychwanegodd y Swyddog Monitro y gellid hefyd anfon gwahoddiadau at gadeiryddion y cyngor yn ogystal â'r clercod i hyrwyddo'r digwyddiad a phresenoldeb ymhellach.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor yr hyfforddiant a ddarperir gan y Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro a’r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i annog presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad llafar ar Ddigwyddiad Hyfforddi’r Clercod.

 

Ar y pwynt hwn (11.15 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

10.

BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) DRAFFT pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod i’r aelodau am ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddarpariaethau’r Mesur Drafft ynghyd ag ymateb y Cyngor.  Roedd 8 rhan i'r Mesur Drafft a fyddai, o’u gweithredu, yn arwain at y diwygiadau llywodraeth leol mwyaf sylweddol yng Nghymru ers Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhoddodd y Swyddog Monitro drosolwg cyffredinol o brif ddarpariaethau'r Mesur Drafft, gan gynnwys cynigion uno, ond dywedodd mai’r rhan fwyaf perthnasol i'r pwyllgor oedd Rhan 4: Swyddogaethau Cynghorau Sir a'u Haelodau, a oedd yn ceisio cyflwyno dyletswyddau statudol newydd ar aelodau etholedig.  Ymhelaethodd ar y darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 4 a oedd yn cynnwys y canlynol -

 

·         rhaid i Aelod fod yn bresennol ym mhob cyfarfod perthnasol oni bai bod ganddynt reswm da dros beidio - nid oedd unrhyw newid i'r gofyniad cyfreithiol bod Aelod yn cael ei ddiarddel os yw ef / hi yn methu â bod yn bresennol am 6 mis

·         rhaid i Aelod gynnal o leiaf pedwar cymhorthfa ym mhob 12 mis ar ôl cymryd ei swydd oni bai bod ganddynt reswm da dros beidio, gyda manylion y gymhorthfa’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ymlaen llaw

·         rhaid i Aelod ymateb i'r holl ohebiaeth a anfonir i’w gyfeiriad/chyfeiriad swyddogol o fewn 14 diwrnod o’i derbyn oni bai bod ganddo/ ganddi reswm da dros beidio â gwneud

·         rhaid i Aelod gwblhau'r holl gyrsiau hyfforddi gorfodol oni bai bod ganddynt reswm da dros beidio â gwneud

·         rhaid i Aelod lunio adroddiad blynyddol o'u gweithgareddau aelodau y mae'n rhaid ei gyflwyno i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a gyhoeddwyd - nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cael rheswm da dros beidio â gwneud hyn

·         gosodir dyletswydd personol ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r Pwyllgor Safonau a chymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau - rhaid i’r Pwyllgorau Safonau drefnu hyfforddiant i Arweinwyr Grwpiau a monitro eu cydymffurfiad â'r ddyletswydd hon.

 

Roedd y Bil Drafft yn awgrymu mecanwaith gorfodi ar gyfer torri rheolau fel a ganlyn -

 

·         gall unrhyw un wneud cwyn i'r Swyddog Monitro am achos lle mae’n bosibl fod Aelod wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r dyletswyddau a nodir uchod, ac eithrio i lunio adroddiad blynyddol

·         rhaid i'r Swyddog Monitro gyfeirio unrhyw gŵyn a dderbynnir i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau a gyda'i gilydd, rhaid iddynt benderfynu a ddylid ymchwilio i'r mater

·         os byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn credu fod Aelod wedi torri'r ddyletswydd i lunio adroddiad blynyddol gallai ef / hi ei gyfeirio at y Swyddog Monitro a fyddai’n gorfod ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau ynghylch yr angen i ymchwilio

·         os byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae'n rhaid darparu adroddiad i'r Pwyllgor Safonau gydag unrhyw argymhellion roedd y Swyddog Monitro yn teimlo a oedd yn briodol

·         os byddai’r Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod Aelod wedi torri un o'r dyletswyddau gallai gyflwyno cerydd, a gwaharddiad neu waharddiad rhannol am hyd at chwe mis neu beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor hefyd at ymateb y Cyngor i Ran 4 y Bil Drafft a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.  Yn fyr, roedd yr ymateb wedi'i fesur ac er bod aelodau wedi ymateb yn gadarnhaol i rai agweddau ar y Bil Drafft o ran llywodraethu, adolygiadau cyfoedion a rheoleiddio archwilio ac arolygu, roedd rhai elfennau yn rhy ragnodol, gan greu mwy o fiwrocratiaeth a chostau ar adeg o galedi ac roedd yna hefyd rai datganiadau anghyson.  Un rhwystredigaeth fawr oedd y diffyg diffiniad ynghylch beth fyddai rheswm da wrth orfodi'r  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –

 

Ni adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor unrhyw broblemau gyda chyfarfodydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Cynllunio roedd wedi mynd iddynt yn ddiweddar.  Fodd bynnag, roedd presenoldeb gwael yn bryder yn rhai o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a oedd yn fater anodd i'w ddatrys.  Roedd cofnodion presenoldeb Cynghorwyr wedi eu dosbarthu’n ddiweddar i Arweinwyr y Grwpiau a’u rhannu gyda'u grwpiau ond wrth i ddiwedd tymor y Cyngor nesáu ac i’r uno symud ymlaen teimlai y gallai presenoldeb barhau i fod yn broblem.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Jones at ei bresenoldeb yng Nghyngor Cymuned Derwen yng Nghlawdd Newydd ar 16 Medi 2015. Roedd wedi derbyn y gwaith papur perthnasol ar gyfer y cyfarfod ar ôl cyrraedd ac roedd nifer dda yn bresennol yn y cyfarfod ac roedd cefnogaeth dda gan y Cynghorydd Sir lleol, Eryl Williams.  Cafwyd trafodaethau da trwy gydol y cyfarfod ar ystod o bynciau lleol ac roedd y clerc yn fedrus ac yn brofiadol iawn ac roedd y cyfarfod wedi rhedeg yn dda.

 

Darparodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes drosolwg manwl o saith cyfarfod unigol yr oedd wedi bod iddynt, a dyma grynodeb ohonynt -

 

Cyngor Cymuned Bryneglwys (1 Chwefror 2016) - roedd gan y Cadeirydd ffordd dda o gadeirio, gan sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr.  Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan yn y cyfarfod fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw.

 

Cyngor Cymuned Llandrillo (5 Chwefror 2016) - roedd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, wedi sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr.  Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr angen.

 

Cyngor Tref Corwen (10 Chwefror 2016) - Cafwyd cyfraniad ardderchog gan y Cynghorydd Sir lleol Huw Jones ar nifer o eitemau.  Sicrhaodd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr ac roedd y Clerc yn effeithlon iawn.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr angen.

 

Cyngor Cymuned Gwyddelwern (15 Chwefror 2016) – Roedd cyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Gymraeg a darllenwyd nodiadau'r cyfarfod blaenorol, fel y nodwyd yn y llyfr cofnodion, heb fod unrhyw gopïau caled ar gael.  Yn dilyn y cyfarfod, eglurwyd bod eu gwefan yn cael ei datblygu.  Cafwyd trafodaeth am yr hyn y gallai'r cyhoedd edrych amdano yn ymwneud â chynghorau cymuned a chael safle dwyieithog a oedd yn hygyrch i bobl yn Gymraeg neu Saesneg.  Nid oedd yn glir a oedd hysbysfwrdd y pentref yn cael ei ddefnyddio i roi rhybudd o gyfarfodydd a’r rhaglen.  Amlygwyd pwysigrwydd hygyrchedd a thryloywder.  Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y Gymraeg ac nid oeddent eisiau mynd drwy'r un materion â Chyngor Cymuned Cynwyd a byddent yn gwerthfawrogi rhywfaint o  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ddydd Gwener 24 Mehefin 2016 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 24 Mehefin 2016 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthu

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, tra bod yr eitemau canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

13.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (MO) adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd eisoes) yn darparu trosolwg o’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn yr aelodau ers 1 Ebrill 2015.  Dywedodd nad oedd naw achos wedi cael sylw gan yr Ombwdsmon ac roedd un cwyn heb ei datrys.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 p.m.